Page 1

BOSHERSTON


Enwau Roedd gan y pentref a’i gyffiniau fwy nag un enw. Stackpole oedd ei henw Saesneg erbyn dechrau’r Oesoedd Canol. Mae’n bosibl mai ‘stack’ oedd yr enw a roddwyd gan ysbeilwyr y môr ar y graig wrth ymyl Broad Haven sy’n cael ei hadnabod erbyn hyn fel Church Rock. Yr ail elfen ‘Pole’ neu bwll oedd y pwll wrth ymyl y graig honno. Yn y drydedd ganrif ar ddeg, William Bosher oedd perchennog y faenor lleol a daeth yr enw Stackpole Bosher yn enw cyffredin ar yr ardal. Cafodd hwn ei symleiddio yn y diwedd i Bosherton - sef ffarm neu breswylfa Bosher. Er bod y rhan fwyaf o’r enwau llefydd yn dangos dylanwad y Llychlynwyr a’r mewnfudwyr diweddarach, llwyddodd ambell i enw Cymraeg i oroesi. Enghreifftiau o hyn yw Ogof Pencyfrwy, Ogof Bran Goesgoch, Ogof Morfran ac Ogof Carreg Hir sydd i’w gweld ymhlith yr ogofeydd yn ymyl Pentir Sant Gofan.

Ffiniau Plwyf Mae Bosherton yn ffinio yn y gorllewin a’r gogledd orllewin â St Twynnells ac yn y gogledd ddwyrain â Sain Pedrog ac mae’n rhannu ffin dd[r fer iawn ag Ystangbwll Elidor. Cafodd y pedwar plwyf eu huno ym 1985 a hwy yw Ardal Gymunedol Ystangbwll.

Cynhanes Er nad yw’n amlwg i’r lleygwr, roedd lloriau gweithio fflint ar hyd yr arfordir yn y cyfnodau Mesolithig a Neolithig, ynghyd â beddrodau a charneddau o’r Oes Pres ac ambell i faen hir. Mae ceyrydd pentir o’r Oes Pres yn Style, Flimston a mannau eraill sy’n tystio i weithgarwch y Celtiaid ar ddiwedd y mileniwm cyntaf cyn Crist.

St Govan’s Chapel

Y Cyfnod Cristnogol Cynnar Mae Capel Sant Gofan sy’n filltir i’r gorllewin o’r pentref, yn dwyn enw un o gyfoedion Dewi nawddsant Cymru (6ed ganrif). Roedd Gobham/Gobban/Gofan yn Gristion Gwyddelig, a oedd, yn ôl yr hanes, wedi cuddio oddi wrth forladron mewn hollt a agorodd yn wyrthiol yn y graig. Treuliodd weddill ei fywyd yn y fan honno. Mae’r capel presennol yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol.

Ystad Ystangbwll Teulu Lort a oedd piau’r ystad yn ystod y cyfnod modern cynnar, ond fe’i drosglwyddwyd i’r teulu Campbell o Cawdor yn yr Alban pan briododd yr etifeddes Elizabeth Lort (m. 1714) â Syr Alexander Campbell. Cafodd un aelod o’r teulu galluog hwn ei wneud yn Farwn ym 1796 a daeth ei fab yn Iarll Cawdor ac yn Is-iarll Emlyn ym 1827 (m. 1860). Y teulu Cawdor oedd y prif lanlordiaid ond roeddynt hefyd yn noddwyr yr Eglwys ac yn


gymwynaswyr y pentref a’r gymuned. Ychydig o rent a dalai’r tyddynwyr a chaent aml i roddion o danwydd, glo mân a gwrtaith. Roedd ganddynt erddi mawr ac roedd y perchnogion yn eu hannog i arddangos eu blodau yn Sioe Flodau flynyddol Llys Ystangbwll. Gan fynychaf yr oedd gan dyddynwyr ychydig o erwau o dir a’u galluogai i gadw buwch, moch a ffowls. Roedd gwasanaeth yn y Llys a gwaith yn ffarm y plas a’i gerddi’n bwysig yn fframwaith cyflogaeth yr ardal. Câi’r plant bartis i’w diddannu. Roedd presenoldeb teulu bonheddig yn y cyffiniau wedi creu cymdeithas ymostyngar. Soniai Vera Howells - a ddaeth yn brifathrawes ar ysgol y pentref ym 1928 - am ei bore cyntaf pan aeth y merched i foesymgrymu a’r bechgyn i saliwtio wrth fynd heibio iddi ar eu ffordd i mewn i’r ysgol.

