Page 1

Croeso i’n

Sgwrs Greadigol i Gymru Gyfan

A Diolch am fod eisiau cymryd rhan. Mae angen i Gyngor y Celfyddydau fod yn ymgysylltu â phob rhan o Gymru gyfoes. Ar hyn o bryd, rydym eisiau gwthio’r ffiniau a newid natur y sgwrs a gawn, hyd yn oed gyda’r rhai sydd mewn cyswllt â ni amlaf ac sydd eisoes yn gwybod beth a wnawn. Rydym eisiau gwneud hyn er mwyn i ffocws ein gwaith yn y dyfodol a gweithredoedd y celfyddydau fod yn fwy clir. Ar yr adeg hon, mae angen i’n sgwrs a’n hymgysylltiad ymestyn yn ehangach a dyfnach. Gwyddom y gwnaed rhai camau i’r cyfeiriad cywir yn y cyfnod diweddar, felly ar hyn o bryd rydym yn helpu i ailfeddwl am safle’r celfyddydau mewn addysg, safle’r celfyddydau mewn cymunedau, y rôl y gallant chwarae wrth rymuso pobl, wrth roi gwerth i gydraddoldebau, sut gall y celfyddydau helpu i ffurfio cenedl ddwyieithog, sut gallant wella lles, a sut gallant ehangu gorwelion a siarad am Gymru yn y byd. Dyma gyfnod heriol i’r celfyddydau sy’n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru. Nid am nad yw pobl yn poeni amdanynt – mae niferoedd mawr o’r cyhoedd yn parhau i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Ac nid am fod y gwaith o safon isel – mae’r adborth, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn tystio i’r gwrthwyneb. Mae’r celfyddydau’n parhau i fod yn fregus am fod pwysau economaidd parhaus ar arian cyhoeddus ^ yn gorfodi penderfyniadau anghyfforddus ynglyn â pha swyddogaethau mewn cymdeithas ddylai barhau i dderbyn y lefelau presennol o fuddsoddiad. Yn benodol, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gorfod mynd i’r afael â gostyngiad yn ei incwm fel dosbarthwr loteri. Ac os yw am fod ag uchelgais i’r celfyddydau a’u cyrhaeddiad, mae hyn oll yn golygu bod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn galw am ffocws penodol ar rai nodau allweddol. Rydym yn falch eich bod eisiau cyfrannu eich barn. I helpu i danio’r drafodaeth, dyma ambell ysgogiad cyn troi at y fforwm trafod a’r platfformau ar-lein a fydd yn rhan o’n Sgwrs Greadigol i Gymru Gyfan. Nid diben yr hyn a ganlyn yw cyfyngu ar yr hyn yr hoffech siarad amdano. Os oes gennych faterion yr ydych ar dân i’w gwyntyllu, rydym eisiau clywed amdanynt. Mae angen i’r sgyrsiau hyn fod am bobl, lleoedd a phrofiadau.


Felly, ble gychwynnwn ni? Ein Cenhadaeth ... sy’n dipyn o gamp efallai ... yw’r hyn sydd wir yn ein hysgogi fel Cyngor.

Gwneud y celfyddydau’n greiddiol i fywyd a llesiant Cymru Mae ein strategaeth yn syml ... caiff ei chrynhoi yn y tri gair sy’n deillio o’n strategaeth i ddatblygu’r celfyddydau, Ysbrydoli …

Creu Cyrraedd Cynnal Pan siaradwn am Greu, rydym yn golygu creu artistig. Dymunwn feithrin amgylchedd lle gall ein hartistiaid, sefydliadau celfyddydol a rhai sy’n frwd am greu fynd ati i greu eu gwaith gorau. O Greu yn dda, byddwn yn ysbrydoli. Credwn fod y profiad celfyddydol gorau yn digwydd pan fo’n taro tant yn unig – pan fo’r hyn a grëir yn creu cyswllt. Mae hyn yn ganolog i’n gallu i Gyrraedd, ac yn allweddol, cyrraedd ymhellach nag erioed o’r blaen, gan gynnwys pobl, a gwerthfawrogi’r celfyddydau a’r hyn y gallant fod. O wneud hyn, pe caiff rhywbeth o werth ei greu yn yr hyn a wneir neu’r rhai a gofleidir, dylem ofyn sut i ddiogelu a Chynnal y pethau hyn mewn ffyrdd a fydd yn parhau ac yn gydnerth.

