AROS, CHWARAE, YMLAEN YN GYFLYM
AROS, CHWARAE, YMLAEN YN GYFLYM
Taith Plant yng Nghymru
Weithiau mae’n gallu bod yn anodd sefyll yn gadarn dros eich hawliau, ond gallwch wneud hynny’n ddewr oherwydd bod Confensiwn cyfan, y mae bron holl wledydd y byd wedi cytuno arno, sy’n dweud bod gennych chi hawliau.
Mae hefyd yn dweud bod cyfrifoldeb ar y wlad lle rydych chi’n byw i wneud yn siŵr bod eich hawliau’n cael eu hybu a’u diogelu.
Yr Athro Ann Skelton, Cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Mae’r llyfr yma wedi’i gyflwyno i chi – i blant a phobl ifanc. Mae hawliau gan bawb ohonon ni. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich hawliau, mae angen i chi ddeall pa hawliau sydd gennych chi. Mae gennych chi hawl i ddysgu am eich hawliau – a dyna beth mae’r llyfr yma’n ei drafod. Mae Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru, wedi cael ei ysgrifennu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Felly, fe hoffwn i gyflwyno fy hun. Arthur wyf fi, rydw i’n 16 oed, ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gyda Cymru Ifanc ers rhyw ddwy flynedd. Yn ystod fy nghyfnod preswyl cyntaf gyda Cymru Ifanc rwy’n cofio cwestiwn am beth oedd yn ein hysbrydoli ni. Fy ateb i oedd pobl ifanc – ein hangerdd, ein hysgogiad, a’n gallu creadigol; y dewrder a’r nerth sydd gennym ni wrth frwydro dros y pethau rydyn ni’n credu ynddyn nhw. Does dim rhaid i chi greu newid i ysbrydoli eraill. Gall gweithredoedd syml ein hatgoffa o’r pŵer sydd gan bawb ohonon ni. Pŵer i gael mynediad i’n hawliau a pharchu ein gilydd, mewn byd nad yw bob amser yn hawdd cael hyd i ffordd drwyddo. Mae wedi bod yn anrhydedd i mi gael ysgrifennu’r llyfr yma, yn crynhoi stori hawliau plant, gan ddysgu oddi wrth bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol wrth wneud hynny. Yn sicr, dyma un o brofiadau mwyaf anhygoel fy mywyd hyd yma. Rydw i wedi datblygu sgiliau newydd a gweithio gyda phobl sydd wedi fy herio a’m cefnogi i greu’r fersiwn orau bosib ohonof fy hun.
Rydw i’n ddiolchgar dros ben i Plant yng Nghymru am roi cyfle i fi ymarfer fy hawl i gael fy nghlywed fel hyn. Mae cynifer o bobl wedi bod yn rhan o’r broses, ac fe hoffwn gymryd munud i ddiolch iddyn nhw. Yn gyntaf oll, holl wirfoddolwyr Cymru Ifanc sydd wedi cyfrannu at y llyfr. Byddwn i hefyd yn hoffi diolch i’r Athro Sally Holland, y Dirprwy Weinidog Julie Morgan, Catriona Williams OBE, Owen Evans, Rocio Cifuentes MBE, Dragan Nastic, Mike Greenaway, Keith Towler, yr Athro Jo Sibert OBE, a Dr Rhian Croke am gymryd rhan mewn cyfweliadau i’n helpu i ddysgu mwy am hanes hawliau plant a Plant yng Nghymru. Byddwn i hefyd yn hoffi cydnabod ein darlunydd gwych a’n dylunwyr am wireddu ein gweledigaeth. Yn olaf, ar ran gwirfoddolwyr Cymru Ifanc, hoffwn ddiolch i dîm Plant yng Nghymru am ein cefnogi i wireddu’r uchelgais hon.
Rwy’n gobeithio byddwch chi’n mwynhau darllen trwy orffennol, presennol a dyfodol hawliau plant yng Nghymru. Rwy’n gobeithio byddwch chi’n teimlo wedi’ch grymuso i hawlio’r hyn y dylech chi ei dderbyn. Rwy’n gobeithio y cewch chi eich ysbrydoli i weithredu a sicrhau bod eich lleisiau’n cael eu clywed. Erthygl 12 bob cam o’r ffordd!
Arthur Templeman-Lilley
STORI PLANT YNG NGHYMRU
Nod Plant yng Nghymru yw gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Dod â sefydliadau ynghyd i greu llais unedig sy’n galw am newid. Casglu barn iechyd, addysg, elusennau a gwasanaethau cymdeithasol; dod â’r cyfan at ei gilydd gan rannu’r nod o sicrhau bod Cymru’n wlad lle gall pob plentyn gael mynediad i’w hawliau, gyda ffocws ar sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed a’r rhai sy’n dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn yn cael eu hamddiffyn, eu grymuso, ac yn derbyn popeth angenrheidiol i’w galluogi i fod y gorau gallan nhw.
Adeiladu Cymru lle mae holl
hawliau pob plentyn a pherson
ifanc yn cael eu gwireddu
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio i gyflawni’r nodau hyn trwy wneud y canlynol:
• Ymgyrchu o blaid gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn llawn ar draws Cymru
• Herio anghydraddoldeb a hybu tegwch i bob plentyn a pherson ifanc ar draws Cymru
• Dod â lleisiau ynghyd i alw am newidiadau i bolisi a chyfraith
• Hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau
• Darparu llwyfan i rannu arfer arloesol a chreadigol ar draws Cymru
• Dadlau o blaid meysydd blaenoriaeth plant a phobl ifanc a’r sefydliadau maen nhw’n gweithio gyda nhw
• Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
• Cwblhau gwaith ymchwil a rhannu’r canfyddiadau gyda sefydliadau eraill
1993 - LLE DECHREUODD Y CYFAN
Cychwynnwyd Plant yng Nghymru yn 1993 gan Catriona Williams OBE, eiriolydd angerddol o blaid hawliau plant, oedd yn deall yr angen i sefydliadau yng Nghymru rannu llais.
Cadarnhawyd CCUHP gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 1991, ddwy flynedd yn unig cyn cychwyn Plant yng Nghymru. Ystyr cadarnhau yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau, ac roedd hynny’n golygu bod cyfle i sefydliadau ddefnyddio’r addewid hon i wella bywydau pobl ifanc.
Mae Plant yng Nghymru yn cynrychioli sefydliadau ar draws y wlad i sicrhau bod holl hawliau plant yn cael eu cyflawni.
Mae hawliau plant yn gweithio gyda’i gilydd, ac os na fydd un hawl yn cael ei gwireddu, bydd effaith hynny’n cael ei theimlo ar draws pob agwedd ar fywyd plentyn.
Mae Plant yng Nghymru yn dod â sefydliadau at ei gilydd i greu un llais; yn ymgyrchu i gyflawni manteision gwirioneddol i blant nawr ac yn
Pan gychwynnodd Catriona Plant yng
Nghymru y cyfan oedd ganddi oedd ystafell wag, cyfle i greu rhywbeth hirhoedlog, a’r potensial i sbarduno cynnydd a grymuso pobl ifanc.
DATGANOLI
Mae datganoli yn bwysig iawn wrth feddwl am hawliau plant, a’r cysylltiad rhwng hynny a gwneud penderfyniadau a gwleidyddiaeth Beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd?
Mae pedair gwlad yn rhan o’r Deyrnas Unedig: yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Cyn y 1990au, Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau i bob un o’r gwledydd. Mae gan bob un o wledydd y Deyrnas Unedig gryfderau a heriau unigryw. Fel rhan o ddatganoli, mae’r gwledydd wedi cael pwerau i wneud penderfyniadau dros eu pobl. Bellach gall Cymru wneud penderfyniadau mewn meysydd fel addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, yr economi, chwaraeon a’r celfyddydau.
1998
Senedd y Deyrnas Unedig yn pasio deddf sy’n rhoi pwerau datganoledig i Gymru, yn dilyn refferendwm y flwyddyn flaenorol.
2018
Cyflwynwyd y ddwy dreth gyntaf i Lywodraeth Cymru, fel bod ganddi ffynhonnell incwm arall.
1999
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf.
2007
Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael rolau gwahanol wrth lunio a gweithredu cyfreithiau.
2019
Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf.
