Page 1

ANGLE

Tower House


Angle Pentref mewn dyffryn ar lan deheuol aber Aberdaugleddau yw Angle, ym mhen pellaf de orllewin Sir Benfro. Amgylchynir Plwyf Angle gan arfordir ar dair ochr sy’n cynnwys clogwyni uchel a garw, traeth prydferth Bae Gorllewin Angle yn ogystal â fflatiau llanw Dwyrain Angle. Credir bod yr enw Angle (defnyddir ‘Nangle’ hefyd) yn gyfeiriad at leoliad y plwyf, a ddisgrifir mewn gweithredoedd hynafol yn ‘in angulo’ , sy’n golygu tir ar ongl neu mewn cornel. Mae’n bosib bod yr enw hefyd yn gyfeiriad at dirfeddianwyr cynnar, y de Nangles (neu d’Angelo). Yn 1278, ar achlysur ei briodas ag Isobel de Angulo, rhoddwyd tiroedd maenorol Angle i Robert de Shirburn.

Cynhanes Mae yna dystiolaeth bod pobol wedi byw yma ers y cyfnod Mesolithig (tua 4,000 CC). Gwnaed fflintiau yn ystod y cyfnod Mesolithig yn Broomhill a De Studdock. Canfuwyd olion Neolithig yn Ne Studdock a Chartws-Roced. Ar Grugiau Broomhill gwelir olion beddrod siambr (oddeutu 3,500CC - 3,000 CC), a adwaenid mewn cyfnodau diweddarach wrth yr enw Coeten y Diafol.

Y Rheithordy a’r Ficerdy Rhoddwyd bywoliaeth eglwysig Angle i reithor, nad oedd bob amser yn byw yn y Rheithordy, ond a fyddai’n penodi ficer i ofalu am y plwyf yn ei le. Rheithor enwocaf Angle oedd Gerallt Gymro (Giraldus Cambriensis) y gwyddys iddo fod yn rheithor yma yn 1200AD. Credir bod T]’r T[r yn rheithordy ar un adeg a’r un modd T] Kilnbank am gyfnod byr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codwyd y rheithordy presennol yn y 1870au.

Capeli Canoloesol a Chyfnod Cynnar y Tuduriaid Yng nghefn yr hen fynwent codwyd capel ar gyfer pysgotwyr (a elwir yn Gapel Llongwyr yn lleol) gan Edmund Shirburn yn 1447. Nodwedd amlwg yw’r paentiad hardd y tu ôl i’r allor garreg, a gyflwynwyd gan y teulu Mirehouse ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn dynodi Crist â’i freichiau ar led mewn ystum o gariad yng nghanol bywyd pentrefol Angle. Mae yno ddau angel gwarcheidiol yn cadw llygad ar ffiniau’r pentref hefyd. Cyn 1500 credir bod yna eglwys Fishermen’s Chapel wedi’i chysegru i Sant Antwn ym Mae Gorllewin Angle. Gwnaed llawer o waith archeolegol yn y fynwent a daethpwyd o hyd i eirch cerrig yn dyddio o’r nawfed ganrif yno - mae erydiad yn bygwth y fynwent ac eisoes syrthiodd nifer o feddau i’r môr. Mae yna sôn hefyd am gapel siantri Sant Siôr y Merthyr yng Nghapel y Bae.


Eglwys Blwyf y Santes Fair

St Mary

Y rhan hynaf o’r eglwys yw’r t[r sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn wreiddiol roedd yr eglwys ar siâp croesffurf ond roedd Croesfa’r De yn y fath gyflwr gwael nes iddo gael ei dynnu i lawr yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adferwyd corff yr eglwys yn 1853 gan R. K. Penson (a weithiai’n agos gyda Capability Brown). Mae llawer o bobl yn gwerthfawrogi’r ffenestri lliw. Edrychwch ar Foses yn gwisgo cyrn yn y ffenestr ddwyreiniol gwaith artistig sy’n ganlyniad camgyfieithiad cynnar o’r Beibl. Gosodwyd cloc ar y t[r gan y pentrefwyr yn rhan o ddathliadau’r milflwyddiant.

‘Lleiandy’ (dim mynediad cyhoeddus) (Fe’i nodir fel ‘gweddillion castell’ ar y mapiau Arolwg Ordnans). Mae hwn yn adeilad sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol diweddar ac yn ei dro cafodd ei ddisgrifio’n lleiandy, yn d] caerog ac yn d] elusen. Roedd yn adeilad tra dyrchafedig o ran ei statws am fod y llawr cyntaf yn cael ei ddefnyddio fel annedd ‘Nunnery’ byw. Addaswyd yr adeilad droeon a hynny mae’n debyg am y tro diwethaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhai archeolegwyr yn awgrymu iddo gael ei godi gan Briordy Sant Martin de Seez yn Ffrainc ac iddo gael ei feddiannu gan y goron yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. O ganlyniad fe’i rhoddwyd i landordiaid lleol a’i alw’n Faenordy tan ganol yr ail ganrif ar bymtheg pan symudodd perchennog yr ystâd i’r Neuadd.

