Page 1

LAWRENNI


Gwreiddiau ‘Lawrenni’ Mae tystiolaeth fod pobl yn byw yma yn nechrau’r cyfnod cynhanesyddol e.e. yr aelwydydd coginio a llociau tir o’r Oes Haearn. Mae’r enw yn hen, yn ôl pob tebyg enw Cymraeg gwreiddiol wedi goroesi.

Cresswell Ceir yr enw Cresswell yn Lawrenni ac yn y plwyf agosaf, Jeffreyston. Awgryma Dr. B.G. Charles mai’r ystyr gwreiddiol oedd ‘Cress Spring’ ond fod ymdrechion wedi’u gwneud i newid yr enw i ‘Christwell’ oherwydd fod capel gerllaw, oedd (un o meddiannau’r Priordy Awgwstaidd yn Hwlffordd). Roedd yna gastell Creswell hefyd. Adeilad seciwlar oedd hwnnw yn yr Oesoedd Canol. Yn dilyn diddymu’r mynachlogydd yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII rhoddwyd y capel a Cresswell Quay oedd yn dwyn yr enw ‘Creswelle’ i aelod o’r teulu Barlow yn ôl penderfyniad y Goron ac ymddengys fod y ‘castell’ yn rhan o’r grant gan iddo ddatblygu fod yn gartref y teulu Barlow.

Pentref Lawrenni Yn y cyfnod Tuduraidd amcangyfrifwyd fod yma 12 cartref yn y pentref a’i bod yn ganolfan fasnach. Dengys map o Lawrenni ym 1762 Lawrenni ar waith ac mae’n bosibl mai’r adeiladau ger y fferi oedd Quay House a Fferi Cottage a thafarn â th] cychod a iard ar safle’r dafarn, sef y Lawrenny Arms erbyn hyn. Ymhlith yr adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig y mae Rosehill, a adeiladwyd o fewn gardd gaeedig y castell a’r Rheithordy (Quay House oedd yr enw blaenorol) sydd bellach yn wag. Roedd adeilad i’w gael ar safle Quay House ym 1762, erbyn 1861 roedd y Ficar yn byw yno ac yn yr 1880au fe gyfeiriwyd at y ty fel y Rheithordy. Y person olaf i fyw yn y t] yn ôl pob tystiolaeth oedd yr athro ysgol a hynny yn ystod y 1920au. Yn nechrau’r 1850au roedd dwy dafarn yn Lawrenni, y Ferry Cottage a’r Coach & Horses. Parhaodd y Coach & Horses fel tafarn nes ei chau yn agos at ddiwedd y 19eg ganrif. Yr un oedd hanes y New Inn yn y pentref. Credir fod y Cyrnol Frederick Lort-Phillips wedi cau pob un o’r tafarndai gan fod ei staff yn yfed gormod ond hefyd doedd ei wraig ddim yn cytuno ag yfed! Er hynny ofer fu’i ymdrechion gan i’r trigolion lleol defnyddio rhyd ar draws yr afon pan oedd y llanw’n isel er mwyn cyrraedd y dafarn yn West Williamston.

Chwaraeon Fe sefydlwyd y Clwb Criced ym 1894/95 er fod y criced wedi dod i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1918 gwnaed yr ymdrech gyntaf i ail-gasglu’r chwareuwyr pan deithiodd y tîm i Cosheston a chael dim ond 13 rhediad. Ers hynny, fodd bynnag mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth a bellach ceir dau dîm. Yn ddiweddar fe sefydlwyd clwb pel-droed. Gerllaw yng Ngoedcanlas y ganwyd y joci a’r awdur adnabyddus Dick Francis.


Cangen Awyr y Llynges Sefydlwyd canolfan awyr morol yng Nghei Lawrenni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd hon i fod yn gartref parhaol Sgwadron 764 a’r llu o awyrennau môr ‘Walrus’. Ar adegau roedd hyd at 15 awyren wedi’u hangori ar yr afon rhwng Lawrenni a Choedcanlas a defnyddid Castell Lawrenni fel llety ar gyfer y swyddogion.

