Skip to main content

CIW Medr Guide Learners (Cymraeg)

Page 1

Canllaw i weithredu a gwreiddio’r

Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ar gyfer Dysgwyr 6ed Dosbarth


Nod y canllaw hwn yw helpu dysgwyr mewn ysgolion 6ed dosbarth i ddeall Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr a sut allwch chi sicrhau bod y Cod yn cael ei wreiddio a'i weithredu'n llwyddiannus a sut allwch chi chwarae rhan hanfodol mewn gwneud penderfyniadau gyda'ch ysgol. Bydd y canllaw yn trafod beth yw ymgysylltu â dysgwyr, yn cyflwyno'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, gan egluro beth mae hyn yn ei olygu i chi fel dysgwr 6ed dosbarth a bydd yn cynnig dealltwriaeth o sut y dylid bwrw ymlaen â'r Cod hwn mewn ysgolion ac, yn bwysig, eich rôl chi o fewn hynny. Medr sydd yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae hyn yn golygu eu bod yn sicrhau bod chweched dosbarth ysgolion, colegau, darparwyr prentisiaethau a dysgu i oedolion a phrifysgolion yn dilyn y rheoliadau perthnasol. Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu'r canllaw canlynol gan ddefnyddio dull cydgynhyrchu yn cynnwys dysgwyr 6ed dosbarth ledled Cymru. Diolch arbennig i: Ysgol Uwchradd Penarlâg, Sir y Fflint Ysgol Calon Cymru, Llandrindod Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin

2


Cynnwys Beth yw ymgysylltu â dysgwyr? ............................................................................................. 4 Cyfleoedd ymgysylltu â dysgwyr ........................................................................................... 5 Map taith y dysgwr ................................................................................................................... 6 Beth yw'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr? ................................................................................. 9 Y 9 Egwyddor .......................................................................................................................... 10 Sut mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn gweithio i chi'r dysgwr .................................. 12 Cwestiwn allweddol i ddysgwyr .......................................................................................... 13 Ydych chi'n gallu cymryd rhan? ............................................................................................ 14 Disgwyliadau a chyfrifoldeb ................................................................................................. 15 Sut mae dysgwyr yn herio mewn ffordd gadarnhaol ....................................................... 17 Dolen Adborth: Creu strwythur ar gyfer adrodd ar adborth dysgwyr ........................... 17 Ymrwymiad cydweithredol .................................................................................................. 22 Rhoi gwybod i ddysgwyr eraill ............................................................................................. 24 Rôl y disgybl-lywodraethwr cyswllt .................................................................................... 25 Geirfa a dolenni defnyddiol ................................................................................................. 26

3


Beth yw ymgysylltu â dysgwyr? Ymgysylltu â dysgwyr yw "Cyfranogiad gweithredol ac ystyrlon dysgwyr (chi) ym mhroses gwneud penderfyniadau eu darparwr (eich ysgol)" Mae ymgysylltu â dysgwyr yn galluogi dysgwyr i gael dylanwad, creu newid pan fo modd a dylanwadu ar eich dysgu eich hunain yn amgylchedd eich ysgol. Dylai ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr roi cyfle i ddysgwyr 6ed dosbarth fynegi eu barn i'w darparwyr (ysgol) mewn lle diogel, yn rhydd rhag beirniadaeth, ar faterion neu bryderon ynghylch yr addysg, y cyfleoedd a'r ddarpariaeth maen nhw'n eu derbyn. Bydd cael ymgysylltiad gweithredol ac ystyrlon yn y broses o wneud penderfyniadau gyda'ch ysgol yn cynnig profiad cadarnhaol. Pan fyddwch chi fel dysgwr yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, mae'n sicrhau bod eich buddiannau'n cael eu cynrychioli'n llawn, yn y ffyrdd mwyaf effeithiol. Dylai eich ysgol (darparwr) fod yn creu cyfleoedd i ddysgwyr y 6ed dosbarth fynegi eu syniadau eu hunain ar gyfer mentrau, polisïau neu brosiectau i'w harchwilio, yn hytrach na dim ond ymgynghori â nhw ar bynciau a bennir gan arweinyddiaeth yr ysgol.

PWYSIG: Mae mecanweithiau (ffyrdd o gymryd rhan) a chyfleoedd yn hanfodol i ddysgwyr gael ymgysylltu'n ddilys ond nid yw'r cyfleoedd hyn yn golygu bod modd newid popeth rydych chi eisiau cael dweud eich dweud amdano, mae'n golygu cael deialog gadarnhaol a llywio cyfleoedd posibl lle mae hyn yn bosibl i'ch ysgol.

