Skip to main content

CIW Medr Guide Governors (Cymraeg)

Page 1

Canllaw i weithredu a gwreiddio’r

Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ar gyfer Cyrff Llywodraethu


2


Cynnwys Beth yw'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr? ................................................................................. 5 Ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr ............................................................................................ 7 Map taith y dysgwr ................................................................................................................... 8 Y 9 Egwyddor .......................................................................................................................... 10 Rôl corff y llywodraethwyr .................................................................................................... 12 Disgybl-lywodraethwyr cyswllt............................................................................................. 13 Cyfleoedd y gallai dysgwyr fod yn rhan ohonynt ............................................................. 14 Pwysigrwydd yr ymrwymiad ................................................................................................. 15 Enghraifft o ymrwymiad ........................................................................................................ 16 Beth i'w ofyn i ysgolion .......................................................................................................... 18 Rhestr wirio gyflym ................................................................................................................. 19 Dolen Adborth: Creu strwythur ar gyfer adrodd ar adborth dysgwyr ......................... 20 Adolygu ac adrodd ................................................................................................................. 24 Geirfa a dolenni defnyddiol ................................................................................................. 26

3


Nod y canllaw hwn yw helpu a chefnogi cyrff llywodraethu ysgolion â chweched dosbarth a gynhelir gan awdurdodau lleol, i ddeall Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr. Bydd y canllaw yn cefnogi dealltwriaeth o sut y dylai ysgolion ystyried gwreiddio a gweithredu'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn llwyddiannus a'u rôl fel corff llywodraethu o fewn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Bydd y canllaw yn cyflwyno'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, yn egluro'r rheoliadau cydymffurfio sy'n ofynnol ac yn cefnogi cyrff llywodraethu i sicrhau bod ysgolion yn bodloni'r gofynion cyfreithiol yn unol â 9 Egwyddor y Cod. Medr sydd yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu'r canllawiau canlynol gan ddefnyddio dull cydgynhyrchu yn cynnwys dysgwyr 6ed dosbarth ledled Cymru. Diolch arbennig i: Ysgol Uwchradd Penarlâg, Sir y Fflint Ysgol Calon Cymru, Llandrindod Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin

4


Beth yw'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr? Gwybodaeth cydymffurfio Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn ofyniad gorfodol o dan Adran 129 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (TERA) gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod gan ddysgwyr gyfleoedd i fod yn rhan o benderfyniadau eu darparwyr ar gyfer penderfyniadau sy'n peri pryder neu sydd o ddiddordeb iddynt. Mae'r Cod yn berthnasol i bob darparwr yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru: yn yr achos hwn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol sydd â 6ed dosbarth. O dan Adran 101 o TERA, rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gyda chweched dosbarth: • Cydymffurfio â gofynion y Cod • Darparu tystiolaeth i ddangos cydymffurfiaeth â'r Cod a'i effaith

Mae'r Cod ei hun yn nodi'r gofynion penodol y mae'n rhaid i bob darparwr eu bodloni a’r dystiolaeth y mae’n rhaid iddynt ei darparu i Medr i ddangos eu bod yn cydymffurfio. Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

Gwybodaeth ymarferol Mae rhoi’r Cod ar waith mewn ymarfer beunyddiol yn golygu sicrhau y gall dysgwyr 6ed dosbarth gymryd rhan lawn mewn gwneud penderfyniadau ar eu profiad dysgu a’u hamgylchedd eu hunain. Er bod y Cod yn seiliedig ar sylfeini cyfranogiad, mae'n ymwneud â mwy na llais y dysgwr neu fecanweithiau cynghorau ysgol yn unig ac mae gogwydd tuag at ddysgwyr 6ed dosbarth yn ystyried eu taith addysgol a chael cyfleoedd i fod yn rhanddeiliaid o fewn eu lleoliad darparwr. Y prif ffocws yw sicrhau bod cefnogaeth effeithiol yn cael ei darparu ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau yn unol ag Egwyddorion y Cod. Mae datblygu partneriaeth gyda dysgwyr 6ed dosbarth yn hanfodol i alluogi dysgwyr i: • Cymryd rhan yn y broses o pan fo’u darparwr yn gwneud penderfyniadau

