Page 1

LLANTEG

Eglwys Sant Elidyr


Yr Enw Llanteg yw enw arferol y lle erbyn hyn, er i Lanteague gael ei ddefnyddio’n aml yn y gorffennol. Lanteague sydd ar gapel yr Annibynwyr ac East Lanteague oedd t]’r boneddigion gynt. Er bod y ddwy ffurf hyn yn ddigon hen, Llanteg yw’r hynaf o’r ddwy. Prif elfen yr enw o bosib yw llan, ond daeth yr arbenigwr ar enwau lleoedd Sir Benfro, Dr B.G. Charles o hyd i’r ffurf Nanteg sy’n dyddio’n i’r un cyfnod â Llanteg ac sy’n awgrymu mai nant a teg yw’r elfennau.

Lleoliad Saif Llanteg yn hen blwyf Cronwern a chafodd yr eglwys gyntaf ei sefydlu pan oedd y ffydd Gristnogol yn dal yn newydd i’r ardal. Roedd yr eglwys honno wedi’i chysegru i Sant Teilo’n gyntaf ond erbyn hyn Sant Elidyr sy’n cael ei goffáu. Ar ddechrau’r cyfnod Cristnogol roedd yr ardal yn Gymraeg ei hiaith, ac er gwaethaf y newid a ddaeth yn sgil y Normaniaid a sefydlu Iarllaeth Penfro, mae tipyn o Gymreictod i’w gael o hyd. Mae hwnnw i’w weld yn enwau lleoedd yr ardal megis Rhydgoch a Threnewydd ac mewn enwau fel Parc Garw.

Ardal ar y Ffin Nant Cronwern oedd ffin hen gwmwd cyn-Normanaidd Coedrath a hefyd Iarllaeth Penfro a oedd yn rheoli’n ystod yr Oesoedd Canol. Mae hefyd yn pennu terfyn Sir Benfro’i hunan (a sefydlwyd yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed ac a ddaeth yn rhan o Ddyfed rhwng 1974 a 96 a’i hadfer ym 1996). Ym 1841 roedd un o’r bythynnod lleol yn dwyn yr enw Pont-y-ddwy-sir. Mae Pont Castle Ely a adeiladwyd yn ddiweddarach yn cysylltu Cronwern ag Eglwys Gymyn yn sir Gaerfyrddin.

Henebion Mae’n bosibl bod yr enw Beaconing - sef lle ychydig i’r gogledd o Drenewydd - yn cyfeirio at garnedd o Oes y Pres a ddefnyddid mewn cyfnod diweddarach fel safle i gynnau coelcerthi. Roedd y ffordd dyrpeg, a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif yn torri ar draws rhan o dir a adwaenid fel Llanteg. Hen gloddwaith o Oes yr Haearn oedd hwnnw o bosibl. Mae Blackheath House y’n sefyll yn ei ganol.

Hen Dai a Thai’r Boneddigion Mae’n ddiddorol nodi bod yr enw Trenewydd eisoes yn bodoli ym 1568. Does dim modd gwybod i sicrwydd pryd yn union y codwyd y fferm newydd hon na pha swyddogaeth a oedd i’r safle cyn hynny, er i Archaeoleg Cambria nodi ei fod o bosibl yn cynnwys olion canoloesol. Ym 1670 roedd gan Drenewydd 6 aelwyd a oedd yn sicrhau ei statws fel t] moethusaf y plwyf. Rhynllyd Powell Gant oedd y meistr yr adeg honno.


Un o’r tai coll y plwyf yw Plas Rhydgoch sy’n ymddangos Fferm mewn cyfeiriad mor bell yn ôl â 1569. Credir roedd Trenewydd Rhydgoch wedi’i lleoli ar yr ochr dde o’r ffordd gogledd heibio i Reithordy Cronwern (T] Cronwern erbyn hyn) a bron cyferbyn â’r tro i Broomylake. Mae’n amlwg bod Llanteg neu Lanteague’n enw ar o leiaf un, os nad dau d] bonheddig yn yr ardal ar un adeg, er bod yr hyn sy’n weddill ohonynt yn anodd ei ddadansoddi i sicrwydd. Mae coflech yn yr eglwys sy’n coffáu marwolaeth Thomas Davies Ysw.’ gynt o Lanteague’, 13 Ebrill 1706 yn 98 oed. Serch hynny mae ffynonellau eraill sy’n cysylltu’r teulu Davies yn ystod yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif (sef cangen o’r syn hanu o Newton yn Lacharn) â’r White House yn Llanteague. (Ni [yr neb lle mae safle’r t] hwn erbyn hyn ond efallai roedd ar fferm Dwyrain Llanteg.) Roedd gan y teulu Hensleigh hefyd gysylltiad â Llanteg yn ystod yr 17eg ganrif a chafodd ei eiddo’i drosglwyddo’n ddiweddarach i Ystâd Castell Pictwn. Mae fferm Dwyrain Llanteg heddiw ar safle a chafodd ei ddisgrifio gan i Ystâd Castell Pictwn fel ‘Llanteg Capital’, hynny yw t] bonheddig.