4


Cyfleoedd ymgysylltu â dysgwyr Fel dysgwr 6ed dosbarth, mae gennych hawl i gael eich cynnwys mewn penderfyniadau y mae eich ysgol yn eu gwneud am eich dysgu, cyfleoedd a darpariaeth os dewiswch hynny. Ymgysylltu â dysgwyr yw'r llwybr i chi fel y dysgwr gael effaith o fewn amgylchedd eich ysgol. Pan fydd eich ysgol yn cynnig mecanweithiau i chi wneud hyn, mae'n creu cyfle ar gyfer ymgysylltu dilys â dysgwyr.

Cael cyfle i ddefnyddio eich llais a chael effaith. Efallai eich bod eisoes yn gweld cyfleoedd fel cynghorau ysgol traddodiadol, prif fachgen a phrif ferch; fodd bynnag, rhaid i ymgysylltu ymestyn y tu hwnt i'r rheiny. Mae'r canlynol yn dangos sut mae dysgwyr yn gweld ymgysylltiad cadarnhaol a pha gyfleoedd all fodoli o fewn lleoliadau ysgol. Mae hyn yn cefnogi cael llawer o ffyrdd a dulliau i chi ymgysylltu a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, gan amlygu bod meysydd eisoes lle mae ymgysylltu â dysgwyr yn bresennol mewn llawer o ysgolion. Efallai y bydd rhai o'r rhain yn gyfarwydd iawn i chi.

5


Map taith y dysgwr Hyrwyddwyr Ifanc, Grwpiau LHDTC+ Mentoriaid Cyfoedion Dechreuwyd grŵp theatr i hybu hyder Cymorth Cyfoedion

Rhyfelwyr Lles a Llysgenhadon Iechyd Meddwl Llysgenhadon Lles

Gweithdai sy'n seiliedig ar hawliau Deall eu hawliau eu hunain fel Plentyn/Person Ifanc

Llais y Disgybl 6

Biniau Mislif Cais dysgwr yn unol â chamau gweithredu’r llywodraeth ar dlodi mislif Arweinwyr Chwaraeon a’r Cyngor Chwaraeon Arweinwyr iechyd a ffordd o fyw

Disgyblion gwrywaidd yn gwisgo sgertiau a’r rhai benywaidd yn gwisgo siorts mewn protest yn erbyn newid gwisg ysgol Dysgwyr yn Gweithredu

Newidiadau i gwricwlwm yr ysgol, TGAU yn y Dyniaetha Ymgynghoriad Llais y Dysgwr Tîm P y 6ed Arwe

Cyrtiau chwaraeon awyr agored, cyfleusterau newid ac addurno mannau’r ysgol Byw'n egnïol

Sesiynau Llai Capteiniaid D Chynrychiolw Cyfranogiad G


au

Prif Ddisgyblion d Dosbarth einwyr cefnogol

Senedd yr Ysgol a Chyngor yr Ysgol Cyfranogiad grŵp gweithredol

Gwobrau Criw Cymraeg Gwreiddio diwylliant o fewn eu hysgol

Cyfle profiad gwaith a cheisiadau prifysgol Ymgysylltu â llais y dysgwr i ganfod cyfleoedd

Cefnogi’r Ysgol Isaf Cymorth gan Gymheiriaid

Trawsnewidiadau Newidiadau i ôl-16 a Sesiwn EMA gerddoriaeth Lefel Ymgynghoriad gweithredol A yn yr ysgol â dysgwyr drwy arolygon Trafodaethau gweithredol gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Llywodraethwyr yr Ysgol

is y Disgybl, Dosbarth a wyr Dosbarth Gweithredol

Newid cludiant ysgol Llythyr wedi'i ysgrifennu gan y 6ed dosbarth at y cyfarwyddwr addysg

Adolygiad Polisi ysgolion Arwain wrth wneud penderfyniadau

7


Mae'n bwysig deall pa gyfleoedd i ymgysylltu â dysgwyr sydd eisoes yn bodoli yn eich ysgol a pha fath o gyfleoedd i wneud penderfyniadau y gallwch chi fod yn rhan ohonynt.

iadau go iawn

Cynnal fforymau llais dysgwyr gyda chanlyn

Cynnwys dysgwyr mewn adolygiadau polisi Rolau arweinyddiaeth dysgwyr Adnoddau a grëwyd ar y cyd: Mae dysgwyr yn helpu i ddylunio arddangosfeydd lles, ymgyrchoedd gwrth-stigma, neu’n cael bod yn rhan o wefan yr ysgol Cyflwyno sesiynau neu wersi lles yn ystod diwrnodau ABCh neu wersi i ysgolion iau

