Issuu on Google+

Adeiladu dyfodol cryfach i'r celfyddydau Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Dawns Tan


Llun gan waith Yin Shuangyi Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Erioed y mae rhyw drydan - yn nwylo Dynoliaeth ym mhobman Yn dirwyn edau arian Llun a chelf a llên a chân

Dic Jones

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


Cynnwys Cyflwyniad

02

Ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd

04

Amdanom ni

06

Yr hyn a wnawn

08

Adeiladu dyfodol cryfach

10

Ein targedau uchel

13

Ein blaenoriaethau

14

Gwneud iddo ddigwydd

23

Yr arian

24

Ein strategaeth ariannol

26

Adlewyrchu ein gwerthoedd

28

Am wybod mwy?

30

Mae'r ddogfen hon wedi'i hypergysylltu. Bydd clicio ar y penawdau ar y dudalen gynnwys yn mynd â chi'n syth i'r dudalen berthnasol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i drefnu bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, braille ac ar gasét sain a bydd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg ar gais.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


02

Cyflwyniad …

Mae Cynllun yn ffordd o droi dyheadau yn gamau gweithredu. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gorff llawn dyhead ac yn ein barn ni mae'r gallu i weithredu'n effeithiol fel asiantaeth i Gymru yn greiddiol i'r gwaith o ddatblygu cymdeithas ddinesig. Erbyn hyn mae'n rhaid i'r gwaith o lunio polisïau, o fewn agenda drawsbynciol gyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, fynd law yn llaw â'r broses o'i chyflawni. Yn y ddogfen hon rhannwn ein gweledigaeth ar gyfer y celfyddydau ac eglurwn y broses o reoli drwy bartneriaeth a fydd yn ein harwain dros y tair blynedd hollbwysig nesaf. Wrth wraidd ystyriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru mae ein cysyniad o Greadigrwydd i unigolion a sefydliadau. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan sylfaenol o'n hunaniaeth genedlaethol - o'r Economi, i Iechyd ac Addysg, yn elfen allweddol o waith Adfywio ac yn ffactor sy'n sbarduno democratiaeth fwy cyfranogol - oherwydd mae mewn sefyllfa i lunio'r gymdeithas sy'n datblygu ar ei ben ei hun a rhoi hwb i'n huchelgeisiau cymdeithasol fel cymuned genedlaethol. Dadleuwn fod yn rhaid i gydsynio rhethregol, er budd pobl Cymru, ildio i'r broses wirioneddol o weithredu'r rhesymeg anatebol hon yn awr. I Gymru mae tanariannu ei chelfyddydau yn gyfystyr â chelu ei hun rhag y byd. Mae angen i ni chwarae rhan amlwg a chael ein cydnabod fel ni'n hunain er mwyn llwyddo yn yr holl ffyrdd y mae byd sy'n canolbwyntio fwyfwy ar greadigrwydd yn galw amdanynt.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Yn y ddogfen hon gwelwch eiriau synhwyrol, ond cyfarwydd, am Fynediad, Rhagoriaeth, Pragmatiaeth, Partneriaeth a phriodoleddau cynhenid y celfyddydau sy'n gwasanaethu pob rhan o Gymru, sy'n gofyn am ymdeimlad o les o du cymunedau i unigolion. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn arddel barn rydym am ei chyfleu fwyfwy degawd ar ôl Datganoli: bod yn rhaid i arweinyddiaeth ddinesig a gwleidyddol fod yn llawn dychymyg er mwyn sicrhau ansawdd bywyd ein pobl y gallai mwy o arian arwain ato ar sawl ffurf. Nid yw'r celfyddydau yn fân bethau dymunol. Dyma'r hyn sy'n gwneud i galon Cymru guro, ac maent yn wahanol o genhedlaeth i genhedlaeth.

Dai Smith Cadeirydd


03

Arts Care Gofal Celf

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


04

Ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd ...

gweledigaeth Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd y genedl

cenhadaeth

Ni yw'r corff arweiniol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru Cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel

Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau

Sicrhau twf economi'r celfyddydau

Datblygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein busnes

Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r asiantaeth sy'n ariannu ac yn datblygu'r celfyddydau yn y wlad hon

gwerthoedd

arbenigol

creadigol

agored

effeithiol

cydweithredol

atebol

Rydym am i Gymru fod yn genedl lle ... mae'r celfyddydau a diwylliant yn greiddiol i'n hunaniaeth genedlaethol, gan gymell pobl i ymweld 창 ni a dysgu amdanom mae artistiaid o ansawdd sy'n llawn dychymyg yn byw ac yn gweithio mae'r celfyddydau wrth wraidd ei hadfywiad cymunedol ac economaidd, gan olygu eu bod yn cael eu hystyried

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

mewn gwaith cynllunio lleol a chenedlaethol mae'r celfyddydau ar gael yn fwy, gyda'r ystod ehangaf o bobl yn cymryd rhan ynddynt ac yn eu mwynhau mae artistiaid uchelgeisiol a chlodfawr yn ategu enw da'r wlad o ran diwylliant


05

arbenigol

effeithiol

Ymhlith ein staff a'n cynghorwyr mae gennym ffynhonnell fwyaf y genedl o arbenigwyr celfyddydol. Ein nod yw gwella a datblygu'r arbenigedd hwnnw drwy ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd artistiaid, sefydliadau celfyddydol a phartneriaid.

Mae'r cyhoedd yn iawn i fynnu bod y sefydliadau a ariennir ganddo yn effeithlon ac yn gost effeithiol. Mae'r rhai rydym yn gweithio gyda hwy yn disgwyl i ni gael yr hanfodion yn gywir a sicrhau ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd syml a phroffesiynol. Anelwn at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r safon uchaf.

creadigol

cydweithredol

Mae'r celfyddydau yn ffynnu ar ysbrydoliaeth, arloesedd a chreadigrwydd. Mae'n rhaid i ni rannu'r nodweddion hyn, gan flaengynllunio a bod yn greadigol wrth ddatblygu a gwneud ein gwaith.