2020
Y Cynulliad Cenedlaethol yn dod yn senedd swyddogol, ac yn cael yr enw Senedd.
YR OES AUR YR OES AUR
Bu datganoli o gymorth i hybu’r mudiad hawliau plant yng Nghymru. Roedd Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol yn teimlo’n angerddol ynghylch y materion oedd o bwys i bobl ifanc, ac am y tro cyntaf, roedd ganddyn nhw’r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gyda chyllid Cynulliad Cenedlaethol newydd wedi’i neilltuo i wasanaethu poblogaeth Cymru, dechreuodd llawer o sefydliadau ymgyrchu dros newidiadau i ddeddfwriaeth, rhaglenni newydd, a gwelliannau i wasanaethau.
Roedd Plant yng Nghymru ar y blaen yn ‘yr oes aur’ yma, yn dod â syniadau sefydliadau ynghyd i sicrhau bod modd i ddatganoli gael effaith ystyrlon ar fywydau plant a phobl ifanc.
Bu’r cyfle a’r ymdeimlad o ryddid wrth wneud penderfyniadau a ddaeth yn sgîl datganoli yn fodd i danio sefydliadau plant a gwleidyddion, gan fod modd gwthio CCUHP i frig yr agenda
Fe gawson ni’r oes aur yma oherwydd datganoli ac oherwydd bod y bobl newydd ym myd gwleidyddiaeth ar y pryd wedi ymwneud â’r byd ymgyrchu eu hunain
Catriona WilliamsATGOFION CYNNAR
Fydda i byth yn anghofio’r gynhadledd fawr drefnon ni ar gyfer Blwyddyn Ewropeaidd Pobl Anabl, digwyddiad cyfranogiad i blant o bob rhan o’r byd a ariannwyd gan
Lywodraeth Cymru Daeth rhyw 120 o blant o wahanol rannau o’r byd i’r digwyddiad, ac roedd staff Plant yng Nghymru yn aros ym meysydd awyr y Deyrnas Unedig i groesawu’r plant Roedd yn emosiynol dros ben, achos roedd llawer o blant anabl oedd heb gael eu lleisiau wedi’u clywed erioed
Fe aethon ni â phobl ifanc i’r sesiwn gyntaf ar CCUHP yng Ngenefa Bu’r bobl ifanc yn siarad â Phwyllgor y CU yn uniongyrchol am Hawliau’r Plentyn Rhoddodd y cyfle hwn lwyfan rhyngwladol i Gymru, gyda chefnogaeth
Llywodraeth Cymru Yn dilyn hynny, dechreuodd
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig gynnwys mwy o bobl ifanc
Catriona Williams OBE
Plant yng Nghymru hefyd oedd un o’r Aelodau Sylfaenu ar gyfer Eurochild (gyda Catriona yn llywydd sylfaenu), sydd wedi tyfu i 200 o sefydliadau sy’n aelodau mewn 41 o wledydd, ac mae pobl ifanc o Gymru wedi cael eu cynrychioli ar Gyngor Plant Eurochild.
DEDDFWRIAETH A PHOLISI
Hawliau Iechyd Plant
Roedd yr ymgyrch gyntaf gan Plant yng Nghymru a ddylanwadodd ar bolisi yn ymwneud â hawliau iechyd plant a phobl ifanc. Llywiwyd y gwaith yma gan yr Athro Jo Sibert, a fu’n Gadeirydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru, gan ddod o hyd i gysylltiadau rhwng CCUHP a iechyd yng Nghymru.
Comisiynydd Plant
Pryd bynnag y byddai cyfle, byddai ymgyrchwyr dros hawliau plant, gan gynnwys Plant yng Nghymru, bob amser yn sôn bod angen Comisiynydd Plant. Creodd Llywodraeth Cymru swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001.
Y MESUR HAWLIAU PLANT A PHOBL IFANC (2011)
Y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc yw’r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth i’r mudiad hawliau plant yng Nghymru hyd yma. Bu Plant yng Nghymru a sefydliadau eraill yn ymgyrchu er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn dangos eu hymrwymiad i hawliau plant. Mae’r mesur yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried hawliau plant bob amser wrth wneud penderfyniadau.
Roedd hwn yn gyflawniad pwysig o safbwynt hawliau plant yng Nghymru. Mae Plant yng Nghymru yn dal i ymgyrchu o blaid gwneud pob hawl yn CCUHP yn rhan o’r gyfraith a chynyddu ymwybyddiaeth o’r confensiwn, fel y nodir yn Erthygl 42 o CCUHP.
Mae Erthygl 42 yn dweud bod
gen i hawl i wybod am fy holl hawliau
POLISÏAU DIWEDDAR
Mae Plant yng Nghymru yn dal i ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru. Enghraifft fwy diweddar o hyn yw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol)(Cymru) 2020 neu’r ‘Gwaharddiad Smacio’, i roi’r enw cyffredin arni. Yn 2000, dechreuodd Plant yng Nghymru gynnal yr ymgyrch “Sdim Curo Plant Cymru”, oedd yn galw am ddeddfwriaeth i roi’r un amddiffyniad rhag niwed corfforol i blant ag i oedolion. Bu’r Athro Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru, yn gweithio’n angerddol dros hyn yn ystod ei chyfnod yn y swydd.
Yn 2021, pasiwyd y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), oedd yn golygu bod rhaid dysgu hawliau dynol a hawliau plant ym mhob ysgol yng Nghymru i helpu plant i ddeall a gwybod am yr hyn y gallan nhw ei hawlio.
30 mlynedd yn ddiweddarach, mae Plant yng Nghymru yn dal wedi’i seilio ar werthoedd CCUHP, ond yn cadw mewn cof y gwersi a ddysgwyd ac yn meddwl am ddulliau creadigol o weithredu i’r dyfodol.
Sefydlu CYMRU IFANC
yn 2014
Cymru Ifanc yw cangen cyfranogiad Plant yng Nghymru. Maen nhw’n darparu cyfleoedd ystyrlon i blant a phobl ifanc gael mynediad i’w hawl i gael eu clywed ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw (Erthygl 12 o CCUHP). Trwy Cymru Ifanc, mae’r gwirfoddolwyr yn cael cyfle i gwrdd â gweinidogion, cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, cydgynhyrchu dogfennau, ac eiriol dros eu cyfoedion.
LLAIS POBL IFANC
Fe wnaethon ni ofyn i wirfoddolwyr Cymru Ifanc ddweud wrthyn ni pam maen nhw’n gwirfoddoli a beth yw eu profiadau gorau hyd yma. Dyma beth ddwedson nhw:
Sut rydych chi’n elwa o wirfoddoli gyda Cymru Ifanc?
Mae gwirfoddoli gyda Cymru Ifanc wedi rhoi cynifer o brofiadau gwych i fi, fel cwrdd â gweinidogion a chael cyfle i fod yn rhan o gynifer o wahanol fyrddau a phrosiectau.
Datblygu sgiliau newydd, cael profiadau a chyfleoedd i fynegi barn.
Rydw i’n cael cyfle i wneud ffrindiau oes, i dreulio amser gyda phobl ifanc fel fi sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth, cyfle i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn clywed fy llais, gweld bod ein heffaith yn gwneud gwahaniaeth.
Pam rydych chi’n gwirfoddoli i Cymru Ifanc?
Rydw i’n gwirfoddoli i Cymru Ifanc oherwydd mod i’n teimlo’n angerddol ynghylch codi lleisiau pobl ifanc a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.
Er mwyn i blant fel fi gael rhoi barn ar sut mae ysgolion yn rheoli anableddau fel dyslecsia, a ddim yn gorfod gadael ysgol oherwydd gorbryder.
I gwrdd â phobl newydd tebyg o ran oed a chael profiadau newydd.
Pam rydych chi’n gwirfoddoli i
Cymru Ifanc?
Rydyn ni’n cael gwrandawiad trwy wahanol grwpiau ffocws sy’n canolbwyntio ar amrywiol faterion sy’n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae fy marn yn cael ei chymryd i ystyriaeth yn ofalus, ac yna’n cael ei defnyddio i geisio ailgyfeirio Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
MaeErthygl12oCCUHP gwrandawiad(yrhawligaeli’chbarn) yncaeleihymarfergan CymruIfanc,ac maefymarnbobamser yncaeleigwrando
Beth oedd eich hoff funud yn Cymru Ifanc a pham?
