Canllaw i weithredu a gwreiddio’r
Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ar gyfer Staff yr Ysgol a Thimau Arweinyddiaeth
2
Cynnwys Beth yw'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr? ................................................................................. 5 Ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr ............................................................................................ 7 Map taith y dysgwr ................................................................................................................... 8 Y 9 Egwyddor .......................................................................................................................... 10 Rôl yr ysgol .............................................................................................................................. 12 Sut i gefnogi dysgwyr ............................................................................................................ 13 Darparu mecanweithiau ar gyfer cynnwys dysgwyr ........................................................ 14 Sut i ddatblygu ymrwymiad gyda dysgwyr ........................................................................ 16 Rhestr wirio myfyrio beirniadol ........................................................................................... 20 Dolen adborth: Creu strwythur ar gyfer adrodd ar adborth dysgwyr .......................... 22 Adolygu ac adrodd ................................................................................................................ 26 Geirfa a dolenni defnyddiol ................................................................................................. 28
3
Nod y canllaw hwn yw helpu staff, athrawon, timau bugeiliol ac uwch arweinwyr ysgolion â chweched dosbarth ysgolion i ddeall Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr a sut i wreiddio a gweithredu'r Cod yn llwyddiannus yn eu hysgolion ar gyfer dysgwyr 6ed dosbarth. Bydd y canllaw yn rhoi cyflwyniad i'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, yn egluro'r rheoliadau cydymffurfio sy'n ofynnol ac yn cefnogi staff i weithio gyda'u dysgwyr 6ed dosbarth i wreiddio’r Cod i fodloni'r gofynion hynny yn unol â'i 9 Egwyddor. Medr sydd yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu'r canllawiau canlynol gan ddefnyddio dull cyd-gynhyrchu sy'n cynnwys dysgwyr 6ed dosbarth ledled Cymru. Diolch arbennig i: Ysgol Uwchradd Penarlâg, Sir y Fflint Ysgol Calon Cymru, Llandrindod Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin
4
Beth yw'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr? Gwybodaeth cydymffurfio Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn ofyniad gorfodol o dan Adran 129 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (TERA) gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod gan ddysgwyr gyfleoedd i fod yn rhan o benderfyniadau eu darparwyr ar gyfer penderfyniadau sy'n peri pryder neu ddiddordeb iddynt. Mae'r Cod yn berthnasol i bob darparwr yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru: yn yr achos hwn ysgolion sydd â 6ed dosbarth. O dan Adran 101 o TERA, rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gyda chweched dosbarth: • Cydymffurfio â gofynion y Cod • Darparu tystiolaeth i ddangos cydymffurfiaeth â'r Cod a'i effaith
Mae'r Cod ei hun yn nodi'r gofynion penodol y mae'n rhaid i bob darparwr eu bodloni a’r dystiolaeth y mae’n rhaid iddynt ei darparu i Medr i ddangos eu bod yn cydymffurfio. Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
Gwybodaeth ymarferol Mae rhoi’r Cod ar waith mewn ymarfer beunyddiol yn golygu sicrhau y gall dysgwyr 6ed dosbarth gymryd rhan lawn mewn gwneud penderfyniadau ar eu profiad dysgu a’u hamgylchedd eu hunain. Er bod y Cod yn seiliedig ar sylfeini cyfranogiad, mae'n ymwneud â mwy na llais y dysgwr neu fecanweithiau cynghorau ysgol yn unig ac mae gogwydd tuag at ddysgwyr 6ed dosbarth yn ystyried eu taith addysgol a chael cyfleoedd i fod yn rhanddeiliaid o fewn eu lleoliad darparwr. Y prif ffocws yw sicrhau bod cefnogaeth effeithiol yn cael ei darparu ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau yn unol ag Egwyddorion y Cod. Mae datblygu partneriaeth gyda dysgwyr 6ed dosbarth yn hanfodol i alluogi dysgwyr i: • Cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau perthnasol gan eu darparwr • Cael eu lleisiau wedi'u cynrychioli'n effeithiol ym mhroses gwneud
penderfyniadau eu darparwr
• Rhoi eu barn ar yr addysg maen nhw'n ei derbyn a materion sy'n peri pryder
neu ddiddordeb iddyn nhw
5
PWYSIG: Nid oes gofyniad na disgwyliad i ysgolion sefydlu cyngor na mecanweithiau ymgysylltu ar wahân ar gyfer dysgwyr 6ed dosbarth er mwyn bodloni gofynion Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr. Meddyliwch yn lle hynny am sut allwch chi ddefnyddio mecanweithiau cynrychiolaeth neu ymgysylltu presennol i ymgysylltu â dysgwyr 6ed dosbarth yn eich prosesau gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo bod angen strwythurau neu brosesau ychwanegol i ymgysylltu â'r dysgwyr penodol hyn. Er bod y gofyniad statudol a monitro gan Medr yn ymwneud â dysgwyr 6ed dosbarth yn unig, gall ysgolion ddewis mabwysiadu dull ysgol gyfan o ymgysylltu â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ac yn eu hymrwymiadau cyhoeddedig. Mae Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr yn cyflwyno gofyniad statudol i ysgolion weithio gyda'u dysgwyr 6ed dosbarth i ddatblygu, cyhoeddi a chadw golwg ar ymrwymiad ffurfiol i ymgysylltu â dysgwyr. (Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth i gefnogi datblygu’r ymrwymiad ar dudalennau 16-19 o'r canllaw hwn) Rhaid datblygu a chyhoeddi'r ymrwymiad hwn o fewn y flwyddyn academaidd lawn gyntaf (2026-27)
Cwestiynau myfyriol allweddol i ddechrau eich taith Cod Ymgysylltu â Dysgwyr “Sut mae ein dysgwyr chweched dosbarth yn llywio eu profiad eu hunain ar hyn o bryd?” “Fel darparwr, a ydym yn ymgynghori â dysgwyr cyn newid?” “Ydyn ni’n casglu ac yn gwrando’n weithredol ar leisiau ein dysgwyr?”
