Issuu on Google+

CYMRU GREADIGOL CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003/04

C Y S Y L LT W C H Â N I Gellir cysylltu â CCC o ddydd Llun i ddydd Gwener yn:

e-bostio aelod o’r staff: enwcyntaf.cyfenw@celfcymru.org.uk

Swyddfa Gogledd Cymru 36 Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn LL29 8LA (ar agor 9am i 5pm) Ffôn: 01492 533440 Minicom: 01492 532288 Ffacs: 01492 533677 gogledd@celfcymru.org.uk

ysgrifennu at CCC: Tîm Cyfathrebu, 9 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3NX ymweld â gwefan CCC yn: www.celfcymru.org.uk Mae CCC yn dilyn polisi cyfle cyfartal.

Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru 6 Gardd Llydaw, Jackson’s Lane, Caerfyrddin SA31 1QD (ar agor 9am i 5pm) Ffôn: 01267 234248 Minicom: 01267 223496 Ffacs: 01267 233084 canolbarthagorllewin@celfcymru.org.uk Swyddfa De Cymru 9 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3NX (ar agor 9am i 5pm) Ffôn: 029 2037 6525 Minicom: 029 2039 0027 Ffacs: 029 2022 1447 de@celfcymru.org.uk Swyddfa Caerdydd 9 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3NX (ar agor 9am i 5.30pm) Ffôn: 029 2037 6500 Minicom: 029 2039 0027 Ffacs: 029 2022 1447 gwybodaeth@celfcymru.org.uk

Mae CCC wedi ymrwymo i drefnu bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, Braille ac ar dâp sain a bydd yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill yn ogystal â’r Gymraeg a’r Saesneg o gael cais. Gellir cysylltu â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o ddydd Llun i ddydd Gwener yn: 28 Park Place, Caerdydd CF10 3QE Ffôn: 029 2038 3037 Ffacs:: 029 2039 8778 info@wai.org.uk www.wai.org.uk


Y BORE ‘MA MAE PAWB YN TAIPEI YN SIARAD AM GAERDYDD YN LLAWN O DDONIAU CYNHENID ANHYGOEL, DYDW I ERIOED WEDI GWELD UNRHYW BETH TEBYG I HYN O’R BLAEN – DYLAI FOD MWY O’R MATH HWN O BETH YMA! MAE’R CYNLLUN YN HOLLOL SYFRDANOL CCC YN TYNNU’R CRISIS ALLAN O’R DDRAMA LLWYDDIANT DIGAMSYNIOL MAE’R CELFYDDYDAU CYMUNEDOL YN ADFYWIO, YN SBARDUNO AC YN SICRHAU BUDD ECONOMAIDD GALLUOGODD CYLLID CCC INNI SEFYDLU PARTNERIAETH GYLLIDO GYMHLETH OEDD YN CYNNWYS GRANTIAU YCHWANEGOL O NIFER O FFYNONELLAU...

CYMRU GREADIGOL: GWLAD WELL BU 2003/04 YN FLWYDDYN RAGOROL ARALL I’R CELFYDDYDAU YNG NGHYMRU, A THRWY GYDOL YR ADRODDIAD HWN CEIR ENGHREIFFTIAU O’R CERRIG MILLTIR NIFERUS AC ARWYDDOCAOL A GYFLAWNWYD. Geraint Talfan Davies a Peter Tyndall

Cerith Wyn Evans - trawsyriant; Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, Ellis Wynne. Llun: Polly Bradden

Presenoldeb cyntaf un Cymru yn Biennale Celf Fenis yn un gwych a dyma hwyrach un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y celfyddydau cyfoes

Ail-lansiwyd Jazz Aberhonddu fel Gw ˆ yl Jazz Ryngwladol Aberhonddu. Arddangosfa CCC yn yr Eisteddfod Genedlaethol:‘Gweld Llais a Chlywed Llun’ arddangosfa o gelf weledol gyfoes a thecstiliau.

Cyhoeddi dyraniad o £1M ar gyfer prosiectau cyfalaf er mwyn gwneud lleoliadau’r celfyddydau yn fwy hygyrch i bobl anabl. Cyfle cyntaf i oriel o Gymru arddangos gwaith yn SOFA Chicago.

Seremoni gyntaf Cynllun Gwobrau Cymru Greadigol CCC a gyflwynwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol, Rosemary Butler AC

Agor Canolfan Gyfryngau Creadigol Mwldan. Dyfarnu grant o £820,584.00 i Blant y Cymoedd i ailwampio a gwneud gwelliannau sylweddol i gapel Soar Ffrwdamos, Penygraig a ddefnyddir ganddynt.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Mewn partneriaeth gydag Agor Drysau, daeth y cynllun Noson Allan â’r cwmni Graine de Malice o Ffrainc i ymweld â phlant Cwm Rhondda

Rhodri Morgan yn cyhoeddi mai Xu Bing oedd enillydd cyntaf Gwobr Artes Mundi cyntaf un Gwobr Celf Weledol Rhyngwladol Cymru gwerth £40,000.

Grant Loteri Cyfalaf o £66,735 i’r Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, oedd dyfarniad Loteri cyntaf CCC mewn perthynas uniongyrchol â chydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.

Llwyfanwyd Raga and Rhapsody gan Resound, adran addysg a chymuned Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ffrwyth cydweithio blaengar ydoedd gyda chymunedau Asiaidd Caerdydd trwy gyfrwng cerddoriaeth, dawns a chelf weledol.

Yr ail o dri Symposiwm Rhyngwladol am Gerflunio Pren a gynhaliwyd yn Llyn Fyrnwy, Powys gyda 10 artist yn cwblhau darn o waith yr un a fydd yn aros ar y safle.

Mae sefyllfa’r celfyddydau yng Nghymru yn un arbennig o iach, er bod dal angen buddsoddiad newydd mewn rhai meysydd, fel y celfyddydau cymunedol a theatr yn yr iaith Saesneg. Nid yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymddiheuro dim am hyrwyddo’r celfyddydau am yr hyn ydynt. Mae’r celfyddydau’n gyforiog o bwrpas: yn dathlu ein creadigrwydd, yn darparu profiadau hudolus

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Arddangoswyd gwaith unarddeg o artistiaid a gydnabyddir yn rhyngwladol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ysbrydolwyd gwaith yr arddangosfa, Archwiliadau 2003, gan dirlun a phensaernïaeth Middleton

Araith gyntaf Alun Pugh, a benodwyd yn Weinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, yng Nghynhadledd gyntaf CCC

chynhyrchiad arbennig o lwyddiannus o Jephtha Handel gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, i enwi ond ychydig.

CYMRU GREADIGOL

Gwelwyd taith gyntaf y cwmni theatr genedlaethol Gymraeg - Theatr Genedlaethol Cymru - presenoldeb Cymru am y tro cyntaf yn Biennale Celf Fenis, cynhyrchiad arbennig gan Clwyd Theatr Cymru o’r ddrama The Crucible, gwaith gwych ar y cyd rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a cherddorion Indiaidd blaenllaw ynghyd â

1


CYMRU GREADIGOL : GWLAD WELL

ac ysbrydoledig ac yn sylwebaeth ar ein bywyd yng Nghymru a’r byd yn ogystal â herio’n syniadau a’n hagweddau. Pleser fu dathlu’r rhain trwy gyfrwng Gwobrau Cymru Greadigol, Llyfr y Flwyddyn, ein harddangosfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’n cefnogaeth i Artes Mundi.

H E L P U M W Y O B O B L I G A E L G WA I T H

Mae’r celfyddydau yn cynorthwyo i hybu iechyd y corff a’r enaid ac yn gymorth i fyw bywydau llawn ac iach fel a hyrwyddir gan Cymru: Gwlad Well. Caiff y rhwydwaith o sefydliadau dawns cymunedol ledled Cymru gefnogaeth CCC. Mae cymryd rhan mewn dawns yn ymarfer corff gwych sydd hefyd yn datblygu hyder a mynegiant creadigol a gall dawns apelio at lawer o unigolion nad ydynt yn mwynhau chwaraeon. Mae pobl o bob oed ar hyd ac ar led Cymru yn cael cryn fwynhad ac yn dod yn fwy ffit ac iach yn ogystal. Mae trosglwyddo gwybodaeth i bobl ifanc am fyw’n iach yn dipyn o her, gyda llawer o adroddiadau’n dangos nad yw’r sianelau confensiynol yn llwyddo i gael unrhyw effaith sylweddol. Chwaraewyd rhan bwysig gan gwmnïau Theatr Mewn Addysg ar draws Cymru a fu’n gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol a hynny mewn modd hwyliog sy’n ennyn ymateb gan y gynulleidfa.

Mae Cywaith Cymru a CBAT hefyd wedi gweithio gyda chymunedau ar ddatblygu prosiectau celf gyhoeddus sy’n gwella delwedd yr ardaloedd a effeithiwyd gan ddirywiad diwydiannol gan adfer eu balchder yn eu bro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf cafwyd budd cyfoethog a chreadigol i Gymru o’r arian newydd a fuddsoddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a datblygwyd y seiliau ar gyfer dyfodol gwell. Mae’r Mae Splash, cynlluniau chwarae yr haf, a gyllidir gan CCC yn profiad yng Nghymru a thu hwnt yn darparu gweithgareddau pwrpasol ar gyfer pobl ifanc gan felly parhau i ddangos bod buddsoddi yn y leihau y duedd i droseddu. Mae gweithgareddau celfyddydol ar celfyddydau yn dod â manteision gyfer pobl ifanc, wrth fynd law yn llaw â chwaraeon, yn golygu llawer mwy yn ei sgîl. Bydd bod cyfleoedd ar gael a fydd yn apelio at bobl ifanc yn gyffredinol. buddsoddi cynaledig pellach yng Nghymru yn gwireddu mwy fyth o lawn botensial y celfyddydau i CREU GWELL SWYDDI A SGILIAU gyfrannu i’r ‘gwlad well’ yr ydym i Mae gwariant ar y celfyddydau yn effeithiol ac yn ddi-wastraff: gyd yn anelu ati. gwelir effaith buddsoddi yn y celfyddydau’n gyflym, mae’r swyddi a gaiff eu creu yn gofyn am sgiliau arbennig ac yn uchel eu parch, mae’r effaith ar yr economi leol yn uniongyrchol ac ychydig iawn o’r effaith economaidd yma fydd yn gadael Cymru. Geraint Talfan Davies Cadeirydd Mae prosiectau celfyddydol uchel eu proffil fel Canolfan Mileniwm Cymru yn help i ddenu a sicrhau gwaith. Gall cwmnïau ac unigolion sy’n ystyried ail-leoli yng Nghymru weld fod ansawdd bywyd da ar gael yma ac mae sector ddiwylliannol ffyniannus yn rhan allweddol o hyn. Mae prosiectau fel canolfan Peter Tyndall Prif Weithredwr gyfryngau creadigol Theatr Mwldan yn creu swyddi sylweddol

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Cyflogir dros 3,100 gan sefydliadau a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan ofal CCC. Byddai’r ffigwr hwn yn uwch eto pe baem yn cymryd i ystyriaeth y sefydliadau a gyllidir trwy gyfrwng y Loteri yn unig. Mae’r sefydliadau celfyddydol yn creu eu cyllid eu hunain hefyd sy’n golygu fod yr arian cyhoeddus yn ymestyn ymhellach. Mynychwyr y theatr sy’n gyfrifol am fwy na 40% o incwm Clwyd Theatr Cymru, er enghraifft. Mae’r Cynllun Casglu llwyddiannus yn rhoi credyd di-log i’r rheini sydd am brynu celf ac yn cefnogi cyflogaeth ledled Cymru am y gost leiaf posib. Ceir perthynas

GWELLA IECHYD

CASGLIAD

3

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Mae gwariant ar y celfyddydau yn cael effaith uniongyrchol ac unionsyth ar yr economi leol. Dengys gwaith ymchwil fod yr ymwelydd arferol â’r theatr yn gwario bron i £8 ar fwyd, cludiant a gofal plant wrth ymweld â’r theatr leol. Mae lleoliadau a digwyddiadau celfyddydol yn denu ymwelwyr i bob rhan o Gymru ac yn golygu eu bod yn aros mewn gwestai lleol, yn bwyta yn y tai bwyta lleol ac yn prynu gwaith gan artistiaid a chrefftwyr Cymru.

mewn cymunedau gwledig. Gyda chyllid gan CCC, gall Gwasanaethau Menter Diwylliannol roi cefnogaeth i fusnesau diwylliannol hen a newydd er mwyn sicrhau’r cyfraniad gorau posib ganddynt i sicrhau gwaith sy’n uchel ei werth ac yn gynaliadwy. Yng nghefn gwlad Cymru, mae artistiaid unigol a chrefftwyr a gefnogir gan rwydwaith o orielau, yn cynhyrchu gwaith o’r safon uchaf. Roedd hyn yn amlwg ym mhresenoldeb llwyddiannus y chwe artist o Gymru yn yr arddangosfa D AT B LY G U C Y M U N E D A U C RY F A D I O G E L ryngwladol bwysig ar gyfer crefft, Trwy gefnogi sefydliadau celfyddydau cymunedol, mae CCC SOFA, a gynhaliwyd yn Chicago. wedi cynorthwyo cymunedau ar draws Cymru i fynd i’r afael â Mae gwaith o’r fath yn ffynhonnell thlodi, gwella’r amgylchedd, ymgysylltu â phobl ifanc a oedd werthfawr o waith cynaliadwy ac yn wedi dadrithio, meithrin galluoedd a chreu gwaith. Mae sefydliadau fel CARAD yn gweithio mewn aradaloedd gwledig i cyfrannu i dwristiaeth ddiwylliannol ddarparu ffocws ar gyfer gweithgarwch ac ymwneud cymunedol. ac economi’r trefi a’r pentrefi llai. Y diwydiannau creadigol yw un o Chwaraeir rhan allweddol gan sefydliadau celfyddydau sectorau economi’r byd sy’n tyfu cymunedol yn y gwaith o adfywio ardaloedd lle mae’r gyflymaf ac yn ddibynnol ar ddoniau, diwydiannau trwm wedi diflannu. Mae cyrff fel Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf yn ymgorffori’r ethos o weithio ymroddiad ac egni creadigol pobl sy’n o lawr gwlad i fyny gan ymgyrraedd at bob rhan o’u cymunedau dechrau ar eu gyrfa neu’n gweithio yn sector cymorthdaliedig y celfyddydau. a rhoi’r gallu iddynt gynorthwyo eu hunain gan godi proffil a morale y fro.