Fy hoff funud(au) oedd ymweld â’r Cenhedloedd Unedig (ddwywaith). Rwy’n gwybod mod i’n lwcus iawn i fod yn rhan o brofiad o’r fath.
Fy hoff funud yn bendant oedd cael mynd i Gynhadledd Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol y Pedair Gwlad yn 2019. Fe wnes i a 5 o bobl ifanc eraill siarad ar y llwyfan am ein profiadau o ran iechyd meddwl, a chwrdd â gweinidogion y gwasanaethau iechyd ac addysg a chomisiynwyr plant Cymru ac Iwerddon. Roedd y profiad cyfan yn gyfle i mi ddysgu mwy am wasanaethau iechyd ein gwlad, a beth allai gael ei wella.
Fy hoff funud oedd pan aethon ni i’r Senedd ac fe ges i gyfle i gwrdd â Llywodraeth Cymru – roedd yn brofiad gwych.
1923
DATBLYGIAD CCUHP
Mae Sylfaenydd Achub y Plant, Eglantyne Jebb, yn drafftio’r Datganiad ar Hawliau’r Plentyn, gan amlinellu’r pethau mae ar blant eu hangen i dyfu i fyny a bod y gorau gallan nhw fod.
1948
Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn cynnwys hawl benodol sy’n canolbwyntio ar ofalu am famau a phlant, eu cynorthwyo a’u hamddiffyn.
1978
Mae cynrychiolwyr o wahanol wledydd a sefydliadau yn dod ynghyd i ystyried drafft cynnar o gonfensiwn sy’n canolbwyntio ar hawliau plant.
1959
Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn mabwysiadu’r Datganiad ar Hawliau’r Plentyn, gan gydnabod hawliau plant i chwarae, i gael gofal iechyd, amgylchedd cefnogol, addysg, a llawer o bethau eraill.
1989
Mae’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig, fel bod gan blant hawl i dderbyn popeth mae arnyn nhw ei angen i dyfu i fyny mewn amgylchedd diogel, sy’n eu cymell a’u grymuso.
Mae’r Confensiwn yn safon gyffredinol i’r gymuned ryngwladol gyfan
1995
Mae’r Deyrnas Unedig yn cyflwyno eu hadroddiad cyntaf i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, lle buon nhw’n adolygu i ba raddau roedd y Deyrnas Unedig yn llwyddo i weithredu CCUHP, ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer meysydd i wella; yr enw ar y rhain yw’r Sylwadau Terfynol.
Cyflwynodd Pwyllgor y CU lu o argymhellion ar gyfer yr holl asiantaethau a’r deiliaid dyletswydd sy’n gyfrifol am hawliau plant
Dr Rhian Croke, Y Ganolfan Gyfreithiol i Blant yng Nghymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant
2015
Mae Somali a De Sudan yn cytuno i weithio i gynnal y Confensiwn, sy’n golygu mai CCUHP yw’r ddogfen hawliau dynol a dderbyniwyd ar y lefel ehangaf mewn hanes, gyda 196 o wledydd yn gwneud yr ymrwymiad.
2023
Mae tîm o Cymru Ifanc yn rhoi tystiolaeth yn ystod adolygiad parti gwladol y Deyrnas Unedig o CCUHP yn 2023, ac mae eu barn a’u safbwyntiau yn helpu i ffurfio argymhellion Pwyllgor y CU.
Y tu hwnt i hyn
Y gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio i roi argymhellion y pwyllgor ar waith, gan ganolbwyntio’n arbennig ar flaenoriaethau Cymru Ifanc, sef dileu tlodi plant ac ymgorffori CCUHP yn llawn yng nghyfraith Cymru.
COMISIYNYDD PLANT CYMRU
Mae’r Comisiynydd Plant yn eiriol dros blant a phobl ifanc, yn gwrando ar eich lleisiau, yn codi llais ar eich rhan, ac yn galw Llywodraeth Cymru i gyfrif. Nhw sy’n gweithredu fel pencampwr i holl blant a phobl ifanc Cymru. Yn 2001, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael Comisiynydd Plant.
Mae Cymru wedi cael pedwar Comisiynydd Plant hyd yma, ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan dîm o arbenigwyr ym maes polisi, cyfranogiad a gwaith achosion. Mae’r Comisiynydd yn aml yn cwrdd â gweinidogion ac yn siarad mewn digwyddiadau, gan rannu eu meddyliau ar faterion cyfredol a rhoi cyngor ar hawliau plant. Mae gan y Comisiynydd Plant ddyletswyddau a nodir yn y gyfraith, ond mae pob comisiynydd yn gweithredu yn eu dull eu hunain, gyda blaenoriaethau a phrofiadau personol. Penodir Comisiynydd am gyfnod o saith mlynedd.
Mae’r Comisiynydd yn gwneud yn siŵr bod cyfreithiau’n cael eu gwirio a hawliau plant yn cael eu hystyried. Mae hefyd yn tynnu sylw at unrhyw fylchau mewn cyfreithiau ac yn dadlau o blaid cynnydd sy’n gwella bywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc.
Cwrdd â’r Comisiynydd dros y Blynyddoedd
Peter Clarke
Comisiynydd Plant Cymru 2001 - 2008
Peter oedd Comisiynydd Plant cyntaf Cymru, felly roedd yn gyfrifol am sefydlu’r swyddfa i sicrhau bod modd eiriol dros blant a chynnwys eu lleisiau. Yn 2005, cyhoeddodd adroddiad o’r enw “Datgelu Pryderon”, oedd yn cynnwys argymhellion ar beth dylai pobl sy’n gweithio gyda phlant wneud os byddan nhw’n pryderu am blentyn.
Mae’n dal i’m synnu i ein bod ni’n disgwyl i bobl ifanc 18 oed ymwneud yn llawn
â’n prosesau cynrychioliadol, er ein bod ni heb roi unrhyw brofiad gwirioneddol iddyn nhw o wneud penderfyniadau yn y meysydd sy’n effeithio fwyaf arnyn nhw
Adroddiad Blynyddol, 2002.
Keith Towler
Comisiynydd Plant Cymru 2008 - 2015 Tasech chi’n siarad ag oedolion am sut mae plant yn gweld y byd, byddech chi’n llunio atebion gwahanol i’r rhai rydych chi’n eu creu ar hyn o bryd
Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc: Arthur a Mico gyda Keith Towler
Yn ystod cyfnod Keith fel Comisiynydd Plant Cymru bu’n siarad yn agored am y stereoteipiau negyddol sy’n gysylltiedig â phlant. Bu hefyd yn siarad am bwysigrwydd grymuso pobl ifanc. Roedd hynny’n cynnwys cydweithio’n agos â grŵp o bobl ifanc yn ystod y broses o adrodd ar CCUHP yn 2008.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, cyhoeddodd y swyddfa adroddiad ‘Lleisiau Coll’ ac adroddiadau eraill oedd yn canolbwyntio ar hawliau plant yn y system ofal ac ymadawyr gofal. Roedden nhw’n cyflwyno argymhellion ynghylch beth ddylai newid i sicrhau bod y plant yma’n cael mynediad i’w hawliau.
Pa uchelgais bynnag sydd gennych chi Beth bynnag rydych chi eisiau gwneud, unrhyw beth o gwbl, mae gennych chi hawl absoliwt i gyflawni’r potensial yna, felly os byddwch chi’n teimlo bod rhywbeth yn eich dal chi nôl, defnyddiwch hawliau plant i ofyn cwestiynau i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau
Yr Athro Sally Holland
Comisiynydd Plant Cymru 2015 - 2022
Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc: Kai, Arthur, a Mico gyda’r Athro Sally Holland
Gallwn ni drechu anghydraddoldeb ac anghyfiawnder trwy ddefnyddio dull seiliedig ar hawliau dynol
Pan oedd Sally yn Gomisiynydd Plant
Cymru, cyflwynodd y Dull Dim Drws Anghywir o ymdrin â iechyd meddwl. Dywedodd pobl ifanc wrthi eu bod yn gyson yn cael eu trosglwyddo o un gwasanaeth i’r nesaf, a’u bod wedi troi at y person neu’r gwasanaeth anghywir. Ar ôl gwrando ar sut roedd pobl ifanc yn teimlo dylai’r system hon weithredu, dechreuodd Sally weithio gyda phobl broffesiynol ym myd iechyd ac addysg i ddatblygu dull gweithredu newydd, sy’n golygu y dylai pobl ifanc dderbyn y gefnogaeth gywir ble bynnag maen nhw’n dewis mynd.
