Page 1

CLUNDERWEN


Clunderwen Daw’r enw Clunderwen, neu ‘Clynderwen’ yn ôl yr hen sillafiad, o enw plasdy gerllaw. Gellir olrhain yr enw o leiaf yn ôl i’r 17eg ganrif, a 350 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae coed deri yn parhau’n gyffredin yn yr ardal. Prynwyd Ystad Clynderwen gan Abel Gower Ysw. ym 1825 ac ail-adeiladwyd y t] yn y chwedegau. Dylanwad y Goweriaid a arweinodd at enwi’r orsaf a’r pentref ar ôl y t] ym 1875.

Cynhanes Mae un o’r datblygiadau tai a godwyd ar ôl y rhyfel, Heol y Gaer, yn tynnu ein sylw at wrthglawdd diddorol gerllaw. Darn hirsgwar o dir ydyw, tua 440 troedfedd o hyd a 350 troedfedd o led, wedi’i amgylchynu gan wrthglawdd ag iddo gorneli ychydig yn grymog. Yn ôl arolwg gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, defnyddiwyd y pridd yn y canol i godi’r cloddiau. Mae darn canol hwn o’r herwydd yn is ac yn wastad. Fe all fod yn perthyn i deulu o henebion sy’n cael eu galw’n ‘henges’ (cylchoedd pridd) yn Saesneg, yn dyddio o’r Oes Neolithig neu Bres.

Plwyfi a Ffiniau Saif T] Clynderwen a rhan o’r pentref ym mhlwyf Llandysilio. Mae’r pentref yn ymestyn hefyd i gapeliaeth hynafol Castelldwyran ym mhlwyf Cilymaenllwyd ac i bentref bychan y Grondre yng Nghastelldwyran.

Pentref Clunderwen Tyfodd y pentref o gylch man cyfarfod y ffordd a’r rheilffordd. Mae’r A478 yn dilyn hen ffordd o Aberteifi, tros ryd hir yr Afon Daulan i Arberth a Dinbych-y-Pysgod. Yn niwedd y 18fed ganrif, daeth yr heol trwy Glunderwen yn gyfrifoldeb y ‘Whitland Turnpike Trust’. Date Stone Roedd nifer o dafarnai ar fin y ffordd fawr: ceir cyfeiriadau at y Boar’s Head, y Grondre (tua 1831), Weary Team, y Grondre (1841), y Wheaten Sheaf, Dwyrain Llandysilio (1841 a 1861), y Farmers Arms, Dwyrain Llandysilio (1851) a’r Square and Compass, Castelldwyran (o 1841 i’r 20fed ganrif). Codwyd tafarndai eraill ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd. Roedd yr Iron Duke yn Nwyrain Llandysilio ym 1861, y Masons Arms ym 1871 a’r Narberth Arms yng Nghastelldwyran ym 1871. Ychydig o ganrifoedd yn ôl roedd T]-hen yn gartref i deulu pendefigaidd a pharhaodd y Grondre’n blasdy o gryn bwys. Yn yr ardal wledig hon, fe aeth rhai pobl ati i ddatblygu’i photensial diwydiannol: ym 1812 roedd yna efail ger y pentref presennol, rywdro cyn 1843 buwyd yn chwilio am gopr ac yn ddiweddarach am lo; a buwyd yn cloddio am gerrig codi tai hefyd.


Clynderwen House

Pentref y Rheilffordd Yr enw ‘Railway House’ (cartref gwas fferm) oedd yr unig arwydd ym 1851 o’r chwyldro a ddaeth i’r ardal. Bryd hynny, heblaw am y dafarn, doedd yna ddim tai yn y fan lle mae canol y pentref heddiw. Fodd bynnag, erbyn 1861 roedd pentref o’r enw Narberth Road wedi tyfu o gwmpas yr orsaf. Roedd yna dri th] o eiddo’r South Wales Railway – Railway Terrace yn ddiweddarach – ac ymhlith y trigolion oedd mesitr yr orsaf, plismon y rheilffyrdd a dau borthor, ac adeiladwr yn cyflogi 6 masiwn, 2 saer a 2 was. Roedd gan y pentref fferyllydd ond dim siopau, a dau d] tafarn. Roedd yna westy rheilffordd o eiddo i un o’r masiwniaid. Roedd yna drenau rheolaidd o Aberteifi yn casglu teithwyr yng Nghilgerran, Boncath a Blaenffos, Crymych a Phentregalar a hefyd o Arberth. Parhaodd y patrwm hwn hyd datblygu’r rheilffordd rhwng Aberteifi a Hendy-gwyn. Dosberthid y post i ardal eang o swyddfa ddidoli Clunderwen. Erbyn 1891 roedd yno amrywiaeth o grefftwyr: clocswyr, cryddion, seiri, masiwniaid, cowperiaid, gofaint, gwehydd, dilladwyr a theilwriaid, melinwyr, cyfrwywr, groser, pobydd, dau fferyllydd prentis, gwerthwr menyn, gwerthwr glo a chalch a phostwraig; hefyd yr oedd arwerthwr, gwerthwr yswiriant, banciwr a swyddog tollau cynorthwyol. Oni bai am y rheilffordd, ni fyddai nifer o weithgareddau fel yr Eisteddfod IsGenedlaethol wedi’u cynnal yn y pentref. Ymhlith y cymdeithasau pentref a sefydlwyd yr oedd Sefydliad y Merched, a ffurfiwyd yn Ionawr 1924. Agorwyd y neuadd gymunedol ym 1953. Cyrhaeddodd lein y South Wales Railway Company Glunderwen ym 1852. Agorwyd yr orsaf ar 2 Ionawr 1854 ac fe’i gelwid bryd hynny yn Narberth Road. Ym 1863 prynwyd yr SWR gan y Great Western Railway. Ym 1876 agorwyd lein o Narberth Road I Rosebush yn y Preseli. Ffrwyth cytundeb ydoedd rhwng Edward Cropper, a oedd yn berchen ar chwarel lechi yn Rosebush, a’r Great Western Railway, lle caniatawyd iddo godi rheilffordd o Rosebush i gysylltu a’r brif lein filltir i’r gorllewin o Orsaf Narberth Road.