6
Ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr Mae'r Cod yn canolbwyntio ar 9 Egwyddor sy'n pwysleisio y dylai ymgysylltu â dysgwyr fod:
Wedi’i wreiddio Yn Cael ei Werthfawrogi Yn Gynhwysol
Yn Cael ei Ddeall
Yn Ddwyieithog
Yn Cael Effaith
Yn Unigol ac yn Gyfunol
Yn Cael Digon o Adnoddau
Yn Cael ei Werthuso Mae ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr yn y lleoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau bod pob un o’r 9 Egwyddor yn cael eu bodloni, a bod cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer cyfranogiad ystyrlon i ddysgwyr 6ed dosbarth sy'n eu galluogi i gael dylanwad a chreu newid pan fo modd o fewn amgylchedd yr ysgol. Mae mecanweithiau a chyfleoedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr gael ymgysylltu'n ddilys. Creu cyfleoedd i ddysgwyr y 6ed dosbarth fynegi eu syniadau eu hunain ar gyfer mentrau, polisïau neu brosiectau i'w harchwilio, yn hytrach na dim ond ymgynghori â nhw ar bynciau a bennir gan arweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r canlynol yn dangos sut mae pobl ifanc yn gweld ymgysylltiad cadarnhaol a pha gyfleoedd y maent wedi’u cael yn eu teithiau drwy’r ysgol. Mae hyn yn cefnogi'r ffaith bod llawer o ffyrdd a dulliau i ddysgwyr ymgysylltu a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, gan amlygu bod meysydd eisoes lle mae ymgysylltu â dysgwyr yn bresennol mewn llawer o ysgolion. Bydd adeiladu ar y rhain a datblygu prosesau clir a thryloyw yn cryfhau ymgysylltu â dysgwyr yn unol â 9 Egwyddor y Cod. 7
Map taith y dysgwr Hyrwyddwyr Ifanc, Grwpiau LHDTC+ Mentoriaid Cyfoedion Dechreuwyd grŵp theatr i hybu hyder Cymorth Cyfoedion
Rhyfelwyr Lles a Llysgenhadon Iechyd Meddwl Llysgenhadon Lles
Gweithdai sy'n seiliedig ar hawliau Deall eu hawliau eu hunain fel Plentyn/Person Ifanc
Llais y Disgybl 8
Biniau Mislif Cais dysgwr yn unol â chamau gweithredu’r llywodraeth ar dlodi mislif Arweinwyr Chwaraeon a’r Cyngor Chwaraeon Arweinwyr iechyd a ffordd o fyw
Disgyblion gwrywaidd yn gwisgo sgertiau a’r rhai benywaidd yn gwisgo siorts mewn protest yn erbyn newid gwisg ysgol Dysgwyr yn Gweithredu
Newidiadau i gwricwlwm yr ysgol, TGAU yn y Dyniaetha Ymgynghoriad Llais y Dysgwr Tîm P y 6ed Arwe
Cyrtiau chwaraeon awyr agored, cyfleusterau newid ac addurno mannau’r ysgol Byw'n egnïol
Sesiynau Llai Capteiniaid D Chynrychiolw Cyfranogiad G
au
Prif Ddisgyblion d Dosbarth einwyr cefnogol
Senedd yr Ysgol a Chyngor yr Ysgol Cyfranogiad grŵp gweithredol
Gwobrau Criw Cymraeg Gwreiddio diwylliant o fewn eu hysgol
Cyfle profiad gwaith a cheisiadau prifysgol Ymgysylltu â llais y dysgwr i ganfod cyfleoedd
Cefnogi’r Ysgol Isaf Cymorth gan Gymheiriaid
Trawsnewidiadau Newidiadau i ôl-16 a Sesiwn EMA gerddoriaeth Lefel Ymgynghoriad gweithredol A yn yr ysgol â dysgwyr drwy arolygon Trafodaethau gweithredol gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Llywodraethwyr yr Ysgol
is y Disgybl, Dosbarth a wyr Dosbarth Gweithredol
Newid cludiant ysgol Llythyr wedi'i ysgrifennu gan y 6ed dosbarth at y cyfarwyddwr addysg
Adolygiad Polisi ysgolion Arwain wrth wneud penderfyniadau
9
Y 9 Egwyddor
Wedi’i wreiddio Mae cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau wedi'u plethu drwy bob agwedd ar y daith addysgol a thrwy'r holl benderfyniadau sy'n effeithio ar ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol.