CYMRU GREADIGOL

Ond mae’r celfyddydau yn gwneud llawer o gyfraniadau pwysig eraill i fywyd Cymru, yn enwedig yn y meysydd o flaenoriaeth polisi a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y ddogfen Cymru: Gwlad Well. Tanlinellir isod gyfraniad y celfyddydau i’r blaenoriaethau hyn:

simbeiotig rhwng y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Bydd awduron a gaiff gefnogaeth o du’r Academi neu Tyˆ Newydd, neu wneuthurwyr ffilm ifanc a gefnogir gan Sgrîn, yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus a chyfrannu i economi Cymru. Mae actorion, awduron a chyfarwyddwyr sy’n dysgu’u crefft ar lwyfannau Cymru hefyd yn gwneud gyrfa iddynt eu hunain ym myd teledu a ffilm. Mae gwaith llawer o sefydliadau celfyddydol gyda phobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn meithrin sgiliau a hyder. Clywn hanesion dibendraw am bobl ifanc sydd wedi’u diarddel o fyd addysg confensiynol ond sydd wedi’u hadennill i’r gorlan drwy gyfrwng y celfyddydau. Mae Plant y Cymoedd a chynllun Acting Out Theatr y Sherman yn brosiectau cyffrous ac effeithiol sy’n brawf o bwˆer y celfyddydau i drawsnewid bywydau a dyheadau ein pobl ifanc.

Mae’r celfyddydau hefyd yn dda am hybu iechyd meddwl. Mae Artscare yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd y meddwl er mwyn codi eu hunanhyder a’u hail-gysylltu gyda’u cymunedau. Gwneir cyfraniad gan y celfyddydau yn ein hysbytai a’n cyfleusterau iechyd. Mae creu amgylchedd deniadol gyda chymorth artistiaid a chomisiynu gweithiau celf yn cynorthwyo pobl i wella, yn lleihau tyndra, iselder a phryder, yn gostwng pwysau gwaed, lleihau poen a’r angen am feddyginiaeth. Gyda chefnogaeth y Gweinidog dros Ddiwylliant ynghyd â’r Gweinidog Iechyd bydd CCC yn lansio cynllun strategol yn y maes hwn.


CELFYDDYD WELEDOL

FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER GWELEDOL

152* 603,875*

ARDDANGOSFEYDD: YMWELWYR: ARTISTIAID A GYNRYCHIOLWYD (GAN GYNNWYS CREFFTAU):

Y BORE ‘MA MAE PAWB YN TAIPEI YN SIARAD AM GAERDYDD

1,422

CYFANSWM GWARIANT (GAN GYNNWYS CREFFTAU):

Ffotogallery

£6,049,528

Buster Simpson Ymchwiliadau 2003. Llun: Kathy DeWitt

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

NID YW CCC ERIOED WEDI BOD MOR HANFODOL I LWYDDIANT CELFYDDYD WELEDOL YNG NGHYMRU. MAE EIN CEFNOGAETH YN RHOI LLWYFAN I WAITH AC YN DATBLYGU AMGYLCHEDD SY’N DENU’R ARTISTIAID GORAU AC YN MEITHRIN DONIAU NEWYDD A SEFYDLIEDIG.

TESSA JACKSON, ARTES MUNDI Bu cynnal Gwobr Artes Mundi am y tro cyntaf yn brofiad rhyfeddol a chyffrous:

(parh.)

Berni Searle, Artes Mundi

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Gweithio gyda chymaint o sefydliadau i sicrhau y byddai’n digwydd, teithio ar draws cylchfâu amser er mwyn siarad yn rheolaidd gyda’r deg artist ar y rhestr fer, rhannu mwynhad pobl o’r arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, ymhyfrydu yn y gwrthgyferbyniad rhwng gwaith Tim Davies a godai gwestiynau diwylliannol a gwaith Xu Bing Where does the Dust Collect Itself? oedd yn ysgogi’r

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Ym 2003 cafwyd presenoldeb annibynnol gan Gymru fel gwlad am y tro cyntaf erioed yn Biennale Celf enwog Fenis. Dewiswyd Simon Pope, Paul Seawright, Bethan Huws a Cerith Wyn Evans i gynrychioli gwaith ein cenedl a llwyddwyd i herio’r ddelwedd draddodiadol arferol o gelf weledol o Gymru.Yn dilyn yr arddangosfa, trefnwyd taith yn dwyn y teitl, FURTHER, er mwyn galluogi pobl yma yng Nghymru i weld ac ymgysylltu gyda’r gwaith.Tyrrodd miloedd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe ac Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Bu Biennale Fenis 2003 yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r un nesaf a gynhelir ym 2005.

Enillydd Gwobr Artes Mundi, Xu Bing

CYMRU GREADIGOL

Mewn blwyddyn lle bu cymaint o gyflawni, canran fach iawn o’r bobl a’r mannau y llwyddwyd i’w cynorthwyo eleni a gaiff sylw yma.

5


CELFYDDYD WELEDOL

Bethan Huws - Ion on

Yn ddiamheuol, llwyddodd y gystadleuaeth i ledaenu diddordeb mewn celf weledol gyfoes trwy gyfrwng rhaglen sylweddol o weithgareddau addysgiadol oedd yn cynnwys cystadleuaeth gelf i ysgolion, gweithdai i deuluoedd ac ysgolion a phecynnau addysg.Yn ystod yr un cyfnod bu i Symposiwm Cerflunwaith Rhyngwladol 2003 yn Llyn Fyrnwy ddenu rhai o gerflunwyr mwyaf blaenllaw y byd i weithio ar y cyd er mwyn codi proffil yr ardal a’r defnydd o gerfluniau a mewnosodiadau fel celf gyhoeddus.

Iwan Bala - Calon, El Corazon

(parh.) meddwl, gweld grwpiau o bobl ifanc yn trafod beth mae

‘dynoliaeth’ yn ei olygu iddyn nhw. Gobeithio bod pawb a gyfrannodd at sicrhau mai dyma oedd un o’r arddangosfeydd mwyaf llwyddiannus yn hanes yr Amgueddfa, o safbwynt beirniadol a’r nifer a fynychodd yr arddangosfa, yn ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd ar ran y Celfyddydau Gweledol. Fodd bynnag y cam cyntaf yn unig yw hwn. ‘Mae’r prosiect cyfan yn rhagorol ac yn batrwm….’ Marc Glimcher, Llywydd, Pace Wildenstein, Efrog Newydd.

“RYDYM WEDI GWELD CELF GYFOES SYDD DDIM YN SIOC NAC YN SOTHACH. DYMA GELF YSGYTWOL O’R RADD FLAENAF” Rhodri Morgan AC Fiona Tan, Artes Mundi

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

‘Y bore ‘ma mae pawb yn Taipei yn siarad am Gaerdydd’, Xu Bing y bore wedi iddo ennill y Wobr Artes Mundi cyntaf erioed.”

Profodd ein Pafiliwn o Gelf Weledol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn gefnlen trawiadol i’r wˆyl.Yn sicr fe ddenodd dyrfaoedd a’r niferoedd gorau eto o ymwelwyr i’r arddangosfa Gweld Llais a Chlywed Llun dan ofal y curadur Philip Hughes o Ganolfan Grefft Rhuthun. Arddangoswyd gwaith artistiaid megis Shani Rhys James, enillydd £30,000 Gwobr Jerwood am Baentio y flwyddyn honno, mewnosodiad rhagorol David Hastie,Y Casgliad, a gwaith Cywaith Cymru . Artworks Wales, cleient i CCC a gyllidir gydag arian refeniw.

7

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Cafwyd y nifer fwyaf eto o ymwelwyr i Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd ac roedd y diolch am hyn yn rhannol oherwydd Gwobr Artes Mundi a gefnogwyd gan CCC.Yn £40,000 dyma un o’r gwobrau celf mwyaf yn y byd a’r cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig (DU). Cyflwynwyd y wobr gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru i Xu Bing, gwneuthurwr printiau ac artist mewnosodiadau o Tsieina sy’n ymddiddori yn y modd y gall

arlliwiau ieithyddol effeithio ar wahaniaethau diwylliannol.Wrth annerch yn y seremoni, dywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan: “Rydym wedi gweld celf gyfoes nad yw yn sioc nac yn sothach. Dyma gelf ysgytwol o’r radd flaenaf.”

CYMRU GREADIGOL

Bu i enw Cymru fel gwlad sy’n llwyddo i ddenu gwaith o bwysigrwydd byd-eang dyfu’n gryfach fyth yn ystod 2003 yn sgîl arddangosfeydd gan artistiaid byd enwog fel y ffotograffydd o’r Almaen Rut Blees Luxembourg. Gyda chymorth CCC, Oriel Glynn Vivian a Ffotogallery, yr Asiantaeth Ddatblygu Cenedlaethol ar gyfer Ffotograffiaeth yng Nghymru, comisiynwyd y ffotograffydd hwn i greu cyfres newydd o saith darn o waith ar raddfa fawr yn Abertawe. Mae meithrin doniau gynhenid Gymreig yma yng Nghymru yn un o gryfderau eraill Ffotogallery. Gyda’n cefnogaeth ni aeth gwaith addysg allanol Ffotogallery yn ei flaen gyda chyfres hynod boblogaidd o weithdai digidol a ffotograffig ynghyd â rhaglen gyhoeddi sylweddol ac arddangosfeydd o waith rhai o ffotograffwyr mwyaf blaenllaw y byd.


9

Bu’r celfyddydau gweledol o fewn cyrraedd cynulleidfaoedd eang mewn amrywiaeth o leoliadau yn ogystal ag yn yr orielau pwrpasol. Sefydlwyd oriel newydd yn Theatr Mwldan, er enghraifft, a chynhaliwyd yr arddangosfa Archwiliadau 2003 yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru. Bu i’r digwyddiad hynod hwn arddangos gwaith un ar ddeg o artistiaid a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a ysbrydolwyd gan dirwedd nodedig a phensaernïaeth arbennig Middleton. Hwyrach mai’r mwyaf anghonfensiynol fu The House Project gan Marc Rees, a ddisgrifiwyd fel “Nofel labyrinthol y gallwch gerdded i mewn iddi lle mae’r testun wedi’i ysgrifennu ar waliau, nenfwd a lloriau tyˆ cyffredin ac a ddaw yn fyw trwy gyfrwng cast eclectig o rai o berfformwyr mwyaf carismatig, blaengar ac amrywiol Cymru...”, ac a lwyfanwyd mewn tyˆ yng Nghaerdydd.

Gyda’n Pafiliwn yn yr Eisteddfod yn cynnig ffenest siop dros dro, rydym hefyd wedi gallu cynorthwyo nifer o leoliadau parhaol ledled y wlad. Eleni edrychwyd o’r newydd ar y mannau lle arddangosir celf a phenderfynwyd cyllido orielau sydd wedi hen sefydlu yn ogystal â lleoliadau llai confensiynol. Bu i arddangosfeydd mewn orielau ac amgueddfeydd sefydledig fel Oriel Gelf ac Amgueddfa Casnewydd arddangos gwaith ystod eang o artistiaid gan gynnwys David Tress. Denwyd talent newydd yn ogystal ag artistiaid o broffil uchel fel Iwan Bala i Oriel y Queens Hall yn Arberth, sy’n derbyn nawdd am y tro cyntaf. Eleni gorffennwyd cam cyntaf rhaglen adnewyddu sylweddol Oriel Davies yn y Drenewydd, Powys. Gyda chyfleusterau llawer gwell gall yr oriel ddenu arddangosfeydd pwysig o waith gan artistiaid cyfoes o Gymru, Prydain a thramor ynghyd â chynnig cyflwyniadau, gweithdai a gweithgareddau i blant. Marc Rees - The House Project. Llun: Nick Otley

Mae i Gymru etifeddiaeth gyfoethog o gelf weledol ac wrth ennill gwobrau, mae ein hartistiaid hynod wreiddiol a llwyddiannus yn parhau i ddenu sylw trwy gyfrwng eu gwaith blaengar ac arloesol.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Mae’r Eisteddfod yn parhau’n un o wyliau cystadlu diwylliannol mwyaf Ewrop a denodd dros 160,000 o ymwelwyr ym 2003.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Oriel Davies

CYMRU GREADIGOL

Siani Rhys James - Gweld Llais a Chlywed Llun


FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER CREFFT

CREFFT A CHELFYDDYDAU CYMHWYSOL

ARDDANGOSFEYDD: YMWELWYR:

45* 410,197*

CYFLOGEION (GAN GYNNWYS CELF WELEDOL): 426* CYFANSWM GWARIANT †

(GAN GYNNWYS CELF WELEDOL): £6,049,528

YN LLAWN O DDONIAU CYNHENID Eleri Mills

Laura Thomas

Mae penderfynu gwireddu eich breuddwyd o fod yn ddylunydd/artist tecstiliau hunan-gyflogedig yn benderfyniad hynod gyffrous ac eto’n hynod frawychus.