Ond ni wnaeth y lein dalu ffordd, efallai am i’r GWR godi tâl blynyddol o £500 am ddefnyddio’r orsaf yng Nghlunderwen, ac fe’i caewyd ar 31 Rhagfyr 1882. Ym 1895 agorwyd lein o Glunderwen i Dreletert gan gwmni arall a oedd wedi prynu’r Maenclochog Railway gan ymestyn y trac. Bwriad y cwmni, y North Pembrokeshire & Fishguard Railway, oedd cwbwlhau’r lein i Abergwaun. Y GWR mewn gwirionedd a wnaeth hynny ym 1899. Roedd yno ddau blatfform a chyfleusterau trin nwyddau a gwartheg ar ddwy ochr y brif lein gyda chilfan arbennig ar yr ochr uchaf ar gyfer lein y North Pembrokeshire and Fishguard. Ar ei anterth, cynhelid marchnadoedd anifeiliaid bob wythnos o bobtu’r rheilffordd ac arferid dadlwytho bwyd gwartheg i’r siediau yn iard yr orsaf. Ymhlith y nwyddau yr arferid eu llwytho yng Nghlunderwen oedd llaeth – fel arfer i’r hufenfa yn Hendy-gwyn – a chwningod i drefi mawr ym mhob cwr o’r wlad. Roedd gweithwyr y rheilffyrdd yn rhan bwysig o’r gymuned. Clunderwen hefyd oedd y brif ganolfan beirianyddol ar gyfer yr ardal i’r gorllewin o Hendy-gwyn ac roedd gan blymwyr, seiri a pheintwyr eu gweithdai yn yr orsaf. Yn sgîl agor y rheilffordd rhwng Clarbeston Road ac Abergwaun ym 1906, collodd lein y North Pembrokeshire beth o’i statws, er iddi barhau’n bwysig i’r ardal. Cludwyd y trac i Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd 1af, ond cafodd ei ailosod ym 1923. Ym 1964, cafodd yr orsaf ei disodli’n ‘halt’ a dymchwelwyd y blwch signalau.

Cwmni Cyd-weithredol Ffermwyr Clynderwen Sefydlwyd y cwmni hwn mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y Narberth Arms ym 1904. Y nod oedd prynu cynnyrch dros ben gan ffermwyr lleol a’i ail-werthu mewn ardaloedd lle’r oedd ei angen. O fewn ychydig fisoedd symudodd y cwmni i adeiladau newydd yng nghanol Clunderwen. Ym 1907 prynwyd yr adeiladau hyn. Ym 1908 prynwyd Teras Jones, yr ardd a’r hen ffatri ymenyn. Tyfodd y busnes ac fe gynyddodd y trosiant o £3,522 ym 1905 I £7,745,855 erbyn 1979. Ar un adeg roedd gan y cwmni cydweithredol hufenfa yng Nghlunderwen ar gyfer gwneud ymenyn ac ym 1929 agorwyd ffatri wyau, gan brynu a gwerthu wyau ledled y wlad. Mae’n debyg y caeodd yr hufenfa pan sefydlwyd y Bwrdd Marchnata Llaeth ym 1933. Ers troad y ganrif mae canghennau wedi’u hagor yn Clarbeston Road, Arberth, Treletert, Caeriw a Llanglydwen. Dinistriwyd y siop yng Nghlunderwen gan dân ym 1922 ond fe’i hail-adeiladwyd yn gyflym ac fe agorwyd yr adeilad newydd ar 1 Chwefror 1924. Yn ddiweddar unodd y cwmni cyd-weithredol â Chymdeithas Amaethyddol Crymych a’r Cylch, Cymdeithas Amaethyddol Hwlffordd a Chwmni Cyd-weithredol Sir Aberteifi. Heddiw Ffermwyr Clynderwen a Sir Aberteifi yw’r cwmni cydweithredol amaethyddol mwyaf yng Nghymru.