Gosod y Llwyfan Creu – y gorau y gall celf fod Ystyriwn fod hyn yn golygu annog amgylchedd lle gall creadigrwydd ffynnu, lle gall doniau ddatblygu, a lle y caiff artistiaid gyfleoedd i arloesi a thyfu drwy yrfaoedd ac ymrwymiad i’w celf. Ac yn cydredeg â hyn, y gall ein sefydliadau a’n cwmnïau alluogi ar eu gorau wrth gynnig lleoedd a gofodau i gelf gysylltu. Fel Cyngor y Celfyddydau – corff sy’n derbyn arian cyhoeddus – gallwn wynebu’r feirniadaeth ein bod yn pwyso tuag at y ‘dibynadwy’ ar y naill law ac eto’n arbrofi â’r ‘newydd’ ar y llaw arall. Felly mae’n ymddangos yn rhesymol gofyn pa fath a pha amrywiaeth o brofiad artistig ddylai cynulleidfaoedd yng Nghymru ddisgwyl gallu ei fwynhau, a pha gyfrifoldeb sydd gennym i alluogi i hyn ddigwydd ym mhob agwedd arno.

Cwestiwn 1 – CREU

?

Sut gallem fod yn fwy effeithiol wrth nodi a meithrin y doniau creadigol gorau yng Nghymru? Sut gallwn ni annog celfyddyd sy’n creu newid a sut olwg fyddai arni? Beth yw disgwyliadau ein cynulleidfaoedd? Sut dylem benderfynu pa artistiaid a sefydliadau’r celfyddydau sy’n fwyaf teilwng o’n cefnogaeth?


Gosod y Llwyfan Cyrraedd – annog rhagor o bobl i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt O’r dechrau, bu dau nod i roi arian cyhoeddus i’r celfyddydau: ceisio rhagoriaeth, a hybu mynediad i alluogi rhagor o bobl i brofi’r celfyddydau. Ond i lawer o bobl, mae unrhyw gyfeiriad at “y Celfyddydau” yn golygu gweithgarwch elitaidd sydd i’r ychydig ac nid i’r niferoedd. Parhawn i gael ein cyhuddo gan rai o goleddu gwerthfarniadau sydd wedi dyddio ac anwybyddu’r amrywiaeth ehangach o ddiwylliant presennol. Efallai bod dwy her. Y gyntaf o bosibl, fel y credwn ynddynt, yw tyfu’r gynulleidfa yn achos y sefydliadau a’r gweithgareddau’r ydym eisoes yn buddsoddi ynddynt. Yr ail yw edrych y tu hwnt i hyn i ganfod ac adeiladu ffyrdd i ymgysylltu’n ehangach a dyfnach â Chymru, ei chymunedau, a’r hyn sy’n ei gwneud yr hyn ydyw. Y mae gormod o rwystrau o hyd sy’n atal pobl rhag cael mynediad i’r celfyddydau, boed yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol neu’n economaidd. Nid yw ein record yn y celfyddydau o hyrwyddo Cydraddoldeb unrhyw le’n agos at fod yn ddigon da. Felly mae’n rhaid i ddymchwel y rhwystrau hyn fod yn un o’n blaenoriaethau diffiniol dros y blynyddoedd nesaf os ydym am weithredu i ategu ein barn.

Cwestiwn 2 – CYRRAEDD

?

Beth sydd angen inni wneud yn wahanol er mwyn cael croestoriad ehangach o bobl i ymwneud â’r celfyddydau fel cyd-grewyr, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr? Beth yw’r rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn atal rhai pobl rhag mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt?