Cydnabyddwn werth cydweithio yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Gwerthfawrogwn bartneriaethau ac rydym yn ymrwymedig i ddatblygu cydberthnasau cefnogol sy'n dangos parch at ei gilydd.

agored

atebol

Rydym yn ymddwyn mewn ffordd agored, onest a thryloyw. Rydym yn trin ein holl gydweithwyr yn yr un modd heb unrhyw ragfarn. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am yr hyn a wnawn, ac yn croesawu awgrymiadau ar sut y gallwn wella.

Rydym yn gweithredu hyd braich i'r llywodraeth. Fodd bynnag, cydnabyddwn fod yn rhaid i ni roi cyfrif am ein defnydd o arian cyhoeddus fel corff cyhoeddus. Rydym yn gwneud penderfyniadau ariannol ar sail ffeithiau pob achos unigol ac yn gweithredu er budd y celfyddydau.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


Amdanom ni ... Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusen annibynnol, a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol yn 1994. Caiff ei aelodau eu penodi gan Weinidog dros Dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ein prif noddwr yw Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym hefyd yn dyrannu arian y Loteri Genedlaethol ac yn codi arian ychwanegol lle y gallwn o amrywiaeth o ffynonellau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Gan gydweithio 창 Llywodraeth Cynulliad Cymru, gallwn ddangos sut mae'r celfyddydau yn helpu i gyflawni uchelgeisiau polisi Cymru'n Un y llywodraeth. Mae ein staff yn gweithio mewn swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


07

07

Therapi Cerdd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (llun: Kiran Ridley)

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


08

Yr hyn a wnawn ...

cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel buddsoddwn arian cyhoeddus, a roddir gan y trethdalwr, ac a ddyrennir i ni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn gwario tua 拢31 miliwn bob blwyddyn, gan helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru

dyrannu arian y Loteri - drwy geisiadau i'n rhaglenni ariannu gallwn fuddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch celfyddydol newydd, gan gefnogi unigolion a sefydliadau

rhoi cyngor ar y celfyddydau - drwy ein staff a'n cynghorwyr mae gennym y swm mwyaf o arbenigedd a gwybodaeth gelfyddydol yng Nghymru

rhannu gwybodaeth - ni yw canolfan genedlaethol rhwydwaith o wybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Hefyd mae gennym gysylltiadau rhyngwladol cryf yn y DU a thu hwnt

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

codi proffil y celfyddydau yng Nghymru ni yw llais cenedlaethol y celfyddydau yng Nghymru sy'n sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r genedl

cynhyrchu mwy o arian i economi'r celfyddydau - mae mentrau fel Cynllun Casglu (ein cynllun i annog mwy o bobl i brynu gwaith celf) a'n llwyddiant o ran cael arian Ewropeaidd yn sicrhau bod mwy o arian ar gael i economi'r celfyddydau

dylanwadu ar gynllunwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau - cynhelir y celfyddydau mewn sawl lleoliad gwahanol. Gallant gael effaith drawiadol ar ansawdd bywyd pobl, a'r mannau lle maent yn byw ac yn gweithio. Mae'r celfyddydau hefyd wrth wraidd mentrau adfywio economaidd a chymdeithasol yn aml. Ein r么l ni yw sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu

Canolfan Grefftau Rhuthun (llun: Dewi Tannatt-Lloyd)


10 ffaith am y celfyddydau yng Nghymru...

1

Mae dros dri chwarter o'r bobl yng Nghymru (76%) yn cytuno bod "y celfyddydau a diwylliant yn

09

6

Yn 2007/08 cynhaliodd ein cynllun teithio cymunedol Noson Allan 535 o ddigwyddiadau mewn 330 o leoliadau, a drefnwyd gan

gwneud Cymru yn lle gwell i fyw"

2,169 o wirfoddolwyr ac a gafodd eu mwynhau gan 33,000 o bobl

2

Aeth wyth allan o ddeg (79%) o oedolion yng Nghymru i ddigwyddiadau celfyddydol y llynedd (66% 10 mlynedd yn ôl) mae naw allan o ddeg (92%) o bobl ifanc 16-24 oed yn mynd i

7

ddigwyddiadau celfyddydol

3

Mae traean o'r holl oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau

8

celfyddydol, gyda'r cynnydd

Mae Cyngor y Celfyddydau yn cefnogi mwy na 100 o sefydliadau a gaiff arian refeniw bob blwyddyn ledled Cymru, gan gyflogi mwy na 6,500 o bobl

Am bob £1 a fuddsoddir gan Gyngor y Celfyddydau yn ei sefydliadau a gaiff arian refeniw cynhyrchir £3 o incwm arall

mwyaf yn 2008 ymhlith y bobl leiaf cefnog (+ 28%)

4

Mae pobl o bob cefndir yng Nghymru yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Lleihaodd y bwlch o ran cymryd rhan mewn gweithgarwch celfyddydol

5

fenthyciad sef Cynllun Casglu - caiff gwaith celf ei werthu mewn 80 o

ardaloedd Cymunedau

blynedd diwethaf

2007

cynllun i brynu gwaith celf drwy

ychydig dros £11m yn

o 12% dros y tair

(27%) wyth pwynt canran yn 2008 o gymharu â

Adeiladu'r Principality yn cefnogi ein

gwnaethom fuddsoddi

yn Gyntaf, sy'n gynnydd

rhwng y mwyaf cefnog (37%) a'r lleiaf cefnog

Mae ein partneriaeth â Chymdeithas

9

Yn 2007/08

10

Mae sefydliadau a gaiff arian refeniw wrth wraidd diwydiannau creadigol y genedl (sydd werth tua £1.1bn i'r economi yng Nghymru)

orielau ledled Cymru o ganlyniad iddo

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


10

Adeiladu dyfodol cryfach ...

