Page 1

LLANDYFÁI HODGESTON


Y Gymuned a’r Plwyfi Mae Llandyfái a Hodgeston yn hen blwyfi. Y Gymuned heddiw yw Llandyfái â Hodgeston. Mae’r arfordir yn ffurfio ffin ddeheuol Llandyfái a Hodgeston.

Enwau Mae’n debyg fod yr enw Llandyfái yn tarddu o’r amser pan oedd pregethwyr arloesol yn ceisio Cristioneiddio’r ardal. Yn ôl traddodiad, Tyfai oedd un o’r rhain, ac yn ôl pob sôn roedd yn nai i ddyn dylanwadol iawn o’r enw Teilo. Sefydlodd y ‘llan’ neu eglwys yma. Gwelwyd yr enw ‘Llantefei’ yn y 12fed ganrif, gydag amrywiaethau yn ddiweddarach. Mae’n debyg mai fferm rhywun o’r enw Hogge neu Hodge oedd Hodgeston, sgîl-ffurf o’r enw personol cyfandirol Roger (B G Charles, Place Names of Pembrokeshire) sy’n dyddio o gyfnod y Normaniaid.

Cynhanes Y gweithgaredd dynol lleol cynharaf oedd gwneud offer yn y cyfnod Mesolithig (rhwng 10,000 a 6,000 o flynyddoedd yn ôl) a’r cyfnod Neolithig cynnar oedd yn dilyn. Roedd y lloriau gweithio fflint yng nghyffiniau Bae Freshwater yn bennaf, ond mae darganfyddiadau wedi bod yn Hodgeston Hill a mannau eraill hefyd. Gwelwyd olion aelwyd a safle coginio cynhanesyddol hefyd ger Neuadd Hodgeston, a phosibilrwydd o un arall lle saif Porthdy Llandyfái heddiw. Mae cloddwaith o Oes yr Haearn uwchben Bae Freshwater. Roedd siaradwyr iaith Geltaidd ymhlith pobl Oes yr Haearn, sef cyndeidiau’r Cymry, ac i’r bobl yma y bu pobl fel Tyfai yn pregethu ar ddechrau’r cyfnod Cristnogol.

Yr Oesoedd Canol Ymysg gweddillion yn y tirwedd mae’r drigfan ffosedig yn Hodgeston. Safle sgwâr yw hwn gyda cloddweithiau’r ffosydd o’i amgylch yn dal yn amlwg. Roedd Hodgeston yn ffi marchog ym Marwniaeth Maenorb]r ac Iarllaeth Penfro (yn ôl Brian Howells; y mae ein hastudiaeth o’r ardal yn yr Oesoedd Canol yn dibynnu arno). Mae cyfeiriadau dogfennol yn Ruins of Portclew Chapel (private property) dangos fod llawer o ffermdai heddiw yn bodoli yn yr Oesoedd Canol. Roedd capel ger ffynnon ym Mhorthlliw Bychan; ac mae posibilrwydd bod hon wedi cael ei mawrygu, ac mai o achos hynny yr adeiladwyd capel. Roedd y ddwy eglwys blwyf yn sefyll fel heddiw. Ond y pwysicaf o’r holl nodweddion canol oesol yw Palas yr Esgob - ac mae arweinlyfr Cadw ar ei gyfer. Mae’r gwaith cerrig sydd wedi goroesi ar y safle hyfryd hwn yn ymestyn dros dair canrif ac


mae’n cynnwys gweddillion tair neuadd, y gyntaf wedi ei dinistrio’n sylweddol. Mae’r ail ( o’r drydedd ganrif ar ddeg) wedi cadw ei nodweddion trawiadol. Henry de Gower, a ddaeth yn esgob yn 1328 oedd yn gyfrifol am y drydedd a’r adeiladau cysylltiedig. Ail-fodelwyd y capel yn nechrau’r 16eg ganrif ac yn oes Elisabeth diweddarwyd ambell i nodwedd ddomestig gan deulu Devereux (gweler Sian Rees, A Guide to Ancient and Historic Wales: Dyfed).