Cysylltiadau ag Eglwys yr Oesoedd Canol Yn yr Oesoedd Canol roedd y Rheithoriaeth yn rhan o eiddo Priordy Penfro’n gyntaf ac yna Abaty Sant Alban. Mae rhestr o ficeriaid o 1344.

Tir Comin Mae’r ysgol, nifer o dai, ychydig o heolydd ychwanegol a Llanteglos i gyd yn sefyll ar dir a fu gynt yn dir comin. Mae’r rhan fwyaf o’r tir comin (186 erw) bellach wedi’i gau’n dilyn dyfarniad ym 1868.

Daeareg ac Enwau Lleol Ffurfiant y garreg leol sy’n cael ei adlewyrchu yn yr enw fferm ‘Garnas Rockes’ a adwaenir fel Carness erbyn hyn. Dywedir hefyd mai math arbennig o garreg sy’n addas i’w defnyddio fel pensel garreg sy’n gyfrifol am yr enw ‘Pencilvania’, a geir ar ran o’r hen A477 ger Castell Ely.

Diwydiannau’r Gorffennol Mae rhestr ddegymau 1842 yn enwi pedwar o gaeau Trenewydd yn Quarry neu’n Quarry Park ac un o’r caeau cyfagos yn Greystone Park. Cawn adlais o’r hen arfer o losgi calch yn


yr enwau East Kiln Park, West Kiln Park a Hill Kiln Park. Mae’r chwareli a dwy odyn i’w gweld hyd heddiw. Ychydig i’r de o Drenewydd, roedd pedwar cae’n dwyn yr enw Clay Mountain. Tan yn weddol ddiweddar roedd y clai hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu peli, math o danwydd a oedd yn cyfuno clai a glo carreg mân. Dyfarnodd Cau Tiroedd Cronwern 1868 2 rwd ar gyfer cyflenwi clai i’r tlodion neu drigolion eraill y plwyf. Hefyd 2 rwd i’w ddefnyddio fel chwarel gyhoeddus ar gyfer cyflenwi carreg a graean i drwsio’r ffyrdd a lonydd o fewn y plwyf (roedd y ddau ddarn hyn i ddwyrain Capel y Mynydd). Wrth ymyl yr hen Reithordy mae cae a adwaenir fel Tan Pits ac roedd un arall yn dwyn yr enw Park Pwll llif yng nghyffiniau Blaenhafod.

Dyffryn y Ffin Mae’r dyffryn hwn yn cynnwys Milton sef tref y felin, ond beth bynnag oedd y sefyllfa yn y gorffennol, ni safai’r felin leol ar dir fferm Milton ei hunan erbyn diwedd y 18fed ganrif. Roedd melin i’w chael yn gyfagos serch hynny, a chyfeiriwyd ati ym 1723 fel Gardeners Mill ond yr enwau a roddid arni ran amlaf oedd Carness, Garnas neu amrywiadau ar y rheiny. Câi’r nant ei defnyddio’n aml yn y gorffennol, ond mae’n werth cofio bod problemau o hyd yngl]n ag adnabod ambell safle. Mae dogfen o’r flwyddyn 1737, er enghraifft, sy’n cyfeirio at ‘Crunwear Mill’ ac ym 1842, nid oedd y Mill Park y soniwyd amdano ar dir Garnas i’w weld yn agos i unrhyw felin adnabyddedig. Yn yr Oesoedd Canol roedd tair melin bannu yng nghwmwd Coedrath ac mae’n debyg bod un o’r rhain yng Nghronwern am fod cyfeiriad at adeilad o’r enw ‘the old fulling mill’ ddwy neu dair canrif yn ddiweddarach ym 1712. Daliwyd i gynhyrchu gwlân, ac yn ystod y 18fed ganrif câi melin dd[r ei defnyddio wrth gynhyrchu brethyn yn Ledgerland. Dywedir mai James Price oedd y dyn diwethaf i’w gweithio. Yn ôl y traddodiad lleol, pan gaewyd y felin, cododd ei pherchennog ffermdy newydd sbon ym mhen uchaf ei dir bellter o’r afon ac yn agosach i’r ffordd gyhoeddus. Roedd hyn wedi digwydd cyn Arolwg y Degwm ym 1842. Melin Garness (19eg ganrif)