Yn Cael ei Werthfawrogi Dysgwyr yn cael eu gwrando arnynt a’u grymuso i lywio eu profiad dysgu trwy gymryd rhan yn ei brosesau gwneud penderfyniadau.
Yn Gynhwysol Mae cyfleoedd ymgysylltu yn adlewyrchu amrywiol anghenion, diddordebau a galluoedd dysgwyr.
Yn Cael Effaith Mae ymgysylltu’n arwain at ddeialog barhaus, canlyniadau gweladwy a gwelliannau sy’n fuddiol i’r a dysgwyr y dyfodol.
10
Yn Cael Digon o Adnoddau Mae adnoddau priodol yn cael eu dyrannu er mwyn sicrhau y caiff holl ddysgwyr gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
Yn Cael ei Ddeall Mae dysgwyr yn gwybod ble a sut i godi syniadau a rhannu meddyliau ynglŷn â materion sy'n bwysig iddyn nhw a'r rhai a gaiff eu codi gan eu darparwr.
Yn Ddwyieithog Gall dysgwyr gymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg a dylanwadu ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Yn Unigol ac yn Gyfunol Caiff dysgwyr eu helpu i gymryd rhan yn unigol ac ar y cyd, gan rannueu lleisiau i lywio'r profiad dysgu.
Yn Cael ei Werthuso Mae darparwyr mynd ati’n rheolaidd i werthuso’r ffordd y mae’n ymgysylltu â dysgwyr, gan weithio gyda dysgwyr i adnabod cryfderau, gwelliannau a datblygiadau yn y dyfodol. 11
Rôl yr ysgol Fel ysgol, eich rôl allweddol yw: • Rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau • Rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu yn eu iaith ddewisol • Rhoi cyfleoedd i amrywiaeth eang o ddysgwyr gymryd rhan • Rhoi mwy na dim ond un cyfle i fwy nag un math o ddysgwr
PWYSIG: Mae dysgwyr yn teimlo'n gryf y dylid defnyddio mwy o gyfranogiad gan fwy o ddysgwyr i glywed lleisiau'r rhai sy'n llai tebygol o gymryd rhan, nid dim ond mecanweithiau traddodiadol y Brif Ferch/Prif Fachgen neu Gynrychiolydd Cyngor yr Ysgol.
12
Sut i gefnogi dysgwyr Mae dysgwyr y 6ed dosbarth yn awgrymu bod y canlynol yn bwysig wrth ystyried ffyrdd o'u cefnogi gydag ymgysylltu yn unol â 9 Egwyddor y cod: • Yn agored i ganiatáu i bob dysgwr gymryd rhan os dymunant, ar eu cyflymder eu hunain • Sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr • Sicrhau eich bod yn rhoi adborth i ddysgwyr ble a phryd maen nhw wedi bod yn rhan o’r broses • Mae cymryd rhan yn ddewis • Darparu mecanweithiau clir ar gyfer cyfranogiad ac ymgysylltu â dysgwyr • Cyfleoedd i fynegi barn yn ddiogel • Ymgynghoriad rheolaidd a dilys • Cyfranogiad gwirioneddol mewn gwneud penderfyniadau (nid tocenistaidd) • Gwrando’n weithredol a rhoi ystyriaeth deg i farn a syniadau • Cydnabod a gwerthfawrogi dysgwyr fel adnodd hanfodol yn eich lleoliad • Rhoi galluogedd i ddysgwyr dros ddarnau allweddol o ymgynghori ar gyfer newid • Rolau arweinyddiaeth (mentoriaid, cynrychiolwyr, llysgenhadon) • Cydberthynasau cadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr • Ymwybyddiaeth i bob dysgwr ar y Cod a sut y gallant gymryd rhan • Darparu cefnogaeth a hyfforddiant i ddysgwyr sydd â rolau cynrychioli, gan gynnwys aelodau cyngor yr ysgol a disgybl-lywodraethwyr cyswllt • Creu mannau diogel yn rhydd o feirniadaeth ar gyfer trafodaeth agored • Meithrin a mabwysiadu ymdeimlad o berthyn sy'n ymestyn ymhellach na dysgu gwersi
13
Darparu mecanweithiau ar gyfer cynnwys dysgwyr Sicrhau bod gennych fecanweithiau priodol i ymgysylltu â dysgwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 mewn penderfyniadau sy'n debygol o ymestyn y tu hwnt i gynghorau ysgol traddodiadol. Cynnwys dysgwyr mewn gweithgorau neu bwyllgorau a sefydlwyd i lywio polisïau ysgol, cynllunio gweithgareddau, cyflawni prosiectau neu ddewisiadau cwricwlwm a fydd yn effeithio ar y profiad dysgu ac a fydd yn darparu ystod ehangach o fecanweithiau. Gallai dulliau pellach gynnwys blychau awgrymiadau neu arolygon ar-lein.