Rydym yn llawn uchelgais wrth feddwl am y celfyddydau yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth yn un ar gyfer Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd y genedl, gan ei gwneud yn lle cyffrous a bywiog i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Mae ein gwaith yn adlewyrchu nod Cymru'n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru sef hyrwyddo diwylliant cyfoethog ac amrywiol. Mae llwyddiant y celfyddydau yng Nghymru yn dibynnu ar ddychymyg a chreadigrwydd ein hartistiaid, ansawdd eu gwaith a phwysigrwydd y gwaith hwn i ni fel cymdeithas. Mae angen i ni greu amgylchedd lle y gall artistiaid uchelgeisiol a mentrus ddatblygu a ffynnu.

sefydliadau celfyddydol y genedl i'n helpu i'w llunio. Gwyddom, er mwyn i ni wella ein hawdurdod fel corff credadwy sy'n cefnogi'r celfyddydau, fod yn rhaid i ni gyfathrebu ag artistiaid mewn modd agored, rheolaidd ac ystyrlon

dathlu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru mae hanes a natur gyfoethog yr iaith Gymraeg yn rhan nodedig ac unigryw o fywyd diwylliannol ein cenedl. Mae'r celfyddydau mewn sefyllfa ddelfrydol i fynegi gwerthoedd, bywiogrwydd a dwyieithrwydd Cymru gyfoes. Rydym yn ymrwymedig i weledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o Gymru ddwyieithog

ymrwymiad cadarn i ansawdd - mae'n rhaid Caiff ein gwaith ei lywio gan yr egwyddorion cyffredinol canlynol:

pennu gwerth celfyddyd - roedd Adolygiad Celfyddydau Cymru (Stephens) yn cynnwys amddiffyn y celfyddydau yn chwyrn: “. . . Nid ‘gwerth a ychwanegir’ at fywyd ‘go iawn’, ‘difrifol’, ‘ymarferol’ mo’r celfyddydau; nid ydynt yn ymylol, nac yn addurniadol neu’n ‘adloniant’. Nid gweithgaredd hamdden mohonynt. Gweithgaredd dynol craidd yw’r celfyddydau, na ellir eu gwahanu oddi wrth fodolaeth bersonol a chymdeithasol . . .”

Pwy allai anghytuno? Gwyddom fod rhai yn anghytuno. Mae angen i'r celfyddydau gael stori gliriach i'w hadrodd am y ffordd maent yn gwella ansawdd ein bywydau, ac felly pam y dylid eu cefnogi. Adroddwn y stori hon yn gliriach ac yn fwy hyderus, a gwahoddwn artistiaid a

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

i ni anelu at annog y gorau y gallwn, drwy'r amser. Mae'n rhaid i ni herio cyffredinedd a mynnu'r gorau gennym ni a chan y sefydliadau a ariannwn. Fel stiwardiaid arian cyhoeddus ni ddylem wario arian ar yr hyn nad yw'n rhagorol nac o ansawdd, neu nad oes ganddo'r potensial i fod felly Nodau amgen ansawdd yw gweledigaeth, arweinyddiaeth a'r hyder i fod yn arloesol a chymryd risgiau. Mae'r nodweddion hyn i'w gweld mewn sefydliadau bach a mawr o'r rhai sy'n gweithredu ar lwyfan cenedlaethol i'r rhai sy'n fwy lleol

hyrwyddo'r celfyddydau byw, cyfoes - heb y celfyddydau byw, mae diwylliant mewn perygl o ddod yn amgueddfa i waith wedi'i ailgylchu, ac yn llwyfan i ddehongliadau newydd o draddodiadau diwylliannol yr oes a fu. Mae'n rhaid i ni barchu ein treftadaeth ddiwylliannol, ond ymddiddori yn yr hyn sy'n newydd ac yn gyfoes ar yr un pryd gwaith sy'n dwyn sylw cynulleidfaoedd newydd ac ehangach ac yn cysylltu â hwy,


11

. . . Nid ‘gwerth a ychwanegir’ at fywyd ‘go iawn’, ‘difrifol’, ‘ymarferol’ mo’r celfyddydau; nid ydynt yn ymylol, nac yn addurniadol neu’n ‘adloniant’. Nid gweithgaredd hamdden mohonynt.Gweithgaredd dynol craidd yw’r celfyddydau, na ellir eu gwahanu oddi wrth fodolaeth bersonol a chymdeithasol . . .

Sean Tuan John - Enillydd un o Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2008/09 (llun: Roy Campbell Moore)

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


12

tra'n dwysáu profiad cynulleidfaoedd sy'n bodoli eisoes

cynnwys y cyhoedd yn fwy - mae angen cynulleidfa ar y celfyddydau er mwyn iddynt ffynnu a datblygu. Y sefydliadau celfyddydol mwyaf creadigol yw'r rhai a gaiff eu llywio gan weledigaeth artistig, ac sy'n deall sut i arwain a datblygu eu cynulleidfa. Maent hefyd yn ymrwymedig i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gwahanol a mwy amrywiol, gan oresgyn y rhwystrau sy'n atal pobl rhag mwynhau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Maent yn denu pobl i waith o ansawdd uchel, gwaith a all fod yn heriol ac yn anodd ar adegau Mae angen i ni greu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau. P'un a ydynt yn cymryd rhan neu'n gwirfoddoli, mae sawl ffordd y gall pobl ddysgu am y celfyddydau a chyfrannu atynt

creu diwylliant mwy cynhwysol - ni ddylai anghydraddoldebau ym meysydd cyfoeth, iechyd ac addysg gyfyngu ar brofiadau diwylliannol pobl. Mae'n rhaid i ni gydnabod y perygl a mynd i'r afael ag ef. Mae iechyd dinasyddion y dyfodol, yn enwedig pobl ifanc, ynghlwm wrth ein nod i sicrhau bod gan y celfyddydau gynulleidfa mor eang â phosibl

manteisio i'r eithaf ar ein partneriaethau cyhoeddus - mae'r arian cyhoeddus a gawn drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru yn greiddiol i'n buddsoddiad yn y gwaith o ddatblygu celfyddydau'r wlad. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy i gynllunio ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r sefydliadau eraill hynny rydym yn cydweithio â hwy drwy'r sector cyhoeddus. O'r rhain, mae ein partneriaid llywodraeth leol yn hynod bwysig. Awdurdodau lleol yw ein partneriaid hanfodol, naill ai drwy