Ffyrdd Hen a Newydd Nodwedd amlycaf yr ardal erbyn heddiw yw’r A477 sy’n dilyn hynt hen ffordd dyrpeg y 19eg ganrif (roedd tollborth i’w gael wrth ymyl croesffordd Llanteg). Er bod olion yr hen system ffyrdd i’w gweld o hyd o dan yr isffyrdd modern, prin fod mwy na llinell berth i farcio cyfeiriad llawer o’r hen ffyrdd erbyn hyn. Roedd y brif ffordd dyrpeg ar draws y plwyf yn rhedeg o Oxford (enw diddorol am fod y lle’n agos i nant Cronwern), heibio i’r eglwys a Llanteg gan wyro i’r gorllewin tua Threnewydd ac ychydig i’r de o’r A477 bresennol. Roedd ffordd yn arwain o Tavernspite (lle mae llawer o ffyrdd yn dod ynghyd) i’r de, heibio’r hen Reithordy, T] Cronwern erbyn hyn, lle’r oedd croesffordd, ac ymlaen i gyfeiriad Amroth, (gan Carreg filltir ar hen dyrpeg ger y groesi’r ffordd i Oxford ychydig i’r de o’r ffordd Royal Oak gynt (Oaklands erbyn hyn) bresennol). Mae hen fapiau’n dangos bod ychydig o dai i’r gogledd a rhai mymryn bach i’r gogleddorllewin o’r hen Reithordy. Cawn gyfeiriad at ryw New Inn yn y flwyddyn 1710, ond ni lwyddodd neb i ddod o hyd iddi eto. Roedd y ffordd dyrpeg yn denu pobl i fyw yn Llanteg a châi anghenion teithwyr eu diwallu mewn dwy dafarn leol sef y Royal Oak a’r Golden Lion a adwaenir fel Oaklands a’r Laurels erbyn hyn.

Eglwys Sant Elidyr Mae’r eglwys hon yn bur hynafol, ond fel y dangosodd y diweddar Charles F. Shepherd, roedd ei fframwaith wedi dirywio gryn dipyn erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei hailgodi ym 1843 a’i hadnewyddu ym 1878. Tynnwyd hen oriel a seddau caeedig yr eglwys yn ystod yr adferiad. Cyflwynwyd ei ffenestr ddwyreiniol o wydr lliw iddi er cof am gyn rheithor ac ymhlith ei harysgrifau y mae un Capel yr Annibynwyr sy’n coffáu marwolaeth John Howell ym 1727 (mab i Reynold Llanteg Howell o Drenewydd a wrthododd dalu llw teyrngarwch i William a Mary ym 1689).

Capeli Cafodd y cyrddau Annibynnol cyntaf yn yr ardal eu cynnal mewn ysgoldy. Sefydlwyd eglwys o aelodau Carfan a Sardis ym 1854. Cafodd y capel presennol ei adeiladu ym 1889 a’i gau o’r diwedd ym 1999. Erbyn hyn chwalwyd yr adeilad a defnyddiwyd y cerrig


Capel Zoar

er mwyn codi t] i’r cefn, ger y festri. Gardd Goffa yw ‘ôl troed’ y capel erbyn heddiw. Daeth y ddau bwmp a leolir yna yn wreiddiol o Ffermydd Cronwern a Sparrow’s Nest. Cyn adeiladu capel Zoar, roedd y Bedyddwyr lleol yn addoli yn nhowlad fferm Long Lane (a gedwid gan Tom Phillips). Cawsant y safle ar gyfer y capel newydd oddi wrth y brodyr William a John Thomas Great Griggs a oedd yn aelodau yn Eglwys Fedyddwyr Glanrhyd a thurnwyr a chowperiaid wrth eu galwedigaethau. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith cludo’i wneud am ddim gan David Evans Trelissey, a chafodd y t] ychwanegol ar gyfer y gofalwr ei godi gan John Morgan. Mae’r capel wedi cau ac erbyn hyn mae’n gapel gorffwys.

Neuadd Pentref

Ysgolion Codwyd ysgol gynradd gyhoeddus ym 1876 a chafod ei defnyddio tan 1947 pan drosglwyddwyd y disgyblion i’r ysgol yn Amroth.

Neuadd y Pentref Cafodd hon ei chodi a’i hagor ym 1948. Estynwyd yn y 1980au ac ailwampiwyd ym 1999.

Gellir dod o hyd i wybodaeth hanesyddol bellach am Llanteg a Phlwyf Cronwern yng nghyhoeddiadau niferus Cymdeithas Hanes Llanteg, a ffurfiwyd ym 1999.


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gymdeithas Hanes Llanteg Cynllun gan Waterfront Graphics Darluniau gan: Geoff Scott & Kris Jones PLANED © 2007

Llanteg welsh  
Llanteg welsh  
Advertisement