Syniadau y gall dysgwyr fod yn rhan ohonynt Byddai'n afrealistig meddwl y gall dysgwyr 6ed dosbarth fod yn rhan o bob penderfyniad yn yr ysgol, fodd bynnag, dyma rai enghreifftiau o sut y gall ysgolion weithio gyda dysgwyr i sicrhau bod dysgwyr yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.
dau go iawn
Cynnal fforymau llais dysgwyr gyda chanlynia
Cynnwys dysgwyr mewn adolygiadau polisi Rolau arweinyddiaeth dysgwyr Adnoddau a grëwyd ar y cyd: Mae dysgwyr yn helpu i ddylunio arddangosfeydd lles, ymgyrchoedd gwrth-stigma, neu’n cael bod yn rhan o wefan yr ysgol Cyflwyno sesiynau neu wersi lles yn ystod diwrnodau ABCh neu wersi i ysgolion iau
Cefnogi adrannau gyda theithiau ysgol, clybiau amser cinio neu ar ôl ysgol Bod yn rhan o ddiwrnodau neu nosweithiau agored yr ysgol yn rhannu eu profiad bywyd fel dysgwr chweched dosbarth yng nghymuned yr ysgol ity groups on projects
Collaborating with other schools or commun
Dysgwyr yn cyfrannu syniadau ar gyfer gwersi, asesiadau neu adnoddau dysgu Pwyllgorau a phrosiectau dan arweiniad dysgwyr arth yr ysgol
14
Cynnig cwricwlwm ac amserlennu 6ed dosb
Rôl y disgybl-lywodraethwr cyswllt Oherwydd cyfranogiad y corff llywodraethu a'u cyfrifoldeb dros gydymffurfiaeth, mae dysgwyr yn gweld rôl disgybl-lywodraethwyr cyswllt effeithiol fel cyswllt allweddol pwysig a phosib wrth wreiddio a gweithredu'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Mae agweddau allweddol y rôl hon yn galw am hyfforddiant a chefnogaeth mynediad agored barhaus. Dyma rai o’r meysydd a awgrymwyd: • Hyfforddiant ar ddeall y corff llywodraethu, ei rôl a'i gyfrifoldebau • Mwy nag 1 dysgwr yn cymryd rhan • Cael llywodraethwr i gymryd rôl gefnogol y disgybl-lywodraethwr cyswllt (yn debyg i fentor)
Corff Llywodraethu
Gwreiddio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
Darparwr (ysgol)
Dysgwr 6ed Dosbarth
15
Sut i ddatblygu ymrwymiad gyda dysgwyr Mae angen i ysgolion weithio gyda dysgwyr 6ed dosbarth i: datblygu ∙ cyhoeddi ∙ adolygu ymrwymiad ffurfiol i wreiddio a chefnogi ymgysylltu effeithiol dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau Mae meithrin ymrwymiad ar y cyd i ymgysylltu yn gweithio orau pan gaiff ei greu ar y cyd â dysgwyr, fel eu bod yn teimlo perchnogaeth yn hytrach na chydymffurfiaeth. Drwy fodel wedi'i gyd-gynhyrchu bydd gan ddysgwyr berchnogaeth a byddant yn teimlo wedi'u grymuso. Bydd gwneud dysgwyr yn bartner yn y broses yn osgoi agwedd 'Rydyn ni'n dweud ac rydych chi'n gwneud' / cyfarwyddyd neu gydymffurfiaeth, ac yn meithrin cydlyniant a pherthnasoedd gwaith cadarnhaol a phwrpasol. Fodd bynnag, nid oes rhwymedigaeth i greu ymrwymiad newydd, ac efallai y bydd dysgwyr yn teimlo y gallant ychwanegu at ddogfennau presennol yn lle hynny. Dyma weithgaredd ymarferol a gynlluniwyd gan ddysgwyr 6ed dosbarth y gallech fod eisiau ei ddefnyddio neu ei addasu i gyd-fynd â'ch lleoliad fel man cychwyn ar gyfer datblygu'r ymrwymiad gyda dysgwyr.
