Adolygiad Blynyddol AVOW 2020 - 2021 (Cymraeg)

Page 1

Adolygiad Blynyddol 2020 - 2021


John Gallanders, Y Prif Swyddog

AVOW | Tŷ Avow 21 Egerton Street | 21 Stryd Egerton Wrexham | Wrecsam | LL11 1ND Charity Number/Elusen Rhif: 1043989 Company Limited by Guarantee Number Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif: 2993429

Stephen Perkins, Cadeirydd

01978 312556

/AVOWWrexham

info@avow.org

@AVOWWrexham

avow.org

in

/AVOWWrexham


Rhagair Gan John Gallanders, Y Prif Swyddog a Stephan Perkins, Cadeirydd

Pwy fuasai wedi meddwl 12 mis yn ôl y buasem ni dal yng ngafael gwahanol gyfnodau o Covid yn ystod y flwyddyn ariannol gyfan? Hoffem ni ddiolch i holl Staff ac Ymddiriedolwyr AVOW sydd wedi ymrwymo’n barhaus i gefnogi gwirfoddolwyr a mudiadau yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ni i gyd wedi gorfod dod i delerau gyda’r ffordd newydd o weithio fel dysgu i ddweud wrth bob yn rheolaidd ‘Rydych chi ‘ar mute’!’ neu godi llaw ar bobl ar ddiwedd galwad Zoom. Tydy pobl ddim yn gorfod chwilio am lefydd sy’n cynnal cynadleddau fideo bellach gan fod y cyfleuster yna ar gael ar eu cyfrifiadur. Bydd llawer o’r newidiadau sydd wedi bod heb os yn siapio sut mae AVOW yn cysylltu gyda mudiadau a gwirfoddolwyr am amser hir i ddod gyda newidiadau yn digwydd ar draws yr holl Drydydd Sector. Mae AVOW yn parhau i roi cefnogaeth ac rydym ni’n croesawu unrhyw fudiad i gysylltu gyda ni. Hoffem ni ddiolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli i helpu eraill naill ai yn ffurfiol trwy AVOW neu yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r ymateb wedi bod yn hollol newydd ac yn dangos pa mor barod ydy pobl i helpu eraill. I unrhyw un o’r gwirfoddolwyr newydd sydd wedi dod ymlaen sydd eisiau cyfrannu mewn ffyrdd eraill bydd staff gwirfoddoli AVOW yn gallu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd newydd. Hoffem ni hefyd gydnabod yn bersonol y diweddar John Leece Jones wnaeth ein gwasanaethu fel Cadeirydd am 11 mlynedd. Bu i John Leece wneud cyfraniadau sylweddol i AVOW a’r Trydydd Sector yn Wrecsam ac mae ei farwolaeth yn golled enfawr i’r gymuned. Hoffem ni hefyd gydnabod yr holl wirfoddolwyr a staff eraill ar draws ein cymuned sydd wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.


Teyrnged arbennig i 20fed o Ragfyr 1948 - 1af o Fehefin 2021 Ymddiriedolwr Mawrth 2011 – Mehefin 2021

Gyda thristwch mawr yr ydym yn rhoi gwybod am farwolaeth John Leece Jones neu John Leece fel yr oedd llawer yn ei adnabod mor annwyl. Daeth John yn Ymddiriedolwr i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) ym mis Mawrth 2011 ac yn ystod yr amser hynny mae wedi bod yn Ysgrifennydd Cwmni a Chadeirydd y rhan fwyaf o’i phwyllgorau ac fel Cadeirydd Gweithredol AVOW mae wedi tywys y mudiad trwy sawl datblygiad o ddyddiau Cymunedau’n Gyntaf. Roedd John bob tro yn dangos balchder personol ac mae wedi bod yn ased aruthrol i AVOW a bydd colled fawr ar ei ôl ymysg yr holl staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr oedd yn ei adnabod yn ei wahanol swyddi. Roedd ei wybodaeth am Wrecsam a mudiadau gwirfoddol o’r radd flaenaf. Roedd ei amser a’i ymroddiad i AVOW bob tro yn hael gyda gwên hapus ar ei wyneb bob tro byddai’n dod i Dŷ AVOW a byddai bob tro yn canmol yr Ymddiriedolwyr, staff a’r gwirfoddolwyr.


