Page 1

LLANDEWI VELFREY


Gwreiddiau Mae’r enw yn arwydd o wreiddau cyn-Normanaidd y gymuned hon. Cysegrwyd y llan i Dewi Sant, nawdd sant Cymru. Daw’r enw “Felffre” o gwmwd Efelffre. Uned weinyddol o dir cyn dyfodiad y Normaniaid oedd y cwmwd ac roedd yn cynnwys Crinow a Llanbedr Felffre.

Hanes Cynnar Mae bwyellau cerrig a ddarganfuwyd yn profi bod pobl yn byw yno hyd yn oed yn 2500 Cyn Crist. Er nad oes llawer o olion o ddefodau a siambrau claddu Oes y Pres, mae nifer o dwmpathau o gerrig tanau yn arwydd bod yna bobl yno y pryd hynny hefyd. Y mae’n amlwg bod yna bobl yma yn ystod yr Oes Haearn. Mae’r muriau amddiffynnol yn amlwg ar y ddau safle mwyaf cyflawn sef Caerau Gaer a Llanddewi Gaer. Nid oes neb yn gwybod a oedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r safleodd hyn ond nid cyd-ddigwyddiad yn unig yw bod eglwys ddiweddarach Dewi Sant wedi’i lleoli wrth droed y ceiri pwysig hyn.

Llanddewi Gaer

Datblygiad Llanddewi Felffre Buasai’r ffordd sy’n mynd heibio i Fferm Scapin a Henllan wedi bod yn llwybr naturiol yn dilyn y crib ac mae’n bosib iddo gael ei ddefnyddio hyd nes torri llwybr arall lle mae’r A40 yn awr yn gweu ei ffordd ar hyd ochr draw y cwm. Ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19ed ganrif Ymddiriedolaeth Tollborth Hendy-gwyn a oedd yn rheoli’r briffordd. Enw’r rhan newydd y pentref oedd y ‘Commercial’ gan taw dyma oedd enw’r t]


tafarn lleol. Dywedir y bu unwaith gefail ger Croes Penblewin tra yr oedd tafarn y Speculation gerllaw yn fan gorffwys cyfleus. Yr oedd yna efeiliau eraill wrth ymyl y Parc-yLan a’r hen swyddfa post. Yn wreiddiol tafarn goets oedd y Wheelaout Inn (bellach Glenfield) ger Capel Bethel a dywedir taw yno y safai’r cylch ymladd ceiliogod olaf yng Nghymru. Safai’r Commercial Inn (Commercial Cottage) erbyn hyn) yng nghanol y pentref hyd yr 1880au pan gymerwyd y drwydded gan y Parc-y-Lan Inn. Wedi hyn, fe drodd y Commercial yn siop a swyddfa post. Yr oedd yna dafarn arall hefyd ger Ffynnon ac yn y dafarn hon y bu achos o ddynladdiad yn 1670! Adeiladwyd Rhes Llandâf yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif er cof am Richard Lewis, Henllan, Esgob Llandâf. Dadorchuddiwyd y Gofeb Rhyfel gan Sir Wilfrid Lewis yn 1920. Mae’n debyg mai hon oedd y gyntaf ymysg cofebau rhyfel Sir Benfro.

Bonedd Bu teulu’r Lewisiaid yn ffermio yn y plwyf ers cenedlaethau a mae iddynt le amlwg yn hanes yr ardal. Hyd yn oed yn 1774 yr oedd stadau’r teulu yn ymestyn y tu hwnt i Landdewi ac yn cynnwys Fferm Glanrhyd (Castell Dwyran). Collwyd Glanrhyd i Stad Trewern mewn gornest gamblo! Yn 1871 priododd John Lewis Elisa Callen, ac fe ddaeth tir iw feddiant yn Nhredeml. Cafodd John ac Elisa ddau o feibion a phan fu farw’r tad yn 1834, etifeddodd yr hynaf ohonynt, John, y stad, tra y mentrodd Richard i’r offeiriadaeth. Yn 1854 dymchwelodd John Lewis gartref y teulu yn Henllan a chodi plasdy yn ei le (cwblhau yn 1856). Flwyddyn yn ddiweddarach priodwyd John a’i chyfnither, Katherine Callen, ac fe etifeddodd Stad Molleston, Templeton. Gan mai Katherine oedd yr olaf yn llinach teulu’r Poyer, mae dynion o deulu’r Lewisiaid yn cynnwys Poyer yn eu henwau. Daeth y Cadfridog Poyer yn enwog yn y Rhyfeloedd Cartref a chafodd ei ddienyddio yng Ngerddi Covent. Dymchwelwyd Plasdy Henllan yn 1956.