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

sefydliadau cydariannu, neu fel cydweithwyr mewn prosiectau strategol bwysig sy'n datblygu'r celfyddydau. Mae angen meithrin cydberthynas â hwy sy'n agored, yn ennyn parch ac yn gydweithredol Ar y cyd â llywodraeth leol ystyriwn ffyrdd newydd o weithio mewn partneriaeth sy'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth leol i ddod o hyd i'r ffordd orau o weithredu ymrwymiad Cymru'n Un i gyflwyno 'dyletswydd ddiwylliannol'

gweithio drwy'r llywodraeth - caiff gwerth cynhenid y celfyddydau ei gydnabod bellach. Fodd bynnag, gall y celfyddydau hefyd daflu goleuni ar ystod eang o strategaethau sy'n ategu bywyd cyhoeddus a'u rhoi ar waith. O'r celfyddydau ac iechyd i dwristiaeth ddiwylliannol, celfyddyd gyhoeddus i adfywio canol trefi, mae'r celfyddydau yn gwneud ein bywydau beunyddiol yn ystyrlon, yn ddilys ac yn hapus hyrwyddo'r celfyddydau yng Nghymru ar lwyfan byd-eang - gall rhagoriaeth a chreadigrwydd celfyddydau Cymru wneud cyfraniad mawr iawn i ddatblygu ein cysylltiadau diwylliannol â gweddill y byd. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol Cymru yn rhyngwladol bwysig, ac mae mwy o waith i'w wneud i ddatblygu eu rôl fel llysgenhadon diwylliannol Cymru

sicrhau gwerth am arian - cyhoeddir ein Cynllun yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol o ddirywiad economaidd a welwyd yn ddiweddar. Bydd y gystadleuaeth am arian cyhoeddus a'r pwysau arno yn aruthrol. Mae angen i ni sicrhau bod pob ceiniog a roddir i ni yn cyflawni'r canlyniadau artistig gorau posibl


Ein targedau uchel ...

13

Cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel

Erbyn 2012 byddwn yn buddsoddi mewn portffolio o sefydliadau a ariennir sydd mewn gwell sefyllfa i lwyddo yn artistig ac yn ariannol

Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau

Erbyn 2012 byddwn wedi cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau yng Nghymru 3%

Sicrhau twf economi'r celfyddydau

Erbyn 2012 byddwn wedi cynyddu ein trosiant gydag o leiaf 10% o'n hincwm yn deillio o ffynonellau newydd

Datblygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein busnes

Erbyn 2012 byddwn ymhlith y 50 o gyflogwyr gorau yng Nghymru

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


14

Ein blaenoriaethau ...

Cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel … Mae llwyddiant y celfyddydau yn dibynnu ar weledigaeth a chreadigrwydd ein hartistiaid a'n sefydliadau celfyddydol. Nhw fydd ein partneriaid hanfodol yn y gwaith o gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ein Strategaethau ar Ffurfiau o Gelfyddyd. Rydym am i Gymru fod yn llawn artistiaid cryf, parhaol, llwyddiannus ac arloesol ynghyd â sefydliadau celfyddydol sy'n creu, yn cyflwyno ac yn hyrwyddo gweithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel. Byddwn yn gweithio'n galed i geisio creu amgylchedd sy'n galluogi'r celfyddydau i ffynnu a datblygu - yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi'r gorau, a byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau beiddgar a phendant. Canolbwyntiwn ar ddatblygu. Mae'r celfyddydau yn newid ac yn datblygu - mae'n rhaid i'n harian adlewyrchu hynny. Fel corff cyhoeddus bydd yn rhaid i ni bob amser wynebu'r feirniadaeth ein bod yn dueddol o edrych yn ôl mewn ffordd geidwadol ar un olwg, tra'n croesawu'r 'newydd' mewn ffordd fyrbwyll ar yr olwg arall. Pan fydd yn briodol, ni fyddwn yn ofni mentro.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Credwn ei bod yn bwysig ceisio sbarduno mwy o drafodaeth feirniadol o fewn y celfyddydau yng Nghymru a thrafodaeth amdanynt. Mae gan bawb farn am yr hyn sy'n gelfyddyd 'dda'. Gwyddom hefyd fod canfyddiadau pobl o ansawdd yn oddrychol ac yn seiliedig ar brofiad, gwybodaeth a chwaeth. Fodd bynnag, mae'r gelfyddyd sy'n cael ei chreu mewn ffordd onest a llawn dychymyg, o ansawdd da ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd ac yn effeithio arnynt, yn nodedig iawn ac yn hawdd i'w hadnabod yn aml. Byddwn yn canolbwyntio'n arbennig ar ein buddsoddiad yn ein sefydliadau a gaiff arian refeniw, ein rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau a ariennir gennym bob blwyddyn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn anwybyddu pwysigrwydd sylfaenol yr artist unigol. Wedi'r cyfan, yr artist, ymhob disgyblaeth, gan cyfarch y byd o'i gwmpas sy'n ail-greu mynegiant diwylliannol sy'n uniaethu â'n profiad o fywyd heddiw. Mae'n rhaid i ni ddarganfod, meithrin, a dathlu'r artistiaid a all gyflawni'r rôl bwysig hon.


Byddwn yn canolbwyntio ar bum gweithgarwch:

datblygu ffurfiau ar gelfyddyd

Byddwn yn gweithio gydag artistiaid, sefydliadau celfyddydol a phartneriaid i weithredu ein Strategaethau ar Ffurfiau ar Gelfyddyd.

cefnogi artistiaid

Byddwn yn parhau i hyrwyddo ein Dyfarniadau Cymru Greadigol ac yn cyflwyno cynllun newydd i gefnogi Llysgenhadon Creadigol. Hefyd byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o wella ansawdd y cyngor a'r cymorth i ddatblygu busnesau sydd ar gael i artistiaid.

gwaith rhyngwladol

Gan weithio drwy Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, byddwn yn anelu at sicrhau bod celfyddydau Cymru yn chwarae rhan fwyfwy amlwg ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn ogystal 창 cheisio denu'r dalent orau o dramor i Gymru.

rhagoriaeth, ansawdd ac arloesedd

Byddwn yn parhau i annog gweithgarwch sy'n gosod esiampl, yn pennu safonau newydd ac yn annog uchelgais ac entrepreneuriaeth.

gwaith monitro a gwerthuso

Byddwn yn datblygu ffyrdd mwy agored a gwell o roi gwybod am y gweithgarwch celfyddydol a gefnogir gennym a rhannu gwybodaeth amdano.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