(parh.)

Canolfan Grefft Rhuthun: Clare Curneen - Lucretia

Un enghraifft o’r fath ydy’r dylunydd tecstiliau Laura Thomas. Daw ysbrydoliaeth Laura, sydd wedi’i lleoli yn Sir Benfro, o arfordir dramatig y sir. Mae’n creu deunyddiau hyfryd o soffistigedig o wead a phatrymau annarferol. Rhoddwyd `Grant Sefydlu Busnes’ iddi oherwydd cymaint oedd ein parch i’w gwaith. Rydym yn sylweddoli bod hyd yn oed artistiaid sydd wedi hen ennill eu plwy angen cymorth ariannol er

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Rwy wedi bod yn anhygoel o brysur ers lansio fy musnes gan weithio ar amrywiaeth eang

Mae cynllun “artistiaid yn y gwaith” Cywaith Cymru yn cynnig grantiau i artistiaid sy’n dangos cryn botensial yn eu maes arbennig, p’un ai ym maes celf weledol, cerameg, cerflunwaith, gemwaith neu ddylunio tecstiliau.Yn ogystal â dyrannu llawer o grantiau yn ystod 2003/4, rhoddwyd cyngor ymarferol ynglyˆn â sut i feithrin perthynas waith dda gyda busnesau yn y diwydiant crefft, ynghyd ag annog mwy o fusnesau i weithio gydag artistiaid.

11

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Rhoddodd y grant ‘Sefydlu Busnes’ a ges i gan Gyngor Celfyddydau Cymru yr hyder a’r sicrwydd ariannol i mi droi fy mreuddwyd yn realiti. Fe’m galluogodd i fynd yn hunangyflogedig a hynny’n ddidrafferth, casglu offer, cael stiwdio a datblygu fy mhroffil.

YM 2003/4, BU I CCC HELPU NIFER O ARTISTIAID I DDATBLYGU EU SGILIAU A’U BUSNESAU; GAN SICRHAU LLWYDDIANT GYRFAOL A THROI BREUDDWYDION YN REALITI. RYDYM WEDI CYNYDDU’R CYLLID AR GYFER CANOLFANNAU CREFFT, ORIELAU A MANNAU ARDDANGOS LEDLED CYMRU, SY’N FANTEISIOL I’R GYMUNED GYFAN AC YN RHOI HWB I’R ECONOMI LEOL.

CYMRU GREADIGOL

LAURA THOMAS

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC


CREFFT A CHELFYDDYDAU CYMHWYSOL

Pamela Rawnsley

(parh.) o brosiectau, o ymchwil a dylunio ar gyfer Melin Tregwynt, i arddangos gweithiau celf gweuedig unigryw yn COLLECT. Rwy wedi gweithio ar y cyd ar brosiect celf gyda’r bardd Andrew Dilger, a chael comisiwn i wneud croglun i’r Ganolfan Astudiaethau Crefft yn Farnham.

rhyngwladol, gan gynnwys Canolfan Grefft Rhuthun, y goreuon o blith y celfyddydau cymhwysol cyfoes. Bu’n gyfle i ymwelwyr gyfarfod â llawer o artistiaid blaenllaw a chynhaliwyd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gydfynd â’r arddangosfa.

Ym mis Chwefror 2004, lansiodd y Cyngor Crefft ddigwyddiad blynyddol newydd, COLLECT, yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. COLLECT ydy ffair grefftau gyntaf y DU ar gyfer crefft casgladwy: darnau unigryw neu o nifer cyfyngedig sy’n ddeniadol i gasglwyr a phobl sy’n ymddiddori yn y maes ar draws y byd. Cynrychiolai’r detholiad pwysig hwn o waith orielau ac artistiaid

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Laura Thomas

Dylunydd blaengar arall yng Nghymru yw Pamela Rawnsley, sy’n gweithio trwy gyfrwng arian yn bennaf ac y mae ei dysglau, llestri a llwyau cain yn cael eu harddangos ledled y byd. Mae Pamela yn un o’r niferoedd o artistiaid dawnus o Gymru a fu’n arddangos eu gwaith yn Ffair Grefftau Chelsea ym 2003, un o’r llwyfannau gorau yn Ewrop i’r celfyddydau cymhwysol, a ddenodd ymhell dros 20,000 o ymwelwyr.

Bu gwaith Walter Keeler yn un o uchafbwyntiau 2003 yng Bu i’r sylw a gawn dramor barhau i Ngwˆyl Cerameg Ryngwladol Aberystwyth.Yn ei bedwaredd ddatblygu o nerth i nerth. Draw yn mlynedd ar ddeg erbyn hyn, trefnir yr wˆyl ar y cyd gan yr Unol Daleithau, dathlwyd 10fed Grochenwyr Gogledd Cymru, Crochenwyr De Cymru a Penblwydd SOFA CHICAGO 2003 Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a chaiff ei gydnabod fel (Arddangosfa Ryngwladol Flynyddol digwyddiad cerameg mwyaf blaenllaw y wlad. Cynigwyd cyfle o Gerflunwaith a Chelf Swyddogaethol). gan dros 800 o grefftwyr i athrawon, myfyrwyr, artistiaid cerameg, casglwyr, crochenwyr proffesiynol ac amaturiaid fel ei Cymerwyd rhan gan fwy nag 85 oriel gilydd i gyfarfod ac astudio gwaith y crefftwyr blaenllaw hyn y o ddeuddeg gwlad gan gannwys mae eu gwaith yn ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol.Yn ystod Awstralia, Canada, y Weriniaeth yr wˆyl cynhelir llawer o ddigwyddiadau ar yr un pryd:Artistiaid Czech, Denmarc, Lloegr, Ffrainc, yr yn eu gweithle, arddangosfeydd yn y brif neuadd a man i roi Eidal, yr Alban, De Corea, Sweden a cynnig ymarferol arni ar Faes yr wˆyl. Mae’n enghraifft wych o Chymru. Roedd Canolfan Grefft ba mor llwyddiannus y gall digwyddiad fod a chan ei fod wedi Rhuthun yno yn arddangos gwaith hen sefydlu ei hun erbyn hyn, mae’r digwyddiadau yn ymestyn i gan Daniel Allen, Julia Griffithsddigwyddiadau cymdeithasol gyda cherddoriaeth fyw ar nos Jones, Catrin Howell, Christine Sadwrn yn ogystal ag adloniant a gweithdai wedi’u trefnu ar Jones, Eleri Mills ac Audrey Walker. gyfer plant. Roedd yn benwythnos gwych a roddodd gryn Uchafbwynt arall eleni i Ganolfan fwynhad i ymwelwyr a gwesteion fel ei gilydd. Grefft Rhuthun fu arddangosfa unigol o waith cerameg Claire Curneen. Yn Photostore arddangosir gwaith gan lawer o’r artistiaid yr Mae Claire yn un o’r artistiaid ydym ni wedi eu cyllido. System cyfrifiadurol rhyngweithiol cerameg sy’n brigo i’r amlwg yn y hawdd ei ddefnyddio yw Photostore, sy’n galluogi ymwelwyr DU, a bu’n arddangos ei gwaith yn i chwilio am ddelweddau a gwybodaeth yn ôl y gwneuthurwr, Sao Paulo a Philadelphia yn darn o waith, deunydd neu dechneg. Mae’n cynnwys dros ddiweddar, gan ledaenu’r 40,000 o ddelweddau o wahanol fathau o grefftau, o wydr ymwybyddiaeth o safon yr artistiaid pensaernïol i degannau, o cerameg i bren, gan gwmpasu’r 30 sy’n gweithio yng Nghymru. mlynedd ddiwethaf. Mae’r casgliad hwn yn tyfu o hyd wrth i ddelweddau newydd gael eu hychwanegu. Mae Photostore yn Rydym hefyd yn darparu cyllid er cynnwys delweddau o waith gan Wneuthurwyr a Ddetholir mwyn i bobl allu mwynhau gweld gan Photostore, y rheini a gafodd Grant Datblygu gan y crefftau o’r safon uchaf yn agosach at Cyngor Crefftau yn ddiweddar, Cyfranogwyr Next Move yn adref. Mae’r Mission Gallery yn ogystal â darnau a brynir ar gyfer Casgliad y Cyngor Crefftau.

13

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

LANSIO FY MUSNES GAN WEITHIO AR AMRYWIAETH EANG O BROSIECTAU”

Abertawe yn un enghraifft o hyn.Agorwyd yr Oriel, a arferai gael ei galw’n Oriel Weithdy Abertawe, ym 1977 fel man dan ofal artistiaid ac mae iddi 120 o aelodau a thua 15 staff o wirfoddolwyr. Ceir rhaglen flynyddol o gelf a chrefft cyfoes yno a dau aelod o staff amser llawn, y Cyfarwyddwr a Swyddog Datblygu’r Oriel, a chefnogir y swyddi hyn gan gyllid CCC.

CYMRU GREADIGOL

Wrth i mi gyrraedd at ddiwedd Walter keeler y flwyddyn gyntaf ers i mi sefydlu Gwˆyl Cerameg Ryngwladol Aberystwyth fy musnes yng Nghymru, rwy’n edrych ymlaen yn optimistig at mwyn cwblhau prosiectau penodol - ac mae ein cynllun yrfa gyfoethog a boddhaus ym Gwobr Cymru Greadigol yn gwneud yr union beth hynny. maes tecstiliau gweuedig. Fe’i hanelir at artistiaid proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru y mae gwreiddioldeb a dyfeisgarwch yn nodwedd o’u gwaith.Ym 2003, dyfarnwyd £10,000 i Paul i greu tri darn amser cerfluniadol wedi’u seilio ar RWY WEDI BOD Beckett fodeli parametrig anfecanyddol 3D. Mae Paul wrthi’n i arddangos mewn sawl Ffair Fasnach Rhyngwladol YN ANHYGOEL cynllunio gan gynnwys 100% Design yn Llundain, Ffair Glociau ac Oriawr Basel yn y Swisdir a digwyddiadau eraill sy’n uchel O BRYSUR ERS eu proffil yn Tokyo, Madrid ac Efrog Newydd.

Christine Jones


FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER DAWNS

D AW N S ANHYGOEL, DYDW I ERIOED WEDI GWELD UNRHYW BETH TEBYG I HYN O’R BLAEN – DYLAI FOD MWY O’R MATH HWN O BETH YMA!

CYFRANOGWYR:

15,536* 272,078*

CYFLOGEDIGION:

171*

SESIYNAU:

CYFANSWM GWARIANT:

Eddie Ladd - Bonnie and Clyde

£1,608,339

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

BU CCC YN HYNOD O WEITHGAR YM MAES DAWNS ELENI. YN OGYSTAL Â PHARHAU I DDARPARU BUDDSODDIAD HIRDYMOR I GWMNÏAU PROFIADOL FEL CWMNI BALLET GWENT (CWMNI BALLET ANNIBYNNOL CYMRU), MAE NIFER O BROSIECTAU UNIGOL AR RADDFA LAI, SY’N AML YN BROSIECTAU ARBROFOL AC ANGHONFENSIYNOL, WEDI ELWA O GAEL EU CYLLIDO.

SEAN TUAN JOHN “Yn ystod 2003/04 daeth llawer o ddatblygiadau cyffrous i’m rhan fel cyfarwyddwr a choreograffydd yng Nghymru. Bu’r flwyddyn yn orlawn o gomisiynau, teithiau ac ymarferion helaeth y mae amrediad amrywiol o berfformiadau dawns wedi deillio ohono, gan gynnwys: • Comisiwn newydd i gwmni Diversions • Taith genedlaethol fach o The Deadhead Show • Digwyddiad tra phleserus ar raddfa fawr yn yr awyr agored mewn cysylltiad â The Deadhead Show ym Mae Caerdydd • Comisiwn oddi wrth Theatr The Place, Llundain (parh.)

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Diversions

Sean Tuan John - The Deadhead Show

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Roedd Marc Rees yn un arall a dderbyniodd Wobr Cymru Greadigol o £20,000 i’w alluogi i gydweithio gyda’r pensaer o Ferlin, Benedict Anderson, ar fewnosodiad rhyngddisgyblaethol a phensaernïol o’r enw Shed*Light.