Cefnogi adrannau gyda theithiau ysgol, clybiau amser cinio neu ar ôl ysgol Bod yn rhan o ddiwrnodau neu nosweithiau agored yr ysgol yn rhannu eu profiad bywyd fel dysgwr chweched dosbarth yng nghymuned yr ysgol ity groups on projects

Collaborating with other schools or commun

Dysgwyr yn cyfrannu syniadau ar gyfer gwersi, asesiadau neu adnoddau dysgu Pwyllgorau a phrosiectau dan arweiniad dysgwyr th yr ysgol

Cynnig cwricwlwm ac amserlennu 6ed dosbar

8


Beth yw'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr? Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn ofyniad gorfodol sy'n golygu bod rhaid i’r Cod hwn gael ei gymhwyso yn eich ysgol gan gorff llywodraethu’r ysgol a'r ysgol ei hun ar gyfer dysgwyr y 6ed dosbarth. Prif bwrpas y Cod hwn yw sicrhau bod gennych chi fel dysgwyr 6ed dosbarth gyfle nid yn unig i gael eich lleisiau wedi’u clywed ond hefyd i gael cyfle i gymryd rhan ystyrlon a bod yn rhan o wneud penderfyniadau o fewn amgylchedd eich ysgol, gan gyfrannu at benderfyniadau sydd o bryder neu ddiddordeb i chi. Mae 9 Egwyddor yn y cod. Rhaid i ysgolion ystyried y 9 Egwyddor hyn fel rhan o’ch ymgysylltu â dysgwyr a rhaid dangos sut maent yn cyflawni’r rhain ac yn galluogi ymgysylltu effeithiol â dysgwyr i ddigwydd yn eich lleoliad ysgol. Y 9 Egwyddor yw:

Wedi’i wreiddio Yn Cael ei Werthfawrogi Yn Gynhwysol

Yn Cael ei Ddeall

Yn Ddwyieithog

Yn Cael Effaith

Yn Unigol ac yn Gyfunol

Yn Cael Digon o Adnoddau

Yn Cael ei Werthuso Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

9


Y 9 Egwyddor

Wedi’i wreiddio Mae cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau wedi'u plethu drwy bob agwedd ar y daith addysgol a thrwy'r holl benderfyniadau sy'n effeithio ar ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol.

Yn Cael ei Werthfawrogi Dysgwyr yn cael eu gwrando arnynt a’u grymuso i lywio eu profiad dysgu trwy gymryd rhan yn ei brosesau gwneud penderfyniadau.

Yn Gynhwysol Mae cyfleoedd ymgysylltu yn adlewyrchu amrywiol anghenion, diddordebau a galluoedd dysgwyr.

Yn Cael Effaith Mae ymgysylltu’n arwain at ddeialog barhaus, canlyniadau gweladwy a gwelliannau sy’n fuddiol i’r a dysgwyr y dyfodol.

10

Yn Cael Digon o Adnoddau Mae adnoddau priodol yn cael eu dyrannu er mwyn sicrhau y caiff holl ddysgwyr gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.


Yn Cael ei Ddeall Mae dysgwyr yn gwybod ble a sut i godi syniadau a rhannu meddyliau ynglŷn â materion sy'n bwysig iddyn nhw a'r rhai a gaiff eu codi gan eu darparwr.

Yn Ddwyieithog Gall dysgwyr gymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg a dylanwadu ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Yn Unigol ac yn Gyfunol Caiff dysgwyr eu helpu i gymryd rhan yn unigol ac ar y cyd, gan rannueu lleisiau i lywio'r profiad dysgu.

Yn Cael ei Werthuso Mae darparwyr mynd ati’n rheolaidd i werthuso’r ffordd y mae’n ymgysylltu â dysgwyr, gan weithio gyda dysgwyr i adnabod cryfderau, gwelliannau a datblygiadau yn y dyfodol. 11


Sut mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn gweithio i chi'r dysgwr Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn darparu canllawiau i gyrff llywodraethu ac ysgolion i sicrhau bod cyfleoedd a mecanweithiau ar waith i chi gymryd rhan ac, yn bwysicach fyth, dangos sut maen nhw'n gwneud hyn a pha mor effeithiol ydyw.