Beth bynnag sy’n digwydd, mae gennych chi
hawliau Mae dyletswydd arnon ni fel oedolion i sicrhau eich bod chi’n eu derbyn Daliwch ati i barchu hawliau pobl eraill, a gadewch i ni gydweithio i greu cymdeithas sy’n fwy cyfartal, teg a gofalgar
Rocio Cifuentes
Comisiynydd Plant Cymru
2022 - Cyfredol, tan 2029
Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc: Arthur a Mico gyda Rocio Cifuentes
Credwch ynoch chi’ch hunain, Byddwch yn driw i chi’ch hunain, Byddwch yn fentrus, Byddwch yn uchelgeisiol
Rocio yw Comisiynydd Plant presennol Cymru, ac un o’r uchafbwyntiau iddi yn ei blwyddyn gyntaf oedd rhannu llwyfan gydag aelodau o’i phanel ymgynghorol pobl ifanc mewn cynhadledd anghenion dysgu ychwanegol. Ar ôl cael adborth cadarnhaol gan y rhai oedd yn bresennol, mae hi’n benderfynol o roi llwyfan i bobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae’r Comisiynydd am ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i blant a phobl ifanc, gan gynnwys iechyd meddwl, anghydraddoldeb, addysg a thlodi.
Bydd y tîm hefyd:
Yma i bob plentyn: yn gwrando i sicrhau bod y tîm yn hygyrch i holl blant Cymru fel bod modd codi llais yn effeithiol ar eu rhan a’u cynrychioli yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Yn ‘gwireddu hawliau’: yn cefnogi ac yn addysgu plant a phobl ifanc i wybod am eu hawliau a’u deall, a chefnogi a chynghori cyrff cyhoeddus i hybu a diogelu hawliau plant.
Yn dweud y gwir: yn cefnogi ac yn grymuso plant i godi llais a rhannu eu profiadau amrywiol gyda llunwyr penderfyniadau, a bwrw goleuni ar faterion penodol, gan chwyddo hanesion sydd heb eu clywed.
Yn heriwr: yn herio ac yn cefnogi eraill i sicrhau bod hawliau dynol plant yn cael eu gwireddu.
Rydw i eisiau grymuso a chefnogi plant a phobl ifanc i fedru lleisio’u gwirioneddau eu hunain
Mae’r Comisiynydd Plant yno i’ch cefnogi i gael mynediad i’ch hawliau ac i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Mae gan y swyddfa wasanaeth Cyngor a Chymorth y gallwch chi gysylltu â nhw os byddwch chi’n teimlo bod eich hawliau chi neu hawliau rhywun rydych chi’n eu nabod ddim yn cael eu cyflawni, ac rydych chi eisiau cyngor ar beth i’w wneud nesa.
PWYSIGRWYDD HAWLIAU
Mae Plant yng Nghymru eisiau cefnogi plant a phobl ifanc i sicrhau eu hawliau. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn deall sut gall CCUHP gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.
Cyn i ni ddysgu mwy am CCUHP, gadewch i ni’n gyntaf archwilio rôl hawliau dynol.
Er mwyn cyflawni ein potensial, a byw bywydau hapus, cyflawn, mae angen rhai pethau ar bawb ohonom. Mae hawliau dynol yn rhoi mynediad i bawb i’r pethau mae arnyn nhw eu hangen, gan eu hamddiffyn nhw rhag niwed, gadael iddyn nhw gyfranogi, a’u cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Pwysigrwydd hawliau
Dylai pob un person dderbyn eu hawliau dynol. All hawliau byth gael eu cymryd i ffwrdd, ond mae rhaid i ni barchu ac ystyried hawliau pobl eraill yn ogystal â’n hawliau ein hunain. Heb gamau gweithredu, dim ond addewidion ar dudalen yw hawliau. Gall llywodraethau, sefydliadau ac unigolion i gyd chwarae rhan i helpu i wireddu hawliau dynol. Gwybod am hawliau, a deall sut maen nhw’n ffitio at ei gilydd, yw’r cam cyntaf at gefnogi’r rhai o’ch amgylch i gael mynediad i’w hawliau.
Pwysigrwydd hawliau
Mae hawliau plant yn adeiladu ar hawliau dynol i’w cynnal wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Mae plant yn dibynnu ar oedolion i ofalu amdanyn nhw a’u dysgu am y byd. Bydd ar rai plant bob amser angen cefnogaeth gan oedolion i ddatblygu a chael mynediad i’w hawliau. Mae hawliau plant ar gyfer pob plentyn.
Mae gan bob plentyn hawl i gael eu trin yn deg a’u cadw’n ddiogel. Mae yna hawliau sy’n diogelu plant ag anableddau, plant sy’n byw ar wahân i’w teuluoedd, a phlant sy’n dianc o wlad lle nad ydyn nhw’n ddiogel.
EGWYDDORION CYFFREDINOL CCUHP
Mae modd rhannu CCUHP yn bedwar prif gategori, sy’n cael eu galw’n egwyddorion cyffredinol. Mae’r rhain yn ein helpu i ddeall y confensiwn yn well a sut mae pob Erthygl neu hawl yn ymwneud â’n bywydau beunyddiol. Ond beth maen nhw’n ei olygu mewn gwirionedd?
Yr Egwyddorion Cyffredinol yw: Peidio â Chamwahaniaethu
Lles Pennaf y Plentyn
Bywyd, Goroesi a Datblygu
Cyfranogiad
Ond beth yw ystyr hynny mewn gwirionedd?
Peidio â Chamwahaniaethu
Mae peidio â chamwahaniaethu yn golygu bod angen trin pob plentyn yn deg. Mae hynny’n golygu bod gan bob plentyn hawliau, heb ystyried ethnigrwydd, rhywedd, crefydd, iaith, galluoedd, beth rydych chi’n ei feddwl neu ei ddweud, neu beth yw cefndir eich teulu. Mae hawliau plant yn eiddo i bawb o dan 18 oed, a does gan neb, gan gynnwys y llywodraeth, bŵer i gymryd eich hawliau i ffwrdd.
Mae hawliau plant yn bodoli i’ch cefnogi i gael y profiad gorau posibl yn ystod eich plentyndod, gan eich arwain i ddyfodol lle gallwch chi gyflawni hyd eithaf eich potensial.
Lles Pennaf
Llais Cyfle Diogelwch
Rhaid i bawb sy’n ymwneud â bywyd plentyn weithredu er eich lles pennaf bob amser. Dylen nhw gadw holl hawliau plant mewn cof i sicrhau eu bod yn eich cefnogi ac yn gwrando arnoch chi ym mhob penderfyniad sy’n cael ei wneud amdanoch chi a’ch bywyd.
Bywyd, Goroesi a Datblygu
Mae gan bob bod dynol anghenion sylfaenol fel digon o fwyd, dŵr glân, a chartref diogel. Mae hynny’n sicrhau ein bod ni’n gallu byw a goroesi. Mae angen hefyd i ni gael cyfleoedd i ddysgu, datblygu cyfeillgarwch ag eraill, a bod â theulu gofalgar. Mae gennych hawliau o ran bywyd, goroesi a datblygu oherwydd bod y rhain i gyd yn rhoi offer i chi ddatblygu iechyd corff a meddwl cadarnhaol er mwyn ffynnu.
Cyfranogiad
Mae gan bob plentyn hawl i gael eu clywed a’u gwrando ar bob mater sy’n effeithio arnyn nhw. Dylai eu barn gael ei hystyried ar bob lefel o wneud penderfyniadau, ac ym mha ffordd bynnag maen nhw’n ffafrio neu’n gallu mynegi eu hunain. Wrth ymgysylltu â phobl ifanc mae’n bwysig eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd hwnnw, ac yn cael yr wybodaeth gywir mewn fformat hygyrch.