Henllan


Richard Lewis (1821 - 1905) Cyflwynwyd Richard Lewis i blwyf Llanbedr Felffre yn 1851. Fodd bynnag, gan na fedrai siarad fawr ddim Cymraeg, gwrthododd Esgob T] Ddewi ei sefydlu ac fe arweiniodd hyn at frwydr gyfreithiol rhyngddynt. Safodd Richard brawf mewn Cymraeg ond methu fu ei hanes. Apeliodd yn y man i Archesgob Caergaint ac fe’i sefydlwyd yn rheithor ar ôl iddo sefyll prawf arall. Yn ystod ei yrfa fe wasanaethodd fel Deon Gwledig Caerfyrddin Isaf (1852), Canon Eglwys Gadeiriol T] Ddewi (1865), Archddiacon T] Ddewi (1874) ac yn 1883 fe’i penodwyd yn Esgob Llandâf. Yn ystod ei esgobyddiaeth sefydlodd Gronfa Esgob Llandâf a gasglodd dros £60,000 erbyn adeg ei farwolaeth yn 1905. Fe’i claddwyd yn Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Felffre. Cafodd ei [yr, Syr Wilfrid Lewis, yrfa fel barnwr yn yr Uchel Lys.

Plasdai Llanddewi Felffre Maent yn cynnwys Henllan, Plascrwn, Trewern, Hendre, Panteg a’r Fron.

Addysg Mae’n debyg y daeth yr ysgol gyntaf i Llanddewi yn 1748 ac yn sicr bu’r ysgolion cylchlynol yn ymweld â’r plwyf o 1755 ymlaen. Yn ôl geiriadur Lewis - ‘Topographical Dictionary’ - adeiladwyd ysgoldy ym mynwent yr eglwys yn 1828 ar draul y plwyf. Wedyn fe ddatblygodd yn ysgol ‘Genedlaethol’. Yn 1797 sefydlwyd ysgol gan Gapel Ffynnon ac mae’n debyg i’r ysgol bara hyd tua diwedd y 19eg ganrif. Ar un pryd yr oedd yna dair Ysgol Sul yn y plwyf. Ar 7 Awst 1876, agorwyd adeilad ysgol newydd gan y Parch. Richard Lewis ar dir a roddwyd gan Stad Henllan. Cauodd Ysgol Llanddewi Felffre ym mis Gorffennaf 1988.

Bywyd Gwyllt A Theithiau Cerdded Wrth gerdded i gyfeiriad yr eglwys mae modd gweld cnocell y coed, ac yn y gwyll y mae’r dylluan frech a’r dylluan wen i’w clywed. Yn y gwanwyn, mae cennin pedr gwylltion yn harddu ochrau’r llwybr. Yn y gwanwyn, mae yna wely o erlysiau yn gorchuddio Gaer Llanddewi. Mae’n debyg y byddwch yn gweld y boda a’r cudyll coch sy’n nythu ar y bryniau hyn. Wrth gerdded heibio i’r eglwys i gyferiad y Felin Wen efallai y cewch gip ar y creyr glas neu’r hwyaden wyllt. Yn ystod y gwanwyn a’r haf mae’r llwybr yn gynfas lliwgar o flodau gwyllt.