Fel dysgwr 6ed dosbarth, rydych chi'n chwarae rhan bwysig gan fod y Cod yn nodi bod yn rhaid i ysgolion weithio gyda'u dysgwyr 6ed dosbarth i fodloni 9 Egwyddor y Cod drwy: datblygu ∙ cyhoeddi ∙ adolygu ymrwymiad ffurfiol i ymgysylltu â dysgwyr. (Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth i gefnogi datblygu’r ymrwymiad ar dudalennau 22-23 o'r canllaw hwn)

Rhaid datblygu a chyhoeddi'r ymrwymiad hwn o fewn y flwyddyn academaidd lawn gyntaf (2026-27). Mae datblygu partneriaeth gyda chyrff llywodraethu, ysgolion a dysgwyr 6ed dosbarth yn hanfodol i’ch galluogi chi i: • Gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau perthnasol gan eich darparwr (ysgol) • Cael eich lleisiau wedi'u cynrychioli'n effeithiol ym mhroses gwneud penderfyniadau eich darparwr (ysgol) • Rhoi eich barn ar yr addysg rydych chi'n ei derbyn

12


Cwestiwn allweddol i ddysgwyr Ydych chi'n gwybod ble allwch chi fynd i rannu eich syniadau, meddyliau, teimladau neu farn am amgylchedd eich ysgol?

Bydd llawer o ysgolion yn defnyddio rhai o'r dulliau canlynol i ymgysylltu â dysgwyr. Os nad yw'r rhain yn bresennol yn eich ysgol, efallai y gallech awgrymu defnyddio un: • Defnyddio adborth dysgwyr o arolygon a blychau awgrymiadau i lywio cynllunio a gwneud penderfyniadau • Dysgwyr y 6ed dosbarth yn cael cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr blwyddyn neu gapteiniaid dosbarth i ddeall adborth dysgwyr ac i rannu hyn gyda'r ysgol • Cyfarfodydd llais y dysgwr bob hanner tymor lle gall dysgwyr rannu adborth gyda'r ysgol a chlywed beth sydd wedi bod yn newid mewn ymateb i drafodaethau blaenorol Drwy gael arolwg neu sesiwn ddosbarth mwy gallwch gael llais a barn cynulleidfa ehangach. Mae hyn yn golygu nad gwybodaeth gan ddysgwyr sydd eisoes mewn swyddi neu rolau arweiniol yn unig sy’n cael ei chynnig. Mae'r math hwn o fecanwaith yn agor y drws i holl ddysgwyr yr ysgol gael eu clywed.

13


Ydych chi'n gallu cymryd rhan? Rhestr wirio gyflym Cynhyrchwyd y rhestr wirio ganlynol gan ddysgwyr i'ch helpu i feddwl a ydych chi'n cael cyfleoedd i fod yn rhan o wneud penderfyniadau yn eich ysgol yn unol â 9 Egwyddor y Cod, ac os felly, sut rydych yn cael y cyfleoedd hynny. Gofynnwch i chi’ch hunain: Ydych chi'n gwybod sut i ddod yn rhan o ymgysylltu â dysgwyr? Ydych chi'n teimlo bod gennych chi gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau? Ydych chi'n gwybod pa fecanweithiau neu gyfleoedd sydd ar gael yn eich ysgol i chi wneud hyn? A ydych chi'n gwybod ble i fynd i rannu eich syniadau y tu hwnt i'r grwpiau neu'r cynghorau sydd eisoes ar waith? Ydych chi'n gwybod sut i fynegi barn neu bryderon? Ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich gwerthfawrogi a'ch cefnogi i fynegi eich barn mewn amgylchedd cyfforddus? Ydych chi'n teimlo bod eich ysgol yn hyrwyddo ymgysylltu â dysgwyr? A oes gennych chi fynediad at adnoddau dwyieithog? Ydych chi'n teimlo y gallwch chi wneud gwahaniaeth a dylanwadu ar newid? A ydych chi'n gwybod pa bryd y bydd adborth yn cael ei weithredu arno? A ydych chi'n gwybod beth all dysgwyr ei newid, effeithio arno neu ddylanwadu arno?