‘Walrus’ seaplane

Stâd Lawrenni Pan fu farw William Barlow ym 1851 nid oedd unrhyw etifedd gwrywaidd ac fe drosglwyddwyd y stâd i George Lort-Phillips (roedd ei fam yn un o’r teulu Barlow). Adeiladodd Lort-Phillips y castell newydd am gost o £70,000 ac yn ddiweddarach fe’i gwnaed yn Siryf Sir Benfro a’i ethol yn Aelod Seneddol (1861). Etifeddwyd y stâd ym 1866 gan nai George, John Frederick Lort-Phillips; fe ddaeth yntau hefyd yn Uchel Siryf (1880) ac yn Gynghorydd Sir (1889). Pan fu farw yn ddiblant trosglwyddwyd ei stâd i’w or –nai Patrick Shoubridge ac fe newidiodd ef ei enw i Lort-Phillips. Fe fu Patrick Lort-Phillips yn y Grenadier Guards hyd 1948 gan gyrraedd ranc LieutenantColonel a chael dau DSO yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1943 dychwelodd i Gastell Lawrenni gyda’i deulu. Er fod y castell yn arbennig iawn o ran edrychiad, anodd iawn oedd byw ynddo ac o ganlyniad, ym 1952 fe’i tynnwyd i lawr. Bellach ceir safle picnic a golygfan o eiddo’r parc Cenedlaethol ar y safle.

Lawrenny Castle before its demolition


Bywyd Gwyllt a Cherdded

Wild Service tree

Mae’r llwybr o Goedcanlas i Gei Cresswell yn mynd trwy Goed Lawrenni sy’n un o’r enghreifftiau gorau o goetir llydanddail hynafol ar lannau’r ddyfrffordd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd bellach yn gyfrifol am y coetir hwn. Coed derw a geir yn bennaf yma ond mae yma amrywiaeth o rywogaethau eraill a does dim un yn fwy arbennig na’r pren criafol gwyllt sy’n fwy cyffredin ar lannau aber y Daugleddau nag unlle arall yng ngorllewin Cymru. Mae’n hawdd adnabod y coed yn ystod yr hydref pan mae’r dail wedi troi’n goch tywyll a phan mae clystyrrau o Dragonfly ffrwyth brown tywyll ar y coed. O’r llwybr troed ceir golygfeydd o’r aber ac yn ystod yr hydref a’r gaeaf gwelir yna amrywiaeth o adar e.e. hwyaid deifio fel yr hwyaden lygad-aur a’r hwyaden frongoch. Mae’r fflatiau llaid ar yr afon Cresswell yn denu rhydwyr fel y Gylfinir, y Pibydd coesgoch, Pibydd y mawn a Hwyaden yr eithin sy’n magu yn yr ardal hon ac sydd i’w gweld yma trwy gydol y flwyddyn heblaw am ddiwedd yr haf. Gwelir y bilidowcar yma hefyd yn deifio am leden neu’n sefyll mewn rhai mannau amlwg ar hyd yr afon.

Yr Aber Erbyn y cyfnod Tuduraidd roedd Lawrenni hefyd yn ganolfan fasnach forol ac fe barhaodd y traddodiad hwn. Yn Lawrenni ail-lwythwyd sawl cargo a gludwyd ar gwch o Gei Cresswell a Landshipping. Roedd ceiau Lawrenni mewn safle da. Adeiladwyd nifer o gychod hwylio yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif yn Lawrenni. Mae’n debyg fod hyn wedi datblygu o draddodiad masnachol cynharach.