16
Cynllun sesiwn enghreifftiol – gweithgaredd Hyd: 45–60 munud Grŵp: Dysgwyr blwyddyn 12/13 Diben: i greu ymrwymiad ar y cyd ar wreiddio a gweithredu’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Beth fydd ei angen arnoch: • Papur siart droi neu fwrdd gwyn • Nodiadau gludiog • Marcwyr Amlinelliad o’r Sesiwn: 1. Trafodaeth Grŵp Bach (15 munud) Rhannu’r dysgwyr yn grwpiau bach a gofyn iddynt drafod: Cwestiwn 1: Sut olwg sydd ar ymgysylltu â dysgwyr i ddysgwyr yn y lleoliad hwn? Cwestiwn 2: Beth ddylai staff ei wneud i helpu dysgwyr i deimlo'n frwdfrydig, yn ddiogel, wedi'u cynnwys ac yn ymgysylltu? Gall enghreifftiau gynnwys: • Eglurwch y dysgu yn glir. • Gwrando ar farn dysgwyr. • Rhoi adborth adeiladol. • Creu amgylchedd cynhwysol. • Darparu mecanweithiau clir Cwestiwn 3: Beth ddylai dysgwyr ymrwymo i'w wneud? Gall enghreifftiau gynnwys: • Cyrhaeddwch yn barod. • Cymryd rhan mewn trafodaethau. • Parchu gwahanol safbwyntiau. • Awgrymu atebion nid problemau yn unig Mae grwpiau'n cofnodi eu syniadau ar nodiadau gludiog. 17
2. Creu Ymrwymiadau a Rennir (15 munud) Dod â'r dosbarth ynghyd ac adolygu’r holl awgrymiadau. Fel grŵp, cytunwch ar 3–5 ymrwymiad i staff a 3–5 ymrwymiad gan ddysgwyr 3. Datblygu'r Ymrwymiad Ymgysylltu (10 munud) Trowch yr ymrwymiadau y cytunwyd arnynt yn ddatganiadau cadarnhaol a rennir fel: • Rydym yn gwrando er mwyn deall. • Rydym yn cefnogi llwyddiant ein gilydd. • Rydym yn teimlo'n ddiogel i ofyn cwestiynau a gwneud camgymeriadau. Cofnodi’r ymrwymiad terfynol ar boster neu ddogfen ddigidol fel y gellir ei gyhoeddi a'i rannu gan gynnwys cymeradwyaeth gan y corff llywodraethu. Byddai hwn yn fan cychwyn gwych i hyrwyddo'r ymrwymiad a'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr mewn ffyrdd hygyrch i ddysgwyr. Dylai'r ymrwymiad fod yn ddogfen lefel uchel a rhaid cynnwys: • Sut mae ymgysylltu â dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau wedi'i wreiddio a'i gefnogi, megis gwybodaeth am fecanweithiau (gall hyn fod drwy gyfeirio a dolenni i wybodaeth arall) • Sut mae barn dysgwyr amrywiol yn cael ei hystyried • Sut cafodd dysgwyr eu cynnwys mewn datblygu'r ymrwymiad ar y cyd • Pa ddysgwyr sy'n cymryd rhan (er mwyn i ddysgwyr fod yn glir am yr hyn sy'n berthnasol iddyn nhw) • Wedi'i gymeradwyo gan gorff llywodraethu’r ysgol (Dyddiad) • Dyddiad Cyhoeddi a dyddiad adolygu
Enghraifft o Ymrwymiad Enghraifft o sut olwg fyddai ar ymrwymiad gorffenedig
Rhaid i ddysgwyr gael cymryd rhan yn y datblygiad Rhaid i ddysgwyr gael cymryd rhan yn yr adolygiad blynyddol Rhaid ei hyrwyddo mewn ffyrdd hygyrch i ddysgwyr
18
Ymrwymiad Ymgysylltu â Dysgwyr Datganiad Ymrwymiad Ymgysylltu â Dysgwyr Mae [Enw'r Ysgol] wedi ymrwymo i greu diwylliant lle mae dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses o lywio eu profiad addysgol. Mae'r ymrwymiad hwn yn amlinellu sut y bydd dysgwyr yn cael eu gwrando arnyn nhw a'u cynnwys mewn gwneud penderfyniadau.
Diben Diben yr ymrwymiad hwn yw: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]
Sut Caiff Ymgysylltu â Dysgwyr ei Wreiddio
Cynrychiolaeth a Chynhwysiant Dysgwyr
Mae ymgysylltu â dysgwyr wedi’i wreiddio o fewn systemau a phrosesau ysgolion presennol, mae'r rhain yn cynnwys: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd i ymgysylltu â dysgwyr yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gynrychioliadol o amrywiaeth y boblogaeth dysgwyr.