John Leece Jones

Roedd John Leece Jones yn ŵr bonheddig o’r “hen oes” - yn galon-gynnes ac yn hoffus iawn gan bawb am ei garedigrwydd, ystyriaeth a natur gefnogol. Roedd hefyd yn croesawu technoleg, fel yr oedd yn ei ddangos llawer gyda’i iPad a’i holl wybodaeth ac yn fwy diweddar ei barodrwydd i dderbyn Zoom fel y ‘normal’ newydd. Roedd ymroddiad John Leece i wasanaeth cyhoeddus yn esiampl i bawb yn y Trydydd Sector ac i fywyd cyhoeddus yn Wrecsam a bydd atgofion annwyl amdano a’i gyfraniad gwerthfawr i Wrecsam a’r gymuned ehangach. Y mae John yn gadael ar ei ôl ei wraig Sali a mab, John.


Ymddiriedolwyr a Staff Ymddiriedolwyr John Leece Jones Stephen Perkins Barbara Roxburgh Mervyn Dean Wanjiku Mbugua David Thompson Mary Walker Howard Davies Margaret Heaton Berni Durham Jones Gary Jones Helen Davies Scot Owen John Swarbrick

Canolfan Wirfoddoli Wrecsam Vicky Bolton Val Connelly

Cefnogaeth Busnes Kate Davies Natasha Borton John Gallanders Victoria Milner Ken Rowlands Sharon Stocker Darren Tomkins

Datblygu Cymunedol Sandra Anderson Anna Szymanka Nigel Davies Rafat Arshad-Roberts


yn ystod 2020 - 2021

Shopmobility

Llyfodau Bach

Kath Brown Jean Fortune

Carers

Sophie Bunning Sharon Evans Stacy Ithell Zoe Jones Lisa Jones Paula Wilcox Carolyn Wilks Louise Evans

Kim Sheridan Justine Hurst

Cyllid Katherine Prince Lowri Jones Sian Pritchard

Chwarae AVOW A diolch anferthol I’n holl wirfoddolwyr sy’n help dirfawr AWOV o dydd i dydd.

David Bullough Claire Pugh Gemma Jones Natalie Sear Gareth Poole


Gweledigaeth Cenhadaeth ‘Gweledigaeth AVOW ydy bod y sectorau gwirfoddol a chymunedol yn mynd ati I gyflawni eu cenhadaeth er budd y gymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.’

Er mwyn gofalu fod y sectorau gwirfoddol a chymunedol yn cyflawni eu cenhadaeth er budd y gymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, bydd AVOW yn: • Cefnogi datblygu unigolion a mudiadau yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol. Meithrin a chynnal ymarfer da. • Cynnig gwasanaaethau priodol I’r sectoriau gwirfoddol a chymunedol • Ymgynghori gyda, cynrychioli a hyrwyddo y sectoriau gwirfoddol a chymunedol yn lleol ac yn genediaethol. Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) Mae AVOW yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) – yr enw cydweithrediadol ar rwydwaith o fudiadau cefnogi ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, sef 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC’s) yng Nghymru ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Y nod ar y cyd ydy gofalu fod modd I’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru weithredu er lles unigolion a chymunedau, heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Bydd ein Gwaith ar y cyd yn canolbwyntio ar bedwar maes Gwaith: • • • •

Gwirfoddoli Trefn Lywodraethol dda Cyllid cynaliadwy Cydweithio a dylanwadu


Gwifoddoli Nod: Cymru yn elwa ac yn ffynnu oherwydd gwirfoddoli

161 o wirfoddolwyr wedi’u cefnogi

8 sesiwn gwirfoddoli galw heibio

Tîm Ymateb Cymunedol Wrecsam Bu i Lywodraeth Cymru ddarparu arian i hyrwyddo gwydnwch yn y sector gwirfoddol wrth iddo ailafael yn dilyn Covid. O ganlyniad, bu i AVOW sefydlu’r Tîm Ymateb Cymunedol fydd yn gwneud dau beth: • Helpu cymunedau mewn argyfwng oherwydd pethau fel llifogydd a gwagio brys, gan weithio’n agos gyda’r HSVG. • Helpu grwpiau gwirfoddol a chymunedol pan fydd angen gwirfoddolwyr arnyn nhw ar gyfer digwyddiadau un tro. Cafodd hyfforddiant perthnasol ei ddarparu iddyn nhw am ddim ac roedd yn cynnwys: • Cymorth Cyntaf Syml a Hamddenol • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i’r Ieuenctid ac Oedolion • Diogelwch i Blant a Phobl Ifanc • Llywodraethu Da a Dod o Hyd i Ymddiriedolwyr Da • Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gan gynnwys Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb • ILM mewn Sgiliau Goruchwylio Tîm ac Arweinyddiaeth Wirfoddol • Hyfforddiant MIDAS Yn ychwanegol, bu i’r arian helpu’r holl sector cymunedol a gwirfoddol drwy ddarparu hyfforddiant am ddim a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i unrhyw wirfoddolwr ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