Lle Nodedig Mae Llandyfái yn sefyll allan ymhlith pentrefi oherwydd ei gysylltiadau enwog a phwysig ac oherwydd statws uchel ei breswylfeydd. Datblygodd naws benodol yn yr Oesoedd Canol fel un o faenordai Esgobion T] Ddewi ac yn lleoliad un o’u palasau. Lamphey Bishops Palace Nid ydym yn gwybod pwy roddodd y tir i esgobaeth T] Ddewi na phryd y digwyddodd hyn. Mae’n edrych yn debyg mai tirfeddiannwr o Gymro ydoedd oherwydd fod preswylfa esgobol yma’n barod yn 1096, 30 mlynedd ar ôl i’r Normaniaid gyrraedd Lloegr. Mae arolwg ‘Llyfr Du T] Ddewi’ o eiddo’r esgob yn 1326 yn cynnwys Llandyfái, â’i bedwar pwll pysgod, ei golomendy, ei ddwy felin dd[r ac un melin wynt. Mae ambell i nodwedd adnabyddus o’r ardal hon yn ein hatgoffa o’r cyfnod: Parc (Llandyfái) - parc ceirw’r esgob a Dôl yr Esgob (Bishop’s Meadow). Mae’r gair Callands yn ymddangos yn yr arolwg fel ‘Kalenge’, enw ychydig yn ddyrys ar un o’r caeau agored ( o bosibl ‘tir mewn anghydfod’ ar un adeg, anhysbys). Peidiodd Llandyfái â bod yn breswylfa i’r esgobion yn dilyn chwyldroeon teyrnasiad Brenin Harri’r VIII oedd yn ganlyniad i’r rhwyg â Rhufain ac unbennaeth brenhinol. Daeth llawer o stadau eglwys i ddwylo’r Goron a chafodd y mwyafrif eu hail-ddyrannu i ddeiliaid lleyg. Ymysg y rhain roedd Llandyfái, a roddwyd i Richard Devereux, mab un o weision dibynadwy Harri’r VIII.

Ar ôl yr Esgobion Roedd deiliaid lleyg cyntaf y maenordy yn yr oes fodern yn aelodau o deulu Devereux. Urddaswyd Walter Devereux o Landyfái yn iarll Essex yn 1572, ond bu farw yn 1576. Bu ei frawd, George Devereux, yn byw yn Llandyfái tan oddeutu 1597. Treuliodd Robert, yr ail iarll, lawer o’i amser pan yn ifanc yma yn nh] ei ewythr, ond yn 1584 gadawodd am lys y Frenhines Elisabeth. Arweiniodd ei uchelgeisiau ef at drychineb: colli gwrthryfel yn 1601 ac yna’i ddienyddio. Roedd ffawd y teulu Devereux dan gwmwl am gyfnod ond ymhen amser caniatawyd i fab Iarll Robert etifeddu stadau a theitlau ei dad. Ef, sef y trydydd Iarll, oedd y prif Bennaeth Seneddol yn rhan gyntaf Rhyfel Cartref yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd tenant ym Mhalas Llandyfái bryd hynny.


Pastoral scene, Lamphey Court

Gwerthwyd Palas a Stad Llandyfái i Syr Hugh Owen o Orielton (plwyf hynafol Monkton). Roedd yr eiddo yn nwylo’r teulu tan oddeutu 1822, pan y’i gwerthwyd i Charles Delamotte Mathias o Langwarren yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y teulu Mathias yn ddylanwad cryf yn Llandyfái am dros ganrif a hanner. Cwrt newydd Llandyfái, a adeiladwyd yn 1823, oedd eu lleoliad tan iddo gael ei werthu gan Is-Gapten Mathias yn 1978.