Newid Ym 1938 pan prynwyd bron i chwarter y plwyf - y gorllewin i greu maes tanio’r R.A.C. at ddibenion yr Adran Ryfel. Cymerwyd rhagor o dir i’r de o’r pentref ym 1940. Roedd y newidiadau hyn yn golygu tranc ffermydd Newton a Crickmail, Castle Tank (dau d]), Newton Cottage, Crickmail Cottages (2), Anstey’s Down, South Row a Glebe Cottage. T] tri llawr oedd Crickmail. Nid oedd yn un o ffermydd Cawdor yn wreiddiol ac yn ôl yr hanes cafodd ei hennill drwy fet. Daeth y newid mawr ar ôl y rhyfel pan werthwyd ystad Ystangbwll a chwalu’r plas ac aeth y teulu i’r Alban ym 1962. Dau ddylanwad adeiladol ar yr ardal yn ddiweddar yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ffermydd a Thai Roedd Style, wrth ymyl yr eglwys, yn fferm weithredol tan 1962. Mae ffermdy Style - fel Dover a Thornston - yn adeilad hynafol ac y mae ei simnai betryal a ffwrn yn ddiddorol o safbwynt pensaernïol. Mae simnai fawr hefyd yn ffermdy Trevallen ac roedd eraill tebyg ar gael yn y gorffennol. Mae Style hefyd yn ddiddorol oherwydd y llechi crog sydd i’w gweld ar ei hwelydd blaen. Ymhlith y defnyddiau adeiladu traddodiadol ceid mieri/cyrs a phlaster ar gyfer parwydydd, rhawn a phlaster ar gyfer welydd a nenfydau, tail gwartheg, gwair a mortar ar gyfer welydd, a dywedir bod canol rhai o’r hen welydd wedi’i lenwi â phridd. Roedd tai gan fynychaf wedi’u toi â gwellt neu garreg leol. Mae 15 t] wedi diflannu o’r pentref o fewn cof yr oes a rhai eraill wedi cael eu hadnewyddu. Ymhlith yr adeiladau newydd ar wahanol adegau roedd tai gwylwyr y glannau a chwe th] cyngor yn ystod y pumdegau. Style Farm


Amaethyddiaeth Mae’r tir gyda’r gorau sydd i’w gael yn Sir Benfro. Ganrif yn ôl, câi gweision eu hurio yn Ffair Penfro, ac roedd y sioe honno - sy’n h]n na’r Sioe Frenhinol - yn atyniad lleol. Cafodd y gwaith o dyfu tatws a blodfresych cynnar ei arloesi gan Mr William Jones o Thornton a Mr Charles Murray o Buckspool. Gwnaed defnydd o holl sgîl-gynhyrchion amaethyddiaeth yn y gorffennol. Ystyrid saim gwyddau’n dda i’r frest er enghraifft a châi saim moch ei ddefnyddio i iro olwynion ceirt. Roedd matresi weithiau’n cynnwys plu go iawn a defnyddid plu gwyddau a hwyaid mewn cwrlidau a chlustogau.

Yr Arfordir Yn ymyl pentir Sant Gofan y mae Ceinewydd. Câi clai o byllau Flimston ei allforio o’r fan honno yn y gorffennol ac mae sôn bod smyglo’n digwydd o bryd i’w gilydd. Yn ôl un hanes cymerwyd llwyth o wirod oddi ar long ym 1833 neu 34 a’i gludo ar gefn ceffyl mewn sachau i Bentlas Ferry ger Penfro er mwyn ei ddosbarthu i’r gymuned leol. Yn y gorffennol roedd y llanw’n rhedeg i mewn ‘am fwy na chwarter milltir o le o’r enw Broad Haven i’r dwyrain rhwng y plwyf hwn a phlwyf Ystangbwll Elidor’. Rhwng 1790 a 1840 cododd Barwn ac Iarll cyntaf Cawdor argaeau ar draws nifer o gilfachau llanw gan greu system fawr o lynnoedd d[r croyw. Mae Pyllau Lili Bosherston yn ffurfio dwy ran o’r system hon, ac mae ei rhan orllewinol yn cael ei bwydo gan Ffynnon Wen. Pentir Sant Gofan yw man fwyaf deheuol Sir Benfro. Adeg Cyfrifiad 1841 roedd dau wyliwr yn gwarchod y glannau, ac ym 1851 nodwyd cartref y Lily Ponds, Stackpole Estate ddau fel ‘T] Newydd’. Ystafelloedd te yw’r ddau d] hwn erbyn hyn (sef Bythynnod Gwylwyr y Glannau 1 a 2 gynt). O ryw 1880 ymlaen newidiwyd natur swydd gwylwyr y glannau ond adferwyd yr hen wasanaeth ym 1941 ac adeiladwyd tri th] newydd at ei ddibenion. Cafwyd tai newydd eto yn lle’r rheiny tua 1959-60.