15

CYMRU GREADIGOL

Ceir enghraifft o waith avant-garde o’r fath gan y coreograffydd Sean Tuan John, a enwyd yn ‘Fachgen Drwg y Byd Dawns ym Mhrydain’ gan gylchgrawn Vogue, yr Eidal. Dyfarnwyd £20,000 iddo o’r cynllun Gwobr Cymru Greadigol i ddatblygu ei gwmni cynhyrchu dawns. Galluogodd hyn iddo lwyfannu dwy sioe lwyddiannus ym 2003/04 a ganmolwyd gan y beirniaid; Psycho-delia a The Deadhead Show. Nid y dawnswyr proffesiynol yn unig a dderbyniodd glod oherwydd gwahoddwyd trigolion Caerdydd i gymryd rhan mewn perfformiad awyr agored o The Deadhead Show, gwahoddiad a dderbyniwyd yn eiddgar.

Danzabierta


D AW N S

Migrations - The Moebius Strip

“YN SGÎL Y GRANT, CEFAIS GYFLE I YMCHWILIO A RHWYDWEITHIO...” Sean Tuan John (parh.)

• Comisiwn ymchwil i Hyrwyddwyr Dawns Cenedlaethol Lloegr,The Guardians of Doubt. • Cynhyrchiad dawns teithiol newydd: The Brothers Very Grimm - a dderbyniodd ymateb cadarnhaol iawn gan y beirniaid, ac a ysbrydolodd gynhyrchiad newydd i blant, Wonderfully Grimm, a anelwyd at blant 7-10 mlwydd oed. Diolch i’r grant a ddyfarnwyd i mi o’r cynllun Gwobr Cymru Greadigol, cefais gyfle yn ystod y flwyddyn i ymchwilio a rhwydweithio er mwyn dod o hyd i ffurfiau newydd o ddenu cynulleidfaoedd gwahanol at ddawns a hynny mewn cyd-destunau gwahanol.”

Cyllidwyd cwmni dawns Earthfall, enillwyr Gwobr Theatr yng Nghymru am y perfformiad theatr gorfforol a dawns gorau yng Nghymru 03, am ei brosiect peilot arbennig o uchelgeisiol i greu a chyflwyno sgript trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i alluogi

Dyma’r tro cyntaf erioed i waith amlddisgyblaethol/seiliedig ar symud gael ei ddisgrifio, a’r tro cyntaf erioed i Ddisgrifio Clywedol yn y Gymraeg gael ei ddefnyddio. Gwahoddwyd aelodau o’r gynulleidfa â nam ar eu golwg i fynychu sesiynau ‘cyffwrdd a siarad’ cyn y perfformiad lle’r oedd croeso iddynt gyffwrdd â chyrff y perfformwyr a theimlo’r gwrthrychau a ddefnyddid ganddynt a maint y man perfformio. Gweithiodd Earthfall gyda Vision Foundation, Sefydliad y Deillion Caerdydd, Celfyddydau Anabledd Cymru sy’n gleientiaid refeniw i CCC a’r Ganolfan Adnoddau Golwg yn Felinfach er mwyn rhwydweithio gyda grwpiau a chlybiau cymdeithasol lleol i godi ymwybyddiaeth am y prosiect a’r cynhyrchiad. Rydym yn parhau gyda’r gwaith o ddod â dawns ysgogol o safon uchel a fydd yn rhoi mwynhad i gynulleidfaoedd ehangach ac a fydd o fewn cyrraedd iddynt trwy gyfrwng llawer o gynlluniau a phrosiectau newydd sydd gennym ar y gweill.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Goresgynnwyd ffiniau diwylliannol ym mis Gorffennaf 2003 pan aeth cwmni dawns byd enwog

Earthfall - Running Away With The Hairdresser

Migrations 2004 oedd y cyntaf mewn cyfres flynyddol o ddigwyddiadau dawns cymunedol cyfoes, a oedd yn cynnwys artistiaid rhyngwladol adnabyddus ac a fu’n ffenest gyffrous i’r hyn sy’n digwydd heddiw ym myd dawns gyfoes. Gwasanaeth Celfyddydau Conwy oedd wrth wraidd Migrations dan ofal Karine Decorne ac mewn partneriaeth ag Oriel Mostyn,Theatr Gogledd Cymru a’r Real Institute. Dim ond trwy weithio’n helaeth fel partneriaethau y llwyddwyd i wireddu’r rhaglen a hynny mewn sir lle nad oes unrhyw ganolfan ar gyfer dawns gymunedol! Bu’r tymor cyntaf yn llwyddiant ysgubol ar raddfa ymhell y tu hwnt i bob disgwyl - gwerthwyd pob tocyn ar gyfer pob digwyddiad a chafwyd cynulleidfaoedd hynod werthfawrogol gan gynnwys cyfran uchel nad oedd erioed wedi gweld dawns gyfoes o’r blaen . . . “Anhygoel, dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i hyn o’r blaen - dylai fod mwy o’r math hwn o beth yma!” oedd ymateb cyffredinol y cynulleidfaoedd ar ôl y sioe.

aelodau’r gynulleidfa â nam ar eu golwg i ddod â phrofi gwaith y cwmni, Running Away With The Hairdresser.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Dyfarnwyd £8,600 i Cai Thomas o’r cynllun Gwobr Cymru Greadigol, er mwyn iddo sefydlu cwmni dawns mwyaf newydd Cymru - Cwmni Theatr Dawns Dorothy’s Friends. Llwyfannwyd y cynhyrchiad cyntaf, All Nighter, ym mis Tachwedd 2004 ac mae’n olwg gignoeth a doniol ar brydiau ar hynt a helynt grwˆp o ffrindiau sy’n mynd ar drywydd clybiau hoyw Abertawe.

17

Danzabierta, o Ciwba, ar daith a gweithio gyda dawnswyr Diversions - Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Roedd y canlyniadau mor llwyddiannus fel bu i’r ddau gwmni ymuno unwaith yn rhagor i berfformio mewn cynhyrchiad uchel ei broffil yn Havana, gyda’r gynulleidfa yn codi ar eu traed bob nos i ddangos eu cymeradwyaeth.

CYMRU GREADIGOL

Roeddem yn falch dros ben i allu cynorthwyo Eddie Ladd, sy’n anelu at ‘ddod â dawns i strydoedd, ffermydd a chaeau Cymru,’ wrth iddi gymryd y cam anarferol o fynd â’i chynhyrchiad, Bonnie and Clyde, i warws ddiwydiannol a adnewyddwyd gan berfformio dros bedair noson ym mis Rhagfyr i gynulleidfaoedd llawn. Ailgread, ar y cyd â Chapter, o ffilm enwog Arthur Penn oedd Bonnie and Clyde ar ffurf theatr “drive-in” gan ddefnyddio radio, golau, theatr gorfforol a dilyniant o olygfeydd byw o geir yn symud. Cyflwynwyd y sioe yn Lille, Prifddinas Diwylliant Ewrop 2004 ac fe’i gwahoddwyd i Madrid ym 2005. Disgrifiwyd y cynhyrchiad gan y Western Mail fel: “Gogwydd Cymreig difyr ym 2004 ar ddiwylliant Americanaidd poblogaidd.”


LLEOLIADAU

FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER LLEOLIADAU

CYNULLEIDFA:

3,533* 1,044,847*

CYFLOGEION:

1,326*

PERFFORMIADAU:

CYFANSWM GWARIANT:

MAE’R CYNLLUN YN HOLLOL SYFRDANOL Canolfan Mileniwm Cymru

£2,109,636

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

MAE’R LEFEL O GYLLID YR YDYM WEDI GALLU EI ROI I LEOLIADAU ELENI WEDI BOD YN ANHYGOEL. RYDYM YN FALCH O’R FFAITH EIN BOD WEDI GWNEUD EIN DAU DDYFARNIAD MWYAF ERIOED ELENI, OND YR YDYM YR UN MOR FALCH O’R NIFER A’R AMRYWIAETH O BROSIECTAU BACH YR YDYM WEDI GALLU EU HELPU.

Agor eu drysau . . .

PROSIECT DATBLYGU THEATR MWLDAN Mae Prosiect Datblygu Theatr Mwldan a gwblhawyd yn ddiweddar yn gynllun blaengar gwerth £6.9 miliwn a gefnogwyd gan £2.3 miliwn o gyllid Loteri CCC.

(parh.)

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Mae’r prosiect yn cynnwys: • theatr 250 sedd sy’n addas ar gyfer teithio ar raddfa ganolig; • ailwampio’r awditoriwm blaenorol i gael lle i eistedd 146 o bobl; • estyn ac adnewyddu’r cyntedd yn llwyr gan gynnwys oriel newydd ar gyfer y celfyddydau gweledol; • man stiwdio newydd ar gyfer ymarferion, perfformiadau,

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Theatr a Chanolfan Gelf Glan yr Afon, Casnewydd

Fforma yn Theatr Mwldan

CYMRU GREADIGOL

Roedd ein Strategaeth Cyfalaf ar gyfer 2003-2006 yn blaenoriaethu prosiectau a oedd yn mynd i’r afael â chydymffurfio gyda Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, felly cafodd nifer o sefydliadau gyllid i’w helpu i baratoi ar gyfer sicrhau bod eu lleoliadau a’u cymwysterau yn hygyrch i bawb o fis Hydref 2004. Un enghraifft oedd dyfarnu £66,735 i’r Academi Frenhinol Gymreig i’w helpu i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth. Dyfarnwyd y grant ar gyfer gwaith adnewyddu a phrynu offer er mwyn gwella hygyrchedd i’r oriel ar gyfer pobl anabl. Mae’r oriel, hen gapel gynt a newidiwyd yn fan arddangos yn 1992, yn cynnig rhaglen flynyddol o arddangosfeydd, dosbarthiadau celf, arddangosiadau a gweithdai. Roedd y prosiect yn cynnwys gosod lifft blatfform er mwyn gwneud yr oriel, sydd ar lawr cyntaf yr adeilad, am y tro cyntaf yn hygyrch i’r sawl sy’n defnyddio cadair olwyn.

19


LLEOLIADAU

Wrth reswm, bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu cynnwys yng nghynllun lleoliadau newydd ac nid yw Mwldan Creadigol, y Ganolfan Gyfryngau newydd a chyffrous sy’n adfywio’r celfyddydau creadigol yn Aberteifi, yn eithriad. Lleolir y datblygiad newydd, trawiadol hwn mewn adeiladau allanol a adnewyddwyd ger y theatr fel rhan o’r prosiect £6.3m i adnewyddu Theatr Mwldan yn Aberteifi.

“GALLUOGODD CYLLID CCC INNI SEFYDLU PARTNERIAETH GYLLIDO GYMHLETH OEDD YN CYNNWYS GRANTIAU YCHWANEGOL O NIFER O FFYNONELLAU...” (parh.) cyfarfodydd, cynadleddau a gweithgareddau cymunedol;

• adnewyddu ac estyn adeiladau allanol rhestredig Graddfa II y Bath House gerllaw’r theatr er mwyn creu canolfan amlgyfrwng newydd; • gwelliannau i’r ffordd, maes parcio a’r isadeiledd gerllaw’r theatr.

Ar y safle adeiladu. . . Aeth y gwaith o adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru [CMC] yn ei flaen. Dyfarnwyd £9.8 miliwn o gyllid CCC i’r prosiect deinamig hwn, y grant cyfalaf mwyaf erioed a ddyfarnwyd gennym. Mae hon yn ganolfan amlbwrpas o safon byd-eang ar gyfer y celfyddydau perfformio. Gyda Bae Caerdydd yn gefnlen ddramatig, dyma fydd cartref sefydliadau diwylliannol pwysig fel Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Theatr Hijinx, yr Academi,Tyˆ Cerdd a’r Touch Trust yn ogystal â bod yn ganolfan genedlaethol i Urdd Gobaith

Cymru. Cynlluniwyd yr adeilad i ddenu cynulleidfaoedd o bob sector o’r celfyddydau gan ei fod yn cynnwys theatr ar gyfer 1900 o bobl,Theatr Stiwdio, Stiwdio Ddawns, Stiwdio Recordio a neuadd ymarfer Gerddorfaol. Gyda’i siopau, caffis a thai bwyta ac ystafelloedd digwyddiadau, bydd adeilad CMC yn atyniad ynddo’i hun. Mae Theatr a Chanolfan y Celfyddydau Casnewydd, Glan yr Afon, eisoes yn gweddnewid yr ardal. Mae’r cynllun trawiadol eisoes yn arwyddnod gan ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd, artistiaid a pherfformwyr.Yn costio £8.4miliwn, dyma’r ail grant fwyaf erioed a ddyfarnwyd gan CCC gan alluogi’r ganolfan i chwarae rhan allweddol wrth lwyfannu’r celfyddydau perfformio yn Ne Ddwyrain Cymru. Pan fydd wedi’i gwblhau bydd yno awditoriwm 493 sedd, theatr stiwdio 150 o seddau, stiwdio ddawns, oriel a stiwdio recordio. Canolfan arall a dderbyniodd gyllid sylweddol oedd Galeri, canolfan newydd ar gyfer y celfyddydau creadigol a adeiladwyd yn Noc Fictoria, Caernarfon. Bydd y grant £2.9miliwn yn help tuag at ddarparu theatr 400 sedd, dwy stiwdio ymarfer fawr, man i arddangos y celfyddydau gweledol, bar, caffi a swyddfa. Bydd mannau gweithdy ac ystafelloedd i’w llogi, yn ogystal â mannau gwaith i unigolion neu fentrau sy’n gweithio o fewn neu’n cefnogi’r diwydiant creadigol neu artistig. Bydd y Ganolfan yn gartref i nifer o sefydliadau celfyddydol rhanbarthol. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Medi 2003 a disgwylir y caiff ei orffen ym mis Mawrth 2005.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Dywedodd Dilwyn Davies, Cyfarwyddwr Theatr Mwldan: “Galluogodd cyllid CCC inni sefydlu partneriaeth gyllido gymhleth oedd yn cynnwys grantiau ychwanegol o nifer o ffynonellau, gan gynnwys arian Amcan 1 o’r Undeb Ewropeaidd. Heb gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru ni fyddem erioed wedi gallu cyflawni’r datblygiad cymhleth hwn.”

perfformiadau gan Theatr Ieuenctid Merlin, Côr Meibion Llanelli a Ballet Russe ynghyd â chyfres o arddangosfeydd gan artistiaid lleol. Defnyddiwyd y Neuadd yn helaeth yn ystod GwˆylTalacharn a gynhaliwyd ym mis Mai hyd fis Tachwedd 2003 i ddynodi 50 mlynedd ers marwolaeth Dylan Thomas.