Yn CCUHP, caiff pob hawl ei diffinio a’i hesbonio mewn Erthygl, ac mae’r egwyddorion cyffredinol yn rhoi trosolwg sy’n crisialu’r themâu sy’n llifo trwy’r confensiwn cyfan. Fodd bynnag, os meddyliwn am bob hawl neu Erthygl fel petai ar wahân i’r lleill, ni allwn ddeall yn llawn arwyddocâd hawliau plant na’u heffaith bosibl ar unigolion a chymdeithas. Gallwn ni feddwl am yr Erthyglau yn CCUHP fel brics. Mae brics yn cyflawni sawl diben gwahanol; gellir eu defnyddio i godi strwythur fel tŷ, y gallwn ni ddweud sy’n cynnwys atgofion plentyndod. Gall brics godi llwybr hefyd, yn union fel mae hawliau plant yn arwain plant i’w dyfodol gorau posibl. Ond beth sy’n digwydd os ceisiwch chi dynnu un o’r brics o’r wal? Mae’r wal yn syrthio. Os nad yw plant yn cael mynediad i’w holl hawliau, fyddan nhw ddim yn gallu profi’r holl fanteision a ddaw yn sgîl y confensiwn.
MAP CYSYNIAD CCUHP
Lles Pennaf
Hawliau plant sy’n ffoaduriaid
Peidio â Chamwahaniaethu
Hawliau plant ag anabledd Rhyddid meddwl, cred a chrefydd
Hawl i hunaniaeth
Gwybodaeth am hawliau
Hawl i enw a chenedligrwydd
Yr iechyd gorau posibl
Hawl i ddiogelwch
Teulu
Bywyd, Goroesi a Datblygu
Amddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeuluso
Hawl i breifatrwydd
Nawdd Cymdeithasol
Hawl i gael addysg
Safon byw sy’n ddigonol
Rhyddid mynegiad
Hawl i chwarae, i gael hamdden ac i ymlacio
Hawl i gyrchu gwybodaeth o’r cyfryngau
Nodau addysg
Cyfranogiad
Rhyddid i gymdeithasu
Dadansoddiad o CCUHP
1. Rydw i o dan 18, felly mae’r hawliau yma i fi
2. Mae gen i’r hawliau yma beth bynnag sy’n digwydd
3. Rhaid i unrhyw benderfyniadau ystyried beth sydd orau i fi
4. Rhaid i fy Llywodraeth wneud yn siŵr mod i’n cael mynediad at fy holl hawliau
5. Rhaid i fy rhieni/ngofalwyr gael cefnogaeth i mi allu cael mynediad at fy holl hawliau
6. Mae gen i hawl i fywyd
7. Mae gen i hawl i enw a chenedl
8. Mae gen i hawl i hunaniaeth
9. Mae gen i hawl i fyw gyda fy nheulu, os dyna sydd orau i fi
10. Mae gen i hawl i weld fy nheulu os nad ydyn nhw’n byw gyda fi
11. Mae gen i hawl i beidio â chael fy nghymryd allan o’m gwlad yn anghyfreithlon
12. Mae gen i hawl i gael fy marn wedi’i chlywed a’i chymryd o ddifri
13. Mae gen i hawl i fynegi fy hunan
14. Mae gen i hawl i’m meddyliau, fy nghred a’m crefydd fy hun
15. Mae gen i hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau
16. Mae gen i hawl i breifatrwydd
17. Mae gen i hawl i gael mynediad at wybodaeth ddibynadwy
18. Mae gen i hawl i gael fy magu gan y ddau riant os yw hynny’n bosib
19. Mae gen i hawl i gael fy nghadw’n ddiogel rhag trais, camdriniaeth neu esgeuluso
20. Mae gen i hawl i gael gofal ac amddiffyniad os wyf fi’n methu byw gyda’m teulu fy hun
21. Mae gen i hawl i’r gofal gorau os caf fy mabwysiadu
22. Mae gen i hawl i gael gofal ac amddiffyniad os wyf fi’n ffoadur
23. Mae gen i hawl i amddiffyniad a chefnogaeth arbennig os oes gen i anabledd
24. Mae gen i hawl i ofal iechyd da
25. Os wyf fi ar wahân i’m teulu, rhaid adolygu fy nhriniaeth a’m gofal yn rheolaidd
26. Rhaid i’m teulu gael help ariannol os bydd angen hynny arnyn nhw
27. Mae gen i hawl i fwyd, dillad, a chartref glân, diogel
28. Mae gen i hawl i addysg
29. Mae gen i hawl i gyrraedd fy mhotensial llawn
30. Mae gen i hawl i ddysgu am fy niwylliant, fy arferion, fy iaith a’m crefydd
31. Mae gen i hawl i ymlacio, chwarae, a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol
32. Mae gen i hawl i gael fy amddiffyn rhag gwneud gwaith peryglus
33. Mae gen i hawl i gael fy amddiffyn rhag cyffuriau anghyfreithlon
34. Mae gen i hawl i gael fy amddiffyn rhag cam-drin rhywiol
35. Mae gen i hawl i gael fy amddiffyn rhag cael fy nghipio, fy ngwerthu a’m masnachu
36. Mae gen i hawl i gael fy nghadw’n ddiogel rhag niwed
37. Rhaid i fi gael fy nhrin â pharch a gofal os caf fy nghyhuddo o dorri’r gyfraith
38. Rhaid i mi beidio ag ymuno â’r fyddin nes mod i’n 15 oed o leiaf
39. Mae gen i hawl i help ychwanegol os wyf fi wedi cael fy anafu, fy esgeuluso, neu fy nhrin yn wael
40. Os bydda i’n cael fy nghyhuddo o dorri’r gyfraith, mae gen i hawl i help cyfreithiol ac i gael fy nhrin yn deg
41. Os oes gan fy ngwlad gyfreithiau ychwanegol i amddiffyn plant, rhaid eu dilyn nhw
42. Mae gen i hawl i wybod am fy holl hawliau
DEILIAID HAWLIAU
Nawr eich bod yn gwybod beth yw hawliau plant, gadewch i ni siarad am bwy sy’n gallu eu cyrchu.
Mae hawliau gan bawb ar y Ddaear
Y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol (UDHR) yw’r sylfaen ar gyfer hawliau dynol, sy’n golygu bod pawb yn ddeiliaid hawliau
Ydych chi’n ddeilydd hawliau?
Ydych chi’n mwynhau chwarae neu dreulio amser gyda ffrindiau?
Ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg?
Ydych chi’n gwybod llawer am hawliau plant?
Fyddech chi’n ystyried eich hun yn blentyn?
Ydych chi o dan 18 oed?
Yr unig gwestiwn pwysig yw rhif 5. Cyhyd â’ch bod chi o dan 18 oed, mae gennych chi hawliau plant. Beth bynnag arall sy’n digwydd.
Mae’r Erthygl gyntaf oll yn CCUHP yn nodi, os ydych chi o dan 18 oed, bod gennych chi hawl i bopeth sy’n cael ei gwmpasu gan y confensiwn. Mae hynny’n golygu bod gennych chi hawliau plant. Amddiffyniadau ychwanegol yw’r rhain, sy’n rhoi cyfle i chi ddatblygu a chael y bywyd gorau posibl.
Fodd bynnag, nid yw pob plentyn yn gallu mwynhau eu hawliau am amrywiaeth o resymau. Mae sefydliadau fel Plant yng Nghymru yn ymgyrchu i sicrhau newidiadau a gwasanaethau sy’n helpu pawb i gael mynediad i’w hawliau. Erthygl
Mae Plant yng Nghymru yn gobeithio y bydd pawb yn parchu hawliau pob plentyn ryw ddydd. Ond dyw hynny ddim yn digwydd eto. Fel deilydd hawliau gallwch chi godi llais am anghyfiawnder rydych chi a’ch ffrindiau’n ei wynebu. Gallwch chi hefyd geisio cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol pan fyddwch chi’n teimlo eich bod chi ddim yn cael mynediad i’ch hawliau.
Fel rhywun o dan 18 oed mae gennych chi hawliau ychwanegol, ac mae arnoch chi angen i’r bobl o’ch cwmpas barchu hynny. Pan fyddwch chi’n cerdded lawr y stryd, mae’r holl bobl rydych chi’n cwrdd â nhw yn ddeiliaid hawliau. Mae hynny’n golygu y dylech chi wneud eich rhan a pharchu hawliau pobl eraill.
