Page 1

HUNDLETON

& MAIDEN WELLS


Enwau Roedd yr enw Hundleton yn bodoli ar ddiwedd yr oesoedd canol ac yn golygu o bosibl ‘hounds farm’ sef fferm lle y cadwyd helgwn. Mae’n bosibl bod ganddo gysylltiad â Orielton gerllaw sy’n ymddangos ar y ffurf Orieldun mewn dogfen o’r flwyddyn 1335. Gellir olrhain yr enw Maiden Welle i o leiaf 1336 pan ymddengys ar y ffurf Maydene Wells. Roedd y ffynhonnau cyforiog gerllaw’n arfer bwydo 3 thanc d[r a ofalai am gyflenwad tre Penfro.

Cynhanes Mae’r olion dynol yn yr ardal yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig (sef tua cc 15,000 ymlaen). Yr oedd, lloriau gweithio fflint (o’r cyfnod Mesolithig a Neolithig) yn Kilpaison, Newton Burrows, Goldborough, Chapel Hill Farm a Crook t] cam. Mae grwpiau o garneddau a charneddau unigol mewn llefydd fel Dry Barrows, Wallaston a Chorston yn dyddio yn ôl i’r Oes Pres, ac roedd cylch cerrig Oes Pres gynt yn Penny Bridge. Mae bryngaerau o’r Oes Haearn yn Bowetts Wood a Quoits Wood.

Safleoedd Crefyddol Cynnar Cyn i’r Normaniaid ddod i Orllewin Cymru roedd Rhoscrowther yn un o saith T] Esgob Dyfed. Roedd Quoits Mill yn eiddo fynachdy canol oesol Monkton. Roedd Crygmarren, hefyd yn safle crefyddol. Mae cae ar ben uchaf lôn Bowett o’r enw Crosty Well sy’n awgrymu adeilad crefyddol h.y. Croesty. Ystyr enw (fferm) Pater Noster yw ‘Ein Tad’.

Cysylltiadau Câi glo, calchfaen a nwyddau eraill eu cludo i’r ardal ar longau, a llosgid y calchfaen at ddibenion amaethyddol mewn odynau tebyg i’r un sydd yn Goldborough Pill. Roedd pobl o bob rhan o Castellmartin (gan gynnwys gweithwyr y dociau) yn defnyddio’r fferi o Bentlass i East Pennar. Bu damwain ar y fferi honno ar yr wythfed o Chwefror 1889 pan gafodd naw o bobl eu boddi. Am fod y dyfroedd llanw o’r Gut i Gei Penfro’n berygl bywyd i longau masnach roedd yn rhaid dibynnu ar beilotiaid. Seymour Griffiths o Bentlass oedd y peilot olaf. Mae nifer o fersiynau o stori leol am smyglwr ar ffo yn ceisio croesi o Bentlass i Bennar. Aeth yn sownd yn y llaid trwchus yn ôl yr hanes a chael ei ddal a’i ddwyn o flaen ei well a’ i grogi yn y pendraw. Roedd heolydd Castellmartin yn dawel, ond yn sgîl datblygu maes tanio Castellmartin, y diwydiant olew a Phwerdy Penfro cynyddodd y maint a’r math o draffig ar yr heol i raddau na welwyd eu tebyg erioed o’r blaen.


Amaethyddiaeth Tyfwyd llin yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thatws cynnar ar ôl hynny. Tua 1948 roedd ffatri fach ar safle’r River View presennol yn cynhyrchu flychau tatws. Ond ers canol yr wythdegau mae’r nifer o erwau dan datws cynnar wedi disgyn. Ar ôl y Rhyfel rhedwyd gardd farchnad bwysig yn Orielton gan ddyn o’r enw Alfred Hitchcox. Mae enw ambell i gae’n rhoi cipolwg i ni ar y math o economi a gaed yng nghefn gwlad yn y gorffennol e.e. ‘Cherries’, ‘The Great Cunnegan’ (h.y. Cwningar Fawr), ‘Malthouse Meadow’ a ‘Hare Park’.

Boneddigion Er bod gan brif dirfeddianwyr Sir Benfro megis Meyrick a Cawdor eu troedle yn yr ardal, roedd rhai o’r perchnogion hefyd yn perthyn i deuluoedd lleol fel Leach o Corston, Dunn o Crickmarren a Meares o Eastington (t] annedd caerog canoloesol). T] bonheddig yn Rhoscrowther oedd Hentland/Lower Hentland a adeiladwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan y teulu White. Roedd disgynyddion y teulu hwnnw’n byw ynddo hyd 1678 ac yn dal en gafael arno am beth amser ar ôl hynny.