Y Pentref Yn ogystal â ffermwyr, gweithwyr amaethyddol a gwylwyr y glannau, roedd trigolion y pentref tua 1851 hefyd yn cynnwys chwarelwyr, ysgolfeistres, offeiriad, gwastrawd, gof (John Lloyd yn Towns End), saer (Lewis Hay yn Towns End) a golchwraig. Mae’r odynnau yn Style ac mewn mannau eraill yn dangos bod calch yn cael ei losgi yn yr ardal yn y gorffennol.

Limekiln


Mae pwmp y pentref wedi’i adeiladu dros ffynnon yn mhen gorllewinol y pyllau ryw ganllath neu ddwy o’r eglwys. Roedd hon yn fan gyfarfod lle y câi’r etholiad blynyddol i ddewis maer Bosherston ei gynnal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y maer diwethaf oedd James Davies a fu’n fragwr ar ystad Ystangbwll am 63 o flynyddoedd. Ffurfiwyd cangen o Sefydliad y Merched tua 1930 a’i lywyddes gyntaf oedd Mrs Griffiths o ffarm Style. Câi neuadd yr eglwys ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, cyngherddau a dramâu’r pentref a pherfformiwyd y dramâu olaf ynddi ym 1952. Mae St. Govan’s Inn a sefydlwyd ym 1977 wedi’i hadeiladu ar safle hen ystafell de.

Atyniad i Ymwelwyr Mae un o’r pentrefwyr yn dal i gofio diwrnod glawog pan ddaeth trip ysgol Sul i’r pentref o Abertawe mewn siarabangs a chwe thacsi. Roedd yn rhaid i yntau a’i gyd-ddisgyblion fynd adref yn gynnar o’r ysgol y diwrnod hwnnw er mwyn i’r holl ymwelwyr gael lle i gysgodi! Roedd tair ystafell de yn y pentref ar ddechrau’r ganrif. Câi dwy o’r rhain eu rhedeg y drws nesaf i’w gilydd yn ystod ugeiniau a thridegau’r ganrif hon gan Mrs Thomas a Mrs Evans. Un yn unig sydd ar ôl erbyn hyn ers rhai blynyddoedd, a’i pherchennog yw Mrs V. Weston, merch Mrs Evans. Mae ymwelwyr wedi bod yn dod i gymryd te a chacenni yn yr Olde World Cafe fel y’i gelwir, ers dros 70 o flynyddoedd. Roedd dwy ystafell de hefyd yn Sant Gofan.

St Michael & All Angels, Bosherston

Medieval font

Yr Eglwys Cafodd Eglwys San Mihangel a’r Holl Angylion ei hadeiladu, yn ôl y sôn, ar safle eglwys h]n ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Mae ei nodweddion canoloesol yn cynnwys bedyddfaen a beddrod cerrig sydd i’w weld o dan ffenestr y groes ddeheuol. Cafodd ei hadnewyddu gan yr Arglwydd Cawdor ym 1855. Mae arfbais Cawdor i’w gweld ar loriau teils y gangell a’r seintwar. Adeiladwyd y ffenestr ddwyreiniol er cof am y Parchedig William Allen (Rheithor y plwyf rhwng 1831 a 1872), y ffenestr groes er cof am yr Hybarch David Edward Williams (1913-20) a’r Sgwint a’r Ffenestr orllewinol er cof am [r a thad cyn ysgolfeistres.