170 o wirfoddolwyr wedi’u recriwtio

26 cwrs hyfforddi yn 2021


Gwobrau COVID-19 Roedd Gwobrau COVID-19 ar agor i’r cyhoedd i enwebu a dathlu’r bobl a’r mudiadau wnaeth wirfoddoli eu hamser i’r gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Mae Rhif 22 Wrecsam wedi darparu gwasanaeth hanfodol i’r gymuned drwy goginio a danfon prydau poeth a bwyd iach i bobl ddigartref neu mewn llety dros dro. Mae Lynda wedi gwirfoddoli gyda’r Groes Goch Brydeinig ac wedi cefnogi unigolion oedd yn dod adref o’r ysbyty. Mae Ni ydy Plas Madoc wedi darparu gwasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig gan flaenoriaethu lles y preswylwyr a sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai oedd ei angen fwyaf. Mae Jane wedi bod yn wirfoddolwr gweithgar gyda Gwirfoddolwyr Ceiriog Uchaf yn ystod y cyfnod clo, gan sefydlu a chynnal cysylltiadau hanfodol yn y gymuned. Mae Claire wedi bod yn codi arian i Awyr Las – Elusen Gogledd Cymru y GIG drwy wnïo gorchuddion wyneb a bagiau sgwrio i aelodau’r gymuned gyda Gwnïo dros y GIG – Ardal Wrecsam gogledd Cymru. Bu Joanne, ar y cyd gyda Dragon Diners (cwmni Pryd ar Glyd) gynnig cinio am ddim i weithwyr allweddol yn Llai. Roedd hyn yn golygu llawer i’r bobl. Yn ystod y cyfnod clo, mae Catherine wedi gweithio’n ddiflino i gydlynu’r tîm o wirfoddolwyr yn yr ardal leol i helpu’r rheiny sy’n cysgodi neu’n hunan ynysu i dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae Jayne wedi helpu trigolion bregus ym Mharc Caia yn ystod y pandemig i dderbyn eu neges a siopa hanfodol a chodi arian i elusennau lleol. Mae Asiantau Cymunedol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gweithio ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod y pandemig, sefydlu ffyrdd newydd ac arloesol o gadw hen bobl mewn cysylltiad a chydlynu gwirfoddolwyr yn eu cymunedau.


Bu i Catrin ymrwymo ei hamser i helpu trigolion yn ei chymuned. Mae aelodau o’i chymuned wedi’i disgrifio yn ‘anhunanol’ ac wedi ‘achub bywydau’ am ei chefnogaeth barhaus. Mae Carys o Bartneriaeth Parc Caia Cyf wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r henoed a’r rheiny sy’n hunan ynysu ym Mharc Caia. Mae hi wedi galluogi preswylwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, drwy ddarparu pecynnau o weithgareddau, blodau a gwybodaeth. Yn ystod y cyfnod clo mae Dylan wedi gweithio gydag Incredible Edible Wrecsam i adfywio safleoedd canol y dref ar gyfer y prosiect, mae’r cynnyrch gaiff ei dyfu ar y safleoedd hyn yn fwyd am ddim i unrhyw un ei gynaeafu. Bu i Lisa gefnogi trigolion a gweithwyr allweddol yn ei chymuned trwy gydol y cyfnod clo. Yn o gystal â bod yn ffrind ar ben arall y ffôn, bu i Lisa wirfoddoli yn ei hysbyty lleol. Mae’r Caffi Cymunedol wedi sefydlu banc bwyd ac wedi darparu bwyd i dros 120 o deuluoedd sydd wedi dioddef caledi yn ystod y pandemig.


Trefn Lywodraethol Dda Nod: Y rheiny sy’n gyfridol am gynnal mudiadau trydydd sector yn arwain eu mudiad yn effeithiol a chynnal safonau uchel o drefn lywodraethol.