perthnasol

• Cael eu lleisiau wedi'u cynrychioli'n effeithiol ym mhroses gwneud penderfyniadau

eu darparwr

• Rhoi eu barn ar yr addysg maen nhw'n ei derbyn a materion sy'n peri pryder neu

sydd o ddiddordeb iddyn nhw

5


PWYSIG: Nid oes gofyniad na disgwyliad i ysgolion sefydlu cyngor na mecanweithiau ymgysylltu ar wahân ar gyfer disgyblion 6ed dosbarth er mwyn bodloni gofynion Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr. Gall ysgolion ddefnyddio mecanweithiau cynrychiolaeth neu ymgysylltu presennol i ymgysylltu â dysgwyr 6ed dosbarth; fodd bynnag, gall ysgolion, os ydynt yn dymuno, greu strwythurau neu brosesau ychwanegol i ymgysylltu â dysgwyr nad ydynt eisoes wedi ymgysylltu. Er bod y gofyniad statudol a monitro gan Medr yn ymwneud â dysgwyr 6ed dosbarth yn unig, gall ysgolion ddewis mabwysiadu dull ysgol gyfan o ymgysylltu â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ac yn eu hymrwymiadau cyhoeddedig.

Mae Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr yn cyflwyno gofyniad statudol i ysgolion weithio gyda'u dysgwyr 6ed dosbarth i: datblygu ∙ cyhoeddi ∙ adolygu ymrwymiad ffurfiol i ymgysylltu â dysgwyr. (Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth i gefnogi datblygu’r gellir dod o hyd i'r ymrwymiad ar dudalennau 14-17 o'r canllaw hwn)

Rhaid datblygu a chyhoeddi'r ymrwymiad hwn o fewn y flwyddyn academaidd lawn gyntaf (2026-27). Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu gydymffurfio â gofynion y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a bydd gofyn iddynt roi sicrwydd i Medr; rhaid i’r ymrwymiad gael ei adolygu a'i werthuso'n flynyddol.

6


Ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr Mae'r Cod yn canolbwyntio ar 9 Egwyddor sy'n pwysleisio y dylai ymgysylltu â dysgwyr fod:

Wedi’i wreiddio Yn Cael ei Werthfawrogi Yn Gynhwysol

Yn Cael ei Ddeall

Yn Ddwyieithog

Yn Cael Effaith

Yn Unigol ac yn Gyfunol

Yn Cael Digon o Adnoddau

Yn Cael ei Werthuso Mae ymgysylltu’n ystyrlon â dysgwyr yn y lleoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod pob un o 9 Egwyddor y Cod yn cael eu bodloni, a bod cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer cyfranogiad ystyrlon i ddysgwyr 6ed dosbarth sy'n eu galluogi i gael dylanwad a chreu newid pan fo modd o fewn amgylchedd y darparwr. Mae mecanweithiau a chyfleoedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr gael ymgysylltu'n ddilys. Creu cyfleoedd i ddysgwyr y 6ed dosbarth awgrymu eu syniadau eu hunain ar gyfer mentrau, polisïau neu brosiectau, yn hytrach na dim ond ymgynghori â nhw ar bynciau a bennir gan arweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r canlynol yn dangos sut mae dysgwyr yn gweld ymgysylltiad cadarnhaol a pha gyfleoedd y maent wedi’u cael yn eu teithiau drwy’r ysgol. Mae hyn yn cefnogi’r niferus ffyrdd a dulliau i ddysgwyr ymgysylltu a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, gan amlygu bod meysydd eisoes lle mae ymgysylltu â dysgwyr yn bresennol mewn llawer o ysgolion. Anogir ysgolion i adeiladu ar y gwaith presennol ond sicrhau bod prosesau clir a thryloyw ar gael i bob dysgwr 6ed dosbarth er mwyn cryfhau ymgysylltiad yn unol â 9 Egwyddor y cod. 7