Clwb Ffermwyr Ifanc Ffurfiwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen ym 1929 - y cyntaf yng Nghymru. Yn wahanol i glybiau heddiw roedd gwedd addysgol i’r holl weithgareddau. Roedd pob aelod yn talu 3 swllt i ymuno a defnyddiwyd yr arian yma i brynu lloi i’w magu gan yr aelodau. Ym 1930 roedd gan sioe Clunderwen ddosbarth lloi i aelodau gael dangos eu stoc. Y digwyddiad hwn oedd uchafbwynt y flwyddyn. Yn ystod dirwasgiad amaethyddol y 1930au death y clwb i ben ond fe’i atgyfodwyd ym 1945.


Castell Dwyran Church

Crefydd Mae eglwys plwyf Llandysilio yng Ngorllewin Llandysilio. Mae eglwys capeliaeth Eglwys Dwyran a phentref bychan y Grondre yn ffinio â buarth fferm Castelldwyran. Adeg adnewyddu Eglwys Castelldwyran ym 1876, daethpwyd o hyd i garreg arysgrif. Ar y garreg mewn ysgrifen ogam (gwyddor Wyddelig hynafol) ac mewn Lladin y mae’r enw Gwrthefyr (Voteporix), brenin Dyfed o dras Gwyddelig a oedd yn byw oddeutu 550 OC. O’i gyfieithu dyma a nodir arni ‘Er Cof am Gwrthefyr y Gwarchodwr’. Mae’r garreg bellach yn Amgueddfa Caerfyrddin.

Eglwys Dewi Sant Yr eglwys yng Nghastelldwyran fu man addoli trigolion y gapeliaeth ers y cyfnod Cristnogol cynnar. Er hynny, gyda thwf Narberth Road, teimlai rhai bod angen eglwys yn y pentref. Roedd eglwys Dewi Sant yn cael ei defnyddio erbyn 1860.

Eglwys Fethodistaidd y Tabernacl Adeiladwyd y capel ym 1906-7 ac oherwydd yr hyn a ddefnyddiwyd i’w adeiladu fe’i adwaenid fel y ‘Deml Dun’. Fe gafodd y capel ei gau yn niwedd yr 1980au.

Addysg Ym 1742-43 cynhaliwyd ysgol gylchynol yn Eithunduon yn Llandysilio gan Griffith Jones, ficer Llanddowror. Yn niwedd y 19eg ganrif rhoddwyd ystafell ddarllen i’r pentref a bu ysgol fabanod yno rhwng 1907 a 1950.


The James Brothers’ bi-plane

Y Brodyr James Mae Howard a Herbert James yn adnabyddus am adeiladu a hedfan un o awyrennau cyntaf Cymru ar 25 Medi 1913 ar fferm Brynhyfryd ger Clunderwen. Ar ôl codi ond 60 troedfedd uwchlaw’r ddaear, trodd yr awyren wyneb i waered. Er hynny fe’i hailadeiladwyd ac ar 22 Tachwedd 1913 cafwyd taith fwy llwyddiannus ond fe drawodd berth wrth lanio. Ar 20 Ebrill 1914 cawsant eu taith lwyddiannus gyntaf uwchben Arberth a Chaerfyrddin yn eu hawyren Caudron. Ar ôl cyrraedd Caerfyrddin fe gollwyd y map a bu’n rhaid iddynt ddilyn lein y rheilffordd yn ôl i Glunderwen! Roedd y brodyr yn bwriadu agor ffatri awyrennau yn Arberth ond yn anffodus fe dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ac ni wireddwyd eu breuddwyd. Symudodd Howard a Herbert i Hendon i hyfforddi peilotiaid yn eu hawyren eu hunain ac yna fynd wedyn yn beilotiaid prawf. Ar ôl 1918 rhoddodd Howard y gorau i hedfan ond parhaodd Herbert i hedfan gan gystadlu mewn sioeau awyr. Ym 1921 torrodd record cyflymder y byd. Yn anffodus ni ystyriwyd fod y gwahaniaeth yn ddigon ac ni chafodd ei record ei chydnabod yn swyddogol.

Llwybrau Gwledig (Map OS Pathfinder 1080) Gan gychwyn ar bwys yr orsaf rheilffordd (OS 121193) cerddwch i’r gogledd orllewin ar hyd tir fferm agored i Flaenwaun a dychwelyd i’r pentref ar hyd lôn wledig dawel (1 filltir) neu ewch trwy’r pentref a throi i’r dwyrain tuag at D] Clynderwen a dod yn ôl ar hyd lonydd gwledig tawel (2.5 filltir). O’r pentref fe all cerddwyr hefyd ymuno â Llwybr Tir y Landsker trwy ddilyn y lon dawel i Fferm Pen Lan ger y Gelli (OS 091193). Mae’r llwybr hir hwn yn cysylltu Clunderwen a Llandysilio a Llawhaden gerllaw. Bluebells


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Clunderwen residents in conjunction with Cambria Archaeology. Design by Waterfront Graphics Illustrations by J Murphey & Geoff Scott SPARC © 2002

Clunderwen welsh  
Clunderwen welsh  
Advertisement