Galeri, Caernarfon

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Dilwyn Davies, Cyfarwyddwr Theatr Mwldan

Galeri, Caernarfon

CYMRU GREADIGOL

Rhan o’r cynllun i adnewyddu a gwella Theatr Mwldan yw’r Ganolfan Gyfryngau a gafodd £2.2 miliwn o gyllid. Mae’r prosiect yn cynnwys stiwdio sain, pum lle o amrywiol faint i gynnal gweithdai yn ogystal â swyddfeydd gweinyddol ac ystafell gyfarfod. Ceir cyfuniad o fannau at ddibenion gweithgarwch masnachol, cymunedol, hyfforddi ac addysgiadol ac mae sawl menter eisoes ar waith yn llwyddiannus yno. Ysgogwyd diddordeb o’r newydd yng ngwaith Dylan Thomas yn sgîl adnewyddu Neuadd Goffa Talacharn. Tynnwyd y neuadd wreiddiol i lawr ac agorwyd neuadd newydd ym mis Ebrill 2002. Galluogodd y £44,408 o gyllid yn ystod 2003 i’r Neuadd brynu offer sain, goleuo a llwyfannu i ddarparu’r gymuned gyda gwell cyfleusterau er mwyn bodloni gofynion gweithgareddau celfyddydol yn yr ardal, ac i annog defnydd pellach o’r neuadd gan grwpiau eraill. Defnyddir y Neuadd gan amrywiaeth o grwpiau celfyddydol lleol ac mae’r rhaglen ar gyfer 2003 yn cynnwys

Theatr y Torch


FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER DRAMA

DRAMA

PERFFORMIADAU: CYNULLEIDFA: CYFLOGEDIGION: CYFANSWM GWARIANT:

CCC YN TYNNU’R CRISIS ALLAN O’R DDRAMA Theatr Genedlaethol Cymru - Yn Debyg Iawn i Ti a Fi

280* 41,282* 61* †

£6,392,539

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

Theatr na n'Óg - Love Hearts

YN YSTOD Y FLWYDDYN CYMERODD GYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU GAMAU I SICRHAU BOD SAIL GADARN UNWAITH YN RHAGOR I DDRAMA A THEATR. BU HYN OND YN BOSIBL DRWY WYNEBU A MYND I’R AFAEL Â CHYFRES O FATERION CRAIDD.

Yng Ngwanwyn a Haf 2003, aeth Hijinx â drama arbennig iawn ar daith ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu. Ysbrydolwyd drama Glenys Evans, Full Circle, gan hanes go iawn dyn ifanc gydag anableddau dysgu a freuddwydiai am ddringo Everest, a chyda cymorth criw agos o deulu a ffrindiau fe lwyddodd i wireddu ei freuddwyd. Ym 1996, wedi misoedd lawer o hyfforddi, ymunodd â chriw a llwyddodd i gyrraedd Gwersyll Cyntaf Everest sydd 15,000 o droedfeddi i fyny. Roedd y ddrama’n dathlu’r gallu i gyflawni ac yn dangos sut gellir gwireddu breuddwydion uchelgeisiol gyda chymorth, penderfyniad a chefnogaeth. (parh.)

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Clwyd Theatr Cymru - One Flew Over The Cuckoo's Nest

HIJINX THEATRE: FULL CIRCLE

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Ym 2003-04, er mwyn braeni’r tir ar gyfer sefydlu cwmni theatr genedlaethol Gymraeg, cafwyd cynnydd sylweddol o ran cynyrchiadau theatr yn yr iaith Gymraeg a gefnogwyd gan CCC.Teithiodd Sgript Cymru gyda’r ddrama Amdani, Llwyfan Gogledd Cymru gyda Ta Ra Teresa, Theatr Na n’Óg gyda Nia Ben Aur a Chwmni’r Frân Wen gyda Stags a Hens. O ran theatrau cymunedol, bydd llawer yn cofio Dulce Domum, cynhyrchiad doniol tu hwnt gan Gwmni Bara Caws.

Hijinx - Full Circle

CYMRU GREADIGOL

Ymhlith ei lu o uchafbwyntiau, fe gofir eleni yn bennaf fel y flwyddyn y sefydlwyd Theatr Genedlaethol Cymru - cwmni theatr teithiol, newydd i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymgartrefodd y cwmni unigryw hwn yn Llanelli ym mis Ionawr 2004. Teithiodd y cynhyrchiad cyntaf, drama Meic Povey Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, ym mis Ebrill/Mai 2004 i ganolfannau yn yr Wyddgrug,Aberdaugleddau, Aberystwyth,Abertawe, Bangor a Chaerdydd gyda’r actorion yn darparu sesiynau allanol er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn ysgolion a chymunedau lleol ar hyd y daith.

23


DRAMA

Theatr Genedlaethol Cymru - Yn Debyg Iawn i Ti a Fi

Cwmni'r Fran Wen - Stags a Hens

(parh.) Gaynor Lougher a gyfarwyddodd y cynhyrchiad hwn gyda cherddoriaeth gan Paula Gardiner, y cynllunio gan Georgina Miles a’r cynllun goleuo gan Jane Lalljee. Bu’r sioe ar daith am ddeg wythnos gyda 50 o berfformiadau ledled Cymru a Lloegr gan ennyn ymateb cadarnhaol iawn oddi wrth gynulleidfaoedd.

Theatr Bara Caws - Dulce Domum

Theatr Na n'Óg - Painting with Light

Mae Theatr Na n’Óg yn un enghraifft o gwmni sydd wedi bod yn cynhyrchu theatr o safon uchel i bobl ifanc ers dros ugain mlynedd. Mae eu cynyrchiadau diweddar wedi cynnwys: Big BadWolf (a anelwyd at flynyddoedd 1 a 2); BeyondWords (ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11); a PaintingWith Light (ar gyfer plant 9-11 mlwydd oed).

Sgript Cymru - Amdani

Ar ôl llwyddo i gynyddu’r gefnogaeth a’r gweithgarwch ym maes Theatr Iaith Gymraeg a Theatr Mewn Addysg, mae’r gwaith eisoes ar y gweill i fynd i’r afael â Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru. Penodwyd Peter Boyden, yr ymgynghorydd uchel ei barch, i adolygu’r sefyllfa bresennol a llunio gweledigaeth ar gyfer Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru.

Rodd y ddrama’n dathlu camp aruthrol - faint ohonom sydd wedi llwyddo cyrraedd at droed yr Himalayas hyd yn oed? Roedd yr arddangosfa yn fodd i alluogi aelodau’r gynulleidfa i ymwneud mwy â’r digwyddiad yn hytrach na’i fynychu’n unig. Dyma enghraifft wych o sut y gall ychydig bach rhagor o fuddsoddi ychwanegu cymaint mwy at gynhyrchiad.

ROEDD Y DDRAMA’N DATHLU CAMP ARUTHROL

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Yn sgîl ein cefnogaeth ni, mae cwmni Theatr i Bobl Ifanc wedi’i intergreiddio’n llawn gyda Clwyd Theatr Cymru ac yn rhoi dros 300 perfformiad y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae safonau cynhyrchu’r cwmni lawn mor uchel ar gyfer ei gynulleidfaoedd iau ag ydyw ar gyfer ei gynulleidfa brif-ffrwd. Roedd rhaglen brif ffrwd Clwyd Theatr Cymru ar gyfer 2003-04 yn cynnwys cynyrchiadau mor heriol â The Crucible,AView From the Bridge a Portrait of An Artist as aYoung Dog. Bu i’w cynhyrchiad ysgubol o One flew Over the Cuckoo’s Nest arwain at enwebu Terry Hands fel y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau y Gymdeithas Rheoli Theatrau. Gwelodd y gymdeithas dros 1,000 o gynyrchiadau theatr a enwebwyd o bob cwr o’r DU gyda Terry yn cyrraedd y rhestr fer o dri ynghyd â Rupert Goold ac Anna Mackmin.

Noddwyd y cynhyrchiad gan Barclays a gwnaed yr arddangosfa’n bosib gan Ddyfarniad Partneriaid Newydd y Celfyddydau a Busnes. Lansiwyd yr arddangosfa ym mherfformiad Mencap Cymru o’r sioe yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu, ac aed â rhannau ohono i leoliadau yn ystod cyfnod olaf y daith.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Prif amcan CCC fu gwneud y ddrama yn hygyrch i bawb.Yn ystod Blwyddyn Anabledd, a chan gydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, dyrannwyd £1 miliwn gennym i brosiectau sydd wedi gwneud lleoliadau’r celfyddydau yn fwy hygyrch i bobl anabl.Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn dechreuwyd ar y gwaith o gynllunio’r rhaglen ar gyfer y Celfyddydau Tu Allan i Gaerdydd a fydd yn cefnogi rhwydwaith o leoliadau ar draws Cymru.

CYMRU GREADIGOL

Ein partneriaid allweddol, yr 8 cwmni Theatr Mewn Addysg, sy’n bennaf gyfrifol am gyflwyno drama i bobl ifanc Cymru ac rydym wedi cynyddu ein grantiau i’r cwmnïau hyn yn sylweddol.

Clwyd Theatr Cymru - The Crucible

Comisiynwyd artist gydag anabledd dysgu i gynllunio’r ddelwedd ar gyfer yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd. Sbardunodd ei darlun hardd hi arddangosfa enfawr o waith gan bobl ag anableddau dysgu o 6 grwˆp cymunedol ar draws Cymru. Gofynnwyd i bobl gyfrannu eu hymateb creadigol hwy i’r cynhyrchiad a’i thema o freuddwydion a chafwyd ymatebion ar ffurf paentiadau, cerddi a chrochenwaith.

25


CERDDORIAETH

FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER CERDDORIAETH

CYNULLEIDFA:

717* 196,416*

CYFLOGEION:

734*

PERFFORMIADAU:

CYFANSWM GWARIANT:

LLWYDDIANT DIGAMSYNIOL

£6,689,573

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru MAX - Prosiect Katerina. Llun: Barry Hamilton Gw ˆ yl Jazz Ryngwladol Aberhonddu

MAE EIN CEFNOGAETH SYLWEDDOL I GERDDORIAETH YNG NGHYMRU YN CYNNIG RHYWBETH AT DDANT PAWB.

CERDDORFA JAZZ GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

(parh.)

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Resound - Raga and Rhapsody

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Mae’r Gerddorfa Jazz yn cynnig cyfleoedd i gerddorion ifanc i weithio gydag arbenigwyr Jazz o’r radd flaenaf, i ddysgu sgiliau newydd ac i berfformio ar lwyfannau cyngerdd ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r Gerddorfa Jazz

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Mae Cerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn un o nifer o fentrau newydd a grëwyd gyda chefnogaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac a weinyddir gan Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru mewn partneriaeth gyda CAGAC (Rhwydwaith Gwasanaethau Cerddoriaeth Awdurdodau Addysg Lleol).

Ym 2003, am ei fod mor llwyddiannus, rhoddwyd £10,000 o gyllid ychwanegol i Gweithiau Cerdd Newydd, cynllun a lansiwyd ym 2002 ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Hawliau Perfformio (PRSF). O ganlyniad i’r cynnydd hwn o 25% roedd mwy o arian nag erioed o’r blaen ar gael i annog pobl i gomisiynu cyfansoddwyr Cymreig ac i gynnal perfformiadau o gerddoriaeth newydd Gymreig yng Nghymru. Unwaith eto bu’r cynllun yn hybu cyfansoddi ar draws spectrwm eang o arddulliau cerddorol. Amrywiai’r prosiectau’n fawr, o gomisiwn Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru i Alun Hoddinott gyfansoddi darn ar gyfer band pres fel rhan o Gwrs Haf Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i gomisiwn

CYMRU GREADIGOL

O gynhyrchiadau newydd rhagorol Opera Cenedlaethol Cymru i’r cydweithio arbennig rhwng cymunedau Asiaidd a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac ail-lawnsio Gwˆyl Jazz Aberhonddu, bu cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru fwynhau cerddoriaeth ar ei orau.