Caiff adborth ei gyfleu i ddysgwyr drwy sianeli adborth y cytunwyd arnynt.
Bydd yr ysgol yn adolygu lefelau cyfranogiad yn rheolaidd i sicrhau bod ystod eang o leisiau dysgwyr yn cael eu clywed a'u cynrychioli.
Sut mae Dysgwyr Wedi Bod yn Rhan o Greu'r Ymrwymiad hwn
Dolenni i Bolisïau, Cynlluniau ac Adnoddau Perthnasol
Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i lywio trwy ymgysylltu â dysgwyr gan ddefnyddio mecanweithiau cyfranogiad presennol. Mae dysgwyr wedi cyfrannu drwy: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]
Dylid darllen yr ymrwymiad hwn ochr yn ochr â dogfennau perthnasol yr ysgol a'r awdurdod lleol, gan gynnwys: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]
Monitro ac Adolygu Bydd effeithiolrwydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fonitro drwy: [ychwanegwch enghreifftiau/ gwybodaeth yma] Bydd yr ysgol yn parhau i adolygu'r ymrwymiad hwn gyda dysgwyr i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
Cymeradwyaeth a Chyhoeddi
Datganiad Ymrwymiad
Wedi'i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethu: _______________________________
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan holl ddysgwyr gyfleoedd i rannu eu barn, dylanwadu ar benderfyniadau, a cyfrannu at ddatblygiad parhaus cymuned ein hysgol. Drwy fecanweithiau ymgysylltu cynhwysol a hygyrch, byddwn yn gwrando ar ddysgwyr, yn ymateb i'w hadborth, ac yn cydweithio i wella canlyniadau i bawb."
Dyddiad Cymeradwyo: _______________________________ Cyhoeddwyd: _______________________________ Dyddiad Adolygu: _______________________________
19
Rhestr wirio myfyrio beirniadol Ar gyfer Staff: Ydyn ni’n gwrando ar ddysgwyr, neu’n eu clywed yn unig? Ydyn ni'n cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau yn ddigon cynnar? Ydyn ni'n gyfforddus yn rhannu rheolaeth? Pa gapasiti sydd gennym ni ar gyfer llais gweithredol dysgwyr?
Ar gyfer Arweinwyr: A yw ymgysylltu â dysgwyr yn strategol neu'n docenistaidd? Sut ydym ni'n mesur effaith? Lleisiau pwy sydd ar goll? Ydyn ni'n creu digon o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan weithredol? A yw ymgysylltu â dysgwyr yn ymddangos mewn cynllunio gwella ysgolion? Mae llywodraethwyr yn derbyn tystiolaeth o ymgysylltu â dysgwyr wrth i benderfyniadau gael eu gwneud Mae staff yn deall y Cod Mae cynrychiolwyr dysgwyr wedi'u hyfforddi Mae dolenni adborth yn weladwy Casglir tystiolaeth o’r effaith
20
I’w Ystyried Ymhellach: A yw ymgysylltiad yn dylanwadu ar yr ysgol? A oes cysondeb ar draws adrannau? A ydym yn rhoi adborth i'n dysgwyr? A yw adborth yn cael ei weithredu arno mewn modd gweladwy? A yw dysgwyr yn rhan o benderfyniadau ystyrlon? A yw dysgwyr yn cyd-ddylunio agweddau ar y ddarpariaeth? A yw pob grŵp yn cael ei gynrychioli (nid dim ond y rhai sy'n cyflawni'n uchel)? A oes llais gan ddysgwyr tawelach? A all dysgwyr weld newid yn deillio o'u mewnbwn? A yw staff yn gwerthfawrogi llais myfyrwyr? A yw ymgysylltu wedi’i wreiddio neu a yw’n digwydd yn achlysurol? Defnyddiwch hyn fel man cychwyn i ystyried ar ba bwynt y mae eich ymgysylltu â dysgwyr o fewn y cyfleoedd i ddysgwyr 6ed dosbarth.
Datganiad
Sgôr Gwyrdd
Ambr
Coch
Mae dysgwyr yn dylanwadu ar benderfyniadau’r ysgol Mae adborth yn arwain at newid gweladwy Mae grwpiau dysgwyr amrywiol yn cael eu cynrychioli Mae dysgwyr yn deall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud Rydym yn mesur effaith ymgysylltu â dysgwyr Rydym yn barod i weithredu a gwreiddio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn llawn yn ein lleoliad
21
Dolen adborth: creu strwythur ar gyfer adrodd ar adborth dysgwyr Sut ydych chi'n hysbysu dysgwyr am y gwahaniaethau maen nhw wedi'u gwneud trwy gymryd rhan, yn ogystal â sut mae eu syniadau wedi cael eu gwrando arnynt. Er nad ydych chi'n gallu gweithredu ar bopeth mae dysgwyr yn ei adrodd yn ôl i chi, dylai fod proses benodol ar waith i feddyliau dysgwyr gael eu hadrodd yn ôl i benderfynwyr uwch, ac i adrodd meddyliau’r rheiny’n ôl i'r dysgwyr. Dulliau Posibl: Gwasanaethau 'Fe Ddywedoch Chi, Fe Wnaethom Ni' – dangos i ddysgwyr bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu pryderon yn bwysig Amser Cylch Adborth mewn grwpiau tiwtor/cofrestru lle gellir rhoi adborth i ddysgwyr Ffurflenni Adborth yn cael eu cwblhau a'u rhannu gyda dysgwyr
Yr hyn y mae dysgwyr yn ei ddweud am adborth: Dywedwch wrthym hyd yn oed os nad oes canlyniad Dywedwch wrthym os na ellir ei ystyried Dywedwch wrthym pam A allwn ni agor deialog i drafod?
