Page 1

BEGELI& CILGETI


Cymuned Mae Cilgeti a Begeli yn rhan o ardal Cyngor Cymuned Cilgeti Begeli.

Enwau Mae Begeli yn blwyf hynafol iawn. Mae’n bosibl fod yr enw’n deillio o’r gair Cymraeg BUGAIL. Os felly, ystyr Begeli fyddai rhywbeth fel “tiriogaeth neu ystâd Bugail”. Mae Thomas Chapel yn deillio o St Thomas Chapel, sef capel anwes cyfagos. T] bonedd oedd Cilgeti yn wreiddiol, ym mhlwyf Thomas Chapel, village green and pond hynafol St Ishel. Dywed Dr B G Charles fod yr enw’n deillio o’r gair Cymraeg “cil”, fel yn cilfach, a’r enw personol “Cetti”.

Henebion Credir mai olion siambr gladdu neolithig oedd y cerrig a dynnwyd o gae o’r enw Blackhook (Chronicle Park gynt) ym 1977. Mae’n bosibl fod enwau fel Bignin Moor a Bickning Lane yn cyfeirio at hen safle coelcerth, a geid yn aml ar safle hen domennydd claddu o’r Oes Efydd.

Y Canol Oesoedd Mewn safle sydd bellach yn rhan o fynwent estynedig yr eglwys, safai castell mwnt a beili. Cyn iddo gael ei ddymchwel ym 1921, roedd y bryn tua 5 i 8 troedfedd uwchlaw gweddill y tir (Commander W R Morgan). Mae’n debyg fod y castell yn dyddio o gyfnod yn fuan wedi i’r Normaniaid gyrraedd Penfro (1093) a’i fod yn gysylltiedig â’r frwydr am dir. Yn ddiweddarach, ffurfiodd Begeli a “Carne” ddau ffi marchog, yn Iarllaeth Penfro.

Tirfeddianwyr Roedd llawer o’r tir yn perthyn i Ystâd Cilgeti, a ddaeth i deulu Philipps Castell Picton a oedd hefyd â’r hawl i ddewis Rheithor Begeli (ynghyd ag East Williamston). Roedden nhw, ynghyd ag amryw o dirfeddianwyr eraill, yn awyddus i wneud elw o’r glo carreg oedd i’w gael ar eu tir, fel gw]r busnes neu trwy lesio’r tir.

Entrance to Begelly House


Childs Begeli Diwydianwyr blaenllaw oedd Capten James Mark Child, ei weddw Sarah a James Mark Child (1825 - 77) o Begelly House, yr unig fonheddwyr yn yr ardal yn y 19fed ganrif.

Pyllau Glo Ym 1581 roedd cymaint o byllau glo ym mhlwyf Begeli gerllaw’r briffordd o Ddinbych-ypysgod i Hwlffordd, fel nad oedd neb yn mentro ar y ffordd mewn trol neu gert rhag ofn i’r tir suddo. Cyflwynwyd rhybudd i’r tirfeddianwyr i’r perwyl hwn gan fwrdeisiaid Dinbych-y-pysgod, yn galw am welliannau. Roedd un fenter - os nad dwy - o’r enw Begelly Colliery yn niwedd y 18fed ganrif. Gweithfeydd pwysig eraill yn y cyfnod hwnnw oedd yr Old Engine Pit (Kingsmoor) 1775 a phyllau cyntaf y Thomas Chapel Colliery 1784. Ym 1851 prynwyd Pyllau Thomas Chapel gan y Pembrokeshire Iron and Coal Company. Ar gyrion pentref Begeli, cloddiwyd am lo yn Blackhook a Coal Pits Back, ac roedd pyllau eraill yn nalgylch y pentref. Erbyn 1834 roedd y ‘Tenby and Begelly Coal Company’, yr oedd gan J M Child siâr sylweddol ynddo yn ôl M R C Price, wedi’i sefydlu.