27


CERDDORIAETH

WNO Chorus. Photo: Bill Cooper

Sound Affairs o waith 10 munud ar y cyd rhwng Charlie Barber a DJ Jaffa.

...CYNNIG CYFLEOEDD I GERDDORION IFANC I WEITHIO GYDAG ARBENIGWYR JAZZ O’R RADD FLAENAF, I DDYSGU SGILIAU NEWYDD AC I BERFFORMIO AR LWYFANNAU CYNGERDD LEDLED CYMRU A THU HWNT... wedi sicrhau ei lle ymhlith ensembles ieuenctid Cymru a chaiff ei chyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru dan ofal Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

(parh.)

Ym mis Ebrill 2003, daeth aelodau’r gerddorfa ynghyd o bob cwr o Gymru er mwyn perfformio yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Un o brif amcanion Music Theatre Wales, a gyllidir trwy arian

Mae ymrwymiad cadarn gan CCC i wyliau cerddorol gan eu bod yn achlysuron dymunol tu hwnt sy’n fuddiol i’r perfformwyr a’r cynulleidfaoedd fel ei gilydd. Un o’r digwyddiadau mwyaf bywiog sydd o fewn cyrraedd pawb ar y calendr cerddoriaeth ydy Gwˆyl Jazz Aberhonddu. Ail-lansiwyd yr wˆyl hon eleni fel Gwˆyl Jazz Ryngwladol Aberhonddu diolch i gynnydd yn y cyllid oddi wrth CCC a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Denodd yr wˆyl ym 2003 rai o’r chwaraewyr jazz cyfoes gorau ynghyd â chynulleidfaoedd hynod frwdfrydig. Bu’n flwyddyn dda i wyliau fel Gwˆyl Eglwys Gadeiriol Tyˆ Ddewi a Gwˆyl Abertawe oherwydd inni allu sicrhau cyllid ychwanegol iddynt. Daeth dwy wˆyl arall yn Gleientiaid Refeniw inni yn ogystal. Cynhelir Gwˆyl Gerddoriaeth Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Gorffennaf ac mae’n cynnwys cyngherddau clasurol o safon uchel tra bod Gwˆyl Gerddoriaeth a’r Celfyddydau Llanandras yn un o’r gwyliau uchaf eu parch yn y wlad.

29

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

O dan Arweiniad Cerddorol David Firman, datblygodd y gerddorfa repertoire helaeth o weithiau jazz cyfoes a chlasurol yn ystod y flwyddyn a dechreuwyd ar y gwaith o baratoi catalog jazz ar wahân hefyd.Yn ogystal â chynnig hyfforddiant a sesiynau ymarfer o safon uchel gyda thiwtoriaid y gerddorfa jazz, cafodd yr aelodau gyfle i ennill profiad gwerthfawr yn sgîl ymweliadau gan ymarferwyr jazz profiadol gan gynnwys yr offerynnwr taro o fri rhyngwladol, Gene Calderazzo.

Roedd estyn allan i’r gymuned yn un o flaenoriaethau Resound hefyd, sef adran addysg a chymuned Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bu iddynt barhau i dorri tir newydd gyda gwaith newydd a chyffrous ar y cyd rhwng y Gerddorfa a chymunedau Asiaidd yng Nghaerdydd.Yn sgîl cyfuniad o gyllid gan gynnwys arian Loteri ar gyfer Raga and Rhapsody llwyddwyd i gynnal prosiect a gyfunai tair ffurf ar gelfyddyd: cerddoriaeth, dawns a chelf weledol oedd yn cynnwys gweithdai ynghyd â gwaith allanol helaeth.Wedi cyfnod o waith dwys, llwyfanodd yr ensembl berfformiad rhyfeddol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 6 Tachwedd.

refeniw, yw arloesi ym myd opera gyfoes ym Mhrydain. Ers 1988 crëwyd 18 cynhyrchiad a chomisiynwyd pump opera llawn a berfformiwyd ar draws Prydain ac Ewrop. Un o’r uchafbwyntiau eleni oedd cynhyrchiad Param Vir o Ion, a lwyfanwyd gan y cwmni am y tro cyntaf yn llwyddiannus tu hwnt yn Theatr Linbury, Covent Gardern. Cyhoeddodd y cwmni bedwar comisiwn newydd yn ddiweddar ar gyfer gwaith opera siambr ac maent wrthi ar hyn o bryd yn datblygu darnau gan Nigel Osborne, Lynne Plowman ac Aribert Reimann.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Eleni hefyd derbyniodd Opera Cenedlaethol Cymru gydnabyddiaeth am eu gwaith yn lledaenu apêl opera. Dyfarnwyd iddynt Wobr aruchel 2004 y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ar gyfer Addysg am Brosiect Katerina sef prosiect mawr cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru MAX. Cynllun yw hwn sy’n mynd ag opera a chreadigrwydd ymhell o’r brif lwyfan i gymunedau fel Merthyr Tudful lle treuliodd 240 o blant ysgolion cynradd dri mis yn creu ac yn ymarfer eu hopera ensembl fawr eu hunain. Canlyniad y gweithdai fu perfformiadau i dros 2000 o bobl yng Nghanolfan Hamdden Rhyd-y-car. Aeth y

Music Theatre Wales - Ion. Llun: Alain Kaiser

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru - Sarah Tynan a’r cast yn Jephtha. Llun: Clive Barda

CYMRU GREADIGOL

Ni siomwyd caredigion yr opera chwaith gan i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru roi o’u gorau ac ymgymryd â rhaglen uchelgeisiol o dri chynhyrchiad newydd, Jephtha, Parsifal a Eugene Onegin. Bu Jephtha, gwaith mwyaf trawiadol a dramatig Handel, yn gyfle gwych i arddangos doniau’r corws, tra disgrifiwyd Parsifal, cyd-gynhyrchiad gydag Opera yr Alban a arweiniwyd gan Gergiev o Rwsia, fel “llwyddiant digamsyniol” a oedd yn gyfuniad o brofiad cerddorol rhyfeddol a chyfarwyddo crefftus. Uchafbwynt arall oedd y cynhyrchiad o Eugene Onegin a gyfarwyddwyd gan James MacDonald.

prosiect yn ei flaen i Ogledd Cymru gyda phlant o bob cwr o Wynedd a Sir Ddinbych yn cymryd rhan. Daeth dros 1,800 o bobl i’r perfformiadau a gynhaliwyd ym Mhafiliwn y Rhyl a llawer ohonynt ddim erioed wedi bod ar gyfyl opera o’r blaen. Gwahoddwyd yn westeion, Alun Pugh AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ynghyd ag Aelodau eraill o’r Cynulliad o Ogledd Cymru. Mae dylanwad Katerina i’w weld o hyd ym Merthyr a threfi Gogledd Cymru lle sefydlwyd corau plant o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect.

Brecon International Festival of Jazz


FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER CELFYDDYDAU CYMUNEDOL

Y CELFYDDYDAU YN Y CANOL

CYFRANOGWYR:

23,649* 426,375*

CYFLOGEDIGION:

480*

SESIYNAU:

MAE’R CELFYDDYDAU CYMUNEDOL YN ADFYWIO, YN SBARDUNO AC YN SICRHAU BUDD ECONOMAIDD

CYFANSWM GWARIANT:

ArtsCare/GofalCelf

£2,852,111

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

Cipolwg yn unig yw’r isod ar brosiectau neilltuol a gyllidwyd gan CCC yn y sector hwn.

PLANT Y CYMOEDD: MARGARET JERVIS Elusen yw Plant y Cymoedd sy’n annog pobl ifanc lleol i gymryd rhan mewn cynyrchiadau, boed fel perfformwyr neu tu ôl i’r llenni. Mae hefyd yn croesawu nifer o Gwmnïau Dawns, Cerddoriaeth a Theatr proffesiynol o safon uchel i Soar Ffrwdamos, ein capel a ailwampiwyd mor ardderchog, er budd y gymuned gyfan. Rydym yn gweithio’n agos gyda Chelfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf a gwneir defnydd helaeth o Soar, gyda dros 70,000 yn croesi’r trothwy mewn blwyddyn. Mae’n leoliad amlbwrpas ar gyfer clybiau ar ôl ysgol, gwaith ieuenctid ac oedolion yn (parh.)

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Celfyddydau Cambria - Amy Wadge

Plant y Cymoedd - Soar Ffrwdamos

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Yn ystod 2003/04 dyfarnwyd £67,336 i Gelfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf (CCRhCT) ar gyfer blwyddyn o weithgareddau ym maes y celfyddydau cymunedol. Mae’r sefydliad hwn yn cynnig profiadau, gweithgareddau a hyfforddiant ym maes y celfyddydau cymunedol i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob gallu gan ganolbwyntio’n arbennig ar ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.Yn ystod y flwyddyn cafwyd 264 o weithdai, 13 o berfformiadau a 4,420 o gyfleoedd i gymryd rhan, gan gynnwys Prosiect Dawns Creadigol yr Enfys ar gyfer plant a phobl ifanc awtistig a’r rhai’n dioddef o syndrôm Asperger (4-21 mlwydd oed). Yn ogystal, cynhaliwyd gweithdai dan ofal dau artist dawns proffesiynol i roi blas ar ddawnsio creadigol a bu’r

31

CYMRU GREADIGOL

DAW AMRYWIAETH RYFEDDOL O WEITHGARWCH DAN FANER Y CELFYDDYDAU CYMUNEDOL. MAE GAN GYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU BORTFFOLIO EANG O SEFYDLIADAU CELFYDDYDAU CYMUNEDOL A GYLLIDIR YN GYSON MEWN NIFER O ARDALOEDD YNG NGHYMRU SY’N RHOI ARWEINIAD PROFFESIYNOL YM MHOB FFURF AR GELFYDDYD I WEITHGARWCH CREADIGOL GAN AELODAU’R CYMUNEDAU A WASANAETHANT.

Artswave - Kisses Across The Irish Sea


Y CELFYDDYDAU YN Y CANOL

Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf

rhain mor llwyddiannus fel y bydd CCRhCT yn parhau i’w datblygu yn y flwyddyn i ddod.

ac o bob cwr o’r byd yn dod i’w neuaddau lleol am brisiau llawer is. Eleni, clustnodwyd £20,000 y flwyddyn yn ychwanegol gan CCC i’w gwneud hi’n haws fyth i sefydliadau yn yr ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yng Nghymru fanteisio ar y cynllun hwn.

(parh.) ogystal â sesiynau drama, ond er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth newydd o ran mynediad i bobl anabl rhaid oedd inni wneud newidiadau.

Pan ddechreuwyd trafod adnewyddu Soar, gofynnwyd “Ai dyma beth y mae’r Cymoedd wir yn ei haeddu a’i angen?” Roedden ni am i’r bobl leol wybod pa mor bwysig ydyn nhw. Roedden ni hefyd am adael i’r byd tu hwnt i’r Cymoedd wybod fod gan y Cymoedd rôl allweddol i’w chwarae o hyd yn adfywiad economaidd Cymru. Felly penderfynwyd bod yn rhaid i Ganolfan Soar Ffrwdamos fod yn adeilad ‘allweddol’a fyddai’n cynnig mannau i berfformio, cynnal gweithdai ac hyfforddiant yn ogystal â bod yn gartref i holl weithgareddau’r gymuned sef y cynlluniau chwarae, y gwaith ieuenctid a’r gwaith cymunedol. Diolch i gefnogaeth ariannol CCC, gallwn wireddu ein gweledigaeth o gael canolfan o’r radd flaenaf yng nghanol y Rhondda. Mae’r cynllun yn cadw at naws hanesyddol a phensaernïol y Capel yn ogystal â bod yn ganolfan gymunedol a chelfyddydol amlbwrpas o safon uchel gyda mynediad llawn i’r anabl. Mae pedair canolfan gymunedol gennym yn awr - Penyrenglyn, Rhydyfelin, Dinas a Penygraig (Canolfan Soar Ffrwdamos) yn ogystal â dau fws cymunedol a thyˆ preswyl ym Mhenrhyn Gw ˆyr. Ac mae Plant y Cymoedd yn parhau i ddatblygu . . .

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf

33

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Bu’r canlyniadau’n rhagorol gyda 392 o berfformiadau “Meicro” mewn 92 o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Bu 155 o grwpiau ac unigolion yn perfformio mewn 228 lleoliad cymunedol. Mynychodd cyfanswm o 28,250 o bobl ddigwyddiadau a thalwyd £193,115 yn uniongyrchol i artistiaid ar ffurf ffioedd. O ganlyniad i weithio gydag awdurdodau lleol, mae’r galw am y gwasanaeth wedi codi’n aruthrol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Ddinbych a Chaerffili. Rhagorwyd ar bob targed a osodwyd ac mae’r prosiect yn mynd o nerth i nerth.