133 o fudiadau wedi’u cefnogi yn uniongyrchol gyda chyngor uniongyrchol

29 o fudiadau wedi’u cefnogi gyda chyngor arbenigol

Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru Mae adnodd arbennig wedi’i ddatblygu a’i lansio eleni. Mae Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn wefan newydd wedi’i datblygu ar y cyd gyda WCVA a’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru a chanddi nifer fawr iawn o adnoddau fel polisïau templed, cwrs a fforwm ar-lein. Adfywio Cymru Mae ychydig iawn o waith wedi’i wneud trwy raglen Adfywio Cymru. Mae pandemig COVID-19 wedi gweld nifer o ymholiadau yn dod gan fudiadau sy’n gofyn am gefnogaeth benodol ar ba weithgareddau mae hawl ganddyn nhw i’w cynnal. Mae hyn wedi arwain at sefydlu Rhwydwaith Adeiladau Cymunedol, mae’r rhwydwaith newydd wedi gweithredu gyda diweddariadau ar ganllawiau presennol Llywodraeth Cymru gaiff eu diweddaru tua bob chwe wythnos. Cefnogaeth Gymunedol BAME Wedi’i ariannu gan Leiafrifoedd Ethnig a Chefnogaeth Ieuenctid a Moondance. Ym mis Ionawr 2021, bu i Brosiect Sgiliau BME gan AVOW a dau Gyngor Gwirfoddol Sirol arall yng Nghymru gyrraedd ei drydedd flwyddyn, sef y flwyddyn olaf. Roedd y prosiect yn cefnogi mudiadau a grwpiau cymunedol BAME bach i dyfu a ffynnu gyda mynediad at gefnogaeth arbenigol sydd ar gael. Yng nghanol mis Ionawr 2021, dechreuodd AVOW, gydag arian o Gronfa Cymorth COVID-19 Moondance, ddechrau Prosiect Cefnogaeth Gymunedol BAME i gydnabod yr angen hanfodol i barhau gyda’r math hwn o waith cymunedol. Wedi’i ariannu am 12 mis, mae’r prosiect yn anelu at gysylltu gydag a chefnogi grwpiau lleiafrifol allweddol yn ardal Wrecsam. Gall grwpiau dderbyn yr holl wasanaethau sydd ar gael gan AVOW, gan gynnwys hyfforddiant, fforymau rhwydweithio, cyngor ariannu, cefnogaeth gwirfoddoli, cyngor cyflogres a chyfrannu at ymgynghoriadau lleol a chenedlaethol.


Gorchymyn a Chyflwyno Nod: Mae polisïau a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwella trwy fudiadau’r trydd sector sy’n dylanwadu arno.

42 digwyddiad mewn partneriaeth

688 wedi cymryd rhan

Menter Wrecsam Daeth y prosiect gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n ceisio cynnig cefnogaeth gynnar i fusnesau sy’n dechrau arni, i ben ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r fenter yn ceisio annog agweddau entrepreneuraidd a helpu unigolion edrych ar beth gall fod yn hunangyflogedig ei olygu iddyn nhw. Roedd hefyd yn adnabod rhwystrau cydnabyddedig i fod yn entrepreneur ac yn edrych ar ffyrdd creadigol o gwmpas bod yn hunangyflogedig. Er gwaethaf COVID-19 yn ystod ei flwyddyn olaf, bu i’r prosiect gyflawni:

135 o unigolion wedi’u cefnogi i fod yn hunangyflogedig neu i ddechrau arni

70 o gleientiaid Busnes Cymru

Tîm Lles Gogledd-ddwyrain Cymru Oherwydd lleihad mewn arian nawdd ac arian cytundeb, mae’r Tîm Iechyd a Lles blaenorol bellach wedi’i gwtogi i un Swyddog Iechyd a Lles. Mae nifer sylweddol o gyfarfodydd a phartneriaethau yn gysylltiedig gyda’r maes gwaith hwn. Mae cysylltiadau i’r Trydydd Sector ehangach trwy’r Rhwydwaith Lles (gaiff ei redeg ar y cyd gyda FLVC), y Fforwm Plant a Phobl Ifanc (Wrecsam yn benodol) a’r Daily Digest electroneg gaiff ei ariannu ar y cyd gyda FLVC.