Trafnidiaeth Ddiwydiannol Tra bod peth o’r glo yn cael ei werthu’n lleol, roedd angen marchnad ehangach. Roedd cynnyrch pyllau glo’r teulu Philipps yng Nghilgeti, ac o ardaloedd pellach, yn cael ei gludo mewn llongau o Bont Wiseman, ond gan mai dim ond ddiwedd y gwanwyn ac yn ystod yr haf yr oedd hyn yn bosibl, dim ond am ran o’r flwyddyn y gallai’r glöwyr weithio. Ymysg y gwelliannau, adeiladwyd camlas o Bwll Mawr Cilgeti i Bont Wiseman. Cynigiodd Mrs Child bod ffordd dramiau yn cael ei hadeiladu o Begelly Collieries i Saundersfoot. Maes o law pasiwyd Deddf Rheilffordd a Phorthladd Saundersfoot ym 1829, oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rheilffordd o Saundersfoot i Thomas Chapel (trwy Bonville’s Court). Agorwyd y rheilffordd 4 troedfedd yn swyddogol ym Mawrth 1834. Defnyddiwyd ceffylau ar y dechrau ond yn ddiweddarach cyflwynwyd yr injan “Bulldog”. Roedd y tryciau’r un fath â’r rhai a ddefnyddiwyd yn y pyllau. Roedd gan y Tenby and Begelly Coal Company dau gwch bychan, sef ‘Peggy’ a ‘Mary Anne’, ac erbyn 1836 roedd y ‘Begelly Wharf’ yn Saundersfoot wedi’i adeiladu.

Ffyrdd Roedd Begeli ar lwybr pwysig rhwng Tafarnspite a thu hwnt a Dinbych-y-pysgod (oedd yn ffordd dyrpeg yn y 18fed ganrif), ond roedd llawer mwy o draffig yn croesi’r gwastatir islaw eglwys Begeli a’r pentref ar ôl adeiladu’r ffordd dyrpeg newydd o Sanclêr i Benfro (a gwblhawyd erbyn 1839). Daeth Croesffordd Begeli, fu mor adnabyddus i deithwyr dros y blynyddoedd, i fodolaeth. Roedd y coetsis a deithiai ar y ddwy ffordd yn aros yn y Begelly Arms. Mae’r Commander W R Morgan yn nodi fod stablau i geffylau post ac efail ar y Ffordd Newydd islaw’r dafarn. Yn ddiweddarach roedd y groesffordd yn safle un o’r pympiau petrol cyntaf yn yr ardal. Mae gwelliannau diweddarach i’r ffordd wedi newid y groesffordd wreiddiol yn llwyr, a bellach mae cylchfan newydd yno (ffordd osgoi Cilgeti 1984).


Rheilffordd

Railway Bridge, Kilgetty

Genhedlaeth wedi adeiladu Ffordd Dyrpeg Sanclêr Hobbs Point, cafodd y wlad ei darnio unwaith eto er mwyn cysylltu Rheilffordd Penfro a Dinbych-y-pysgod gyda Hendy-gwyn (trên cyntaf i deithwyr, 4ydd Medi 1866), ac adeiladwyd gorsaf yng Nghilgeti, a oedd yn sail ar gyfer datblygiadau pellach. Adeiladwyd gorsaf newydd ar ochr draw’r trac gyda lle ar gyfer cilffordd a chorlannau gwartheg, a maes o law cynhaliwyd mart gerllaw bob pythefnos. Ymysg y nwyddau oedd yn cael eu cludo yn yr 20fed ganrif oedd betys melys a chwningod. Sefydlwyd y CWS Co-operative ym 1921-2 (safle newydd 1936), a symudodd y Swyddfa Bost yno o Fegeli ym 1923.

Diwedd Y Pyllau Glo Daeth y gwaith glo i ben ym Megeli yn ystod y 1860au. Fodd bynnag, parhaodd cloddio am lo i fod yn waith pwysig yng Nghilgeti, lle cafwyd nifer o brofiadau’r pentrefi diwydiannol mwy: streiciau, ceginau cawl, heddlu ychwanegol - a swyddfa ddôl (yn y Free Gardeners Hall). Roedd Sefydliad y Glowyr â rhan yn sefydlu’r Co-op, a Mudiad Lles y Glowyr yn sefydlu’r cae chwarae. Sefydlwyd dwy gangen o Gymdeithasau Cyfeillgar: y Free Gardeners a’r Royal Antediluvian Order of Buffaloes. Un arall o gyfleusterau’r pentref oedd yr Ystafell Ddarllen (Neuadd y W I erbyn hyn). Lower Level oedd y pwll glo olaf i’w weithio yn yr ardal (tan y 1900 au cynnar). Tynnwyd y glo olaf i’w werthu o safle’r ysgol newydd yng Nghilgeti ym 1990: gwerthwyd 7,000 o dunelli i ddiwydiant.