Gosod y Llwyfan Cynnal – creu sector y celfyddydau sy’n ddeinamig ac entrepreneuraidd Bydd pwysau cyllido yn parhau i niweidio yn y dyfodol rhagweladwy. Credwn yn sylfaenol ym mhwysigrwydd buddsoddiad cyhoeddus yn y celfyddydau. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd ariannol bresennol, nid oes modd inni anwybyddu’r realiti ehangach. Rhaid inni barhau i wneud popeth a allwn i ddwyn perswâd ar bartneriaid cyllido i gynnal eu ffydd yn y celfyddydau. Ond rhaid inni hefyd annog mwy o gydnerthedd a chynaliadwyedd: lleihau’r graddau y mae artistiaid a sefydliadau’r celfyddydau yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, gan eu helpu hwy (a’n helpu ni) i gynyddu incwm a enillir a ffynonellau eraill o gymorth, yma yng Nghymru ond dramor hefyd. Os yw’r celfyddydau yng Nghymru am fanteisio ar y cyfleoedd hyn, bydd arnynt angen arweiniad


entrepreneuraidd cryf. Mae hyn yn golygu adeiladu sector arloesol, llawn dychymyg, a all elwa ar ei fuddsoddiad cyhoeddus, a Chyngor y Celfyddydau sy’n ymatebol i bartneriaid a rhanddeiliaid newydd sy’n ceisio ymgysylltu â’r celfyddydau. Bydd sicrhau mwy o gydnerthedd ariannol yn arbennig o bwysig o ystyried bod partneriaid awdurdod lleol hefyd yn ei chael yn anodd cynnal eu cefnogaeth i’r celfyddydau ac yn aml bellach yn gweithredu i gwtogi neu ad-drefnu’r gefnogaeth hon ac yn edrych ar y celfyddydau yng nghyd-destun yr agendâu ehangach y mae angen iddynt eu cyflawni i’w cymunedau. Mae gan Gymru hefyd bellach fframwaith arloesol i brofi cynlluniau’r dyfodol ar gyfer pob corff cyhoeddus yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn addas i’r dyfodol drwy weithredu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae diwylliant yn rhan o gynaliadwyedd ac yn ei dro gall gyfrannu at agweddau eraill ar gynaliadwyedd. Mae angen i’n Cynllunio a’n Gwerthoedd gofleidio’r pum ffordd o weithio a hyrwyddir drwy hynny: Hirdymor, Atal, Integreiddio, Cydweithio, Cynnwys.

Cwestiwn 3 – CYNNAL

?

Sut ydym yn helpu ein partneriaid cyllido i gynnal eu cefnogaeth i’r celfyddydau? Beth allem fod yn gwneud yn well i helpu artistiaid a sefydliadau’r celfyddydau i adeiladu gyrfaoedd a busnesau cynaliadwy?

Cymhwyso Creu: Cyrraedd: Cynnal i’n sefydliad ein hun – Cyngor y Celfyddydau Dros lawer o flynyddoedd, rydym wedi arbed arian drwy symleiddio prosesau, lleihau nifer y staff a defnyddio technoleg yn well. Gwnawn hyn eto’n awr. Ond wrth wneud toriadau i’n sefydliad ein hun, gwyddom fod risg ein bod yn amharu ar ansawdd y gwasanaeth a fu’n rhan mor bwysig o’r llwyddiant a gyflawnwyd gennym yn y blynyddoedd diwethaf. Felly ein nod yw creu sefydliad sydd â’r celfyddydau yn greiddiol iddo - o’r radd flaenaf yn yr hyn a gyflawna ac yn gynaliadwy yn ei gostau. Mae’r cyhoedd yn mynnu’n gywir bod y sefydliadau a gyllidir ganddynt yn effeithlon a chost-effeithiol. Derbyniwn arian cyhoeddus. A rhaid inni allu dangos y budd cyhoeddus y mae ein gwaith yn ei gyflawni, ac i ba raddau y gwnawn wahaniaeth. Rhaid inni ddangos - yn ddiamwys - ein bod yn cyflawni gwerth am arwain i drethdalwyr Cymru.

Pa bethau y credwch chi sydd bwysicaf i Gyngor y Celfyddydau wneud?

?

A allem fod yn gweithio’n wahanol, neu gyda phobl wahanol, i gyflawni ein gweithgareddau a’n gwasanaethau allweddol yn well?

Dylid danfon ymatebion ysgrifenedig at sgyrsiau@celf.cymru erbyn 1 Rhagfyr 2017.