Learner journey map Hyrwyddwyr Ifanc, Grwpiau LHDTC+ Mentoriaid Cyfoedion Dechreuwyd grŵp theatr i hybu hyder Cymorth Cyfoedion

Rhyfelwyr Lles a Llysgenhadon Iechyd Meddwl Llysgenhadon Lles

Gweithdai sy'n seiliedig ar hawliau Deall eu hawliau eu hunain fel Plentyn/Person Ifanc

Llais y Disgybl 8

Biniau Mislif Cais dysgwr yn unol â chamau gweithredu’r llywodraeth ar dlodi mislif Arweinwyr Chwaraeon a’r Cyngor Chwaraeon Arweinwyr iechyd a ffordd o fyw

Disgyblion gwrywaidd yn gwisgo sgertiau a’r rhai benywaidd yn gwisgo siorts mewn protest yn erbyn newid gwisg ysgol Dysgwyr yn Gweithredu

Newidiadau i gwricwlwm yr ysgol, TGAU yn y Dyniaetha Ymgynghoriad Llais y Dysgwr Tîm P y 6ed Arwe

Cyrtiau chwaraeon awyr agored, cyfleusterau newid ac addurno mannau’r ysgol Byw'n egnïol

Sesiynau Llai Capteiniaid D Chynrychiolw Cyfranogiad G


au

Prif Ddisgyblion d Dosbarth einwyr cefnogol

Senedd yr Ysgol a Chyngor yr Ysgol Cyfranogiad grŵp gweithredol

Gwobrau Criw Cymraeg Gwreiddio diwylliant o fewn eu hysgol

Cyfle profiad gwaith a cheisiadau prifysgol Ymgysylltu â llais y dysgwr i ganfod cyfleoedd

Cefnogi’r Ysgol Isaf Cymorth gan Gymheiriaid

Trawsnewidiadau Newidiadau i ôl-16 a Sesiwn EMA gerddoriaeth Lefel Ymgynghoriad gweithredol A yn yr ysgol â dysgwyr drwy arolygon Trafodaethau gweithredol gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Llywodraethwyr yr Ysgol

is y Disgybl, Dosbarth a wyr Dosbarth Gweithredol

Newid cludiant ysgol Llythyr wedi'i ysgrifennu gan y 6ed dosbarth at y cyfarwyddwr addysg

Adolygiad Polisi ysgolion Arwain wrth wneud penderfyniadau

9


Y 9 Egwyddor Mae angen i ddarparwyr ddangos sut maen nhw'n bodloni 9 Egwyddor y cod drwy eu gwahanol fecanweithiau a gwaith ymgysylltu â dysgwyr, ond nid oes angen i ddarparwyr ddangos tystiolaeth o sut mae pob egwyddor wedi'i chyflawni'n unigol fel rhan o'r adolygiad blynyddol.

Wedi’i wreiddio Mae cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau wedi'u plethu drwy bob agwedd ar y daith addysgol a thrwy'r holl benderfyniadau sy'n effeithio ar ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol.

Yn Gynhwysol

Yn Ddwyieithog

Mae cyfleoedd ymgysylltu yn adlewyrchu amrywiol anghenion, diddordebau a galluoedd dysgwyr.

Gall dysgwyr gymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg a dylanwadu ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Yn Cael Effaith Mae ymgysylltu’n arwain at ddeialog barhaus, canlyniadau gweladwy a gwelliannau sy’n fuddiol i’r a dysgwyr y dyfodol.

10


Yn Cael ei Werthfawrogi Dysgwyr yn cael eu gwrando arnynt a’u grymuso i lywio eu profiad dysgu trwy gymryd rhan yn ei brosesau gwneud penderfyniadau.

Yn Cael ei Ddeall Mae dysgwyr yn gwybod ble a sut i godi syniadau a rhannu meddyliau ynglŷn â materion sy'n bwysig iddyn nhw a'r rhai a gaiff eu codi gan eu darparwr.