14


Disgwyliadau a chyfrifoldeb Unwaith y byddwch chi'n gwybod pa fecanweithiau sy'n bodoli ac yn teimlo y gallwch chi gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon yn amgylchedd eich ysgol, mae'n bwysig ystyried a deall disgwyliadau a chyfrifoldeb dysgwyr. Fel dysgwr bydd angen i chi reoli eich disgwyliadau ynghylch yr hyn y gallwch ei newid a dylanwadu arno. Mae rhai pynciau o fewn yr ysgol y tu hwnt i reolaeth yr ysgol o ran galluogi ymgysylltu â dysgwyr. Byddai'n afrealistig meddwl y gall dysgwyr effeithio ar yr holl newidiadau yn yr ysgol. Er enghraifft, nid yw pob newid yn yr ysgol yn cael ei wneud gan uwch dimau arweinyddiaeth, mae rhai yn cael eu gwneud gan y llywodraeth, a'r awdurdod lleol. Bydd yn rhaid i ysgolion lynu wrth rai o'r rhain gan wneud newid yn anodd ac yn y pen draw ni fydd yn eich galluogi chi fel y dysgwr i ddylanwadu ar newid o fewn lleoliad yr ysgol gan ei fod y tu hwnt i’w rheolaeth nhw. Dyma rai o'r pethau y mae gan y llywodraeth a'r rheoleiddiwr reolaeth drostynt: • Faint o gyllid mae'r ysgol yn ei dderbyn bob blwyddyn academaidd • Pa ddyddiadau y cynhelir arholiadau ar gyfer Lefelau UG neu Lefel A • Pa ddyddiadau mae gwyliau’r ysgol Dyma rai o'r pethau y bydd ysgolion yn eu gwneud ac na fydd dysgwyr yn rhan ohonyn nhw:Sut mae'r rhan fwyaf o gyllid yr ysgol yn cael ei wario • Pa ddyddiad y cynhelir arholiadau diwedd blwyddyn • Penderfynu pa bryd mae diwrnodau HMS yn digwydd Rôl corff llywodraethu ysgol yw sicrhau bod ysgolion yn dilyn rheolau a chanllawiau penodol a osodwyd gan yr awdurdod lleol, y llywodraeth a'r rheoleiddiwr. Er na all dysgwyr fod yn rhan o bob newid ym mywyd yr ysgol, mae'n bwysig cofio y gall dysgwyr ddylanwadu ar lawer o benderfyniadau er hynny.

15


Cyfrifoldeb yr Ysgol

Cyfrifoldeb y Dysgwr

Sicrhau eu bod yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu

Cymryd rhan weithredol yn y cyfleoedd sydd ar gael

Cefnogi ymgysylltu dwyieithog

Defnyddio cyfleoedd i gymryd rhan yn y Gymraeg a/neu'r Saesneg

Gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynnwys yn y Cod a'r ymrwymiad

Gweithio ar y cyd â'ch ysgol

Cymryd barn y dysgwyr o ddifrif a gwerthfawrogi’r safbwyntiau hynny

Gwrando ar safbwyntiau pobl eraill a'u parchu

Sicrhau eich bod chi’n deall sut allwch chi gymryd rhan a mynegi eich barn

Rhannu safbwyntiau, syniadau a phryderon yn barchus

Sicrhau proses dolen adborth effeithiol

Rhoi adborth ar effaith penderfyniadau

Dyrannu amser ac adnoddau i ymgysylltu â dysgwyr

16


Sut mae dysgwyr yn herio mewn ffordd gadarnhaol Meddyliwch am sut y byddwch chi'n herio'ch ysgol os nad ydych chi'n hapus ag ymateb neu ganlyniad. Mae herio neu fynegi siom yn hanfodol ar adegau, ond rhaid ei wneud mewn modd adeiladol a rheoledig, sy'n codi pwyntiau dilys yn unig. Mae'n hanfodol bwysig bod dysgwyr yn herio pan fo angen, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn barchus bob amser. Yr hyn sy'n hanfodol yn yr achos hwn o herio effeithiol yw osgoi cwyno dim ond oherwydd nad yw ysgolion yn gallu anrhydeddu yna gweithredu ar eich syniadau neu'ch dymuniadau. Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn offeryn i sicrhau bod gennych ffyrdd effeithiol o gymryd rhan ystyrlon a dilys i effeithio a dylanwadu ar newid yn eich ysgol; fodd bynnag, nid yw’n fforwm agored i ddim ond cwyno am yr hyn nad yw dysgwyr yn ei hoffi neu y maen nhw’n anhapus amdano yn eich ysgol.

