Page 1

CROESGOCH


Hanes hynafol Croesgoch Mae nifer o ddarganfyddiadau archaeolegol yn dangos gweithgaredd dynol yn dyddio yn ôl i’r cyfnod Mesolithig (10,000 - 4,400 CC). Mae nifer o offer fflint yn dyddio yn ôl i’r cyfnod hwn wedi cael eu darganfod yn yr ardal. Darganfuwyd dwy werthyd sidell garreg ar fferm Treglemais (6); mae’r rhain yn perthyn i’r cyfnod Neolithig (4,400 -2,300 C.C). Darganfuwyd offer garreg arall sef morthwyl fwyell dyllog yma, credir iddi ddyddio yn ôl i’r Oes Efydd (2,300 – 700C.C). Nid oes olion trail ar y math yma o ‘forthwylion’ ac efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer seremoniau neu at bwrpas symbolaidd. Mae’r cerrig sy’n ffurfio Cromlech Lecha (7), ger fferm Lecha fel petaent wedi suddo i’r ddaear ac mae’r capfaen wedi ei symud o’r safle. Yn 1800 darganfuwyd Bedd Gist Hir (coffin garreg) ym Mharc y Fynwent (8) yn cynnwys cleddyf a gweddillion dynol. Yn y flwyddyn 2000 yn ystod gwaith adeiladu, darganfuwyd mwy o feddau yn dyddio o 370- 600, O.C.

Croesgoch Saif pentref Croesgoch ar groesffordd ar y ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun. Mae’r record cyntaf o ddefnyddio’r enw ‘Croesgoch’ wedi ei gynnwys yn nhrawsgript yr Esgob o gofnod y plwyf, 1815. Mae nifer o esboniadau posibl am darddiad yr enw. Gallai ‘croes’ gyfeirio at y groesffordd a ‘coch’ at liw y ddaear. Esboniad arall sy’n fwy diddorol yw’r stori am afon fytholegol o waed a ffurfiodd groes. Does dim sicrwydd fod y frwydr hon wedi digwydd yn ystod yr Oesoedd Tywyll nac yn gynharach yn Oes y Rhufeiniaid.

Carreg Groes Mesur-y-Dorth (1) Mae carreg groes yn dyddio o’r 7fed - 9fed ganrif yn sefyll mewn wal ar ochr y ffordd rhwng fferm Maes-yGarreg a Heulfre. Ystyr yr enw Mesur-y-Dorth yw mesur y bara. 'Roedd Dewi Sant wedi sefydlu traddodiad i gael mesur safonol ar dorth o fara er mwyn sicrhau fod pawb yn cael yr un faint mewn amser pan oedd prinder o fwyd. Meddylir i Esgob T]ddewi ar ddyddiad yn hwyrach ddyfarnu fod mesur torth o fara i fod yr un maint â’r cylch ar garreg Mesur-y-Dorth. Credir hefyd i bererinion ar eu taith i Dyddewi aros wrth y garreg hon i fwyta eu pryd olaf cyn mynd ymlaen ar eu taith i Dyddewi.

Carreg Mesur-y-dorth


Y Felin wynt (2) Safai’r hen Felin Wynt mewn man amlwg ar gyrion pentref Croesgoch ac mae’r cofnod cyntaf o’r Felin Wynt yn dyddio 'nol i 1511. Mae cofnodion o 1591 yn dangos fod William James Harries, Iwmon, yn talu rhent blynyddol o ddeg swllt am ddarn o dir yn ‘Trevoughlyd, Velinwinte a Tregwy i John David Perkyn, Iwmon’. Yn 1773 cytunwyd ar les ar ‘Velin Wynt’ am rhent blynyddol o 6 gini a dwy iar dew ar amser Ynyd. Roedd y Felin Wynt yn dal i weithio yn 1830 ond erbyn y map O.S. cyntaf yn yr 1840 cynnar ymddengys fel adfail. Does dim olion i ddynodi safle yr hen Felin Wynt.

Eglwys Llanrhian (3)

Atgynhyrchiad o’r hen Felin Wynt tua 1800

Mae’n debyg mae sant Celtaidd anhysbys, digofnod o’r enw Rhian, Rein neu Rhun oedd sylfaenydd y Llan yn Llanrhian. Mae’n debyg mae adeilad ar ffurf cell siap t] gwenyn wedi ei wneud o blethwaith a d[b oedd yr adeilad cyntaf ac iddo gael ei ail osod yn ddiweddarach gan adeilad mawr pren.Yr adeilad carreg cyntaf oedd y t[r sy’n dyddio o’r 13ed ganrif. Mae’r muriau yn dair troedfedd o drwch ac mae’r ffenestri yn gul ac yn rhoi iddo’r ymddangosiad o d[r amddiffynol. Mae trawstiau o bren derw yn cynnal y gloch ac ar y gloch mae’r geiriau ‘John Perkins, R.P.T.M., bell 1697’. Mae’n debyg mai John Perkins oedd sylfaenydd y gloch ac mae R.P.T.M. yw llythrennau cyntaf enw ceidwad yr eglwys ar yr adeg honno. Ail adeiladwyd yr eglwys (ag eithrio’r t[r) yn 1836 ac fe’i hadnewyddwyd yn 1891.Mae Eglwys Llanrhian yn cael ei chynnwys ar Daith y Cerrig a’r Eglwys Llanrhian Seintiau, Sir Benfro.