Yn Unigol ac yn Gyfunol Caiff dysgwyr eu helpu i gymryd rhan yn unigol ac ar y cyd, gan rannueu lleisiau i lywio'r profiad dysgu.

Yn Cael Digon o Adnoddau Mae adnoddau priodol yn cael eu dyrannu er mwyn sicrhau y caiff holl ddysgwyr gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.

Yn Cael ei Werthuso Mae darparwyr mynd ati’n rheolaidd i werthuso’r ffordd y mae’n ymgysylltu â dysgwyr, gan weithio gyda dysgwyr i adnabod cryfderau, gwelliannau a datblygiadau yn y dyfodol. 11


Rôl corff y llywodraethwyr Mae rôl y Corff Llywodraethu mewn perthynas â'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn dilyn yr un safon â rôl llywodraethwr i'r ysgol, mae'n ofynnol i lywodraethwyr gefnogi a herio'r ysgol a bod yn 'gyfaill proffesiynol beirniadol' i'r ysgol. Fodd bynnag, mewn perthynas â'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, mae gan lywodraethwyr gyfrifoldeb am sicrhau bod y darparwr yn cydymffurfio â'r Cod. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fel llywodraethwyr annog darparwyr a sicrhau bod ymgysylltu â dysgwyr nid yn unig cystal â'r ymrwymiad maen nhw'n ei gyhoeddi, ond ei fod yn rhan weithredol o fywyd yr ysgol. Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn gofyn i chi fel y corff llywodraethu roi sicrwydd bod yr ysgol yn cydymffurfio â'r Cod. Dylech ystyried beth mae'r ysgol yn ei gynnig o ran cyfleoedd i ddysgwyr 6ed dosbarth gymryd rhan lawn mewn gwneud penderfyniadau ynghylch eu profiad dysgu a'u hamgylchedd eu hunain. Bydd gofyn i Gyrff Llywodraethu: • Rhoi sicrwydd i Medr bod yr ysgol yn bodloni gofynion y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr • Rhoi sicrwydd i Medr fod yr ymrwymiad wedi'i gyd-gynhyrchu gyda dysgwyr y 6ed dosbarth • Rhoi sicrwydd i Medr fod yr ymrwymiad wedi'i adolygu’n flynyddol, gyda dysgwyr • Sicrhau bod digon o dystiolaeth wedi'i darparu gan yr ysgol i ddangos effaith ymgysylltu â dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau

Awgrym: Mae dysgwyr yn awgrymu cyflwyno eitem sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethu i drafod y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, ei Egwyddorion, ac ymrwymiad yr ysgol i'w weithredu. Gall hyn gefnogi gwreiddio’r Cod yn effeithiol a helpu’r Corff Llywodraethu i deimlo’n fwy hyderus wrth gyflawni ei gyfrifoldebau cydymffurfio.

12


Disgybl-lywodraethwyr cyswllt Byddai sicrhau bod y rôl hon ar gael a bod dysgwyr yn cael eu cefnogi a'u hannog i fod yn rhan o'r corff llywodraethu ehangach yn agwedd gadarnhaol iawn o ran cefnogi gwreiddio’r Cod ond hefyd i ddarparu deialog effeithiol gyda'r dysgwyr yn uniongyrchol ar gyfer cyrff llywodraethu.

Mae dysgwyr yn teimlo bod rôl y disgybl-lywodraethwr cyswllt o werth a phwysigrwydd uchel. Fodd bynnag, maent hefyd yn awgrymu na ddylai'r rôl hon ddisgyn yn awtomatig i brif ferch/bachgen, er enghraifft byddai agor y cyfle hwn ynddo'i hun yn cefnogi'r Egwyddorion gyda chyfleoedd ehangach a mwy o gynhwysiant i bob dysgwr.