Dolen Adborth: Creu strwythur ar gyfer adrodd ar adborth dysgwyr Mae deall adborth yn hanfodol, mae hefyd yn ddull cyfrifol i bawb sy'n gysylltiedig. Mae cael gwybod am y gwahaniaethau rydych chi wedi'u gwneud drwy gymryd rhan, yn ogystal â sut mae eich syniadau wedi cael eu gwrando arnynt, yn gwneud i chi deimlo'n fwy gwerthfawr dros gymryd rhan gyda dealltwriaeth glir o pam mae rhai penderfyniadau wedi'u gwneud. Annog yr ysgol i: • Adborth i chi hyd yn oed os nad oes canlyniad • Adborth i chi os na ellir ystyried y cais hwnnw • Eglurwch pam eu bod wedi gwneud penderfyniad/gweithred • Dechreuwch ddeialog agored i drafod atebion eraill

17


MATER AC ATEBION AWGRYMEDIG Mae dysgwyr yn nodi pryder, rhwystr neu gyfle Darparu ateb neu syniadau

ADOLYGU Mae dysgwyr yn gwerthuso effaith ac yn nodi materion newydd Ystyried beth sydd angen ei wella, beth oedd yn effeithiol

18

ADBORTH

CANL

Yn cael ei rannu gyda dysgwyr, ynglŷn â'r hyn a godwyd

Newidiadau w waith a’u

Oes yna unrhyw


EFFAITH Effaith ar les, dysgu neu fywyd ysgol

MYNEGI BARN Sut mae dysgwyr wedi codi barn, pwy oedd yn rhan o hyn Cyngor yr Ysgol • Arolygon Grwpiau Ffocws Trafodaethau Dosbarth Blychau Awgrymiadau

LYNIAD

GWEITHREDU

wedi’u rhoi ar u monitro

Mae'r ysgol yn adolygu adborth ac yn cytuno ar gamau gweithredu mewn ymgynghoriad â dysgwyr

w effaith wedi bod?

19


Dylai fod proses ar waith i roi adborth ar syniadau dysgwyr i benderfynwyr uwch ac yn bwysicach fyth yn ôl i chi fel y dysgwr. Dulliau Posibl: Gwasanaethau 'Fe Ddywedoch Chi, Fe Wnaethom Ni' – dangos i ddysgwyr bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu pryderon yn bwysig. Amser Cylch Adborth mewn grwpiau tiwtor/cofrestru lle gellir rhoi adborth i ddysgwyr Ffurflenni Adborth yn cael eu cwblhau a'u rhannu gyda dysgwyr

20


Ffurflen ymateb adborth ymgysylltu â dysgwyr Enw'r ysgol: Dyddiad yr adborth: Mecanwaith ymgysylltu â dysgwyr: Mater neu awgrym a godwyd Yr hyn a ddywedodd y dysgwyr wrthym: Beth wnaethon ni Rydym wedi gweithredu ar yr awgrym hwn. Rydym wedi gweithredu’n rhannol ar yr awgrym hwn. Rydym yn dal i archwilio'r awgrym hwn. Ni allwn fwrw ymlaen â'r awgrym hwn ar hyn o bryd. Camau a gymerwyd/a gynllunnir:

Pam? Eglurwch y penderfyniad a wnaed, os gwelwch yn dda:

Effaith Sut fydd hyn yn gwella profiadau dysgwyr? Sut gall dysgwyr gymryd rhan? Neges i ddysgwyr Diolch am rannu eich barn. Mae eich adborth yn ein helpu i wella ein hysgol a gwneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i ddysgwyr. Da chi, daliwch ati i rannu eich syniadau a'ch barn. Dyddiad adolygu Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr eto ar: Wedi'i gwblhau gan: Rôl: 21


Ymrwymiad cydweithredol Fel rhan o'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr mae yna ymrwymiad y mae angen ei gyd-greu rhwng y darparwr (yr ysgol) a'r dysgwyr (chi). Mae proses o gyd-gynhyrchu yn allweddol i'r ymrwymiad cydweithredol hwn, mae hyn yn golygu bod angen iddyn nhw weithio gyda chi. Gan weithio ar y cyd ag ysgolion, gall dysgwyr y 6ed dosbarth rannu’r hyn y maent yn teimlo y mae angen i’r ysgol ei wneud i gynnal Egwyddorion y Cod a gall darparwyr rannu’r hyn y maent yn ei ystyried yn gyraeddadwy i weithredu’r Cod. Yma bydd gennych gydbwysedd pŵer a rennir a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed mewn lle diogel, sy'n adeiladol wrth greu’r ymrwymiad.