Yn y fynwent y mae croes bregethu i’w gweld ar dri gris maen. Mae Dr. Sian Rees o’r farn bod pen a phaladr y groes honno’n perthyn yn wreiddiol i ddau ddarn gwahanol o adeiladwaith. Mae wyneb dynol ar y groes sydd ‘yn ôl pob tebyg yn cynrycholi Iesu Grist.’

Preaching Cross

Y Rheithordy Ym 1800 codwyd £260 drwy forgais a’u defnyddio i chwalu’r hen reithordy a gosod un newydd sbon ar dir yr eglwys. Gwerthwyd y cartref Sioraidd safonol hwn ym 1985. Erbyn hyn mae’r Rheithor yn byw yn Rheithordy Ystangbwll.

Ysgolion Dywedodd y rheithor wrth Gomisiynwyr Addysg 1846-7 fod dwy ysgol un athrawes yn y plwyf ond eu bod yn brin eu disgyblion ac yn gwasanaethu i bob pwrpas fel ysgolion meithrin (mae’n bosibl mai Dover oedd un o’r ysgolion hyn). Roedd plant y plwyf gan amlaf yn mynychu Ysgol Iarll Cawdor yn Ystangbwll. Roedd y saer maen a adeiladaodd ysgol yn y pentref ym 1895 yn dadcu i Syr John Simon, un o grefftwyr yr ystad. Fe’i cynorthwywyd yn ei waith gan James Evans o Furston. Nid oedd yr ysgol honno bob amser yn ddigon mawr i gynnwys yr holl ddisgyblion ac mae cof teuluol un o’r pentrefwyr yn tystio i’r arfer tua 1889 o anfon y plant h]n i Ystangbwll. Mrs Holden oedd yr brifathrawes gyntaf. Yr un olaf oedd Miss Vera Howells a ysgrifennodd hanes byr o’r plwyf. Caewyd yr ysgol ym 1935 a châi’r plant eu cludo gan fws i Ystangbwll. Former Village School Câi’r adeilad ei ddefnyddio fel neuadd yr Eglwys ar ôl hynny.

Iachâd ac Ofergoel Roedd hi’n arferol cludo pobl a oedd yn dioddef o’r pâs i ogof galchfaen yn Bullslaughter a’u dal dros gymysg o wymon nes eu bod yn cyfogi. Roedd y maen hir ar y ffordd i Crickmail yn cael ei hadnabod fel Carreg y Diafol. Yn ôl y traddodiad gollyngai arogl o sylffwr wrth ei tharo â gwrthrych caled ac yr oedd pobl yn gyffredinol yn ei hofni.

Gwisg Frenhinol Cafodd gwraig leol o’r enw Joyce Lewis (gynt yn Thomas) un o ffrogiau’r Frenhines Elizabeth II yn rhodd am iddi hi a’r Frenhines briodi ar yr un diwrnod.


Teithiau Cerdded a Bywyd Gwyllt O feysydd parcio yn Eglwys Bosherston, Trevallen, Sant Gofan, Fulmar Cheriton Bottom a Chei Ystangbwll mae’n bosibl dilyn amryw llwybrau. Mae teithiau cerdded y coetir a grewyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mynd drwy goedwigoedd a blannwyd gan fynychaf gan y teulu Cawdor ac sy’n cynnwys cymysgaeth o goed cynefinol a choed bytholwyrdd o wledydd eraill. Mae’r Pyllau Lili yn warchodfa natur genedlaethol a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae nifer o rywogaethau o hwyaid a gwylanod i’w gweld ar y llynnoedd ac os byddwch yn dawel efallai y cewch weld dyfrgi yn y pyllau neu ar y glannau. Ar ddechrau’r haf bydd blodau mawr gwynion lili wen y d[r i’w gweld ar hyd y llynnoedd. Wrth gerdded llwybr yr arfordir mae’n werth cadw llygad am Fodaod, Cigfrain, Gwylanod y graig a Brain coesgoch. Yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf bydd miloedd o Wylogod, Llursod, Gwylanod coesddu’n nythu ar bentir Ystangbwll.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Bosherston Local History Group in conjunction with Cambria Archaeology. Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott PLANED © 2007

Bosherston welsh  
Bosherston welsh  
Advertisement