15


16

Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau …

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl brofi a mwynhau'r celfyddydau: cael eu hysbrydoli gan ddychymyg a chreadigrwydd, cael eu cyffroi gan uchelgais a'r hyn sy'n wledd i'r llygad, cael eu hudo gan yr hyn sy'n newydd ac yn anghyfarwydd. Rydym am i fwy o bobl gymryd rhan yn y celfyddydau yn gyffredinol, a hefyd yn y sefydliadau a ariennir gennym. Byddwn yn buddsoddi mewn ymgyrchoedd i annog yr ystod ehangaf o bobl ledled y wlad i fwynhau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Ledled Cymru mae ymdeimlad cryf o hunaniaeth leol a ddylanwadir gan y celfyddydau a diwylliant ac sydd yn ei thro yn dylanwadu arnynt hwythau hefyd. Mabwysiadwn y diffiniad ehangaf posibl o amrywiaeth diwylliannol, gan adlewyrchu diwylliant gwirioneddol byw yng Nghymru heddiw. Byddwn yn canolbwyntio ar hil, cefndir ethnig ac anabledd. Rydym o blaid rhoi cyfle cyfartal i bawb fynd i leoliadau a digwyddiadau celfyddydol, i artistiaid fynegi eu hunain ac i bobl gymryd rhan yn y celfyddydau. Mae ymhle a sut mae pobl yn cymryd rhan yn y celfyddydau, yn enwedig pan fydd hyn yn digwydd yn lleol iawn, yn bwysig i ni. Mae ein cynllun Noson Allan, er enghraifft, yn cyrraedd cymunedau ledled Cymru drwy gynnal perfformiadau o ansawdd uchel na fyddai rhai pobl yng Nghymru fel arall yn gallu eu mwynhau. Mae a wnelo cymunedau bywiog a chynaliadwy â chymdogaeth a lle. Maent yn ymwneud â materion bob dydd megis ysbryd cymunedol, diogelwch, iechyd ac addysg - yr hyn sy'n cysylltu pobl a chymunedau. Mae ein partneriaethau ag awdurdodau lleol yn adlewyrchu'r pryderon hyn, a rhown bwyslais

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

arbennig ar yr ardaloedd hynny o Gymru a ddynodir o fewn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ein cysylltiadau drwy adrannau'r llywodraeth sy'n helpu i ategu prosiectau fel ein strategaeth ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd. Un o'n tasgau pwysicaf yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau. Mae cymryd rhan yn y celfyddydau ac achub ar gyfleoedd creadigol yn trawsnewid y ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn gweld y byd o'u hamgylch. Gall newid y ffordd maent yn gweld eu hunain - hyd yn oed eu breuddwydion ar gyfer y dyfodol - yn ogystal â'u helpu i ddatblygu sgiliau penodol. Rydym am ddangos sut y gall y celfyddydau fynd i'r afael â thlodi pobl ifanc, ysbrydoli pobl ifanc drwy feithrin ymdeimlad newydd o uchelgais a hyder, a herio diffyg dyhead. O'r blynyddoedd cynnar hyd at dyfu yn oedolyn a thu hwnt, credwn y dylai pawb allu mwynhau'r celfyddydau a chael profiad creadigol o'r ansawdd gorau posibl. Drwy wrando ar blant a phobl ifanc a gwerthfawrogi eu creadigrwydd eu hunain, anelwn at gynnig cyfleoedd perthnasol sy'n creu brwdfrydedd oes dros y celfyddydau ac awydd i gymryd rhan ynddynt naill ai fel rhan o'r gynulleidfa neu fel artist a fydd yn para oes. Gall bod yn rhan o brosiect sy'n cael effaith bellgyrhaeddol y tu hwnt i'r digwyddiad ei hun roi hwb aruthrol i falchder a hyder. Rydym yn buddsoddi mewn rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu'r Olympiad Diwylliannol. Erbyn 2012, bydd miloedd o blant ysgol a'u teuluoedd wedi cymryd rhan mewn prosiectau sy'n cysylltu Cymru â'i hun a gweddill y byd.


Byddwn yn canolbwyntio ar dri gweithgarwch:

cymryd rhan

Byddwn yn cefnogi prosiectau mewn ardaloedd amddifad iawn. Rydym yn awyddus iawn i gefnogi gweithgarwch y celfyddydau cymunedol a allai drawsnewid profiadau unigolion a chymunedau.

datblygu cynulleidfaoedd

Byddwn yn cefnogi sefydliadau celfyddydol sydd 창 strategaethau clir wedi'u datblygu'n dda i annog mwy o bobl i fynd i'w digwyddiadau.

cynnwys pobl ifanc

Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o strategaethau ymarferol a fydd yn cynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn y celfyddydau fel cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

17


18

Sicrhau twf economi'r celfyddydau …

Rydym am i fwy o arian fod ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru. Yn ogystal â'r arian cyhoeddus a gawn drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Loteri Genedlaethol, rydym hefyd wedi cael arian oddi wrth amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel yr Undeb Ewropeaidd, Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU a'r Cyngor Prydeinig. Rydym eisoes yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ffynonellau newydd o arian ar gyfer y celfyddydau. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru rydym wedi cael £12miliwn o gyllid Ewropeaidd ar gyfer y prosiect Cyrraedd y Nod. Bydd y buddsoddiad hwn mewn gweithgarwch ar lawr gwlad yn helpu pobl ifanc i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael addysg, gwaith a hyfforddiant. Enghraifft arall yw Cynllun Casglu. Mae'r cynllun benthyciadau di-log hwn yn gweithredu mewn 80 o orielau ledled y wlad, ac ers iddo gael ei lansio chwarter canrif yn ôl, mae 25,500 o fenthyciadau wedi'u trefnu. Mae wedi annog pobl i brynu gwaith celf a chrefft gwerth dros £11.15m. Mae'r celfyddydau yn bwysig ynddynt eu hunain. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod y diwydiannau creadigol a diwylliannol yn hollbwysig i economi Cymru. Maent yn gwneud cyfraniad uniongyrchol o ran swyddi ac yn creu cyfoeth drwy gynhyrchu, dosbarthu a manwerthu nwyddau a gwasanaethau. Yn y gorffennol diwydiant a gweithgynhyrchu oedd yn mynd â bryd prif gwmnïau'r byd. Bydd corfforaethau allweddol y dyfodol yn ymwneud fwyfwy â meysydd cyfathrebu, gwybodaeth, adloniant, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r rhain yn gofyn am lefel Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