Bluebells

Early purple orchids


Crefydd Cysegrwyd Eglwys y Plwyf, i Dewi Sant. Rhwng 1282 a 1517 fe adwaenwyd yr eglwys fel Llanddewi Trefendeg, ond ni all neb egluro tarddiad yr enw yma. Un nodwedd ddifyr am yr eglwys yw bod mwy nag un offeiriad yn rhannu baich y swydd ar un adeg. Yr enw gwreiddiol ar yr offeiriaid hyn oedd y ‘portioners’ ond erbyn 1596 fe’u hadwaenwyd fel rheithoriaid a ficeriaid. Yn nes ymlaen daeth y St David’s rheithor yn swydd segur a ddaliwyd gan berson Llanddewi absennol a oedd fel rheol yn ddyn pwysig yn Velfrey y gymdeithas. O 1832 i 1941 roedd y rheithoriaid yn athrawon neu’n ddirprwy brifathrawon yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Tu mewn i glawr y gofrestr bedyddio yr ysgrifennwyd y geiriau hyn: ‘Trwsiwyd ac atgyweiriwyd eglwys Llanddewi Felffre ar gost o £700 a’i hail agor ar ddydd Mawrth, 7fed o Fai 1861’. Yn 1893 ail adeiladwyd y clochdy a’r wal orllewinol. Yn yr eglwys gellir gweld pennau cerfiedig o’r Canol Oesoedd a chofebau diddorol o’r 19fed ganrif, gan gynnwys cofeb i deulu’r Lewisiaid gan y cerflunydd adnabyddus, J.A. Smith, a’i fab C. Smith. Mae yna gofeb drawiadol iawn er cof am yr Esgob Richard Lewis yno ac mae arfbais y teulu yn addurno llawr yr eglwys. Yn 1974 ymunodd Eglwys Dewi Sant â chylch Llanbedr Felffre. Cafodd y Ffynnon, Capel y Bedyddwyr ei enw o ffynnon adnabyddus leol a adwaenid fel y ‘Ffynnon well na buwch’. Dywedwyd bod y Ffynnon yn cynnwys y d[r puraf oll a honnwyd nad oedd y Ffynnon byth yn sychu. Rhoddwyd safle’r capel ar lês yn 1723 a nodir i’r capel gael ei ‘adeiladu yn ddiweddar’ yn 1725. Cyn adeiladu’r capel cynhaliwyd y cwrdd mewn t] preifat gerllaw yn dwyn yr enw Ffynnon. Yn 1787 ehangwyd yr adeilad ac yn 1794 daeth Ffynnon yn gapel ar ei ben ei hun. Y gweinidog cyntaf oedd Benjamin Davies yn 1797 ac erbyn 1799 pregethai hefyd yn Princes Gate. Sefydlodd Gapel Glanrhyd ger Llanbedr Felffre yn ddiweddarach. Ail adeiladwyd Capel Ffynnon ar safle newydd yn 1832. Yna yn 1844 sefydlwyd Capel Blaenconyn yng Ffynnon Chapel Nghlunderwen ac ymunodd 90 o aelodau’r Ffynnon â’r achos hwn. Yn ddiweddarach, yn ystod gweinidogaeth John Rees (1910-1923) sefydlwyd Capel y Rhos yn Llanfallteg.


Mynwent Trefangor Yr Eglwys oedd yn berchen ar yr holl diroedd claddu dri chan mlynedd yn ôl ac nid oedd hawl gan y Bedyddwyr i gynnal gwasanaethau claddu. Ond yr oedd Bedyddwyr Sir Benfro yn ffodus ar ddiwedd y 17fed ganrif bod un o’u harweinwyr, Griffith Howell, wedi cynnig tir iddynt ar Fferm Trefangor ar gyfer claddu aelodau o’r eglwys. Ganed Griffith Howell yn Narberth yn 1640. Mab Griffith Howell, John, oedd y person cyntaf i gael ei gladdu yn Nhrefangor ac yn 1705 neu 1706 claddwyd Griffith Howell ei hun yno. Trefangor burial ground

Codwyd Bethel Capel yr Annibynwyr yn 1824 fel ysgol fach. Y fam gapel yw Henllan, yn Henllan Amgoed. Diddorol yw nodi nad oedd gan Bethel drwydded i gynnal priodasau hyd 1921 ac yn Henllan y byddai parau’n priodi. Ail adeiladwyd ac ehangwyd y capel yn yr 1840au a’i atgyweirio yn 1912. Cynhelir y gwasanaethau yn Gymraeg o hyd ac yn y capel mae yna nifer o gofebau i gyn-weinidogion.

Bethel Independent Chapel


Mae’n debyg taw yn Fferm Trewern neu mewn bwthyn gerllaw y byddai’r Crynwyr yn cwrdd yn yr 1660au. Yn anffodus cawson nhw eu herlyn am arddel eu ffydd. Yn y pen draw prynodd eu haelod mwyaf blaenllaw, Lewis David Richard, dir ym Mhensylvania a chroesi Môr yr lwerydd yn 1690. Galwodd ei dir yn Haverford a choleg enwog y Crynwyr sydd ar y tir hwnnw yn awr. Roedd y Crynwyr hefyd yn berchen ar fynwent yn Nhrewern a elwir yn Fynwent y Cyfeillion neu Fachpelah.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Llanddewi Velfrey residents in conjunction with Cambria Archaeology. Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott SPARC © 2002

Llandewi velfrey welsh  
Llandewi velfrey welsh  
Advertisement