Golwg Ar Y Gorffennol Diwydiannol Erbyn hyn mae’r Miners Arms, Begeli, yn d] preifat. Yn Eglwys St Ishel, Saundersfoot, mae placiau ar y wal i rai o aelodau’r teulu Child. Dilynwch y llwybr a ddisgrifir yn nhaflen SPARC “Llwybr y Glowyr” i ddarganfod safle’r llwybr tramiau a rhai o’r pyllau.

Wedi’r Ail Ryfel Byd: Chwyldro Pellach Mwynhaodd Cilgeti rhyw 20 mlynedd o lewyrch oherwydd gwaith gan Fwrdd Trydan De Cymru. Ond daeth y mart gwartheg i ben ac roedd llai o ddefnydd ar y rheilffordd. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ganolfan fasnachol, tra bod Begeli yn bentref preswyl.


Comin Kingsmoor

Gypsies & caravan, Kingsmoor Common

Bellach mae’n rhyw 161 erw o faint. Cafwyd ymgais aflwyddianus i sicrhau Deddf Cau Tiroedd ym 1855-6. Erbyn hyn mae gwelliannau ffyrdd wedi ei chwalu, ond mae ardal helaeth o gors a gweundir yno o hyd. Cynhaliwyd cyfarfodydd mawr yno yn y gorffennol: rhai crefyddol, seciwlarac athletig, ond yn draddodiadol, cartref i’r sipsiwn oedd Kingsmoor. Mae trigolion lleol yn cofio fel yr arferai’r sipsiwn fynd o amgylch yn gwerthu mân bethau, yn arbennig pegiau dillad, boileri tun a blodau papur. Roedd y trigolion yn cadw darnau arian er mwyn croesi llaw y sipsiwn gydag arian. ‘Doedd neb yn troi sipsiwn o’r t] yn waglaw. Roedd sipsiwn Romani yn cael aros am uchafrif o 7 niwrnod gan symud rhwng Comin Kingsmoor, Redberth a Sageston. Bellach mae safle parhaol i sipsiwn i’r gogledd o’r A477, ac mae disgynyddion hen sipsiwn yr ardal yn dal i fyw yno.

Eglwys Blwyf Y Santes Fair, Begeli Mae’r eglwys yn cynnwys prif gorff, cangell, transept gogleddol, transept deheuol a th[r caerog anferth. Yn y t[r, sy’n 71 troedfedd o uchder, gyda 3 llawr, mae cloch a wnaed ym 1760 gan Bayley o Bridgewater. St Mary’s Arni mae’n dweud, “My sound is good, my shape is neat, Twas Bayley Parish made me so complete.” Y t[r hwn yw’r adeilad hynaf yn yr ardal. Fe’i Church defnyddiwyd fel t[r gwylio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ymysg nodweddion yr eglwys mae bedyddfaen o’r canol oesoedd, cwpan ar gyfer d[r cysegredig a bwa cangell, sy’n deillio o gyfnod y Normaniaid mae’n debyg - wedi ei adeiladu o garreg leol. Mae’r gangell yn gogwyddo i’r dde, i ddynodi pen Crist ar y Groes mae’n debyg. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio ym 1887. Mae’r ffenestr liw y tu ôl i’r allor (a wnaed gan y Mri Clayton a Bell) yn dangos y Crist Atgyfodedig yn cyfarfod â’i fam. Codwyd porth y fynwent ym 1886-87. Safai elusendy ar ran o’r tir a ychwanegwyd i’r fynwent ym 1881. Roedd yn arferiad i ganu cnul pan fyddai aelod o’r eglwys wedi marw, a hefyd i ganu clychau’r Calan.