PWYSIG: Rhaid i ddysgwyr gael cymryd rhan yn y datblygiad Rhaid i ddysgwyr gael cymryd rhan yn yr adolygiad blynyddol Rhaid ei hyrwyddo mewn ffyrdd hygyrch i ddysgwyr

Enghraifft o Ymrwymiad Enghraifft o sut olwg fyddai ar ymrwymiad gorffenedig yr oedd dysgwyr yn rhan ohono a’r hyn y gallai ei gynnwys:

22


Ymrwymiad Ymgysylltu â Dysgwyr Datganiad Ymrwymiad Ymgysylltu â Dysgwyr Mae [Enw'r Ysgol] wedi ymrwymo i greu diwylliant lle mae dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses o lywio eu profiad addysgol. Mae'r ymrwymiad hwn yn amlinellu sut y bydd dysgwyr yn cael eu gwrando arnyn nhw a'u cynnwys mewn gwneud penderfyniadau.

Diben Diben yr ymrwymiad hwn yw: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Sut Caiff Ymgysylltu â Dysgwyr ei Wreiddio

Cynrychiolaeth a Chynhwysiant Dysgwyr

Mae ymgysylltu â dysgwyr wedi’i wreiddio o fewn systemau a phrosesau ysgolion presennol, mae'r rhain yn cynnwys: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd i ymgysylltu â dysgwyr yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gynrychioliadol o amrywiaeth y boblogaeth dysgwyr.

Caiff adborth ei gyfleu i ddysgwyr drwy sianeli adborth y cytunwyd arnynt.

Bydd yr ysgol yn adolygu lefelau cyfranogiad yn rheolaidd i sicrhau bod ystod eang o leisiau dysgwyr yn cael eu clywed a'u cynrychioli.

Sut mae Dysgwyr wedi bod yn Rhan o Greu'r Ymrwymiad hwn

Dolenni i Bolisïau, Cynlluniau ac Adnoddau Perthnasol

Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i lywio trwy ymgysylltu â dysgwyr gan ddefnyddio mecanweithiau cyfranogiad presennol. Mae dysgwyr wedi cyfrannu drwy: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Dylid darllen yr ymrwymiad hwn ochr yn ochr â dogfennau perthnasol yr ysgol a'r awdurdod lleol, gan gynnwys: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Monitro ac Adolygu Bydd effeithiolrwydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fonitro drwy: [ychwanegwch enghreifftiau/ gwybodaeth yma] Bydd yr ysgol yn parhau i adolygu'r ymrwymiad hwn gyda dysgwyr i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.

Cymeradwyaeth a Chyhoeddi

Datganiad Ymrwymiad

Wedi'i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethu: _______________________________

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan holl ddysgwyr gyfleoedd i rannu eu barn, dylanwadu ar benderfyniadau, a cyfrannu at ddatblygiad parhaus cymuned ein hysgol. Drwy fecanweithiau ymgysylltu cynhwysol a hygyrch, byddwn yn gwrando ar ddysgwyr, yn ymateb i'w hadborth, ac yn cydweithio i wella canlyniadau i bawb."

Dyddiad Cymeradwyo: _______________________________ Cyhoeddwyd: _______________________________ Dyddiad Adolygu: _______________________________

23


Rhoi gwybod i ddysgwyr eraill Er mwyn i’r Cod gael ei wreiddio a’i roi ar waith, mae'n bwysig rhannu'r wybodaeth hon gyda dysgwyr eraill a chael cymaint o ddysgwyr â phosibl i gymryd rhan mewn llywio penderfyniadau o fewn yr ysgol. Unwaith y bydd yr ymrwymiad wedi'i ddatblygu, meddyliwch am ffyrdd y gallwch chi ledaenu hyn i eraill:

Syniadau • Creu posteri/taflenni • Dangos yr ymrwymiad o amgylch amgylchedd yr ysgol • Creu platfform digidol y gall yr ymrwymiad fodoli arno lle gall dysgwyr ei gyrchu • Llysgenhadon Cod Ymgysylltu â Dysgwyr – yn cymryd cyfrifoldeb i ymgysylltu ag eraill a lledaenu’r gair am y Cod • Cael pobl i siarad amdano – Cynnal gwasanaethau neu drafod mewn gwersi ABCh neu lesiant • Cyflwyno dan Arweiniad Cyfoedion – dysgwyr 6ed dosbarth yn cyflwyno gwersi neu weithdai ar y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.