RYDYM YN GWEITHIO’N AGOS GYDA CHELFYDDYDAU CYMUNEDOL RHONDDA CYNON TAF A GWNEIR DEFNYDD HELAETH O SOAR, GYDA DROS 70,000 YN CROESI’R TROTHWY MEWN BLWYDDYN

CYMRU GREADIGOL

hyfforddwyd i weithio yn y sector gofal iechyd ac maent yn mynd i’r afael â chamdrin cyffuriau, cleientiaid gydag anableddau a’r henoed. Gydol y flwyddyn eleni rhoddwyd sylw arbennig i brosiectau adfywiad a’r celfyddydau.Trwy gyfrwng Rhaid wrth bobl gyda’r sgiliau a’r prosiect yn Stiwdios Steer yn Tairgwaith, sy’n pontio Sir wybodaeth gywir i ddatblygu cyfleoedd Gaerfyrddin a Chastell Nedd Port Talbot ac a reolir trwy Fenter er mwyn dwyn cymunedau i gysylltiad Dyffryn Aman, daeth y gymuned leol, y Bwrdd Glo, â’r celfyddydau - a dyna pam inni Awdurdodau Lleol a CCC ynghyd gan greu cyfleoedd go iawn gyllido nifer o swyddi gan roi i hybu ymhellach ddoniau cerddorol pobl ifanc. Daeth SPAN £30,000 yr un i Gyngor Sir Bwrdeistref [Rhwydwaith Artistiaid De Penfro gynt] o hyd i safle newydd Blaenau Gwent a Chyngor Sir Fynwy yn Arberth, Sir Benfro a dyma enghraifft dda o sefydliad sydd i’w galluogi i gyflogi Swyddog wedi tyfu o ran maint a statws diolch i gefnogaeth CCC.Yn Datblygu’r Celfyddydau. Nhregaron, sy’n un o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, bu Celfyddydau Cambria yn hyrwyddo gig bob mis gyda bandiau Cydnabyddir bod ymwneud â adnabyddus o Brydain a thu hwnt. Gan weithio ar draws y gweithgarwch celfyddydol yn gwahanol gelfyddydau, mae’r grwˆp wedi troi adeilad arall yn cyfrannu at well iechyd ac yn oriel ar gyfer artistiaid lleol. cynorthwyo cleifion i oresgyn eu salwch yn ogystal â bod o fudd Er mwyn dathlu a hyrwyddo’r cysylltiadau diwylliannol rhwng therapiwtig ac mae Canolfan Gofal Cymru ac Iwerddon ac yn enwedig er mwyn mynegi diwylliant Canser Shooting Star,Ysbyty Maelor yr ifanc, dechreuodd Artswave, sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam yn enghraifft wych o hyn. Abergwaun, ar brosiect cyffrous newydd o’r enw ‘Kisses Across Dathlodd y Tabernacl, Bethesda, the Irish Sea’. Mae’r prosiect, partneriaeth rhwng Menter ganmlwyddiant diwedd Streic Fawr Busnes Sir Benfro, CCC a’r rhaglen Intereg 3, yn ymgysylltu Chwareli’r Penrhyn trwy gomisiynu gyda phobl ifanc sydd ag amrediad eang o ddiddordebau yr artist preswyl, Chris Bird Jones, diwylliannol, a phan fydd wedi’i gwblhau bydd 2000 o bobl i greu ffenestr wydr lliw unigryw ifanc - 1000 o Gymru a 1000 o’r Iwerddon wedi bod yn gyda phanelau gwydr a engrafiwyd gysylltiedig ag ef.Trwy adeiladu pontydd rhyngwladol gyda yn arbennig gan deuluoedd lleol. phrosiectau cyfnewid diwylliannol a chynnal digwyddiadau Rhoddwyd £44,408 i brynu offer rhwng De Iwerddon ac Arfordir Gorllewinol Cymru, mae’r i’r Neuadd Goffa yn Nhalacharn er prosiect yn hwb i dwristiaeth ddiwylliannol yng Ngorllewin mwyn ei droi’n adnodd amlbwrpas Cymru ac yn gwneud hynny’n hynod lwyddiannus. Nod arall i annog amrywiaeth eang o grwpiau ar gyfer y flwyddyn oedd cyllido gwaith oedd yn esiampl i’w ddefnyddio. ragorol o ran ei ymrwymiad i bobl ifanc ac a oedd yn sicrhau cyfle cyfartal a hygyrch i bawb ac mae’r prosiect hwn yn Yng Nghaerfyrddin, mae Arts enghraifft wych o’r modd y llwyddwyd i gyflawni hyn. Care/Gofal Celf yn arbennig o effeithiol wrth ddarparu profiadau NOSON ALLAN celfyddydol o safon uchel i’r rheini sydd ar gyrion cymdeithas. Mae gan Mae ein gwasanaeth NOSON ALLAN yn galluogi cymunedau i Gofal Celf restr o dros 160 artist a drefnu bod celfyddydau perfformio proffesiynol o’u dewis nhw

Plant y Cymoedd - Y Cynlluniau ar gyfer Capel Soar


FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER FFILM

FFILM

DANGOSIADAU SINEMA O FFILMIAU HIR: CYNULLEIDFA SINEMA:

HANES PWERUS A BRAWYCHUS AR BRYDIAU PAN FO POBL SY’N MEDDU AR Y CARIAD PURAF HEFYD YN GALLU MEDDU AR DRAIS AC OBSESIYNAU ANGHEUOL Screen Gems 4 - Time and Space

Terminus, a fydd yn cael eu hanelu at wyliau ffilm o gwmpas y byd.

Tantrum Films - A Way of Life

£1,252,754

* Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw 2002/03 - Cyngor Celfyddydau Cymru † Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

FORGET ABOUT IT:

35

SUZANNE PHILLIPS

Ar yr wyneb mae’r ffilm fer, Penny Collectors, a gynhyrchwyd gan Neil Wagstaff (Those People Productions), yn dilyn dau blentyn ifanc sydd, gan nad oes dim byd gwell ganddynt i’w wneud, yn chwilio am geiniogau er mwyn prynu digon o losin i wneud eu hunain yn sâl. O graffu’n fwy gofalus ar y ffilm gwelir ei fod yn ymdrin â’r themâu o rywioldeb yn blaguro, atyniad rhwng y gwahanol rywiau a cholli diniweidrwydd. Ar y llaw arall, ail-greu chwedl Icarus a wna’r ffilm, Featherman (Twosome Films). Mae’r portread tywyll o gomig o obsesiwn cleptomaniad gyda phlu yn datblygu’n astudiaeth fwy amwys o fywyd, marwolaeth a ffydd.

Strategaeth ein cwmni er mwyn gallu gweithio trwy gyfrwng ffilmiau hir ydy meithrin enw da a phrofiad yn sgîl chynhyrchu ffilmiau byr yn gyntaf. Mae cyllid Loteri CCC wedi ein galluogi i gynhyrchu nifer o ffilmiau byrion gan gynnwys pum ffilm fer tair munud o hyd diolch i’r cynllun Screen Gems. Roedd elfen o fedydd tân i hyn i gyd, ond o ganlyniad cawsom brofiad o’r holl bethau all godi wrth gynhyrchu ffilm a phrofwyd ni i’r eithaf. Rhoddodd gefnogaeth Loteri CCC gryn hyder ac anogaeth inni gan ein galluogi i feithrin cysylltiadau pwysig gyda gwneuthurwyr ffilm eraill a sgriptiau newydd. Rydym yn edrych ymlaen at wneud ein ffilm hir gyntaf flwyddyn nesaf gyda chefnogaeth y Loteri unwaith yn rhagor.

Rhaid wrth sgriptiau da er mwyn gallu cynhyrchu ffilmiau o safon.Yn ystod y flwyddyn bu CCC yn parhau i gefnogi datblygu sgriptiau trwy gynnig cyllid i ddatblygu syniadau o’r cychwyn cyntaf hyd at y drafft cyntaf a’r ail er mwyn gwella sgriptiau ffilm cyfredol neu gynorthwyo gyda’r cyllidebu, amserlenni neu’r castio. Er enghraifft, cynigiwyd cyllid i Hot Property Films ar gyfer cefnogi’r addasiad ffilm o nofel Niall Griffiths, Kelly & Victor. Roeddem yn falch i gyllido’r addasiad o’r nofel heriol hon a chefnogi un o nofelwyr cyfoes uchaf eu parch yng Nghymru ar y trywydd newydd hwn. Disgrifiwyd y gwaith fel “hanes pwerus a brawychus ar brydiau pan fo pobl sy’n meddu ar y cariad puraf hefyd yn gallu meddu ar drais ac obsesiynau angheuol.” Gweithiodd CCC mewn partneriaeth gyda Sgrîn yn ystod y flwyddyn i ddatblygu’r cynllun ffilmiau nodwedd ar gyllideb isel iawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda S4C a Film Four er mwyn cynyddu’r cyfleoedd cynhyrchu dros y flwyddyn sydd i ddod.

513*

CYFANSWM GWARIANT:

Comedi tywyll swreal yn arddull Kafka yw Vacuum sydd wedi’i osod yn y dyfodol agos. Mae’n adrodd hanes Adam sy’n dioddef mewn byd caled a dideimlad. Ar ôl cael ei fradychu yn y gwaith a’i wneud yn ddi-waith ar fympwy, dychwel Adam adref a dod o hyd i’w wraig ym mreichiau dyn arall.

Those People Productions - Penny Collectors

Wrth ddisgyn i’r Gwacter Mawr heb ddim byd ond pecyn o gardiau yn ganllaw i’w fywyd newydd fel gwerthwr peiriannau glanhau, daw ar draws putain, ei meistr a chi o’r enw Plato. Dim ond pan sylweddola mai fe sy’n gyfrifol am ei weithredoedd y bydd yn gallu ailafael yn ei fywyd.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Nid yw’r gefnogaeth i ffilm wedi’i gyfyngu i gynhyrchu ffilmiau hir yn unig.Ym 2003/04 am y tro cyntaf cyflwynwyd strwythur newydd i werthuso ffilmiau byr, gyda phanel penodedig yn adolygu ceisiadau mewn dau rownd cyllido penodol. Canlyniad hyn fu dewis 4 ffilm, Penny Collectors, Featherman, Decidedly Bloody Dodgy a

CYFLOGEION SINEMA:

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Dechreuodd nifer o sêr ifanc y ffilm fel Dean Wong o Benygraig, y Rhondda, berfformio yn sgîl mynychu rhaglenni cymunedol CCC a gyllidwyd gydag arian y Loteri. Dywedodd Dean, sy’n gweithio gyda Phlant y Cymoedd yn awr, “yn sgîl cefnogaeth CCC i ffilm ces i gyfle unigryw i weithio gydag un o’r actorion sgrîn mwyaf blaenllaw yn y DU.”

213,921*

CYMRU GREADIGOL

UN O UCHAFBWYNTIAU’R FLWYDDYN FU CYCHWYN AR Y GWAITH O GYNHYRCHU’R FFILM NODWEDD A WAY OF LIFE (TANTRUM FILMS). FFILMIWYD Y FFILM SY’N CYNNWYS CAST O GYMRY IFANC YNGHYD Â BRENDA BLETHYN, ACTORES A ENWEBWYD AM OSCAR, MEWN NIFER O LEOLIADAU AR DRAWS DE CYMRU.

4,577*


FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER LLENYDDIAETH

LLENYDDIAETH

YSGOLION CYMRU A FU AR YMWELIAD NEU A GYMERODD RHAN MEWN PROSIECTAU

PE CYNHELID YR HOLL DDIGWYDDIADAU Y BU’R ACADEMI YN GYSYLLTIEDIG Â HWY LLYNEDD YN UN RHES DDI-DOR, YNA BYDDECH YN EISTEDD YN EICH SEDD AR DDYDD LLUN AC YN CODI OHONI 172 DIWRNOD A 14 AWR YN DDIWEDDARACH ˆ R AR ÔL Y FATH ORDDOS LLENYDDOL. GAN DEIMLO’N BENYSGAFN MAE’N SIW

YSGRIFENNU CREADIGOL: POBL IFANC A FYNYCHODD Y SESIYNAU HYN: Tyˆ Newydd - Twm Morys, Rap-Yo

Yr Academi - Myrddin ap Dafydd ac Aron

Yn ei adroddiad, nododd Simon Mundy, Cadeirydd panel yr Ysgoloriaethau, ei fod wedi’i blesio nid yn gymaint gan gyfanswm nifer yr ymgeiswyr ond gan y nifer a fyddai, mewn byd delfrydol, yn werth eu cefnogi. “Y prif ofid fu gorfod gwrthod ysgoloriaethau i ymgeiswyr rhagorol. Roedd y galw llawer yn uwch na’r cyllid a oedd ar gael i’w ddosbarthu.”

59,066

Ffynhonnell: Ystadegau 2002-03, Yr Academi Gymreig, Caerdydd.

ˆ NEWYDD TY

37

Bu 2003-4 yn flwyddyn lle y rhoddwyd blaenoriaeth i’r Cynllun Datblygu. Yn llechu yng nghefn meddwl pawb ohonom oedd y syniad y byddai’n rhaid cau drysau Tyˆ Newydd os na fyddai modd dod o hyd i arian cyfatebol ar gyfer y cynnig grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fodd bynnag, daeth y flwyddyn i ben ar nodyn llawer mwy calonogol. Nid yn unig fod y rhan fwyaf o’r arian cyfatebol wedi’i sicrhau ond hefyd bu’r cyrsiau mor llwyddiannus ag erioed. Tyˆ Newydd - Cathal O'Searcaigh

Yn ôl yr arfer cafwyd amrywiaeth eang o gyrsiau yn y ddwy iaith, a bu ysgrifenwyr o Gymru yn cydweithio gydag ysgrifenwyr o dramor (eleni’n dod o Awstralia, Portiwgal, yr Unol Daleithiau, Gweriniaeth Iwerddon, Guyana a Jamaica). Mae hyn yn rhan annatod o’r gwaith yn Nhyˆ Newydd ac mae’n gyfle i fagu cysylltiadau rhwng ysgrifennwyr o wahanol ddiwylliannau. Un o binaclau’r flwyddyn oedd ymweliad Olive Senior o Jamaica. ’Roedd yn gyd-diwtor i Stewart Brown ar gwrs yn Nhyˆ Newydd ac wedyn aeth ar daith fer o amgylch Cymru ac i Birmingham (wedi’i threfnu gan Dyˆ Newydd).