Cyfathrebu Mae Llandyfái wedi ei leoli ar y ffordd gefn hynafol rhwng Dinbych-y-Pysgod a Phenfro ger dyfroedd Aberdaugleddau. Yn ôl pob sôn gellid cario nwyddau o Benfro i’r felin (ger Pont Northdown) yn ystod penllanw, ac yna’u gwthio i fyny i’r Cwrt ei hun. Yn y 19eg ganrif, cynyddodd gwelliannau ffyrdd ac adeiladu rheilffordd Penfro a Dinbych-y-Pysgod ( a gafodd ei gysylltu â’r rhwydwaith ehangach yn y pen draw) atyniadau Llandyfái. Y contractwyr oedd David Davies o Landinam ac Ezra Roberts o Lanelwy. Hwy oedd â’r holl gyfrifoldeb o adeiladu’r lein, yn darparu’r holl gyfalaf bron iawn ac yn gweithredu’r rheilffordd am saith mlynedd. Dywedwyd wrth y cyfranddalwyr ar Chwefror 27 1863 fod y gwaith ar y bont dros y rheilffordd yn Llandyfái newydd ddechrau a bod Pont Cleggars wedi ei chwblhau a bod yr arglawdd ar fin cael ei gau. Agorwyd y lein i draffig cyhoeddus ar Orffennaf 30 1863. (Gweler M.R.C. Price, The Pembroke and Tenby Railway).

Pentref Llandyfái Er fod y tir wedi ei amgau’n gynnar, roedd pethau i’ch atgoffa o hyd fod yr hen system ganol oesol wedi goroesi i’r 19eg ganrif, er enghraifft, ffermydd sylweddol â’u hadeiladau yn y pentref. Fferm Isaf (William Morgan) oedd un o’r ffermydd mwyaf yn y plwyf yng nghanol y 19eg ganrif. Mae’r simnai yng ngardd un o’r tai yn Ridgeway Road, (High Street gynt), o ddefnyddio’ch dychymyg, yn rhoi cipolwg i ni o’r hen bentref. Mae hen luniau yn dangos y ffordd hon a choed ar ei hyd ac yn gwyro ychydig. Gellir gweld tai lle roedd pobl yn byw cyn yr 20fed ganrif o hyd: T]’r Llys, mae ei enw’n disgrifio un o’i swyddogaethau, T] Llandyfái (Malthouse erbyn heddiw), ar/ger safle’r Hen Fracty, Neuadd Llandyfái oedd yn eiddo ac yn breswylfa i George Lock yng nghanol y 19eg ganrif a arferai rentu’r ‘ardd bleser’ o’i flaen gan Charles Mathias. Yn y cyfnod hwn roedd gan y plwyf gasgennwr, 2 saer, teiliwr, 2 of, saer maen, crydd a


gwneuthurwr esgidiau oedd yn cyflogi 3 dyn (Abel Thomas). Cafwyd cerrig o’r chwarel i adeiladu a chalchio. Mae’r swyddi gwasanaeth yn atgoffa rhywun o safon byw y sgweieriaid ac eraill - perchnogion neu denantiaid tymor byr llefydd megis Northdown, Portclew, Parc Llandyfái, Cleggars, Neuadd Llandyfái ( ac yn y plwyf cyfagos, Neuadd Hodgeston). Efallai mai’r elfen fonheddig yn y cylch cymdeithasol anogodd ddatblygiad y busnes manwerthu bara. Gweithid ffwrn pobi Tonks, oedd wedi ei osod oddeutu 1890 gan Joseph Bond yn ei fecws (Venison erbyn heddiw) yn ogystal â ffwrn bara briciau traddodiadol. Addasodd R E G White stabl bychan cyfagos i’w d] i wasanaethu fel becws newydd oddeutu 1925.