uchel o ddychymyg creadigol a gweledigaeth sy'n llawn mentergarwch - rhinweddau y mae'r celfyddydau a diwylliant mewn sefyllfa ddelfrydol i'w meithrin a'u hyrwyddo. Mae'r defnydd o dechnolegau digidol, yn enwedig mewn perthynas â'r diwydiannau creadigol, yn faes fwyfwy pwysig o weithgarwch. Mae'r cynnydd aruthrol yn y defnydd o dechnoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd creadigol newydd i artistiaid ac yn ei gwneud yn haws i gynulleidfaoedd a defnyddwyr eu mwynhau. Fodd bynnag, gall yr holl ddelweddau, testun a gwybodaeth fod mor ddryslyd ag y mae'n rhyddhau. Mae gan artistiaid ran allweddol i'w chwarae i'n helpu i lywio, deall a defnyddio'r cyfleoedd niferus a gynigir gan dechnolegau digidol. Mae rhai rhannau o'r sector diwylliannol yn ffurfio atyniadau pwysig i dwristiaid, gan greu galw am drafnidiaeth, llety, gwasanaethau arlwyo a mathau eraill o fusnes sy'n ymwneud â thwristiaeth. Fodd bynnag maent hefyd yn rhoi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Nid dim ond diffinio'r ddelwedd o Gymru a wna ein tirnodau diwylliannol. Maent yn fusnesau pwysig ynddynt eu hunain. Wrth ddatblygu economi greadigol y genedl rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (y mae ei Chynllun Gofodol yn darparu cyd-destun ein gwaith partneriaeth rhanbarthol). Rydym yn buddsoddi mewn hyfforddi gweithluoedd i ddatblygu sgiliau, a gweithfannau newydd i artistiaid ac entrepreneuriaid creadigol. Mae gosod y celfyddydau wrth wraidd y broses o adfywio Cymru yn rhan greiddiol o'n cynlluniau, a byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cam nesaf ein strategaeth ar gyfer Cyfalaf y Loteri yn ystod oes y Cynllun hwn.


Byddwn yn canolbwyntio ar bum gweithgarwch:

nodi ffynonellau newydd o gyllid

Byddwn yn cynyddu ein hincwm drwy gynllun clir a strwythuredig i godi arian. Byddwn yn targedu amrywiaeth o ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat ar gyfer prosiectau a mentrau penodol.

menter a thwf busnes

Byddwn yn cefnogi'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol i gyfrannu at dwf ein heconomi.

datblygu'r gweithlu

Byddwn yn gweithio gyda Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i ddatblygu'r gweithlu creadigol, gan greu mwy o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol.

twristiaeth ddiwylliannol

Byddwn yn sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant wrth wraidd y ffordd mae Cymru yn hyrwyddo ei hun i weddill y byd.

ymgyrchu

Byddwn yn hyrwyddo cyflawniadau'r celfyddydau yng Nghymru drwy ddathlu llwyddiannau a dangos y cyfraniad hanfodol a wna'r celfyddydau i fywyd y genedl.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

19


20

Datblygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein busnes …

Mae'n bwysig iawn bod sefydliadau celfyddydol sy'n cael arian cyhoeddus yn perfformio'n dda. Mae hyn yn wir i ni hefyd. Fel unrhyw fusnes llwyddiannus, mae angen i ni ddatblygu ein strategaeth fusnes yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd yn y byd o'n hamgylch, a gallu ymateb i newid. Mae gennym strategaeth glir ac effeithiol i gyflawni ein gwaith sy'n gysylltiedig â'n hamcanion. Byddwn yn parhau i fod yn atebol am ein gwaith a monitro a chyflwyno adroddiadau ar ein perfformiad, a gwneud newidiadau strategol pan fo angen. Byddwn yn agored ac yn dryloyw o ran egluro'r ffordd y rheolwn ein busnes, a sut y rhown wybod am ein cyflawniadau. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn darparu adnoddau ar gyfer ein rhaglenni gwaith lle y bo'n briodol. Byddwn yn gweithio i ddatblygu arbedion cost gweithredol drwy symleiddio prosesau, defnyddio'r dechnoleg orau sydd ar gael, a chreu amgylchedd lle yr adolygwn effeithiolrwydd ein perfformiad yn barhaus. Rydym am feithrin cydberthynas newydd ac aeddfed â sefydliadau celfyddydol - un sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a chyd-barch. Credwn fod yn rhaid i'r sefydliadau hyn gymryd yr awenau o ran sicrhau arloesedd artistig a datblygu cynulleidfaoedd.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Disgwyliwn iddynt fod wedi'u rheoli'n dda. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn deg yn yr hyn sy'n ofynnol ganddynt, ac ni wnawn ofyn iddynt wneud mwy na'r hyn y mae eu cyllidebau yn ei ganiatáu. Byddwn yn tyfu ac yn datblygu ein diwylliant o fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, yn gweithio er budd y cyhoedd ac yn adeiladu ar hyder ein rhanddeiliaid o ran ein gallu i gyflawni. Fel corff sy'n dyrannu arian cyhoeddus ac elusennol anelwn at gyrraedd y safonau uchaf posibl yn ein gwaith. A thrwy ein cyngor a'n cymorth - p'un a gynigiwn arian ai peidio - byddwn yn cymhwyso'r un safonau o broffesiynoldeb a gofal. Ein cyflogeion yw ein hadnodd pwysicaf, a byddwn yn parhau i ddatblygu eu sgiliau a meithrin eu hyder i'w galluogi i gyflawni ein hamcanion corfforaethol. Byddwn yn anelu at fod yn gyflogwr sy'n gosod esiampl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy ddatblygu a chyflawni ein polisïau a'n harferion cyflogaeth.