Mae agweddau allweddol y rôl hon yn galw am hyfforddiant a chefnogaeth mynediad agored barhaus. Dyma rai o'r meysydd a awgrymwyd: • Hyfforddiant ar ddeall y corff llywodraethu, ei rôl a'i gyfrifoldebau • Mwy nag 1 dysgwr yn cymryd rhan • Cael llywodraethwr i gymryd rôl gefnogol i’r disgybl-lywodraethwr cyswllt (yn debyg i fentor)

Corff Llywodraethu

Gwreiddio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

Darparwr (ysgol)

Dysgwr 6ed Dosbarth 13


Cyfleoedd y gallai dysgwyr fod yn rhan ohonynt Byddai'n afrealistig meddwl y gall dysgwyr 6ed dosbarth fod yn rhan o bob penderfyniad yn yr ysgol, fodd bynnag, dyma rai enghreifftiau o sut y gall ysgolion weithio gyda dysgwyr i sicrhau bod dysgwyr yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ac yn gwreiddio a gweithredu'r Cod yn eu lleoliad ysgol. Am ragor o wybodaeth am newidiadau strategol y gallai dysgwyr fod yn rhan ohonynt, gweler y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.

dau go iawn

Cynnal fforymau llais dysgwyr gyda chanlynia

Cynnwys dysgwyr mewn adolygiadau polisi Rolau arweinyddiaeth dysgwyr Adnoddau a grëwyd ar y cyd: Mae dysgwyr yn helpu i ddylunio arddangosfeydd lles, ymgyrchoedd gwrth-stigma, neu’n cael bod yn rhan o wefan yr ysgol Cyflwyno sesiynau neu wersi lles yn ystod diwrnodau ABCh neu wersi i ysgolion iau

Cefnogi adrannau gyda theithiau ysgol, clybiau amser cinio neu ar ôl ysgol

Bod yn rhan o ddiwrnodau neu nosweithiau agored yr ysgol yn rhannu eu profiad bywyd fel dysgwr chweched dosbarth yng nghymuned yr ysgol ity groups on projects

Collaborating with other schools or commun

Dysgwyr yn cyfrannu syniadau ar gyfer gwersi, asesiadau neu adnoddau dysgu Pwyllgorau a phrosiectau dan arweiniad dysgwyr arth yr ysgol

Cynnig cwricwlwm ac amserlennu 6ed dosb

14


Pwysigrwydd yr ymrwymiad Fel y soniwyd, mae rhan o'r gydymffurfiaeth yn gofyn am ymrwymiad ffurfiol i'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, ac mae’n rhaid iddo:

Fod wedi’i ddatblygu gyda dysgwyr Fod wedi’i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethu Cael ei hyrwyddo ymysg dysgwyr mewn ffyrdd hygyrch Cael ei adolygu'n flynyddol gan gynnwys dysgwyr a chynnwys gwerthusiad o effeithiolrwydd ac effaith ymgysylltu â dysgwyr

Dylai'r ymrwymiad fod yn ddogfen lefel uchel a rhaid cynnwys: • Sut mae ymgysylltu â dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau wedi'i wreiddio a'i gefnogi, fel gwybodaeth am fecanweithiau (gall hyn fod trwy gyfeirio a dolenni i wybodaeth arall) • Sut mae barn dysgwyr amrywiol yn cael ei hystyried • Sut cafodd dysgwyr eu cynnwys mewn datblygu'r ymrwymiad ar y cyd • Pa ddysgwyr sy'n cymryd rhan (er mwyn i ddysgwyr fod yn glir am yr hyn sy'n berthnasol iddyn nhw) • Wedi'i gymeradwyo gan gorff llywodraethu’r ysgol (Dyddiad) • Dyddiad Cyhoeddi a dyddiad adolygu

Mae meithrin ymrwymiad ar y cyd i ymgysylltu yn gweithio orau pan gaiff ei greu ar y cyd â dysgwyr, fel eu bod yn teimlo perchnogaeth yn hytrach na chydymffurfiaeth.