Lawrenny Quay


Wedi’r 1830au fe ddirywiodd y diwydiant. Ymddengys mai’r cwch a adeiladwyd yn y 1850au oedd yr olaf i gael ei adeiladu yno. Roedd yna ddwy fferi: y fferi Roose i Williamston Pill a fferi Lawrenni i Cosheston. Yn ystod y 19eg ganrif roedd fferi ceffylau o Lawrenni yn cludo c]n hela’r pentref yn rheolaidd. Yn gynharach yn yr ugeinfed ganrif fe ddaeth y teulu Davies yn adnabyddus fel gofalwyr y fferi. Roedd y teulu yn byw yn Ferry Cottage heb dalu rhent ac roedd disgwyl iddynt ennill eu bara menyn trwy’r arian a gasglwyd ganddynt gan y teithwyr. Y Stâd oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r cwch. Roedd Tom Davies, a adnabyddid fel Tom y Fferi yn gymeriad lleol, yn hoff iawn o’i gwrw ac yn aml yn rhoi taith reit anghyffyrddus i’w deithwyr! Yn anffodus i Tom doedd dim tafarn yn Lawrenni ac felly arferai gerdded, weithiau ddwywaith y dydd i’r Cresselly Arms yng Nghei Cresswell. Parhaodd y fferi trwy gydol yr Ail Ryfel Byd gan ddod i ben yn ystod y 1960au. Fe dynnwyd llymarchiaid o’r aber yn y cyfnod Tuduraidd ac fe ystyriwyd y rhai hynny a dynnwyd yn Lawrenni fel y rhai ‘tewaf, gwynnaf a melysaf’. Fe’u cludid dros y d[r i Fryste ac i fannau eraill, a thros y tir i dde Cymru ac i’r siroedd ar y ffin. Ar ddechrau’r 19eg ganrif dywedwyd fod llawer iawn yma a’u bod yn cael eu cludo i farchnadoedd Llundain mewn cychod o Chatham a Rochester. Daeth y farchnad hon i ben yn y 1850au. Adlewyrchir y gwaith morol arall a oedd yma yng Nghyfrifiad 1841 sy’n nodi fod yma 15 cychwr, 12 morwr, 3 saer llongau, 6 saer llongau prentis a rhwyfwr. Hanner can mylynedd yn ddiweddarach y cyfan a geid yma oedd 2 forwr, 1 saer llongau a 3 rhwyfwr. Yn y diwedd, wrth i lawer cei gael eu datblygu ymhellach i lawr yr afon ac wrth i’r diwydiannau glo a chalchfaen ddirywio daeth diwedd ar fasnach Lawrenni.

Ysgol Lawrenni a Neuadd y Pentref Ysgol yr Eglwys oedd ysgol Lawrenni. Fe gaewyd yr ysgol ym 1965 ac fe drosglwyddyd perchnogaeth yr adeilad yn ôl i deulu’r Lort-Phillips. Yn ddiweddarach penderfynodd y teulu rhoi’r adeilad yn ôl i’r gymuned.

Cïn Hela Lawrenni George Lort-Phillips oedd yn gyfrifol am y c[n hela. Fe’u gelwid yn G[n Hela Sir Benfro ac roeddent yn hela ledled y sir. Yn amser John Lort-Phillips, fe’u cyfunwyd â ch[n Cresselly ac fe’u symudwyd i’w cartref presennol yng Nghresselly. Heddiw fe’u gelwir yn G[n Hela De Sir Benfro. Yr enw lleol ar y cenelau yng Nghei Lawrenni oedd ‘The Doghouse’. Daeth yr adeiladau hyn i fod yn bencadlys Clwb Hwylio Lawrenni ac yn Lawrenny Arms yn ddiweddarach.