Diwrnod Cofio’r Holocost Bu seremoni rithiol gyda sawl un yn mynychu a nifer o siaradwyr, gan gynnwys: • • • • •

Lesley Griffiths AC Simon Baynes AS Y Gwir Barchedig Peter M Brignall, Esgob Wrecsam Wanjiku Mbugua – BAWSO Maer Wrecsam y Cyng. Rob Walsh

Fel rhan o’r digwyddiad i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost gydag Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost, bu i AVOW weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Natasha Borton i hwyluso gweithdy barddoniaeth gyda phlant o Faes Carafanio Ffordd Rhuthun.

‘Yn gyntaf fe ddaethant…’ Yn gyntaf fe ddaethant am y bobl sy’n rhy glên, Ac ni ddywedais ddim gan nad ydw i’n rhy glen. Yna fe ddaethant am y bobl sy’n caru’n wahanol, Ac ni ddywedais ddim gan nad ydw i’n caru’n wahanol. Yna fe ddaethant am y bobl sy’n edrych yn wahanol, Ac ni ddywedais ddim gan nad ydw i’n edrych yn wahanol. Yna fe ddaethant am y gymuned Sipsi, Roma a Theithwyr, Ac ni ddywedais ddim gan nad ydw i’n Sipsi, Roma na Theithiwr. Ac yna fe ddaethant amdana’ i A doedd neb ar ôl i ddweud dim drosta’ i.


Wythnos y Gwirfoddolwyr 2021 Eleni bu i AVOW ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr gydag ymgyrch ‘diolch’ rhithiol oedd yn cynnwys: • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • •

Parkrun Erddig Young volunteers at the Rhos foodbank Young volunteers at The Rhos Community Café Del Williams, volunteer for BCU. Keith Sinclair, St. David’s Church, Froncysyllte Linda Bowe, Kim-Inspire Linda Jones, Stepping Stones North Wales Board of Trustees, Stepping Stones North Wales Jennie Henderson, Stepping Stones North Wale Pat Davies, Stepping Stones North Wales Gaynor Benson Community Volunteer Paul Pemberton, Community Councillor Michelle Wynne, Community Agent Andrew Roberts, community councillor Grace Lockhart, Rhos community café Eddie Roberts, Pant Food Bank, David Maddocks, Pant Food Bank Alison Thompson, Wrexham PPE Hwb Ashanthini Panaimuthu, Centre of Sign, Sight, Sound Susan Lees, Vision Support Wyn Francis, Citizens Advice Wrexham Claire Smith, Citizens Advice Wrexham Barbara Edwards, Maelor Voluntary Services, Young volunteers on the Youth Led Grants Panel All members of the Community Response Team Community volunteers over the COVID-19 pandemic NEWCIS Volunteers Stepping Stones North Wales Team


Cynaliadwy Cyllid Nod: Gwasanaethau trydydd sector yn cyfrannu at lesiant cymunedol

£321,000 o arian nawdd gyda chefnogaeth gan AVOW

£57,476 o arian nawdd wedi’i wobrwyo gan AVOW

82 o fudiadau wedi’u cefnogi gyda chyngor

£12,000 cronfa dod yn ffrind i ffrind mewn angen

Dros y 12 mis diwethaf, mae AVOW wedi darparu cyngor ariannu a chyfleoedd ar draws y trydydd sector ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r gwasanaeth hwn wedi bod yn arbennig o bwysig i fudiadau mewn argyfwng oherwydd pandemig COVID-19. Mae’r gwasanaeth ar hyn o bryd yn cynnig cyngor, arweiniad, cefnogaeth, grŵp Facebook ac yn hyrwyddo Porth Cyllido Cymru ar-lein. Mae rhai enghreifftiau o’r nifer o lwyddiannau lle rydym ni wedi cefnogi gwahanol fudiadau yn cynnwys: • Bu i Gronfa Etifeddiaeth Partneriaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam dderbyn £109,000 i barhau gyda’u gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf. • Grŵp Integreiddio Cymunedau Pwylaidd £9,960 o arian nawdd gan y Loteri i gefnogi cymunedau Pwylaidd yn Wrecsam a £14,800 gan Moondance ar gyfer ystafell fwy yn Nhŷ AVOW i gynnig Gwasanaeth Cynghori. • Caffi Cymunedol Rhos £9,600 i gefnogi gwasanaeth danfon bwyd y gymuned i’r henoed. Mae cymorthfeydd, gweithdai a sesiynau gwybodaeth sydd wedi’u cynnal yn cynnwys: • • • • • •