Orielton House

Orielton

Teuluoedd Orielton oedd Wirriot hyd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, Owen hyd 1857 a Saurin ar ôl hynny. Roedd dylanwad a phresenoldeb yr ystad yn aruthrol. Amgylchwyd y plas, y tiroedd a’r parc o ryw 600 erw gan borthordai yr amryw fynedfeydd. Mae un o ddwy glwyd wyth droedfedd a safai’n wreiddiol wrth Rose Lodge Cottage ar ben Heol y Goets bellach wrth ymyl fferm Mellaston. Roedd cyfarpar mewn gweithdy ar yr ystad (lle y mae Home Farm heddiw) yn cael ei yrru gan rod metal a ddefnyddiwyd gynt yng Nghilgeti ac a ddisgrifiwyd fel yr un cyntaf o’i fath yng Nghymru. Prynodd R M Lockley Orielton ym 1954 a’i werthu 9 mlynedd yn ddiweddarach i’r Cyngor Astudiaethau Maes. Agorodd y Cyngor Astudiaethau Maes ganolfan ym 1963 sydd wedi ennill bri mawr ym maes astudiaethau ac ymchwil amgylcheddol a morol.

Denwr Hwyaid Orielton Safir’r denwr hwyaid mewn pwll artiffisial 6 hectar a grewyd ym 1820 drwy godi argae ar draws cilfach thwng dau fryn. Adeiladwyd y ddyfais hon ym 1868 i ddal adar ar gyfer y bwrdd a’r farchnad. O bryd i’w gilydd rhwng 1934 a 1960 fe’i defnyddid i ddal adar er mwyn eu modrwyo a’u rhyddhau at ddibenion ymchwil wyddonol, ar gyfer Pwyllgor Ymchwiliad Adar y D[r (gyda Mr Stanley Greenslade yn gweithredu’r ddyfais) ac ar gyfer Cymdeithas Faes Gorllewin Cymru’n ddiweddarach.


Orielton Duck Decoy

Eglwys Hundleton Rhodd oddi wrth Morgan James Saurin o Orielton oedd y safle hwn. Agorwyd capel anwes y Drindod Sanctaidd ym 1893. Gwnaed yr adeilad o lenni alcam, wedi’u gwneud yn ffatri W Gilbertson a’i Gwmni, Pontardawe. Ym 1933 gosodwyd carreg sylfaen yr eglwys bresennol (o dan oruchwyliaeth y pensaer Mr Ellery Anderson o Cheltenham). Cafodd honno ei chysegru ar 6 Ionawr 1934. Ymhlith y nifer fawr o roddion oedd bwrdd allor a gerfiwyd o ddarn o goed derw garw gan Mr Ernest Phillips er cof am ei dad.

St David’s Church, Hundleton

Eglwys Bresbyteraidd Hundleton Merch eglwys Wallaston a sefydlwyd ym 1808, oedd hon. Cafodd gwasanaethau eu cynnal mewn bwthyn tan 1820 pan adeiladwyd capel. Ffurfiwyd yr eglwys ym 1846, ac estyn yr adeilad i’w faint presennol yn 1879. Daeth y gwasanaethau i ben ym 1939 ond ailgydiwyd ynddynt yn Ionawr 1944. Yn Awst 1940 pan oedd tanciau olew Pennar ar dân, rhoddodd y capel noddfa i rai pobl a adawai Ddoc Penfro bob nos. Am na allai’r gynulleidfa fach gwrdd â chostau’r gwaith trwsio mawr angenrheidiol, roedd yn rhaid dod â’r gwasanaethau cyhoeddus i ben yn Ebrill 1995.


Plwyfi a Chymuned Daeth Hundleton, a fu gynt yn rhan o Monkton yn blwyf sifil ar wahân yn sgîl Deddf Lywodraeth Leol 1894. Erbyn hyn mae cymuned Hundleton yn cynnwys Rhoscrowther, Pwllcrochan a rhan fach o blwyf y Santes Fair. Hundleton yw’r ail blwyf mwyaf yn Ne Sir Benfro ac ym 1991 roedd ganddo 866 o drigolion.

Hundleton Calvinistic Methodist Chapel

Gilead Chapel

Eglwys Bresbyteraidd Gilead, Maiden Wells Cynhelid gwasanaethau mewn tai preifat cyn adeiladu’r capel a ffurfio’r eglwys hon ym 1845. Agorwyd capel newydd ym 1876, ond defnyddir yr un cyntaf (a adwaenir erbyn hyn fel Ysgol Sul Gilead) ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau. Dathlodd ei chant a hanner ym 1995 a chyflwynwyd dwy ffenestr newydd yn yr Ysgol Sul i nodi’r achlysur.