Erthygl 2
Peidio â Chamwahaniaethu
Gallwch chi helpu pobl i wireddu Erthygl 2 trwy wneud y canlynol:
• Bod yn garedig i bawb o’ch cwmpas
• Trin pawb yn deg
• Dweud wrth oedolyn rydych chi’n eu trystio os gwelwch chi rywun yn cael eu bwlio, neu eu trin yn annheg
• Sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth, homoffobia, neu unrhyw fath arall o gamwahaniaethu
• Meddwl cyn gweithredu
Erthygl 15
Rhyddid i Gymdeithasu
Gallwch chi helpu pobl i wireddu Erthygl 15 trwy wneud y canlynol:
• Cefnogi eich ffrindiau i fwynhau gweithgareddau gwahanol
• Rhannu gwybodaeth am glwb neu grŵp newydd
• Parchu’r ffaith bod diddordebau pawb yn wahanol
• Rhoi cynnig ar rywbeth newydd
Allwch chi feddwl am unrhyw ffyrdd eraill i helpu’r rhai o’ch cwmpas i gael mynediad i’w hawliau?
DEILIAID DYLETSWYDD
Pa rôl sydd gan bobl dros 18 oed o ran hawliau plant?
Mae rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried yn weithredol sut bydd eu penderfyniadau’n effeithio ar blant, a chymryd camau i weithredu er eu lles pennaf.
Ond mae’r cyfrifoldeb yma’n cwmpasu mwy na’r Prif Weinidog. Dylai pawb sy’n gweithio gyda’r llywodraeth, neu sy’n ymwneud â bywydau plant mewn rhyw ffordd, eu helpu i gael mynediad i’w hawliau. Mae hynny’n golygu eu bod yn ddeiliaid dyletswydd o ran CCUHP.
Yn ein cymdeithas ni, yr oedolion sydd â’r rhan fwyaf o’r pŵer. Mae yna raglenni gwych fel seneddau ieuenctid, ymddiriedolwyr ifanc, ac wrth gwrs, Cymru Ifanc, sy’n rhoi llais i blant a phobl ifanc. Ond er gwaethaf hynny, oedolion sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau o hyd. Maen nhw’n llywio plant a phobl ifanc i’r cyfeiriad cywir, ac yn creu’r blociau adeiladu sy’n eu c
Deiliaid dyletswydd yw’r rhai sy’n gyfrifol am gynnal CCUHP, a’r rhai y mae angen iddyn nhw fod yn atebol pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae modd eu gwthio i wneud newidiadau pellach i wella bywydau plant.
Yng Nghymru’n unig, mae bron 450,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan wasanaethau’r llywodraeth fel iechyd ac addysg. Faint ohonyn nhw sy’n deall eu bod yn ddeiliaid dyletswydd o ran CCUHP?
Os ydyn ni am i ddeiliaid dyletswydd eiriol o blaid dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant, mae angen iddyn nhw ddeall sut mae hynny’n edrych, a pherthnasedd hynny i’w rolau hwythau.
RÔL LLYWODRAETH CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried
hawliau plant yn yr holl benderfyniadau maen nhw’n eu gwneud, gan weithredu er lles pennaf plant. Daeth hynny’n un o ddyletswyddau Llywodraeth Cymru pan basiwyd y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (2011), a gallwch chi ddarllen mwy am hynny ar dudalen 14. Cyn bod modd pasio unrhyw ddeddfwriaeth neu gyfraith, mae
rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut gallai hynny effeithio ar blant. Yr enw ar y broses honno yw Asesiad
Effaith ar Hawliau Plant, ac mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru i sicrhau tryloywder. Mae potensial i bob cyfraith effeithio ar bobl ifanc, felly mae’n bwysig bod
Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant bob amser yn cael eu cynnal.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am greu cynlluniau i wneud Cymru’n lle gwell fyth i blant a phobl ifanc. Maen nhw’n datblygu gwasanaethau, polisïau a deddfwriaeth i gyflawni’r nod yma. Maen nhw’n gallu creu cyfreithiau mewn meysydd datganoledig fel addysg a iechyd, a gallwch chi ddarllen am hynny ar dudalen 10.
Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol gyda Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc Kai, Mico, ac Arthur
Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar farn a phersbectif pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau. O dan Erthygl 12 o CCUHP, mae gan blant hawl i gael eu clywed a’u gwrando ar bob mater sy’n effeithio arnyn nhw. Mae plant a phobl ifanc yn arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain. Maen nhw’n gallu gweld cysylltiadau rhwng newidiadau yn y gyfraith a’u profiadau eu hunain y gallai oedolion fethu â sylwi arnyn nhw. Mae gan Lywodraeth Cymru wahanol ffyrdd o glywed oddi wrth bobl ifanc, fel Cymru Ifanc, Senedd Ieuenctid Cymru, a digwyddiadau a fforymau. Gall ysgolion a grwpiau ieuenctid bob amser hwyluso ffyrdd i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed.
Rwy’n credu bod plant wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau ein bod yn cadw hawliau plant ar yr agenda yng Nghymru, oherwydd rydyn ni wedi bod mewn lle amlwg iawn, yng Nghymru, yn y frwydr dros hawliau plant
Julie Morgan AS
Neges gan
Julie Morgan AS a Llywodraeth Cymru:
I CHI ein darllenwyr, Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu Dydyn nhw ddim yn rhywbeth dewisol Maen nhw’n rhan annatod o wead cymdeithas yng Nghymru, ac rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pawb ohonoch chi, holl blant Cymru, yn cael y profiad bywyd gorau
Pan wnaethom gyfweld â gweithwyr proffesiynol o fyd hawliau plant, fe wnaethom ofyn iddynt beth yn eu barn nhw yw’r materion pwysicaf sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc heddiw. Mae’r graffig hwn yn dangos pa faterion a godwyd fwyaf.
Beth ydych chi’n meddwl yw rhai o’r prif faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc?
AROS, CHWARAE, YMLAEN YN GYFLYM: TAITH PLANT YNG NGHYMRUGOBEITHION I’R DYFODOL
Gallwn ni fyfyrio ar y gorffennol, a meddwl am y presennol, ond mae angen hefyd i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Allwn ni ddim teithio i 2124, ond gallwn ni bennu nodau heddiw fydd yn ein helpu i symud at ddyfodol sy’n seiliedig ar hawliau plant.
Mae’n amhosibl gwybod beth yn union fydd yn digwydd nesaf, ar lefel bersonol, gymunedol, ac yn arbennig ar lefel fyd-eang. Ond gall ansicrwydd fod yn beth grymus. Mae’n rhoi cyfle i ni freuddwydio am bethau mawr, dychmygu, ac arloesi.
Dyna bŵer y dyfodol
Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn allweddol mewn sgyrsiau am y dyfodol. Chi fydd y rhai sy’n profi manteision y newidiadau a wneir. Er mwyn deall yn well beth hoffai plant a phobl ifanc ei weld mewn perthynas â hawliau plant, fe wnaethon ni ofyn i rai o wirfoddolwyr
Cymru Ifanc am eu syniadau:
Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio byddplant yn cael mwy o gyfleoedd i rannu barn am ein hawliau!
Sienna, 12 oed, Gwirfoddolwr Cymru Ifanc
AROS,Cynyddu ymwybyddiaeth o ble gall pobl ifanc fel gofalwyr ifanc fynd i gael
gwybodaeth am CCUHP, ac ymuno â grwpiau neu sefydliadau
fel y Comisiynydd Plant
Esbonio bod lleoedd i bawb siarad am eu problemau
Mico, 15 oed, Gwirfoddolwr Cymru Ifanc
Ymgorffori CCUHP yn llawn yng nghyfraith Cymru Gweithio i daclo achosion gwaelodol tlodi plant
Grymuso pobl ifanc i rannu eu barn, eiriol dros eu hawliau, a chefnogi’r rhai o’u cwmpas
Arthur, 16 oed, Gwirfoddolwr Cymru Ifanc
Yn y dyfodol, dylai pob plentyn gael dewisiadau cyfartal
Noa, 13 oed, Gwirfoddolwr Cymru Ifanc
Nawr eich bod wedi gweld rhai o syniadau ein gwirfoddolwyr, meddyliwch am eich gobeithion chi i’r dyfodol. Defnyddiwch eich gallu creadigol i ateb y cwestiynau isod, gan feddwl am y dyfodol.