Enghraifft o ffurflen adrodd yn ôl y gellid ei defnyddio i sicrhau cyfathrebu effeithiol – wedi’i chynllunio gan ddysgwyr.
22
Ffurflen ymateb adborth ymgysylltu â dysgwyr Enw'r ysgol: Dyddiad yr adborth: Mecanwaith ymgysylltu â dysgwyr: Mater neu awgrym a godwyd Yr hyn a ddywedodd y dysgwyr wrthym: Beth wnaethon ni Rydym wedi gweithredu ar yr awgrym hwn. Rydym wedi gweithredu’n rhannol ar yr awgrym hwn. Rydym yn dal i archwilio'r awgrym hwn. Ni allwn fwrw ymlaen â'r awgrym hwn ar hyn o bryd. Camau a gymerwyd/a gynllunnir:
Pam? Eglurwch y penderfyniad a wnaed, os gwelwch yn dda:
Effaith Sut fydd hyn yn gwella profiadau dysgwyr?
Sut gall dysgwyr gymryd rhan? Neges i ddysgwyr Diolch am rannu eich barn. Mae eich adborth yn ein helpu i wella ein hysgol a gwneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i ddysgwyr. Da chi, daliwch ati i rannu eich syniadau a'ch barn. Dyddiad adolygu Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr eto ar: Wedi'i gwblhau gan: Rôl:
23
MATER AC ATEBION AWGRYMEDIG Mae dysgwyr yn nodi pryder, rhwystr neu gyfle Darparu ateb neu syniadau
ADOLYGU Mae dysgwyr yn gwerthuso effaith ac yn nodi materion newydd Ystyried beth sydd angen ei wella, beth oedd yn effeithiol
24
ADBORTH
CANL
Yn cael ei rannu gyda dysgwyr, ynglŷn â'r hyn a godwyd
Newidiadau w waith a’u
Oes yna unrhyw
EFFAITH Effaith ar lesiant, dysgu neu fywyd ysgol
MYNEGI BARN Sut mae dysgwyr wedi codi barn, pwy oedd yn rhan o hyn Cyngor yr Ysgol • Arolygon Grwpiau Ffocws Trafodaethau Dosbarth Blychau Awgrymiadau
LYNIAD
GWEITHREDU
wedi’u rhoi ar u monitro
Mae'r ysgol yn adolygu adborth ac yn cytuno ar gamau gweithredu mewn ymgynghoriad â dysgwyr
w effaith wedi bod?
25
Adolygu ac adrodd Sut mae ysgolion yn dangos tystiolaeth o beth neu sut maen nhw'n bodloni'r Cod ac effaith ymgysylltiad eu dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau? Mae hwn yn faes hollbwysig o fewn cydymffurfiaeth â'r Cod, bydd adolygu'r ymrwymiad yn rheolaidd gyda dysgwyr 6ed dosbarth yn darparu llwybr llawer cliriach o sut rydych chi'n gweithredu ac yn gwreiddio’r Cod.
Awgrym: Byddai gwneud yr ymrwymiad yn eitem drafod reolaidd yng nghyfarfodydd cyngor yr ysgol yn ffordd wych o sicrhau bod yr ymrwymiad yn cael ei adolygu'n gyson ac yn codi ymwybyddiaeth pob dysgwr o'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Dyma enghraifft o dasg gwerthuso/adolygu y gellid ei chynnal gyda dysgwyr 6ed dosbarth fel rhan o adolygu'r ymrwymiad a gwerthuso ei effeithiolrwydd. Dyma weithgaredd a all eich cynorthwyo i ganfod a yw'r 9 Egwyddor eisoes wedi’i wreiddio yn eich lleoliad, a ydyn nhw rywfaint o’r ffordd yno, neu nad ydyn nhw'n bresennol eto. Bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn eich cefnogi i werthuso effeithiolrwydd eich ymgysylltu â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau.