T}‘r T{r Er ei gelwir weithiau’n Hen Reithordy neu Gastell, yr adeiledd t[r canoloesol, sy i’w weld yn fwy cyffredin yn Iwerddon a’r Alban, sy wedi rhoi iddo ei enw. Credir bod T]’r T[r wedi’i godi ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg neu ar ddechrau’r bymthegfed ganrif gan deulu de Shirburn. Roedd T]’r T[r wedi’i amddiffyn yn dda ac wedi’i osod oddi fewn llecyn wedi’i amgylchynu gan ffos. Roedd y brif fynedfa wreiddiol ar y llawr cyntaf ar hyd pont godi. Roedd yna nenfwd cromennog ar y llawr gwaelod ac yn ôl pob tebyg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio. Ar y tri llawr uchaf roedd yna nifer o ystafelloedd byw sengl â lle tân ymhob un. Daethpwyd o hyd i weddillion adeiladau eraill y tu ôl i’r adeiladau fferm presennol. Adferwyd T]’r T[r yn 1999 ac mae nawr ar agor i’r cyhoedd.


Colomendy

Dovecote

Yn ôl pob tebyg fe’i codwyd yn y bymthegfed ganrif ar gyfer T]’r T[r ac roedd yna bedair rhes ar ddeg o nythod carreg ar gyfer y colomennod. Pan fyddai bwyd yn brin yn nhrymder gaeaf byddai cig yr adar yn ddefnyddiol iawn i’w fwyta. Dim ond Arglwyddi’r Faenor ac offeiriaid y plwyf oedd â’r hawl i godi colomendai ac, felly, roedd hwn yn adeilad o gryn bwys. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif fe’i defnyddiwyd yn lloches i anifeiliaid.

Caer Capel y Bae Fe’i cwblhawyd yn 1891, a dyma un o’r caerau cyntaf yn y byd y gwyddys amdano sy wedi’i godi o goncrid heb gyfnerthydd ynddo ac mae’n unigryw am fod ei ddyluniad ar y pryd yn anarferedig. Amgylchynir y brif gaer gan ffos sych 30 troedfedd o ddyfnder ac yn wreiddiol roedd yno dri dryll reiffl haearn gyr calibr 10” a lenwyd yn y tu blaen. Moderneiddiwyd y gaer yn 1901 a disodlwyd y drylliau gwreiddiol gan ddrylliau reiffl calibr 6” a lenwyd yn y bôn. Tu fewn i’r gaer roedd barics ar gyfer cant o ddynion yn ogystal â Th]’r Meistr Ynnwr, Ystafell Fwyta’r Swyddogion, bloc toiledau, ceginau ac arfdai. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y gaer yn rhan o amddiffynfeydd yr Hafan. Byddai llongau a amheuid o gludo contraband yn cael eu hangori yn Stack Roads i’w harchwilio tra byddai drylliau Caer Capel y Bae wedi’u cyfeirio tuag atyn nhw. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y gaer yn rheoli rhai o’r gynnau saethu awyrennau a oedd yn amddiffyn yr Hafan. Am flynyddoedd lawer gadawyd y gaer yn adfeilion. Erbyn hyn gweinyddir Caer Capel y Bae gan elusen gofrestredig sy’n gobeithio ei agor ar gyfer y cyhoedd pan gwblheir gwaith adnewyddu helaeth.

10inch, 18 ton Rifled Muzzle-Loading Gun

Galwedigaethau Y prif alwedigaethau yn Angle ar hyd y canrifoedd yw ffermio a physgota. Defnyddiwyd grym y gwynt i droi rhod melin ers o leiaf 1298. Cofnodwyd bod yma felin yng nghyfnod diweddar y Tuduriaid a chafodd ei hail-adeiladu yn y ddeunawfed ganrif a’i haddasu i’w defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gaer danddaearol. Defnyddiwyd cerrig calch a thywodfaen coch lleol i’w hadeiladu. Defnyddiwyd cerrig calch

Brickworks chimney (rems of)


The Windmill (rems of)

hefyd i wneud silffoedd pen tân, a’i losgi at ddefnydd amaethyddol. Gwelir olion y diwydiant calch wrth sylwi ar y cylchoedd angori yn y creigiau, olion o’r trac rheilffordd yn arwain at y chwarel glogwyn a’r odyn galch segur yng Ngorllewin Angle. Sefydlwyd Gwaith Brics Angle yn yr 1880au gan Ystâd Angle. Yr adeg honno roedd tair odyn yno. Ymhlith y cynnyrch roedd amrywiaeth o frics, teils to a chwarel, teils crib, a pheipiau glaw. Yn ddiweddarach, cynhyrchwyd blociau o gerrig ffug; defnyddiwyd y blociau i godi t] sydd i’w weld tua chanllath i’r dwyrain o’r eglwys. Gwelir simnai’r gwaith o hyd yng Ngorllewin Angle. Yn ystod dechrau’r 1800au, byddai gwragedd a merched yn plethu bonedau gwellt, hesorau a defnydd matiau, yn pobi bisgedi ar gyfer y llongwyr ac yn gwneud bara lawr o’r gwymon a gesglid yng Ngorllewin Freshwater. Roedd yna hefyd nifer o berci lafant a th] crasu yn y pentref.