Eglwys Genhadol Cilgeti Adeiladwyd yr eglwys er budd plwyfolion St Ishel, a’i thrwyddedu ar gyfer Oedfaon ar 24 Mai 1893. Gwasanaethodd y gymuned tan 1986. Mae llawer o’i chynnwys bellach yn Eglwys y Santes Fair.


Zion Calvinistic Chapel, Begelly

Capel Methodistiaid Calfinaidd Zion Adeiladwyd y capel ym 1828 yn dilyn cynnal gwasanaethau mewn t], ac agorwyd adeilad newydd ar y 29ain a’r 30ain o Ebrill 1866 pan oedd y Parch. George Bancroft yn weinidog ar Fethesda a Zion.

Capel Y Methodistiaid Kingsmoor Capel y Methodistiaid Cyntefig oedd Hill Chapel, a adeiladwyd ym 1837. Fe’i caewyd ym 1984.

Cymdeithas Methodistiaid Cyntefig Thomas Chapel Cynhaliwyd y cyfarfodydd cyntaf yn Fferm Thomas Chapel ym 1826, bob yn ail ddydd Iau, ac ambell dro mewn bwthyn dwy ystafell yn Cowsland Stone. Ar ôl seibiant o ddechrau’r 1880au, ail-ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd yn y ffermdy ym 1906, tan y 1920au. Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd cyfarfod awyr agored ar Green Bank y tu allan i Fferm Thomas Chapel. Dywedir fod y Gymdeithas wedi dod i ben oherwydd nad oedd ganddi fan cyfarfod addas.

Ysgol Begeli Agorwyd yr ysgol ar 8 Mai 1876, a’i chau ym 1961 gyda dim ond 23 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Yr Ail Ryfel Byd Tu draw i’r hen ffordd dramiau i gyfeiriad Thomas Chapel mae olion adeilad brics lle’r oedd generadur, rhan o system i gamarwain bomwyr. O dan yr adeilad roedd lloches rhag bomiau.

Teithiau Cerdded A Bywyd Gwyllt Mae amryw o deithiau cerdded yn cychwyn o Fegeli neu Gilgeti. Mae “Llwybr y Glowyr” (sy’n cael ei ddisgrifio mewn taflen ar wahân) yn mynd drwy’r ddau bentref. O Gilgeti, ceir llwybr trwy goed pinwydd a thir amaethyddol i Fords Lake Valley, ardal heb ei difetha o goed a phrysgwydd, lle gellir gweld neu glywed deloriaid y cnau a chnocellod


brith mwyaf. Yn y perthi mae bysedd y c[n a gludlys coch (blodau’r neidr) yn tyfu. Mae’r llwybr hefyd yn defnyddio’r hen ffordd dramiau, sef yr hen lein reilffordd rhwng Thomas Chapel a Begeli, a arferai gario glo i Saundersfoot o’r pyllau yn Broom a Thomas Chapel. Mae planhigion ac adar yn britho’r perthi, ac mae’r ffosydd yn llawn o rifft llyffant ddechrau’r gwanwyn. Mae comin Kingsmoor yn safle bywyd gwyllt pwysig, gan ei fod yn enghraifft dda o weundir a phrysgwydd gwlyb ac asidig, gyda rhai ardaloedd o dd[r agored. Gan nad oes llawer o bori ar y comin bellach, mae eithin, grug a mieri wedi tyfu dros rannau helaeth ohono, tra bod coed helyg, ynn a gwern yn tyfu mewn rhannau eraill. Mae adar megis gïachod (yn y gaeaf), telorion yr hesg a breision yr ]d i’w canfod yma, tra bod tylluanod gwynion, cudyllod coch a boncathod/bodaod i’w gweld yn hela ar y comin ambell dro. Lle mae peth pori, mae planhigion megis llysiau’r afu, y bengaled a chedorwydd yn tyfu, ac yn y rhannau gwlypach, gellir gweld ffeuen y gors gyda’i flodau gwynion tlws, a llafn y bladur gyda’i bigyn main o flodau melyn.

Bog Bean

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Begelly & Kilgetty Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott SPARC © 2001

Begelly kilgetty welsh  
Begelly kilgetty welsh  
Advertisement