24


Rôl y disgybl-lywodraethwr cyswllt Mae'r rôl hon yn gyfle delfrydol i gysylltu â llywodraethwyr yr ysgol a gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng dysgwyr y 6ed dosbarth a'r ysgol. Gall y rôl hon fod yn gyfle i ddysgwyr, gyda chefnogaeth, fod yn rhan o'r corff llywodraethu ehangach. Gallai hyn helpu i wreiddio’r Cod ond hefyd ddarparu deialog effeithiol gyda'r dysgwyr yn uniongyrchol i gyrff llywodraethu.

PWYSIG: Nid oes angen i'r rôl hon fynd yn awtomatig i brif ferch/bachgen na chynrychiolydd dosbarth. Byddai agor y cyfle hwn i ddysgwyr eraill yn ffordd effeithiol o gasglu mwy o fewnbwn a chynhwysiant gan ddysgwyr yn unol â 9 Egwyddor y cod. Bydd angen digon o gefnogaeth arnoch i sicrhau eich bod yn gallu ymgymryd â'r rôl hon yn effeithiol. Yn y rhan fwyaf o achosion gall rhannu'r rôl hon gyda dysgwr arall helpu. Hyfforddiant neu gefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol: • Deall sut mae corff llywodraethu yn gweithio • Pwy sydd ar y corff llywodraethu? • Pa rolau sydd yna? • Lle ydych chi’n ffitio? • Beth sy'n ddisgwyliedig gennych chi? • Sut i gynnwys y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr mewn cyfarfodydd llywodraethwyr Corff Llywodraethu

Gwreiddio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

Darparwr (ysgol)

Dysgwr 6ed Dosbarth 25


Geirfa a dolenni defnyddiol Diffiniadau a thermau allweddol 'Dysgwr' Defnyddir y term dysgwr wrth gyfeirio at unigolion sy'n astudio/dysgu mewn lleoliad addysg drydyddol. 'Trydyddol' Trydyddol yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio addysg ôl-16, fel 6ed dosbarth mewn ysgolion, colegau, prentisiaethau a phrifysgolion. ‘Ymgysylltu â Dysgwyr’ Disgrifir ymgysylltu â dysgwyr fel dwyn ynghyd neu gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan/bod yn rhan o wneud penderfyniadau gan eu darparwr. Sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynrychioli'n effeithiol ym mhroses gwneud penderfyniadau darparwyr a bod ganddynt gyfle i fynegi eu barn ar eu haddysg a materion sy'n peri pryder neu sydd o ddiddordeb iddynt. 'Darparwr' Eich ysgol neu'ch lleoliad yw'r darparwr. Dyma'r sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu addysg a chyfleoedd i ddysgwyr. 'Ymrwymiad' Dogfen orfodol y mae darparwyr yn cytuno iddi ac yn ei llofnodi, dogfen sy'n amlinellu sut mae darparwyr yn bwriadu i wreiddio a chefnogi ymgysylltu â dysgwyr sy’n fwy effeithiol ac ystyrlon yn eu prosesau gwneud penderfyniadau. ‘Y Broses Gwneud Penderfyniadau’ Proses lle bydd dysgwyr yn cael eu cynnwys o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol y broses. O'r camau cynllunio a syniadau cynnar i newid a’r broses ddysgu ehangach. Corff Llywodraethu (Ysgol) Mae corff llywodraethu ysgol yn grŵp o unigolion sy'n gyfrifol am oruchwylio cyfeiriad strategol, rheolaeth ariannol a lles cyffredinol ysgol. Mae fel arfer yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys rhieni, addysgwyr, staff nad ydynt yn addysgu, ac aelodau o'r gymuned. Gorfodol Mae “gorfodol” yn golygu rhywbeth y mae'n rhaid ei wneud neu ei ddilyn — mae'n ofynnol gan reol, cyfraith neu awdurdod ac nid yw'n ddewisol. Yn yr achos hwn, rhaid gwreiddio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a’i roi ar waith mewn ysgolion sydd â chweched dosbarth a rhaid iddo gynnwys dysgwyr y chweched dosbarth. 26


Canllawiau statudol Canllawiau i gyrff llywodraethu ar sefydlu a gweithredu cynghorau ysgol [HTML] | LLYW. CYMRU diweddarwyd 2025 Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005

Canllawiau arfer da a gwybodaeth Comisiynydd Plant Cymru - Y Ffordd Gywir - Addysg 2011 GYDA’N GILYDD: Creu cyngor ysgol uwchradd gryf sy’n cynrychioli pawb – Comisiynydd Plant Cymru 2021 Safonau cyfranogiad cenedlaethol plant a phobl ifanc | LLYW.CYMRU 2018

27


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
CIW Medr Guide Learners (Cymraeg) by childreninwales - Issuu