Gilead Chapel (1845) now Sunday School


Ysgol Orielton Cafodd hon ei hadeiladu ar dir a roddwyd gan y teulu Saurin a’i hagor ar 15 Rhagfyr 1873 fel Ysgol Anenwadol Orielton. Roedd 82 o blant ar lyfrau’r ysgol ym 1995. Mae ‘Seagull Billy, the True Story of a Tame Seagull’ (a gyhoeddwyd ym 1929) yn ddarn o ffuglen a seiliwyd ar blentyndod Horace Hitchings yn Hundleton lle roedd ei dad yn brifathro o 1889 i 1898. Ei chwaer Winifred M Hitchings oedd yr awdures. Cedwir y stori’n fyw yn lleol gan fathodynnau Seagull Billy sy’n cael eu gwisgo gan blant presennol Ysgol Gynradd Sirol Orielton ar eu siwmperi. Ym 1958 nododd y prifathro yn llyfr cofnodion yr ysgol ‘Rwy wedi cynllunio a dosbarthu bathodynnau gydag O goch a gwylan wen ar gefndir glas lliw’r awyr. Gwneuthum hyn er mwyn magu balchder yng ngwaith ac ymddygiad yr ysgol’. Arwyddair yr ysgol yw ‘Near enough is not good enough for me’.

Hundleton Un o nodweddion Hundleton yw llain y pentref lle saif y gofgolofn ryfel. Roedd tair tafarn yn wreiddiol sef The Ivy Green, The Elms (a gaeodd tua 1920) a The Speculation sy’n dal i wasanaethu. Erbyn hyn mae tafarn newydd o’r enw The Highgate. Roedd un t] (‘Bushes’ heddiw) yn cael ei adnabod gynt fel Laundry oherwydd gwaith yr un a drigai ynddo. Adeiladwyd neuadd yr eglwys (1921-2) yn rhan o ardd The Ivy Green ac roedd popty a siop gerllaw. Mae’r trigolion presennol yn dal i gofio Fred Phillips y gof a oedd yn gwneud cylchynau i’r plant, a’i wraig a gadwai siop fwyd. Mae’r pentref wedi tyfu ers y saithdegau. Roedd y maes chwarae cymunedol a roddwyd i’r Plwyf gan hen Gyngor Dosbarth Gwledig Penfro, yn barsel bach o dir (5 cae) a adwaenid fel ‘Ontario’. Trawsnewidwyd hwn drwy waith caled gwirfoddol a chyflogedig yn faes chwarae safonol. Mae SPARC a’r Cyngor Cymuned yn cydweithio i estyn mwynderau lleol.

Maiden Wells Daeth y clwt bychan o dir lle ‘roedd y ‘Maiden Well’ yn ganolbwynt datblygiadau eraill fel y gof ar waelod lôn Highgate mountain a dwy dafarn - The Sun a The Wells.

Purfa Olew Texaco Enwyd Aberdaugleddau’n borthladd olew ym 1957. Ym 1962 prynodd Cwmni Puro Olew Regent (Texaco’n ddiweddarach) 975 erw o dir rhwng y ddau bentref Rhoscrowther a Pwllcrochan. Erbyn 1964 roedd y cwmni hwnnw’n gweithredu terfynfa a phurfa olew ar y safle. Bu datblygiadau pellach wedi hynny.

Teithiau Cerdded a Bywyd Gwyllt Gellwch fynd ar nifer o deithiau cerdded cylchol o bentref Hundleton drwy ddilyn Llwybr Arfordir Sir Benfro a’r lonydd tawel a llwybrau mewndirol. Mae’r ‘All Saints Walk’ a ddisgrifir mewn taflen ar wahân yn cychwyn o Hundleton. Prif nodweddion y daith gerdded hon yw’r eglwysi Eingl-Normanaidd niferus yn yr ardal.


Er ei bod mor agos i ddiwydiant trwm mae’r ardal yn gyforiog o fywyd gwyllt. Bydd nifer o rydwyr yn bwydo ar fflatiau llaid afon Penfro gan gynnwys Cylfinirod, Pibyddion Coesgoch a Phïod y Môr. Mae’r perthi ynghanol y tir yn lliw i gyd ar hyd y flwyddyn - gyda Clychau’r Gog a Briallu ar ddechrau’r gwanwyn, Gludlys Coch, Gorthyfail Llyfn wedi hynny a Chribau San Ffraid, Llin y Llyfant a llawer mwy’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae’r perthi a’r coetir yn fyw gan bob math o adar bach megis Telor y Chau, y Nico, a’r Ji-binc. Gwelwch Chrychyddod a Hwyaid yn y pwll denu hwyaid a phyllau coedwig Crygmarren.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Hundleton & District Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott Published by SPARC ©

Hundleton welsh  
Hundleton welsh  
Advertisement