15


Enghraifft o ymrwymiad Enghraifft o sut olwg fyddai ar ymrwymiad gorffenedig yr oedd dysgwyr yn rhan ohono a’r hyn y gallai ei gynnwys. Fodd bynnag, nid oes rhwymedigaeth i greu ymrwymiad newydd, ac efallai y bydd dysgwyr yn teimlo y gallant ychwanegu at ddogfennau presennol yn lle hynny.

16


Ymrwymiad Ymgysylltu â Dysgwyr Datganiad Ymrwymiad Ymgysylltu â Dysgwyr Mae [Enw'r Ysgol] wedi ymrwymo i greu diwylliant lle mae dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses o lywio eu profiad addysgol. Mae'r ymrwymiad hwn yn amlinellu sut y bydd dysgwyr yn cael eu gwrando arnyn nhw a'u cynnwys mewn gwneud penderfyniadau.

Diben Diben yr ymrwymiad hwn yw: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Sut Caiff Ymgysylltu â Dysgwyr ei Wreiddio

Cynrychiolaeth a Chynhwysiant Dysgwyr

Mae ymgysylltu â dysgwyr wedi’i wreiddio o fewn systemau a phrosesau ysgolion presennol, mae'r rhain yn cynnwys: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd i ymgysylltu â dysgwyr yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gynrychioliadol o amrywiaeth y boblogaeth dysgwyr.

Caiff adborth ei gyfleu i ddysgwyr drwy sianeli adborth y cytunwyd arnynt.

Bydd yr ysgol yn adolygu lefelau cyfranogiad yn rheolaidd i sicrhau bod ystod eang o leisiau dysgwyr yn cael eu clywed a'u cynrychioli.

Sut mae Dysgwyr wedi bod yn Rhan o Greu'r Ymrwymiad hwn

Dolenni i Bolisïau, Cynlluniau ac Adnoddau Perthnasol

Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i lywio trwy ymgysylltu â dysgwyr gan ddefnyddio mecanweithiau cyfranogiad presennol. Mae dysgwyr wedi cyfrannu drwy: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Dylid darllen yr ymrwymiad hwn ochr yn ochr â dogfennau perthnasol yr ysgol a'r awdurdod lleol, gan gynnwys: [ychwanegwch enghreifftiau/gwybodaeth yma]

Monitro ac Adolygu Bydd effeithiolrwydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fonitro drwy: [ychwanegwch enghreifftiau/ gwybodaeth yma] Bydd yr ysgol yn parhau i adolygu'r ymrwymiad hwn gyda dysgwyr i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.

Cymeradwyaeth a Chyhoeddi

Datganiad Ymrwymiad

Wedi'i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethu: _______________________________

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan holl ddysgwyr gyfleoedd i rannu eu barn, dylanwadu ar benderfyniadau, a cyfrannu at ddatblygiad parhaus cymuned ein hysgol. Drwy fecanweithiau ymgysylltu cynhwysol a hygyrch, byddwn yn gwrando ar ddysgwyr, yn ymateb i'w hadborth, ac yn cydweithio i wella canlyniadau i bawb."

Dyddiad Cymeradwyo: _______________________________ Cyhoeddwyd: _______________________________ Dyddiad Adolygu: _______________________________

17


Beth i'w ofyn i ysgolion Mewn perthynas â'ch rôl a'ch cyfrifoldeb i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cod, mae'r canlynol yn darparu rhai cwestiynau y mae dysgwyr yn teimlo y gallwch eu gofyn i ysgolion i gael deall sut mae ysgolion yn bodloni gofynion y cod.

Cwestiynau allweddol: 1. Sut mae'r egwyddorion yn cael eu gwreiddio ar hyn o bryd? 2. Pa gyfleoedd sydd gennych chi ar gyfer ymgysylltu ar hyn o bryd? 3. Sut ydym ni'n bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad? 4. Pa mor dda mae dysgwyr yn deall ac yn gwybod am yr egwyddorion? 5. Sut ydym ni'n adolygu ac yn mesur effaith? 6. Sut mae dysgwyr yn cael eu hysbysu ynghylch adborth?