Eglwys Sant Caradog Fe wnaethpwyd y tapestri Reredos, a welir ar yr allor, gan Mrs Patrick Lort-Phillips ac ynddo ceir hanes Sant Caradog. Yn sicr mae i’r eglwys wych hon o’r 12fed ganrif gyda’r th]r pedwar llawr yn rhoi golygfeydd rhagorol dros yr afon i Eglwys Caeriw, nifer o nodweddion diddorol yn cynnwys bedyddfaen Normanaidd a dau agoriad lletraws yn y wal. Maent wedi bod yno ers yr Oesoedd Canol er mwyn galluogi pobl i weld yr allor yn ystod yr offeren. Adeiladwyd y groesfa ddeheuol yn ystod y 14eg ganrif neu ar ddechrau’r 15fed ganrif ac yno’roedd ffigur o farchog wedi’i wneud o garreg. Nid oes unrhyw wybodaeth amdano.


Symudwyd y ffigur yn ddiweddarach a bellach mae bedd Hugh Barlow wedi cymryd ei le. Fe fyddai bonheddwyr Castell Lawrenni yn eistedd yn y gangell; roedd ganddynt eu mynedfa eu hunain a llwybr preifat rhwng yr eglwys ar castell. Ym 1901 cyflwynodd Maude Lort-Phillips gloc i’r eglwys er cof am y Frenhines Fictoria. Roedd hi wedi bod yn gydymaith i’r Frenhines ac ym 1926 cyflwynodd ffenestr hardd o wydr lliw er cof am ei g[r, y Cyrnol Frederick LortPhillips. Fe ellir cael gwybodaeth bellach y tu mewn i’r eglwys. Yn arbennig felly, ewch i weld y plac yn y gangell er cof am Elizabeth Jones sy’n cynnwys nodwedd anghyffredin – penglog ac esgyrn croes. Mae’r ddau blac yn y porth, er cof am Elizabeth Jones ac Elizabeth Griffiths yn destun dirgelwch gan na wyddys pwy oedd y merched hyn a pham y gosodwydd y placiau anarferol hyn er cof amdanynt.

Diwydiant Lleol Cloddiwyd am galchfaen, ar gyfer y diwydiant adeiladu ac amaethyddol. Mae’r enw South Pits a thwmpath gwastraff yn Foxenhole Plantation yn awgrymu cefndir glofaol. Ymddengys hefyd bod rhai yn gweithio yn y pyllau yng Nghoedcanlas a Martletwy. Mae’r enwau Tanyard a Tanyard Mountain yn awgrymu diwydiant lleol arall ond y prif gyflogwr o’r cyfnod hwn hyd heddiw yw amaethyddiaeth.

Rasio Ceffylau ar Fferm Lawrenni

‘Kirkland’

Roedd John Frederick Lort-Phillips yn hyfforddi ceffylau ar fferm Lawrenni a llwyddodd i roi enw’r pentref ar y map pan enillodd Kirkland y Grand National ym 1905. Fe hyfforddwyd geffylau llwyddiannus eraill yn Lawrenni gan gynnwys Corbeen, a enillodd y Grand Sefton a’r Grand National Cymreig ac a ddaeth yn drydydd yn y Grand National. Roedd yna hefyd fferm fagu ceffylau a dywed trigolion lleol fod hyd at 100 caseg fagu yn y stablau yno yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Roedd y t] a elwir yn The Diggings yn gartref i weithwyr y stablau a’r jocis.

Eglwys y Santes Fair Rhwng Lawrenni a Choedcanlas ceir gweddillion Eglwys y Santes Fair. Dywedir i’r bwthyn gerllaw, â’i simnai arbennig gael ei adeiladu ar ddechrau’r 15fed ganrif ar gyfer warden yr eglwys. Ailadeiladwyd yr eglwys ei hun ym 1718 ond ni cheir cofnod ohoni yng Nghyfrifiad Crefyddol 1851. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yma ym 1960. Mae’n debyg i’r fynwent fechan gerllaw’r eglwys gael ei defnyddio am y tro olaf ym 1861.


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by The Lawrenny Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott & J Murphy SPARC © 2001

Lawrenny welsh  
Lawrenny welsh  
Advertisement