Cronfa Treftadaeth y Loteri Rhoi yn Lleol / Local Giving, sesiynau cefnogaeth ymarferol Cymhorthfa Plant Mewn Angen Treth Gwarediadau Tirlenwi gyda WCVA Cymuned BAME Adeiladau Cymunedol


Tîm Chwarae AVOW Caiff Tîm Chwarae AVOW ei ariannu trwy Fuddsoddi’n Lleol, Plant Mewn Angen a Theuluoedd yn Gyntaf i weithio ym Mhlas Madoc gan ddarparu gwasanaeth i blant, rhieni ac oedolion y gymuned. Mae’r Tir yn faes chwarae sgrwtsh ar gyfer plant Plas Madoc a thu hwnt. Yno mae celfi ‘sgrwtsh’ sydd wedi’u rhoi fel rhodd, mae’r Tir yn ymateb i chwilfrydedd naturiol plant gan greu syniadau a chreadigrwydd newydd. Caiff y gofod bob tro ei staffio gan weithwyr chwarae profiadol, ymroddedig ac sydd wedi derbyn hyfforddiant, sy’n trysori gweithio gyda phlant a datblygiad cymunedol sy’n seiliedig ar asedau. Yn ychwanegol i’r gweithwyr chwarae, mae’r tîm hefyd yn ddiweddar wedi recriwtio Swyddog Datblygu Cymunedol sy’n cefnogi gwaith a blaenoriaethau grŵp cymunedol Ni ydy Plas Madoc. Oherwydd Covid-19 mae’r tîm wedi addasu’r gwasanaethau i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn parhau i aros mewn cysylltiad a derbyn cefnogaeth tra bod gweithgareddau wyneb-i-wyneb wedi’u gohirio. Mae’r tîm wedi gwneud meinciau, dalwyr planhigion a thai gwydr o bren wedi’i adfer i’r trigolion, danfon pecynnau bwyd a darparu gweithgareddau yn y gymuned. Mae’r prosiect yn parhau i roi sawl cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o bethau ac i wirfoddoli. Mae’r dodrefn gardd wedi bod yn arbennig o boblogaidd gan ei fod yn unigryw ac wedi’i wneud gyda’r defnyddiwr mewn golwg – yn ystod cyfnod mor anodd mae bod â lle i eistedd y tu allan o’r pwys mwyaf. Bu i’r tîm sicrhau arian nawdd ar gyfer datblygiad ‘Hwb Clwb Tegell’ – cynhwysydd mawr 32 troedfedd gaiff ei ddefnyddio fel hwb cymunedol. Mae gwasanaethau eraill i blant a phobl ifanc yn cynnwys: Y Lolfa - Clwb ieuenctid wythnosol i rai 11-18 oed gyda gweithgareddau cadarnhaol a gwaith allanol ychwanegol. A Clwb Drama ‘PlassyLanders’– Dosbarth drama wythnosol gyda Phantomeim blynyddol dros y Nadolig. Clwb Tegell – grŵp cefnogi wythnosol i rieni a gofalwyr gyfarfod mewn awyrgylch anffurfiol i drafod materion gyda’u plant a rhannu gwybodaeth ynghylch cefnogaeth sydd ar gael. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan hefyd eu hannog i wirfoddoli mewn digwyddiadau cymunedol. Brecinio a Sgwrsio – Grŵp wythnosol o drigolion cymunedol sy’n treulio amser gyda’i gilydd i ddarganfod beth sydd ar gael yn y gymuned a thrafod sut allan nhw wneud Plas Madoc yn lle gwell i fyw.