18


Rhestr wirio gyflym Mae ymgysylltu â dysgwyr yn strategol, nid yn docenistaidd Mae ymgysylltu â dysgwyr yn ymddangos wrth gynllunio gwella ysgolion Mae llywodraethwyr yn derbyn tystiolaeth o ymgysylltu â dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau Mae cynrychiolwyr dysgwyr yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi Rhoddir adborth i ddysgwyr ar eu cyfraniadau Cesglir tystiolaeth o effaith ac mae'n weladwy Mae pob grŵp o ddysgwyr (gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig) yn cael eu cynrychioli

19


olen Adborth: Creu strwythur ar gyfer adrodd ar adborth dysgwyr Mae arfer da yn awgrymu bod strwythur adborth yn hanfodol i sicrhau cylch parhaus o gyfranogiad ac ymgysylltiad. Er na fyddwch chi na’r ysgol yn gallu gweithredu ar bopeth mae dysgwyr yn ei adrodd yn ôl i chi, dylai fod proses benodol ar waith i feddyliau dysgwyr gael eu hadrodd yn ôl i benderfynwyr uwch, ac i adrodd meddyliau’r rheiny’n ôl i'r dysgwyr.

Yr hyn y mae dysgwyr yn ei ddweud am adborth: Dywedwch wrthym hyd yn oed os nad oes canlyniad Dywedwch wrthym os na ellir ei ystyried Dywedwch wrthym pam A allwn ni agor deialog i drafod?

Enghraifft o ffurflen adrodd yn ôl y gellid ei defnyddio i sicrhau cyfathrebu effeithiol fel y'i cynlluniwyd gyda dysgwyr.

20


Ffurflen ymateb adborth ymgysylltu â dysgwyr Enw'r ysgol: Dyddiad yr adborth: Mecanwaith ymgysylltu â dysgwyr: Mater neu awgrym a godwyd Yr hyn a ddywedodd y dysgwyr wrthym: Beth wnaethon ni Rydym wedi gweithredu ar yr awgrym hwn. Rydym wedi gweithredu’n rhannol ar yr awgrym hwn. Rydym yn dal i archwilio'r awgrym hwn. Ni allwn fwrw ymlaen â'r awgrym hwn ar hyn o bryd. Camau a gymerwyd/a gynllunnir:

Pam? Eglurwch y penderfyniad a wnaed, os gwelwch yn dda:

Effaith Sut fydd hyn yn gwella profiadau dysgwyr?

Sut gall dysgwyr gymryd rhan? Neges i ddysgwyr Diolch am rannu eich barn. Mae eich adborth yn ein helpu i wella ein hysgol a gwneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i ddysgwyr. Da chi, daliwch ati i rannu eich syniadau a'ch barn. Dyddiad adolygu Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr eto ar: Wedi'i gwblhau gan: Rôl:

21


MATER AC ATEBION AWGRYMEDIG Mae dysgwyr yn nodi pryder, rhwystr neu gyfle Darparu ateb neu syniadau

ADOLYGU Mae dysgwyr yn gwerthuso effaith ac yn nodi materion newydd Ystyried beth sydd angen ei wella, beth oedd yn effeithiol

ADBORTH Yn cael ei rannu gyda dysgwyr, ynglŷn â'r hyn a godwyd

22

CANL

Newidiadau waith a’

Oes yna unrhyw


EFFAITH Effaith ar les, dysgu neu fywyd ysgol

MYNEGI BARN Sut mae dysgwyr wedi codi barn, pwy oedd yn rhan o hyn Cyngor yr Ysgol • Arolygon Grwpiau Ffocws Trafodaethau Dosbarth Blychau Awgrymiadau

LYNIAD

GWEITHREDU

wedi’u rhoi ar ’u monitro

Mae'r ysgol yn adolygu adborth ac yn cytuno ar gamau gweithredu mewn ymgynghoriad â dysgwyr

w effaith wedi bod?