26
Gweithgaredd Egwyddorion Hyd y Sesiwn – 35 Munud
Amser: 12:30pm i 1:05pm
Nod y sesiwn Egwyddorion yw dadansoddi 9 Egwyddor y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Treuliwch 15 munud gyda'ch gilydd yn darllen ac yn rhannu'r Egwyddorion. Eglurwch yr Egwyddorion rhwng pob grŵp gan y gall dealltwriaeth amrywio, dadansoddwch bwrpas pob Egwyddor a thrafodwch a yw'r Egwyddor yn bresennol yn y lleoliad. Ar gyfer y gweithgaredd bydd pob grŵp yn cael nodiadau gludiog lle mae'n rhaid iddyn nhw ysgrifennu Egwyddor 1, Egwyddor 2 ac ati. Bydd gofyn i grwpiau baru pob Egwyddor ag enghreifftiau ysgol go iawn gyda'r penawdau canlynol: • “Mae hyn yn digwydd yn dda” • “Mae angen i hyn wella” • “Dydy hyn ddim yn digwydd eto” Nod y gweithgaredd hwn yw annog meddwl am yr hyn sy'n bresennol yn yr ysgol a'r hyn sy'n effeithiol a'r hyn sydd ei angen ar y lleoliad i weithredu'r Cod yn llwyddiannus. Mae'n bwysig cofio mai pwrpas y sesiwn hon yw creu trafodaeth agored; nid oes beirniadaeth, ond mae'n annog myfyrio ar gyfle ac ymarfer. Wrth gwrs, bydd gwahanol safbwyntiau, ond rhaid i bob grŵp rannu eu hadborth a'u rhesymeg pam eu bod yn teimlo bod Egwyddor yn bresennol neu'n effeithiol. Gall hyn amlygu elfen na sylwyd arni i un grŵp. Gellir defnyddio'r wybodaeth o'r gweithgaredd uchod i adolygu'r ymrwymiad i ymgysylltu â dysgwyr, gan gynnwys casglu enghreifftiau o’r effaith.
A ydym yn cydnabod yr effaith a'r manteision y gall gwreiddio ymgysylltu â dysgwyr yn ein lleoliad eu dwyn – mewn meysydd fel dysgu ac addysgu, cyrhaeddiad, perthnasoedd a diwylliant ac ethos? Bydd llawer o feysydd yn cael eu hamlygu sy'n darparu tystiolaeth o effaith gadarnhaol a dylanwad newid mewn gwneud penderfyniadau os caiff Egwyddorion y Cod eu hystyried. Mae dysgwyr yn awgrymu bod dathlu llwyddiant yr un mor bwysig â dangos tystiolaeth o feysydd i'w gwella. 27
Geirfa a dolenni defnyddiol Diffiniadau a thermau allweddol 'Dysgwr' Defnyddir y term dysgwr wrth gyfeirio at unigolion sy'n astudio/dysgu mewn lleoliad addysg drydyddol. 'Trydyddol' Trydyddol yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio addysg ôl-16, fel 6ed dosbarth mewn ysgolion mewn lleoliad a gynhelir, colegau, prentisiaethau a phrifysgolion. ‘Ymgysylltu â Dysgwyr’ Disgrifir ymgysylltu â dysgwyr fel dwyn ynghyd neu gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan/bod yn rhan o wneud penderfyniadau gan eu darparwr. Sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynrychioli'n effeithiol ym mhrosesau gwneud penderfyniadau darparwyr a bod ganddynt gyfle i fynegi eu barn ar eu haddysg a materion sy'n peri pryder neu ddiddordeb iddynt. 'Darparwr' Eich ysgol neu'ch lleoliad yw'r darparwr. Dyma'r sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu addysg a chyfleoedd i ddysgwyr. 'Ymrwymiad' Dogfen orfodol y mae darparwyr yn cytuno iddi ac yn ei llofnodi, dogfen sy'n amlinellu sut mae darparwyr yn bwriadu i wreiddio a chefnogi ymgysylltu â dysgwyr sy’n fwy effeithiol ac ystyrlon yn eu prosesau gwneud penderfyniadau. ‘Y Broses Gwneud Penderfyniadau’ Proses lle bydd dysgwyr yn cael eu cynnwys o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol y broses. O'r camau cynllunio a syniadau cynnar i newid a’r broses ddysgu ehangach.
28
Canllawiau statudol Canllawiau i gyrff llywodraethu ar sefydlu a gweithredu cynghorau ysgol [HTML] | LLYW.CYMRU diweddarwyd 2025 Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005
Canllawiau arfer da a gwybodaeth Comisiynydd Plant Cymru - Y Ffordd Gywir - Addysg 2011 GYDA’N GILYDD: Creu cyngor ysgol uwchradd gryf sy’n cynrychioli pawb – Comisiynydd Plant Cymru 2021 Safonau cyfranogiad cenedlaethol plant a phobl ifanc | LLYW.CYMRU 2018
29