Eglwys Llanhywel (4) Honnir i sefydliad Cristnogol fod ar y safle hon ers y 6ed ganrif ac fe’i henwir ar ôl Sant Hywel. Credir i’r sant hwn fod yn un o Farchogion y Brenin Arthur. ‘Roedd y safle o bosib yn gymuned fynachaidd gyda wal garreg y fynwent yn ffin. Mae’n debyg i’r eglwys bresennol gael ei hadeiladu tua'r flwyddyn 1250 yn amser Esgob Beck, Tyddewi a


ysgrifenodd am yr eglwys hon. Yn 1302, yn ystod teyrnasiad Harri’r V111, David Meredith oedd y ficer ac 'roedd yn ffermio rhyw 8 erw o dir hefyd. Yn 1642, cafodd offeiriad o’r enw John Phillips ei ‘daflu allan’ gan Gomisiynwyr Cromwel am feddwdod. Mae Eglwys Llanhywel hefyd yn cael ei chynnwys ar Daith y Cerrig a’r Seintiau, Sir Benfro.

Capel y Bedyddwyr, Croesgoch (5) Eglwys Llanhowel Yn ystod yr 19fed ganrif sefydlwyd capeli Anghydffurfiol ar draws yr ardal. Cynhaliwyd y gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg. Agorwyd y capel cyntaf yng Nghroesgoch yn 1816, cynhaliwyd gwasanaethau yn yr adeilad sydd yn awr yn festri’r capel. Agorwyd y Capel Bedyddwyr presennol ym Mehefin 1858. Y gweinidog cyntaf oedd Dafydd Phillips a’r gost o’i adeiladu oedd £846 a phum swllt ac erbyn iddo agor casglwyd £491 a phum swllt. Cymerwyd 6 mlynedd i dalu’r gost o adeiladu. Ar yr ail a’r trydydd o Fehefin, 1914 cynhaliwyd cyfarfodydd a gwasanaethau yng Nghroesgoch. Weithiau cynhelid cyfarfodydd pregethu ym mharc y capel ar ffordd Trefeigan, lle’r eisteddai’r gynulleidfa o filoedd ar feinciau.

Y Tywysog Siarl Edward Stuart ‘Roedd Cymdeithas y ‘Sea Sergeants’ yn glwb cyfyngedig a ffurfiwyd gan gr[p o Fonheddwyr Gwledig Cymreig. Arwyddlun y Capel Croesgoch Gymdeithas oedd y seren wyth pwynt ond gyda dolffin yn y canol. Byddai’r gr[p yn cyfarfod un waith y flwyddyn mewn amryw o drefi a phentrefi ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae chwedl yn dweud i un o’u cyfarfodydd gael ei gynnal yn Nhrefeigan (9) a bod Cymdeithas y ‘Sea Sergeants’ wedi gwestya y Tywysog alltud, Siarl Edward Stuart, a adnabyddid fel ‘Bonnie Prince Charlie.’ Hwn oedd arweinydd gwrthryfel y Jacobiaid, 1745.

Y Parchedig John Reynolds a Glaniad y Ffrancod Roedd y Parch John Reynolds (1759 -1820) o fferm Treglemais, gweinidog adnabyddus iawn gyda Mudiad y Bedyddwyr, yn helpu i sefydlu Capel y Bedyddwyr yng Nghroesgoch.


Yn 1798, ymosodwyd ar Fferm Treglemais (6) gan filwyr y Cotiau Cochion a oedd wedi dod i ymholi ynglyn ag ymgyfraniad honedig y Parchedig John Reynolds mewn cynllwyn i gefnogi glaniad y Ffrancod yn Abergwaun. (Y Parchedig John Reynolds a Glaniad y Ffrancod parhad) Daeth y cyhuddiad ar ôl iddo gyflwyno papur newydd yn cynnwys sylwadau ysgrifenedig wrth berchennog siop yn Hwlffordd i gymydog o ffermwr. Edrychwyd ar ei lythyron a’i ddogfennau Cymraeg fel eitemau drwgdybus iawn ac fe’i harchwiliwyd ond ni ddarganfuwyd unrhywbeth bradwrus. Ei nai, y Parchedig William Reynolds rhoddodd y Mynwent a Mans Capel y Bedyddwyr, Croesgoch. Claddwyd y Parchedig William Reynolds ym mynwent capel y Felinganol.