YDyfodol
Soniwch am un broblem byddech chi’n hoffi ei gweld yn cael ei datrys?
Sut dylai pobl drin ei gilydd yn y dyfodol?
Sut bydd hawliau plant yn cael eu parchu yn y dyfodol?
Allwch chi ddisgrifio’r effaith rydych chi eisiau ei chael ar y byd?
Beth yw eich breuddwyd bersonol chi neu’r peth hoffech chi ei gyflawni?
Oes yna unrhyw gamau gallwch chi eu cymryd nawr i helpu i wireddu’r syniadau yna?
BETH SYDD NESAF?
Mae derbyn yr her o arwain Plant yng Nghymru i mewn i’r pedwerydd degawd yn anrhydedd cyffrous dros ben! Fel y byddwch wedi darllen, yn ystod y 30 mlynedd cyntaf, mae’r sefydliad wedi cyflawni cynnydd mawr ar ran, ac mewn partneriaeth â’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â’r plant a’r bobl ifanc hynny eu hunain. Rwy’n gweld cynnal y cynnydd yma yn gyfrifoldeb mawr, fel y mae arwain sefydliad sy’n parhau i hybu a hyrwyddo Hawliau Plant yn weithredol.
Rydyn ni’n ffodus ein bod yn byw mewn gwlad lle mae Hawliau Plant yn cael eu cymryd o ddifri calon, ond bu angen blynyddoedd o waith caled ac ymgyrchu gweithredol i gyrraedd y fan honno. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar lefel y Deyrnas Unedig, rydyn ni wedi gweld ein hamddiffyniadau hawliau dynol yn dod o dan fygythiad, ac allwn ni ddim llaesu dwylo. Yn y cyd-destun hwnnw felly, gan adeiladu ar dri degawd o gynnydd, yr wyf fi’n addo symud Plant yng Nghymru ymlaen trwy weithio’n egnïol ar y cyd â phlant a phobl ifanc, ein haelodau, y Comisiynydd Plant, gweinidogion y llywodraeth ac unrhyw bartner arall sy’n gallu ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth, sef adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.
CWIS CRYNHOI
Y GORFFENNOL
1. Beth yw gweledigaeth Plant yng Nghymru?
a. Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.
b. Adeiladu Cymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael gwyliau am ddim.
c. Adeiladu Cymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn gyfartal ac yn ddiogel.
2. Beth yw Erthygl 12 o CCUHP?
a. Mae gen i hawl i chwarae.
b. Mae gen i hawl i’m barn gael ei gwrando a’i chymryd o ddifri.
c. Mae gen i hawl i bobl siarad drosof fi ac anwybyddu fi.
3. Am beth mae CCUHP yn sefyll?
a. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
b. Casgliad Clodwiw Unigryw o Hawliau Pysgod.
c. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig o Hanes Pobl.
4. Beth mae Comisiynydd Plant Cymru yn gwneud?
a. Dweud wrth y Cenhedloedd Unedig pa hawliau ddylai fod gan blant.
b. Peintio llinellau melyn dwbl wrth gatiau ysgolion.
c. Eiriol dros hawliau plant yng Nghymru.
Y PRESENNOL
1. Pwy sydd â hawl i dderbyn hawliau dynol?
a. Pawb.
b. Pawb o dan 18 oed.
c. Pawb sydd â gwallt golau.
2. Beth yw ystyr peidio â chamwahaniaethu?
a. Trin pawb yn gyfartal.
b. Trin pawb yn deg.
c. Trin pawb fel robotiaid.
3. Pa Erthygl yn CCUHP sy’n r hoi hawl i fywyd i chi?
a. 1
b. 6
c. 342
4. Beth mae Erthygl 1 o CCUHP yn gwneud?
a. Esbonio pwy sydd â hawliau o dan y confensiwn.
b. Esbonio beth yw confensiwn.
c. Esbonio pwy sy’n gallu gwneud naid ‘bungee’.
5. Nodwch un ffordd mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bobl ifanc?
a. Trwy wahodd pobl ifanc i drafod gyda’r Prif Weinidog.
b. Trwy gwrdd â gwirfoddolwyr Cymru Ifanc.
c. Trwy wylio cartŵnau gyda phobl ifanc.
Y DYFODOL
1. Nodwch un ffordd i bobl ifanc gael mynediad at Erthygl 42?
a. Addysg ar hawliau plant mewn ysgolion.
b. Creu mwy o leoedd chwarae i blant.
c. Ffugio bod yn archarwr.
2. P’un o’r rhain sy’n fater gafodd godi gan weithwyr proffesiynol yn ein cyfweliadau?
a. Camddefnyddio sylweddau.
b. Newid yn yr hinsawdd.
c. Hawliau jiraffod.
3. Pwy yw Hugh Russell?
a. Seren roc.
b. Comisiynydd Plant Cymru.
c. Prif Swyddog Gweithredol Plant yng Nghymru.
LLENWCH Y BYLCHAU
Plant yw’r ____________(1) yn eu bywydau eu hunain, ac mae ganddyn nhw atebion dyfeisgar i broblemau a phersbectif newydd ar y mater rydyn ni’n ei wynebu Mae Erthygl ______(2) o CCUHP yn rhoi hawl i blant gael eu clywed a’u _____________________(3) ar bob mater sy’n effeithio arnoch chi Mae hynny’n cynnwys lleisio barn ar y _______________(4) sy’n cael eu gwneud amdanoch chi’n uniongyrchol, ond hefyd ar lefel ehangach, fel cael cyfleoedd i ymgysylltu yn eich cymuned leol neu efallai hyd yn oed ynghylch newidiadau ___________(5) cenedlaethol Mae cyfranogiad yn helpu i _____________(6) pobl ifanc i reoli eu dyfodol eu hunain ac yn rhoi cyfle ystyrlon iddyn nhw ____________(7) ac eiriol dros newid cadarnhaol Mae amrywiol raglenni a sefydliadau fel ______________________(8), sy’n eich helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, gwneud yn siŵr bod ________________(9) ganddo, a’i fod yn cyrraedd y bobl iawn
Bwlch 1: moron, arbenigwyr, archarwyr
Bwlch 2: 12, 78 biliwn, -32
Bwlch 3: anwybyddu, rhoi mewn
peiriant golchi, gwrando
Bwlch 4: bariau siocled, penderfyniadau, crysau T
Bwlch 5: ymbarél, adeiladu, polisi
Bwlch 9: emosiwn, pwerau hulk, dylanwad
Bwlch 8: Planedau Ifanc, Cymru Ifanc, Hen Ddrychiolaethau
Bwlch 7: codi llais, rhuo, neidio
Bwlch 6: rhwystro, grymuso, jyglo
Bwlch 5: ymbarél, adeiladu, polisi
Bwlch 6: rhwystro, grymuso, jyglo
Bwlch 7: codi llais, rhuo, neidio
Bwlch 8: Planedau Ifanc, Cymru Ifanc, Hen Ddrychiolaethau
Bwlch 9: emosiwn, pwerau hulk, dylanwad
Bwlch 4: bariau siocled, penderfyniadau, crysau T
peiriant golchi, gwrando
Bwlch 3: anwybyddu, rhoi mewn
Bwlch 2: 12, 78 biliwn, -32
Bwlch 1: moron, arbenigwyr, archarwyr
Atebios
GWELD Y
Faint allwch chi ddod o hyd iddynt?
GWAHANIAETH
GWELD Y GWAHANIAETH
Ateb - 5 i gyd
GEIRFA
Agenda – rhestr o faterion bydd grŵp o bobl yn rhoi sylw iddyn nhw, e.e. mewn cyfarfod neu brosiect.
Agored i niwed / Bregus – pan fydd angen gofal arbennig, cefnogaeth a/neu amddiffyniad ar rywun oherwydd eu hanghenion neu eu cefndir. Cyflawnir hyn yn nhermau hawliau, pan fydd person wedi derbyn eu hawliau fel person, pan fyddan nhw’n fodlon ac yn hapus, ac yn cyflawni eu potensial.
Anabledd – pan fydd gan berson gyflwr sy’n golygu eu bod yn symud, yn synhwyro, yn cyfathrebu a/neu’n meddwl yn wahanol i eraill, ac mae’r cyflwr yna’n golygu bod rhaid iddyn nhw wneud gweithgareddau beunyddiol mewn ffordd wahanol.