Byddwn yn canolbwyntio ar bum gweithgarwch:

symleiddio busnes

Byddwn yn adolygu ein systemau a'n prosesau gweinyddol er mwyn sicrhau eu bod mor syml 창 phosibl. Os gwelwn fiwrocratiaeth ddiangen, gwnawn ei dileu.

y cwsmer yn gyntaf

Byddwn yn anelu at gyrraedd y safonau uchaf o wasanaeth cyhoeddus a gwasanaeth cwsmeriaid. Byddwn yn asesu ein perfformiad ac yn cyhoeddi'r canlyniadau.

datblygu staff

Byddwn yn gweithredu strategaethau blaengar sy'n datblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff.

effeithlonrwydd

Byddwn yn monitro ein perfformiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel am y gost resymol leiaf posibl. Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg gwybodaeth.

llywodraethu

Rydym yn ymrwymedig i wneud ein strwythurau cynghori a gwneud penderfyniadau yn glir ac yn dryloyw. Rydym am ddefnyddio'r arbenigedd gorau sydd ar gael i ni, a sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan waith asesu a gwaith ymchwil seiliedig ar dystiolaeth gofalus.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

21


22

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Cwnmi Theatr Fluellen, Neuadd Gymunedol Pentrepoeth Noson Allan (llun: Betina Skovbro)


Gwneud iddo ddigwydd ...

Er mwyn cyflawni ein Cynllun byddwn yn canolbwyntio ar dri pheth: arweinyddiaeth, strategaeth a chyflawni:

arweinyddiaeth - o dan arweiniad ein Cyngor byddwn yn:

23

cyflawni - ar sail blaenoriaethau strategol y Cyngor byddwn yn: cynllunio ac yn blaenoriaethu'r rhaglenni o weithgarwch a fydd yn cyflawni ein hamcanion ynghyd â darparu adnoddau ar eu cyfer

pennu cyfeiriad clir gweithio i sbarduno ein staff, ein rhanddeiliaid, artistiaid a sefydliadau celfyddydol

datblygu rolau, cyfrifoldebau a modelau cyflawni clir (yn fewnol ac yn allanol) rheoli a monitro ein perfformiad ynghyd â chyflwyno adroddiadau arno

bod yn gyfrifol am arwain newid meithrin gallu ac adnoddau ein staff a'r celfyddydau - i gyflawni'r newidiadau y mae'r celfyddydau yn eu mynnu

strategaeth – wedi ein llywio gan weledigaeth y Cyngor - a fframwaith polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru - byddwn yn: disgrifio mewn ffordd glir a chymhellol y canlyniadau rydym am eu cyflawni dangos bod y newidiadau rydym wedi gorfod eu gwneud yn seiliedig ar farn hyddysg a gwaith ymchwil dilys meithrin ymdeimlad o ddiben cyffredin gyda chymuned y celfyddydau sy'n uno camau gweithredu ar sail amcanion ein strategaethau

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


24

Yr arian ...

Cymorth grant £m Arian refeniw i sefydliadau Arian strategol

Loteri CYFANSWM £m

£m

20.693

20.693

2.248

2.248

Loteri (Cyfalaf) *

9.898

9.898

Loteri (Ffilm - wedi'i ddirprwyo i Asiantaeth Ffilm Cymru)

0.785

0.785

Loteri - cynlluniau a rhaglenni

3.399

3.399

Artistiaid ar y Blaen **

0.083

0.083

Arian disglair

1.500

Cymru Greadigol

1.500 0.300

0.300

Y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd

2.000

2.000

Datblygu Theatr Saesneg

1.750

1.750

Costau gweithredu

2.442

Cyfalaf (ar gyfer Cyngor y Celfyddydau)

0.055

0.055

Incwm a enillwyd

0.015

0.015

CYFANSYMIAU

30.703

1.569

16.034

4.011

46.737

* Yn cynnwys y defnydd arfaethedig o falansau'r Loteri, a gorymrwymiad yn erbyn incwm y dyfodol ** Caiff cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i Artistiaid ar y Blaen (£250,000) ei ddyrannu'n gyfartal dros dair blynedd

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


25

Arddangosfa - Cyfeillion Glynn Vivian - Arddangosfa dathlu hanner canmlwyddiant (1958 - 2008), crewyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


26

Ein strategaeth ariannol ...

Adeiladu ar lwyddiant Cynlluniwn gyda'r arian sydd gennym, ond byddwn yn galw am yr arian sydd ei angen ar y celfyddydau yng Nghymru. Mae'r celfyddydau yn un o wir lwyddiannau Cymru, ond mae'r llwyddiant hwn wedi'i adeiladu ar dir ansefydlog. Mae'n rhaid sicrhau nad yw'r unigolion dawnus hynny sy'n cael llawer o sylw y mae Cymru yn ymfalch誰o ynddynt yn tynnu sylw oddi ar brofiadau beunyddiol i lawer o bobl sy'n byw yng Nghymru. Iddynt hwy, mae'r hawl resymol i fwynhau gweithgareddau celfyddydol hygyrch o ansawdd uchel yn parhau i fod yn hollbwysig. Er gwaethaf y pwysau cynyddol ar arian cyhoeddus - a dim ond cynyddu a wna'r pwysau hyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf - mae gennym gyfrifoldeb nad oes dianc mohono i ddangos gwerth buddsoddiad cyhoeddus yn y celfyddydau.

fod yn seiliedig ar ymagwedd sy'n dyrannu adnoddau prin hyd yn oed yn fwy. Mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau. Mae'r cyllid sydd gennym yn golygu - yn hunanamlwg - na allwn sicrhau bod y celfyddydau ar gael ymhob cymuned drwy Gymru. Felly mae'n rhaid i sail ymagwedd sy'n gorfod bod yn ddewisol fod yn glir, yn ddarbwyllol a rhaid iddi gael ei deall. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n cael arian gan Gyngor y Celfyddydau yn y dyfodol gynrychioli'r gorau yn eu maes. Hefyd mae angen i ni egluro, mewn ffordd fwy darbwyllol a chlir, nad yw arian Cyngor y Celfyddydau ond ar gael i wneud rhaglenni sicr yn fwy fforddiadwy i gynulleidfa benodol a sefydledig. Ni ddylem ychwaith fod yn dyrannu cymhorthdal prin lle nad oes ei angen, lle y gall y 'farchnad' gynnal artist neu sefydliad yn ddilys.