Gwasanaethau Eraill Gofal Plant Blodau’r Haul Caiff gwasanaethau gofal plant AVOW eu darparu yn ganolog o Blas Madoc. Maen nhw’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i blant gan gynnwys Addysg Gynnar, grwpiau chwarae yn y bore a’r prynhawn a chlwb ar ôl ysgol. Yn ystod pandemig COVID-19, mae Gofal Plant Blodau’r Haul wedi gorfod addasu i nifer o newidiadau mewn cyfnod hollol newydd. Mae’r staff wedi cefnogi teuluoedd drwy rannu bagiau o weithgareddau sydd wedi cynnwys, sialciau, paent, cardiau, glud, pethau neis a rhestr o syniadau o weithgareddau i’w gwneud yn niogelwch eich cartref. Daeth y syniad ar gyfer hyn yn dilyn adborth gan deuluoedd a rhieni oedd heb unrhyw neu ddim ond ychydig o adnoddau gartref a rhieni yn pwysleisio pryder bod hyn yn cael effaith ar les emosiynol a meddyliol y rhieni a’r plant. Yn ychwanegol, roedd y gweithwyr allweddol yn cysylltu gyda phob teulu dros y ffôn bob wythnos i sicrhau eu lles. Shopmobility Gwasanaeth annstod I unigolion sy’n trafferthu gyda’u symudedd a fyddai fei arall yn methu ag ymweld â chanol y dref. Mae Shopmobility, ger Arhosfan Bysiau Stryd y Brenin yn cynnig sweteri symudedd a chadeiriau olwyn gyda help gan sawl gwirfoddolwr. Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam Mae’r gymdeithas sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr wedi dod i ben ar ddiwedd Mawrth 2021 pan ddaeth y cytundeb olaf at gyfer yr Hwylusydd Gofalwyr Ysbyty a Meddyg Teulu i ben. Daeth hyn â chefnogaeth wyth mlynedd AVOW i ofalwyr yn y Sir i ben. Wynebodd y prosiect anawsterau sylweddol yn ystod cyfnod Covid gan nad oedd modd cynnal cyfarfodydd wyneb-i-wyneb, ond er hynny, cafodd cefnogaeth sylweddol ei darparu i ofalwyr wrth ymadael â’r ysbyty a thu hwnt. Daeth yr aelod o staff hefyd yn aelod allweddol o’r tîm Covid ar ddesg gymorth AVOW oherwydd eu gwybodaeth helaeth o’r gefnogaeth oedd ar gael.


Gwobrau Gwobrau Marjorie Dykins OBE Mae’r gwobrau wedi’u llunio er mwyn cyfnabod ac annog y waith gwerthfawr mae gwirfoddolwyr yn ei wneud tryw eu gwasanaeth I’r gymuned yn ogystai â’rmudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ym Mwyrdeistref Siro Wrecsam sy’n gweud gwahaniaeth cylweddol a chadarnhaol i’w cymunedau. Mae dwy wobr ar gael – un wirfoddolwyr unigol ac yn I grŵr o wirfoddolwyr. Bydd yr enillydd o’r ddau gategori yn derbyn siec o £500. Hon fydd y wobr olaf gaiff ei gwobrwyo er cof am Marjory Dykins ac rydym yn diolch i’r teulu ar ran y sector gwirfoddol yn Wrecsam: • Gwobr i Unigolyn - Anna Buckley – Canolfan Cefnogi i Integreiddio’r Gymuned Bwylaidd • Gwobr i Grŵp – Grŵp Cefnogi Canser Prostad Wrecsam


Pwy sy’n Nhy AVOW Mae Tŷ AVOW yn gartref i nifer o fudiadau’r Trydydd Sector Yn ystod y flwyddyn, mudiadau gyda lle swyddfa yn Nhŷ AVOW (gaiff eu gosod ar sail trwydded anheddu) oedd:

Vision Support: Cefnogi pobl gyda nam ar eu golwg ac yn codi ymwybyddiaeth o’u hanghenion.

Agoriad: Cefnogi pobl gyda nam ar eu golwg ac yn codi ymwybyddiaeth o’u hanghenion.

Empower - Be The Change: Rhaglenni unigryw sy’n cyfuno hyfforddiant achrededig, gwirfoddoli a mentora i greu unigolion hyderus, wedi’u grymuso a chyda sgiliau a chymwysterau gwell.

Barnardo’s: Gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw ar ymylon cymdeithas sy’n ei chael yn anodd goresgyn yr anfanteision sydd o achos tlodi, trais a gwahaniaethu.

Snap Cymru: Cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth annibynnol am ddim i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc gyda phob math o anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn derbyn yr addysg gywir.


Cloud 9 For Life: Therapïau siarad sy’n helpu gyda llawer o broblemau anodd mewn bywyd.

St. Giles: Defnyddio arbenigedd a phrofiadau blaenorol go iawn i rymuso pobl sydd ddim yn derbyn yr help sydd ei angen.

JobSense: Gwasanaeth gwaith wedi’i sefydlu i gefnogi pobl dros 25 oed sy’n fyddar, wedi colli eu clyw a/neu olwg, i ddod o hyd i waith cyflogedig.