Y cotiau cochion ar Fferm Treglemais tir ar gyfer John Reynolds a

Datblygiad y Pentref Yn ôl y map Degwm, 1842, yr unig adeiladau wedi eu lleoli ar groesffordd Croesgoch oedd y pump bwthyn a’r capel. Gweithwyr fferm oedd y mwyafrif o’r 31 o fobl a oedd yn byw yn y pentref. Mae bwthyn Trefeigan (10) yn esiampl o gartref traddodiadol gweithiwr fferm. Mae cyfrifiad 1851 yn dangos fod siop a 39 o drigolion yn y pentref. Erbyn 1861, mae gweithdy’r saer, siop ddillad a th] tafarn yng Nghroesgoch ond dim ond 36 o drigolion. Mae efail y gôf yn ymddangos ar gyfrifiad 1871 ac Bwthyn Trefeigan erbyn 1881 ‘roedd y pentref wedi tyfu a dengys y cyfrifiad hwn fod swyddfa bost, a siop groser arall.

Yr Artramont (11) Mae’r t] tafarn hwn yn cael ei enw oddi wrth stâd teulu y Le Hunte yn Artramont, Swydd Wexford, Iwerddon. Teulu Y Le Hunt oedd perchnogion y mwyafrif o dir yn ardal Llanrhian hyd nes y flwyddyn 1877. Enwir yr Artramont yn gyntaf ar gyfrifiad 1891 pan mae’n gweithredu fel swyddfa bost yn ogystal â th] tafarn. Roedd gan berchennog yr


Tafarn yr Artramont

Artramont yn 1925 siarabang a byddai’n cynnal teithiau i fynd a’r bobl leol i’r ffair gyflogi ym Mathri. Yn ystod 1940 cynhelid marchnad amaethyddol yn y cae gyferbyn â’r Artramont. Byddai’r mart yn dod a chryn dipyn o fusnes i’r ardal ac hyd yn oed yn ystod 1970 roedd meddygfa, banc a gorsaf betrol yn yr Artramont. Cynhelir dosbarthiadau cyfrifiaduron yno y dyddiau hyn.

Ysgol Croesgoch Mae’r cofnod ysgrifenedig cyntaf am yr ysgol yn dod o adroddiad yr arolygwyr yn 1847. Dywed yr adroddiad hwnnw fod yr Arolygwr wedi ymweld â’r ysgol ar Ionawr y cyntaf. Dywedir yn yr Arolwg fod yr ysgol yn cael ei chynnal mewn ystafell fechan a oedd yn rhan o Gapel y Bedyddwyr (12), ond yn anaml y cynhelid ysgol yno. ‘Roedd i’r ystafell ffenest fach a lle tân. ‘Roedd y dodrefn yn cynnwys dwy fainc ac astell o bren wedi ei osod ar draws dau ddarn o bren rhydd i ffurfio math o fwrdd ac roedd y dodrefn mewn cyflwr anrhwsiadus. Cynhelid yr ysgol gan [r ac er mai ond 52 oed ydoedd, ymddangosai yn simsan a chwbl anaddas o ran cyflwr iechyd i ymgymryd â’r gwaith. Yn 1902 ‘roedd dau athro llawn amser a dau athro rhan amser yn yr ysgol. Yn ystod 1940 ‘roedd y rhif wedi gostwng i ddau athro llawn amser. Adeiladwyd yr ysgol newydd (13) ar y safle bresennol yn 1966. ‘Roedd yr ysgol newydd hon yn fawr ac yn cynnal disgyblion o’r ysgolion yn Llanrhian a Threfin. Caewyd yr ysgolion bach hyn yn 1966.

Pencadlys y Gwarchodlu Cartref Yn ystod yr ail Ryfel Byd 'roedd gwirfoddolwyr amddiffynnol lleol Y Gwarchodlu Cartref yn cwrdd yn nh] Leisa Morris (14) sydd erbyn hyn wedi ei ddymchwel. Byddent yn gorymdeithio ar y groesffordd bob prynhawn Sul. Dinistrwyd popeth o’r tu mewn i’r t] ac fe rhoddwyd posteri o natur milwrol ar furiau’r t]. 'Roedd torchau mawr o weiren bigog y tu allan i’r t]. Gosodwyd bagiau tywod yn gysgodfeydd ar hyd y ffordd i Dyddewi a defnyddiwyd y chwarel ym Mhorthgain ar gyfer ymarferion tanio gynnau. Byddai’r fyddin rheolaidd yn defnyddio’r ardal yn aml i baratoi ar gyfer glaniad ‘D day’. Glanient ar draeth Porth Mawr yn agos i Dyddewi a gyrru i Groesgoch gan osod ei weiren deliffon ar hyd y ffordd. Roedd t[r Corfforaeth y Gwarchodlu Brenhinol (15) yn agos at y gronfa yn ystod y rhyfel. Yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel Oer adeiladwyd bwncer niwclear dan ddaear wrth ochr y gronfa dd[r. Mae taflenni Ffordd y Cerrig a’r Seintiau ar gael yn Eglwys Llanhywel.


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Croesgoch Darluniau gan: Sarah Young Cyfieithiad gan Liz Young Cynllun gan Waterfront Graphics PLANED © 2007

Croesgoch welsh  
Croesgoch welsh  
Advertisement