Ffynnu, nid dim ond bodoli Her tanfuddsoddi Credwn fod y celfyddydau yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i danfuddsoddi sylweddol. Yn 2008, dim ond 0.2% o gyfanswm cyllideb Llywodraeth y Cynulliad a wariwyd ganddi'n uniongyrchol drwy Gyngor y Celfyddydau ar gyfrifon y celfyddydau neu fel arall llai nag un diwrnod calendr o wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae creu rhwydwaith bywiog o sefydliadau celfyddydol sy'n gyffrous yn artistig ac yn ddichonadwy yn ariannol yn hanfodol i genhadaeth Cyngor y Celfyddydau. Pan fydd mwy o arian ar gael, mae buddsoddi mewn twf yn syml. Pan fydd arian yn aros yr un peth - neu'n waeth yn lleihau - yna mae'r pwysau yn cynyddu. Gall hyn arwain at ansawdd is, llai o allbwn, ac mewn achosion eithriadol gall arwain at gau sefydliadau celfyddydol.

Gwneud dewisiadau Ni chredwn y gall ein strategaeth ariannol

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Nid yw'r opsiwn o 'wneud dim' - sy'n llywodraethu dros ddirywiad parhaus - yn


27

opsiwn o gwbl. Os bydd yr arian a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn aros yr un peth tan 2012, gallai effaith gronnol hyn (o ystyried chwyddiant) dros gyfnod o dair blynedd, mewn termau real, ostwng gwerth ein portffolio refeniw tua £1.75m. Nid yw hon yn sefyllfa gynaliadwy. Ledled Cymru, mae ein sefydliadau celfyddydol gorau yn dangos uchelgais a mentergarwch gwirioneddol, ond mae perygl y daw hyn i ben. Nid oes gan adeiladau a ailwampiwyd y refeniw i wireddu potensial eu cyfleusterau newydd; mae rhaglenni'r celfyddydau yn lleihau neu'n cael eu cwtogi; ac mae partneriaethau rhyngwladol o dan fygythiad am na all ein sefydliadau gydweithio â sefydliadau tebyg a ariennir yn well y tu allan i Gymru. Mae'n rhaid i ni edrych o ddifrif ar y ffordd rydym yn cefnogi ein 'portffolio' o sefydliadau a gaiff arian refeniw. Gwnawn hyn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi gofyn i ni gwblhau'r adolygiad hwn erbyn mis Mawrth 2010.

Ymagwedd a gaiff ei llywio gan strategaeth Wrth i ni symud ymlaen, bydd ein strategaeth yn llywio ein penderfyniadau ariannol ac yn pennu cyfeiriad y twf rydym am ei gyflawni yn y tymor hwy.

Lywodraeth Cynulliad Cymru achub ar gyfleoedd i gael arian Ewropeaidd ac arian o ffynonellau eraill dwyn ynghyd gymorth grant ac arian y Loteri (cyfalaf a phrosiect) yn un ymagwedd strategol tymor hwy sy'n ein helpu i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun yn well adolygu ein portffolio presennol o sefydliadau a gaiff arian refeniw er mwyn cyflawni strategaeth ariannu sy'n galluogi ein sefydliadau i gyflawni eu potensial creu'r hyblygrwydd o fewn ein cyllidebau sy'n ein galluogi i feithrin talent newydd datblygu ein partneriaethau ariannu gyda llywodraeth leol, gan sicrhau ymagwedd 'gyd-gysylltiedig' tuag at benderfyniadau buddsoddi nodi modelau priodol ar gyfer buddsoddiadau sector preifat rheoli ein costau gweinyddol a'n gorbenion er mwyn cael y swm mwyaf posibl i mewn i'n gwariant uniongyrchol ar y celfyddydau rhoi'r dystiolaeth sy'n dangos effaith a mantais buddsoddi ychwanegol

Byddwn yn: cyflwyno'r achos o blaid cael mwy o arian gan y llywodraeth, gan edrych y tu hwnt i'r gyllideb Treftadaeth ac ymhob rhan o

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


28

Adlewyrchu ein gwerthoedd ...

Anelwn at gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran y ffordd rydym yn ymddwyn ac yn rhedeg ein busnes. Gwyddom y byddwn yn cael ein barnu yn 么l ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn i'r rhai rydym yn gweithio gyda hwy. Byddwn yn: cyhoeddi safonau gwasanaeth ac yn mesur perfformiad yn erbyn y safonau hynny cyhoeddi ein cynlluniau a chyflwyno adroddiadau blynyddol ar ein cyflawniadau sicrhau ein bod yn darparu gwybodaeth reolaidd a hygyrch am ein harian a'n gwaith symleiddio'r ffordd rydym yn rhedeg ein busnes, gan ddileu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen lle bynnag y gallwn rhoi adborth clir ac ymarferol i'r rhai sy'n gwneud cais am gymorth ariannol gwella ansawdd ein gwybodaeth ar y we cadw ein hachrediad Buddsoddwyr mewn Pobl symud ein staff Cenedlaethol a'n staff yn Ne Cymru i safle newydd a hygyrch yng Nghaerdydd

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


29

Chromoscope 2008 Laura Thomas (Ffotograffiaeth Pinegate) Dyfarniad Llysgenhadon Cymru Greadigol 2009

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012


30

Am wybod mwy ...? Am ragor o wybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru a'n gwaith ewch i'n gwefan gwbl hygyrch - www.celfcymru.org.uk Yno ceir gwybodaeth am y canlynol: pwy ydym ni, ein strwythur a sut y cawn ein hariannu ein cynlluniau, ein polis茂au a'n strategaethau sut i wneud cais am arian ein Hadroddiad Blynyddol a'n Rhestrau o Grantiau y gwasanaethau a gynigir gennym swyddi a newyddion am y celfyddydau yng Nghymru Hefyd mae cysylltiadau ag amrywiaeth o sefydliadau partner, gan gynnwys: Noson Allan Cymru yn Biennale Celf Fenis Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

mru.org.uk www.celfcymru.org.uk www.celfcymru.org.uk w Cyngor Celfyddydau Cymru Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL Ff么n: 0845 8734 900 Ffacs: 029 2044 1400 Minicom: 029 2045 1023 Ebost: gwybodaeth@celfcymru.org.uk


Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012