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – pan fydd gan berson angen penodol sy’n golygu bod dysgu yn y ffordd nodweddiadol yn anodd iddyn nhw.
Anghydraddoldeb – pan nad yw cyfleoedd dau (neu fwy) o bobl neu grwpiau yr un fath, er y dylen nhw fod. Er enghraifft, petai gan glybiau pêl droed menywod lai o gyfleusterau ac arian ar y cyfan na chlybiau pêl droed dynion, byddai hynny’n anghydraddoldeb. Mae’n gysylltiedig â chamwahaniaethu.
Anghyfiawnder – pan fydd rhywbeth yn digwydd sy’n gwbl annheg, neu sy’n mynd yn groes i hawliau rhywun. Er enghraifft, petai plentyn heb le chwarae y gallai fynd iddo, byddai hynny’n anghyfiawn, oherwydd bod hynny’n mynd yn groes i’w hawl i chwarae yn CCUHP (Erthygl 31). Mae hyn yn gysylltiedig â chamwahaniaethu ac anghydraddoldeb.
Atebolrwydd – pan fydd rhywun yn cael eu gwneud yn gyfrifol am y penderfyniadau maen nhw, neu grŵp o bobl maen nhw’n eu cynrychioli, wedi’u gwneud, yn eu gwneud, neu’n mynd i’w gwneud.
Camwahaniaethu – pan fydd person neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn annheg oherwydd pwy ydyn nhw. Gall hynny fod am resymau fel ethnigrwydd, rhywedd, anabledd ac oedran, ond gall pobl wynebu gwahaniaethu yn eu herbyn am lawer o wahanol resymau. Er enghraifft, os bydd menyw’n cael gwybod ei bod hi’n methu ymuno â chlwb pêl-droed oherwydd ei rhyw, byddai hynny’n enghraifft o gamwahaniaethu. Mae’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb.
Ceisio Lloches/Noddfa – pan fydd person neu bobl ddim yn ddiogel lle maen nhw’n byw ar hyn o bryd, felly maen nhw’n mynd i rywle arall lle maen nhw’n teimlo’n fwy diogel.
Cydgynhyrchu – pan fyddwch chi’n gweithio mewn partneriaeth â pherson neu grŵp o bobl i gyrraedd nod cyffredin.
Cyfraith – rheol mae’n rhaid i bawb mewn gwlad ei dilyn. Yr enw ar y broses o greu cyfraith yw deddfu.
Datblygiad – sut mae rhywbeth yn newid a thyfu dros amser. Er enghraifft, mae plant yn datblygu’r gallu i siarad dros gyfnod hir o amser.
Dyletswydd – pan fydd cyfrifoldeb penodol ar berson neu bobl o dan y gyfraith.
Eiriol – Pan fydd rhywun yn codi llais neu’n ymgyrchu dros berson arall neu grŵp o bobl oherwydd byddai’n anodd iddyn nhw siarad drostyn nhw eu hunain.
Fforwm – cyfarfod lle mae grŵp o bobl yn trafod gwahanol syniadau. Gallai hynny fod ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Gofalwr ifanc – rhywun o dan 18 oed sy’n gorfod gofalu am rywun arall sy’n byw gyda nhw oherwydd angen iechyd neu anabledd.
Grŵp Ffocws – grŵp o bobl sy’n dod at ei gilydd i drafod mater penodol. Gall ymchwilwyr ddod â grŵp ffocws ynghyd i gasglu gwahanol safbwyntiau ar y mater maen nhw’n ymchwilio iddo.
Gweinidog – Rhywun mewn llywodraeth sydd â gofal am faes penodol, er enghraifft Iechyd neu Addysg.
Llywodraeth – y Llywodraeth sy’n rhedeg y wlad, ac sy’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisi a drafftio cyfreithiau.
Polisi – dogfen mae llywodraeth neu sefydliad arall yn ei chreu er mwyn dweud sut maen nhw’n bwriadu rhoi sylw i fater penodol.
Pwyllgor – grŵp o bobl sy’n dod at ei gilydd i drafod a gwneud penderfyniadau ar fater neu brosiect penodol.
Senedd Ieuenctid Cymru – grŵp o bobl ifanc sy’n dod at ei gilydd i drafod materion mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru, gan awgrymu ffyrdd o roi sylw iddyn nhw. Mae pob un ohonyn nhw’n cynrychioli ardal wahanol yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r Senedd. Cewch ragor o wybodaeth amdanyn nhw ar eu gwefan - https://youthparliament.senedd.wales/
Senedd – grŵp o bobl sy’n cael eu hethol gan y bobl mewn gwlad, sy’n cwrdd ac yn gwneud penderfyniadau am beth ddylai gael ei wneud yn y wlad honno. Mae gennym ni Senedd yng Nghymru, ond roedd yn arfer cael ei galw’n Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Stereoteip – pan fydd person yn disgwyl i rywun arall weithredu mewn ffordd arbennig neu fod â nodweddion penodol oherwydd pwy ydyn nhw. Mae hyn yn aml yn cael ei gysylltu â phethau fel oed, hil, rhywedd neu anabledd, ac mae’n nodweddiadol negyddol. Er enghraifft, petaech chi’n credu bod person yn methu chwarae pêl droed oherwydd eu bod nhw’n fenyw, byddai hynny’n stereoteip. Tlodi – pan fydd gan berson neu grŵp o bobl ychydig iawn o arian. Efallai byddan nhw’n cael trafferth fforddio bwyta, talu am dŷ neu bethau eraill mae arnyn nhw eu hangen.
Tryloywder – pan fydd rhywbeth yn cael ei wneud yn glir i eraill. Er enghraifft, os bydd llywodraeth yn dryloyw am sut maen nhw’n gwneud penderfyniadau, mae hynny’n golygu bod pobl yn gallu gweld a deall sut maen nhw wedi gwneud y penderfyniadau hynny.
Wedi gwreiddio – pan fydd rhywbeth yn ganolog i fater neu brosiect. Er enghraifft, pan fydd dull seiliedig ar hawliau plant wedi gwreiddio mewn ysgol, mae hynny’n golygu bod hawliau plant bob amser yn cael eu hystyried, ac yn bwysig iawn i’r ysgol.
Y Cenhedloedd Unedig – sefydliad rhyngwladol sy’n cyflwyno argymhellion a datganiadau ynghylch materion byd-eang. Eu diben yw hybu heddwch a diogelwch i bawb.
Ymddiriedolwr – rhywun sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch beth dylai elusen wneud o ran ei harian, ei pholisïau a’i gweithdrefnau. Mae’n rhaid bod gan bob elusen yn y Deyrnas Unedig grŵp o ymddiriedolwyr, sy’n cael eu galw’n fwrdd. Ymgorffori – Yn nhermau CCUHP, mae hynny’n golygu bod gwlad yn ymrwymo’n llawn i CCUHP ac yn gwneud yr erthyglau’n rhan o’u cyfraith.
Ymgynghoriad – pan fydd grŵp o bobl yn cael eu holi am sut mae rhywbeth yn effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, neu sut gallai effeithio arnyn nhw petai’r sefyllfa’n newid.
Ymgyrch – pan fydd grŵp o bobl sydd am weld newid yn digwydd yn dod at ei gilydd ac yn dweud wrth y rhai sydd â phŵer beth maen nhw eisiau. Byddai ymgyrchydd yn aelod o’r grŵp.
Ydych chi’n gwybod beth yw eich hawliau?
Ydych chi’n ddeilydd hawliau?
Beth yw CCUHP?
Mae Plant yng Nghymru yn benderfynol o ddechrau sgyrsiau am hawliau plant; helpu pawb i ddeall pa hawliau sydd ganddyn nhw a sut gallan nhw barchu hawliau pobl eraill. Teithiwch nôl mewn amser i weld sut cychwynnodd hyn i gyd, beth sy’n digwydd nawr, a beth gallai’r dyfodol ei gynnig.
Mae Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru, a grewyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, yn rhoi llais newydd i’r mudiad hawliau plant, lle mae’r hawl i gael eich clywed a’ch gwrando yn ein tywys i’r dyfodol.
ERTHYGL 12 BOB CAM O’R FFORDD
Cewch wybod yn union beth mae hynny’n golygu trwy edrych y tu mewn!