Adroddiad Blynyddol 2004-05

Page 35

CYSYLLTU GEIRIAU Ar gyfer 2005 y teitlau Saesneg hyn oedd: Trezza Azzopardi am Remember Me (Picador), Richard Collins am The Land as Viewed from the Sea (Seren) ac Owen Sheers am The Dust Diaries (Faber). Yn Gymraeg: Bethan Gwanas am Hi yw Fy Ffrind (Y Lolfa); Caryl Lewis am Martha Jac a Sianco (Y Lolfa) ac Elin Llwyd Morgan am Rhwng y Nefoedd a Las Vegas (Y Lolfa).

MAE LLENYDDIAETH, EI CHREU A’I MWYNHAU, WEDI YMUNO Â’R BRIF FFRWD FEL GWEITHGAREDD DIWYLLIANNOL. ERBYN HEDDIW NID YW YSGRIFENNU A MWYNHAU BARDDONIAETH A FFUGLEN NEWYDD YN FWY ANARFEROL NA CHWARAE PÊL-DROED AC, YN WIR, MAE LLAWER O BOBL YN GWNEUD Y DDAU.

Cafodd marchnata helaeth a theithiau awduron ar gyfer y rhestri hir a’r rhestri byr eu rheoli ar y cyd â phartner yr Academi yn y Wobr, Cyngor Llyfrau Cymru. O ganlyniad cynyddodd gwerthiannau ac ar un adeg roedd rhestr Deg Gwerthwr Uchaf Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnwys saith o’r ymgeiswyr am Lyfr y Flwyddyn. Mae’n amlwg bod Gwobr Llyfr y Flwyddyn a reolir gan Academi, a’i chyllido’n bennaf gan CCC, yn welliant ar y gwobrau cynharach. Mae’r Gwobrau wedi creu gwelededd gwell i awduron Cymru ynghyd â gwerthiannau llyfrau uwch. Mae S4C a BBC Cymru wedi rhoi sylw ardderchog i Lyfr y Flwyddyn, y ddau yn comisiynu rhaglen arbennig 30 munud am y Wobr o’r cychwyn hyd y seremoni.

Llyfr y Flwyddyn 2005 - Llyfrau’r Rhestr Fer

CREU’R CYSYLLTIADAU

35


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.