Eglwys Llandyfái Mae’r enw’n un dyrys. Mae arwydd yn y pentref yn eich arwain tua Sant Faith a dyna sut mae’r eglwys yn cael ei disgrifio yn argraffiad 1af map 25m : 1 filltir a gyhoeddwyd yn 1866. Dywed Samuel Lewis yn ei Topographical Dictionary (1833) fod Church of St Tyfai & enw’r pentref yn tarddu o enw’r St Faith and Venison Eglwys - Llanffydd ‘Eglwys ffydd’. Y gred yn 1786 oedd mai dyma eglwys Sant Faith. Yr enw derbyniol ar y funud yw Sant Tyfie a Sant Faith. Mae’r adeilad wedi cadw ei gynllun canol oesol a’i d[r hardd o’r 14eg/15fed ganrif. Ymhlith y rhannau o’r gwaith cerrig cynnar mae pisgina a dwy ffenestr bigfain - wedi eu hailosod. Mae hambwrdd cymun â’r enw ‘Lampha’ a’r dyddiad 1743 arno. Mae’r fedyddfaen Normanaidd yn un o’r rhai gorau sy’n weddill yn y sir hon. Dioddefodd y fywoliaeth ddiffyg ficerdy yn ystod y 19 eg ganrif. Oddeutu’r flwyddyn 1840, roedd y Parch. James Broff Byers yn byw yn y t] sy’n cael ei adnabod heddiw fel y Dial Inn a oedd yn eiddo i Mrs Ester Phillips. Yn 1851 roedd yn byw yn Nh] Northdown. Prynwyd y t], oedd yn cael ei adnabod fel Neuadd Llandyfái ar y pryd, i gael ei ddefnyddio fel persondy yn 1895 am £600. Fe’i hadnewyddwyd wedyn a’i gynyddu a rhoddwyd yr ardd gan Mr Mathias yn 1896. Adeiladwyd y ficerdy presennol oddeutu 1965-6. Mae Neuadd Llandyfái yn Westy erbyn heddiw.

Eglwys Hodgeston Nid oes cofnod o’i gysegriad canol oesol. Dywedir mai’r Esgob Gower oedd yn gyfrifol am ailadeiladu’r gangell yn y 14 eg ganrif sydd ychydig yn fwy o ran

Hodgeston Church


cymesuredd na gweddill yr eglwys. Adferwyd yr eglwys yn y 19eg ganrif ond cadwyd llawer o’r bensarnïaeth wreiddiol. Gerllaw’r bwa cangell mae grisiau llofft y grog, sydd wedi mynd ar goll. Mae’r t[r yn fain iawn. Mae’r fedyddfaen yn un Normanaidd. Fel yn Llandyfái, carreg galch leol yw’r prif ddeunydd adeiladu. Roedd eglwysi Llandyfái a Hodgeston yn arfer cael eu cyd-redeg ac erbyn heddiw mae’r plwyfi hyn a Chaeriw yn rhannu’r un ficer.

Hen D}’r Ysgol, Llandyfái The Old School

Roedd yr Ysgol Genedlaethol, a sefydlwyd yn 1828, yn cynnwys ystafell ysgol a bwthyn. Darparodd Charles Mathias dir ar les 60 mlynedd yn gyfnewid am ddarn arall o dir oedd yn eiddo i’r plwyf. Yn ysgol tan 1911, mae’n breswylfa nawr. Mae carreg wedi’i cherfio o’r Canol Oesoedd i’w gweld ym mur yr ardd.

Tafarndai Cafodd Jeremiah Thomas ei drwyddedu ar ddechrau’r 19 eg ganrif i gadw tafarn ac yn 1826 trwyddedwyd George Mackan. Tua’r flwyddyn 1840 roedd yn byw yn y t] oedd wrth ochr yr eglwys, a’r gred yw ei fod yn dafarn coets fawr fechan o’r enw The Venison. Tafarn leol arall oedd The Plough (1830). Dechreuwyd defnyddio The Dial (yr enw yn deillio o ddeial haul) fel tafarn ym 1966.

Neuadd yr Eglwys Fe’i hadeiladwyd ar dir y llan yn 1897, ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer Festri’r Pasg ym mis Ebrill.

Lamphey Church Room


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Lamphey Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott SPARC © 2001

Lamphey welsh  
Lamphey welsh  
Advertisement