23


Adolygu ac adrodd Sut mae ysgolion yn dangos tystiolaeth o beth neu sut maen nhw'n bodloni'r Cod ac effaith ymgysylltiad eu dysgwyr mewn gwneud penderfyniadau?

Mae’n bwysig iawn bod yr ymrwymiad yn cael ei adolygu gyda dysgwyr y 6ed dosbarth a bod gwybodaeth yn cael ei rhannu. Bydd llawer o feysydd yn cael eu hamlygu sy'n darparu tystiolaeth o effaith gadarnhaol a dylanwad newid mewn gwneud penderfyniadau os caiff Egwyddorion y Cod eu hystyried a'u gweithredu'n dda. Mae dysgwyr yn awgrymu bod dathlu llwyddiant yr un mor bwysig â dangos tystiolaeth o feysydd i'w gwella.

24


Sut gall cyrff llywodraethu fod yn rhan o'r adolygiad a'r adrodd ar yr ymrwymiad • Gall disgybl-lywodraethwr cyswllt roi adborth i gyfarfodydd llywodraethwyr • Gellid adrodd ar hyn fel rhan o'r adroddiad blynyddol i rieni • Dylai llywodraethwyr dderbyn gwybodaeth gan yr ysgol am ymgysylltu â

dysgwyr â gwneud penderfyniadau yn yr ysgol, gyda thystiolaeth o effaith

Myfyrdod i'w ystyried wrth gloi

A ydym yn cydnabod yr effaith a'r manteision y gall gwreiddio ymgysylltu â dysgwyr yn ein lleoliad eu dwyn – mewn meysydd fel dysgu ac addysgu, cyrhaeddiad, perthnasoedd a diwylliant ac ethos? A oes tystiolaeth o hyn?

25


Geirfa a dolenni defnyddiol Diffiniadau a thermau allweddol 'Dysgwr' Defnyddir y term dysgwr wrth gyfeirio at unigolion sy'n astudio/dysgu mewn lleoliad addysg drydyddol. 'Trydyddol' Trydyddol yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio addysg ôl-16, fel 6ed dosbarth mewn ysgolion mewn lleoliad a gynhelir, colegau, prentisiaethau a phrifysgolion. ‘Ymgysylltu â Dysgwyr’ Disgrifir ymgysylltu â dysgwyr fel dwyn ynghyd neu gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan/bod yn rhan o wneud penderfyniadau gan eu darparwr. Sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynrychioli'n effeithiol ym mhrosesau gwneud penderfyniadau darparwyr a bod ganddynt gyfle i fynegi eu barn ar eu haddysg a materion sy'n peri pryder neu sydd o ddiddordeb iddynt. 'Darparwr' Eich ysgol neu'ch lleoliad yw'r darparwr. Dyma'r sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu addysg a chyfleoedd i ddysgwyr. 'Ymrwymiad' Dogfen orfodol y mae darparwyr yn cytuno iddi ac yn ei llofnodi, dogfen sy'n amlinellu sut mae darparwyr yn bwriadu i wreiddio a chefnogi ymgysylltu â dysgwyr sy’n fwy effeithiol ac ystyrlon yn eu prosesau gwneud penderfyniadau. ‘Y Broses Gwneud Penderfyniadau’ Proses lle bydd dysgwyr yn cael eu cynnwys o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol y broses. O'r camau cynllunio a syniadau cynnar i newid a’r broses ddysgu ehangach.

26


Canllawiau statudol Canllawiau i gyrff llywodraethu ar sefydlu a gweithredu cynghorau ysgol [HTML] | LLYW. CYMRU diweddarwyd 2025 Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005

Canllawiau arfer da a gwybodaeth Comisiynydd Plant Cymru - Y Ffordd Gywir - Addysg 2011 GYDA’N GILYDD: Creu cyngor ysgol uwchradd gryf sy’n cynrychioli pawb – Comisiynydd Plant Cymru 2021 Safonau cyfranogiad cenedlaethol plant a phobl ifanc | LLYW.CYMRU 2018

27


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
CIW Medr Guide Governors (Cymraeg) by childreninwales - Issuu