Tafarnau Mae Angle wedi darparu ar gyfer pysgotwyr sychedig yn ogystal â llongwyr, gw]r y badau achub, gweision fferm, adeiladwyr a magnelwyr caerau Ynys Thorn a Chapel y Bae, i enwi ond ychydig. Mae tafarnau wedi mynd a dod yn nwylo teuluoedd lleol. Rhestrwyd pum tafarnwr cofrestredig yn 1795, ond ni wyddys lle’r oedd lleoliad rhai tafarnau megis y King’s Arms a’r Mariner’s Arms.

The Old Point House


Roedd y Castle Inn ger T]’r T[r ym Mae Dwyrain Angle a gyferbyn iddo, ar ben y gilfach fôr, roedd y Dolphin. Hanner ffordd ar hyd stryd y pentref roedd yr Anchor. Caewyd y rhain i gyd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maen nhw nawr yn anheddau preifat wedi’u hail-enwi. Dan fwthyn oedd y Globe House (Gwesty) yn wreiddiol ac roedd un ohonyn nhw’n d] tafarn a wnaed yn westy yn 1904 ac yn ddiweddarach yn ysbyty ymadfer yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Globe wedyn yn dafarn tan 1993. Mae’n llety gwyliau erbyn heddiw. Fe fu’r gaer ar Ynys Thorn hefyd yn westy yn gymharol ddiweddar. Heddiw mae dau d] tafarn yn y pentref. Mae’r Old Point House (t] tafarn a fferm), wedi’i leoli’n llythrennol ar y Pwynt ym Mae Dwyrain Angle, ac mae’n dyddio nôl o leiaf hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ôl y sôn byddai morladron yn galw heibio’n gyson. Ers dros 300 mlynedd roedd yna dân cwlwm yn llosgi’n barhaus yno i gynhesu gw]r y bad achub, llongwyr a thrigolion lleol. Yn 1865, agorodd perchennog yr Anchor dafarn arall yng nghanol y pentref, yr Hibernia. Deillia’r enw, yn ôl y sôn, o’r darn arian Gwyddelig wedi’i ddyddio 1805, a ganfuwyd wrth adeiladu’r dafarn, ac mae’r darn arian i’w weld yno o hyd.

Ysgol Mor gynnar ag 1828 ceir cyfeiriad at ysgolfeistr yng nghofrestr priodasau plwyf Angle. Cynhelid Ysgol Hen Ferch (ysgol breifat fechan) yn Rhif 7 Angle (nawr yr Old Ruin). Codwyd ysgol y pentref yn 1862, ar dir a roddwyd gan deulu Mirehouse trwy gyfraniadau gwirfoddol a rhoddion. Tan 1880 roedd y plant yn talu am eu haddysg ynghyd â chyfraniadau gan deulu Mirehouse a oedd hefyd yn cynnal a chadw’r adeilad. Ar ôl 1880 archwiliwyd yr ysgol gan arolygwyr y llywodraeth a neilltuwyd grantiau ar ei chyfer. Nid yw’r prif adeilad wedi newid llawer er 1890.

‘Loch Shiel’ Drylliwyd y llong Albanaidd, Loch Shiel, oddi ar Ynys Thorn yn ystod storom arw ym mis Ionawr 1894. Rhuthrodd bad achub Angle i gynorthwyo ac achubwyd y tri deg a thri a oedd ar ei bwrdd. Ymhlith y llwyth roedd hi’n ei gario roedd cyflenwadau helaeth o chwisgi, cwrw a gwirodydd eraill, a golchwyd y rhan fwyaf ohono i’r lan. Roedd gw]r y tollau yn ei chael yn anodd dod o hyd i’r cargo am fod trigolion lleol yn mynd i drafferthion mawr i’w guddio. Er na chollodd neb ei fywyd yn y drylliad cafodd dau ddyn lleol eu lladd wrth geisio glanio baril, a bu farw un arall ar ôl ‘yfed gormod o chwisgi’. Mae’n hysbys bod poteli wisgi yn dal i fod yn y pentref.


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Angle Llun trwy garedigrwydd Uwchgapten George Gear Darluniau gan: Geoff Scott & Kris Jones Cynllun: Waterfront Graphics PLANED © 2007

Angle welsh  
Angle welsh  
Advertisement