Canolfan Cefnogi i Integreiddio’r Gymuned Bwylaidd (PISC): Cefnogi aelodau o’r gymuned Bwylaidd ar draws Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru.

NEW Mind: Helpu pobl Sir y Fflint a Sir Wrecsam wella o broblemau iechyd meddwl ac aros yn iach yn emosiynol.

Cyfeillion Gofalwyr Wrecsam: Helpu i godi arian i gynnal cyfarfodydd, sesiynau galw heibio a gweithgareddau cymdeithasol/hamdden i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam.


Cyllid CYMDEITHAS MUDIADAU GWIRFODDOL WRECSAM (AVOW) CYFRIFLEN GWEITHGARWCH ARIANNOL Y FLWYDDYN SY’N DOD I BEN AR YR 31AIN O FAWRTH 2021 (GAN YMGORFFORI’R CYFRIF INCWM A GWARIANT)

INCWM Incwm wedi’i gynhyrchu Rhoddion a chymynroddion Incwm drwy fuddsoddillog dderbyniwyd Incwm o weithgarwch elusennol Cyfanswm Incwm GWARIANT Gweithgarwch elusennol CYFANSWM GWARIANT Cyfanswm incwm/(gwariant) net y flwyddyn cyn trosglwyddiadau Trosglwyddiadau gros rhwng cronfeydd Symudiadau net cyllid Cysoniad cyllid: Cyfanswm y cyllid weoi’i ddwyn ymlaen Cyfanswm y cyllid wedi’i gario drosodd

Cyllid

Cyllid Cyfngedig

Holl Gyllid 2021

Holl Gyllid 2020

£

£

£

£

1,207 119 493,789 495,115

15,734 638,572 654,306

16,941 119 1,132,361 1,149,421

11,125 575 856,964 868,664

384,253 384,253

549,582 549,582

933,835 933,835

820,071 820,071

110,862 72,900 183,762

104,724 (72,900) 31,824

215,586 215,586

48,593 48,593

185,894 369,656

252,136 283,960

438,030 653,616

389,437 438,030

CYMDEITHAS MUDIAD GWIRFODDOL WRECSAM (AVOW) MANTOLEN AR YR 31AIN O FAWRTH 2021 | RHIF CWMNI 2993429 2021 ASEDAU SEFYLDLOG Asedau cyffwrddadwy ASEDAU CYFREDOL Dyledwyr Arian yn y banc ac mewn llaw CREDYDWYR: Cyfansymiau’n ddyledus o fewn blwyddyn ASEDAUNET CYFREDOL CREDYDWYR: Asedau llai na’r dyledion cyfredol CREDYDWYR: Cyfansymiau’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn ASEDAU NET CYLLID YR ELUSEN: Cyllid Cyfyngedig Cyllid Anghyfyngedig: Cronfa gyffredinol Cyllid wedi’u neilltuo HOLL GYLLID YR ELUSEN

£

£ 193,982

48,412 496,712 545,124 (85,489)

£

2020 £ 203,317

58,490 295,176 353,666 459,635

(118,953)

234,713

653,617

438,030

653,617

438,030

283,960

252,136

206,911 162,746 653,617

80,645 105,249 438,030

Mae’r Datganiad o Weithgareddau Ariannol yn cynnwys pob elw a cholled yn ystod y flwyddyn. Mae pob incwm a gwariant yn deillio o weithgareddau sy’n parhau. Mae adroddiadau ariannol yr elusen wedi’u paratoi yn unol â’r ddarpariaeth sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n gymwys ar gyfer y drefn Cwmnïau bach. Mae’r Ymddiriedolwyr yn ystyried bod gan y cwmni hawl i gael ei eithrio o’r gofyniad am archwiliad dan ddarpariaeth adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 (“y Ddeddf”) a tydy’r aelodau ddim wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn unol ag adran 476 y Ddeddf. Fodd bynnag, mae archwiliad yn ofynnol yn unol ag adran 145 o’r Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf o ran cadw cyfrifon a pharatoi datganiadau ariannol. Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr ar y 27ain o Orffennaf 2021 a’u harwyddo ar ei ran gan Stephen Perkins (Cadeirydd). Mae modd cael copi o’r adroddiad blynyddol llawn a’r cyfrifon gan: Yr Ysgrifennydd, Tŷ Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND. Rhif ffôn: 01978 312556. E-bost: info@avow.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.