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Ym mis Tachwedd cynhaliwyd Gwˆyl Gynganeddu Tyˆ Newydd - penwythnos cyfan o weithgareddau o bob math, pob un yn ymwneud â chanu caeth. Adeiladwyd ar lwyddiant yr wˆyl gyntaf a chynhaliwyd mwy o weithgareddau a mynychodd mwy o bobl yr wˆyl. Calonogol iawn oedd y cynnydd yn y nifer o bobl ifanc a oedd yn rhan o'r wˆyl - yn y digwyddiadau a drefnwyd yn benodol ar eu cyfer ac yn y gweithgareddau yn gyffredinol. Derbyniwyd cefnogaeth gan Barddas, Cyngor Sir Gwynedd, Radio Cymru a gwefan Annedd y Cynganeddwyr. Dros y 14 mlynedd diwethaf, profwyd fod y ganolfan yn adnodd bwysig a phoblogaidd i ysgrifenwyr yng Nghymru a bod iddi gefnogaeth gref yng Nghymru a thu hwnt.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Ym mis Ebrill trefnwyd gwˆyl ddwyieithog gynhwysfawr ar y cyd gyda’r Academi.Ynghlwm wrth yr wˆyl yma trefnodd Tyˆ Newydd y prosiect Rap-Yo. Prosiect cynhyrfus iawn a orffennodd gyda phlant o ysgolion cynradd Cymerau, Pwllheli ac Ysgol Gynradd Mount Stuart o Fae Caerdydd yn aros gyda’i gilydd yn Nhyˆ Newydd ac yn cydweithio gyda’r beirdd Twm Morys a Leon Charles.

CYMRU GREADIGOL

Bu datblygiadau pwysig eraill ym 2003/2004 o ran y gwasanaethau a BU CYNNYDD ARUTHROL YN Y DIDDORDEB MEWN chynlluniau ar gyfer llenyddiaeth a YSGRIFENNU CREADIGOL YNG NGHYMRU DROS YR gynigir gan yr Academi.Yn ogystal UGAIN MLYNEDD DIWETHAF – O AWDURON I â’r Gwasanaeth Ysgoloriaethau DDARLLENWYR, O YMARFERWYR I DDEFNYDDWYR, hynod boblogaidd, bu i’r Academi O GYFRANOGWYR I FYNYCHWYR. ymgymryd ag amrywiol gyfrifoldebau eraill a ddirprwywyd Mae’r Academi, fel yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Llenyddiaeth Cymru, wedi bod yn flaenllaw fel trefnydd, Roedd y rhain yn cynnwys darparu cynghorydd, noddwr, hwylusydd, darparwr gwybodaeth, gwybodaeth a chyngor i awduron, hyrwyddwr a marchnatwr. Mae ein cynlluniau yn tyfu’n gwasanaeth beirniadol i awduron, fwyfwy poblogaidd, ac mae’r galw amdanynt yn aml yn fwy na’r ddarpariaeth sydd ar gael. Er enghraifft, mae cronfa un o’n cynllun mentora sy’n helpu cynlluniau mwyaf poblogaidd, Awduron ar Daith, yn gyson wag awduron ddatblygu eu llawysgrifau a chyrraedd safon gyhoeddadwy, yn ymhell cyn i’r flwyddyn ddod i ben. ogystal â gwobr flynyddol Llyfr Y Flwyddyn. Ym 2003/2004 hyrwyddodd yr Academi 1000 o ddigwyddiadau gan gyrraedd at ryw 95,000 o bobl. Amrywiai’r Cyflawnwyd llawer o ddatblygiadau rhain o weithdai ysgrifennu creadigol ar raddfa fach i bobl cadarnhaol gan yr Academi yn ystod ifanc, ddifreintiedig a fynychwyd gan lond dwrn o unigolion 2003, ond mae llawer o waith i’w a chwiliai am fodd o hunanwellhad; i slams barddoniaeth poblogaidd tu hwnt a ddenai gynulleidfaoedd yn eu cannoedd wneud o hyd i godi proffil ysgrifennu i gefnogi. Fe’u cynhaliwyd ym mhob man o Benarth i Brestatyn creadigol proffesiynol yng Nghymru. Bydd yr Academi, fel Cymdeithas ac o Ynys Echni i Ynys Enlli. Llenorion Cymru, yn parhau i ymgyrchu am welliannau, gan eiriol £84,000 oedd cyllideb yr Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron ar ran awduron, cynghori a reolwyd, ym 2003, gan yr Academi am y tro cyntaf. hyrwyddwyr, ceisio newidiadau a Dyfarnwyd 20 ysgoloriaeth gan yr Academi sef cyfartaledd mynnu gwelliant. o £4,000 i bob awdur.

320

SESIYNAU YSGRIFENNU CREADIGOL: 2,456


CYMRU GREADIGOL -

FFEITHIAU ALLWEDDOL AR GYFER CYMRU GREADIGOL

D AT H L U A RT I S T I A I D U N I G O L Y N G N G H Y M R U

DYFARNIADAU:

MAE’R CYNLLUN GWOBRAU CYMRU GREADIGOL WEDI FY NGALLUOGI I GYFLAWNI F’AMCANION O EHANGU A HERIO FY SYNIADAU TRA’N AGOR POSIBILIADAU NEWYDD AR GYFER CREADIGRWYDD.

Y DYFARNIADAU:

19

CYFANSWM GWARIANT

Paul Beckett

Peter Finnemore - Koan Exercises

£205,504

Ffynhonnell: Adran Gyllid CCC

39

ysbrydol a hanesyddol diwygiad crefyddol 1904 tra byddai Mark yn parhau i wthio ffiniau perfformio jazz cyfoes.

Mae’r cynllun yn cefnogi rhagoriaeth ac yn caniatáu i artistiaid ddatblygu eu harfer creadigol mewn unrhyw ffurf ar gelfyddyd ac am y tro cyntaf yn Rhagfyr 2003 cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni urddasol yng Nghaerdydd. Rosemary Butler AC a chadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad fu’n dosbarthu’r Gwobrau Cymru Greadigol o rhwng £5,000 a £10,000 ynghyd â phump Ysgoloriaeth Gwobr Cymru Greadigol o £20,000 yr un i amrediad o artistiaid. Mae’r holl ymgeiswyr i’r cynllun gwobrwyo yn artistiaid proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac yn dangos gwreiddioldeb, dyfeisgarwch a rhagoriaeth yn natblygiad eu dewis ffurf ar gelfyddyd ac yn eu harfer creadigol.

Mewn blwyddyn lle gwelwyd cryfder a dyfnder y celfyddydau gweledol yng Nghymru, byddai Peter Spriggs yn defnyddio’i wobr e i ymchwilio i waith newydd yn Montreal, Canada a byddai Sean O’Reilly yn defnyddio ei wobr ar gyfer ei brosiect, Shorelines, a datblygu ymhellach ei waith cerflunio yn seiliedig ar fewnosodiad.

Philippa Lawrence - Bound, Tree at Llanyre. Llun: Alex Ramsey.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Bu i ymarferwyr eraill fel Jonathan Cooke, Darren Stanley Davies, Andy Hazell a Philippa Lawrence dderbyn grantiau a fyddai’n arwain at greu gwaith newydd trwy gydol y flwyddyn i ddod. Cynrychiolai Mal Pope a Mark Latimer gerddorion o begynau tra gwahanol. Byddai gwobr Mal yn ei alluogi i ddatblygu sioe gerdd ar lwyfan yn dilyn effaith gymdeithasol,

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Ymysg y rhai a elwodd o dderbyn y gwobrau oedd y perfformiwr Marc Rees a’r ffotograffwyr Tina Carr ac AnneMarie Schone.Yn sgîl derbyn ei wobr, dywedodd Marc Rees, “Mae’r Cynllun Gwobr Cymru Greadigol wedi fy ngalluogi i i gyflawni f’amcanion o ehangu a herio fy syniadau tra’n agor posibiliadau newydd ar gyfer creadigrwydd.”Yn ogystal, dyfarnwyd gwobr i Sean Tuan John i lunio cynhyrchiad newydd a ddatblygai waith penodol i safle a hynny ar raddfa fawr ac yn yr awyr agored. Dyfarnwyd grant o £8,600 i Cai Tomos, dawnsiwr a choreograffydd arall, er mwyn iddo sefydlu Theatr Ddawns Dorothy’s Friends, tra cydnabuwyd yr artist gweledol Susan Adams a’r cynllunydd clociau Paul Beckett am safon gyson uchel eu gwaith a’u potensial i ddatblygu a thorri tir newydd yn eu meysydd perthnasol.

Trwy gyfrwng y cynllun, aed a gwaith gwreiddiol ac idiosyncratic Peter Finnemore, Zen Gardener ar daith a chefnogwyd gwaith Clare Richardson, Catrin Webster a Karen Williams ym meysydd ffotograffiaeth, celf weledol a chelf gymhwysol. Derbyniodd Katja Stiller, Artist Cymunedol a gweithiwr datblygu fideo, wobr i ymgymryd â Phrosiect Ymchwil Datblygu i ymagwedd newydd ar y celfyddydau cymunedol sydd â phobl yn ganolog iddo. Mae darparu’r cyllid ar gyfer yr astudiaeth deilwng hon yn brawf o’n hymrwymiad i gryfhau pob agwedd ar waith artistig ynghyd â datblygu ymagweddau blaengar ar gyfer cyflwyno gweithgareddau celfyddydol i holl gymunedau Cymru.

CYMRU GREADIGOL

GWNAED BUDDSODDIAD SYLWEDDOL GAN CCC I’R CYNLLUN GWOBRAU CYMRU GREADIGOL I DDATHLU CREADIGRWYDD ARTISTIAID UNIGOL SY’N BYW AC YN GWEITHIO YNG NGHYMRU.


RHYNGWLADOL MAE CELFYDDYDAU CYMRU RHYNGWLADOL YN BARTNERIAETH STRATEGOL RHWNG CCC A’R CYNGOR PRYDEINIG I HYBU CYDWEITHIO A CHYFNEWID RHWNG YMARFERWYR YNG NGHYMRU A’U CYMHEIRIAID RHYNGWLADOL ER MWYN CYNORTHWYO A MEITHRIN CYD-DESTUN RHYNGWLADOL FFYNIANNUS I’R CELFYDDYDAU YNG NGHYMRU. Trwy gydol 2003/04 ffocws pwysig i waith Celfyddydau Cymru Rhyngwladol fu’r flwyddyn gyflawn gyntaf o’r cyfnewid Québec/Cymru a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Swyddfa Llywodraeth Québec yn Llundain a swyddfa’r Cyngor Prydeinig yn Montréal.

Mark Rees - Shed*Light. Llun: Stephan Goettlicher.

seminar pwysig gan y Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd ynglyˆn â Datblygu’r Celfyddydau a Diwylliant. Celfyddydau Cymru Rhyngwladol fu’n gyfrifol am y seminar a ddenodd dros 80 o fynychwyr o swyddfeydd y Cyngor Prydeinig ledled y byd, gyda llawer ohonynt yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf. Bu ymarferwyr Celfyddydau Cymunedol yn arwain amrywiol sesiynau ac ymwelwyd â safleoedd nifer o brosiectau yn Ne Cymru.

41

CYMRU GREADIGOL

Ymhlith nifer o ddigwyddiadau eraill, sef yn bennaf rhan gyntaf cyfnewid oriel Trace gyda Le Lieu, a’r cyntaf mewn cyfres o dri phreswyliad gan artistiaid o Gymru yn Méduse, Dinas Québec, dau brosiect a ffurfiodd rhan ganolog i’r rhaglen oedd Crwydro/Wander a The House Project.

Daniel Allen - Sunday Supplement

Cynhyrchwyd form i gydredeg gyda phresenoldeb cyntaf Cymru yn SOFA Chicago, digwyddiad mwyaf blaenllaw Gogledd America ar gyfer casglwyr ac orielau’r celfyddydau cymhwysol. Gan weithio ar y cyd gyda Chanolfan Grefft Rhuthun arddangoswyd gwaith chwech o artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru Daniel Allen, Catrin Howell, Christine Jones, Julia Griffiths Jones, Eleri Mills ac Audrey Walker.

Phil Babot, yn perfformio yng Ngw ˆ yl Celf Ryngwladol, Plaide, Estonia

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

Cynhaliwyd The House Project, a seiliwyd ar nofel Michael Toppings sy’n byw yn Montréal, ym mis Mawrth 2004 gan R.I.P.E, sefydliad dan ofal Marc Rees, gyda chydweithrediad Chapter, canolfan ar gyfer y celfyddydau cyfoes yng Nghaerdydd sydd wedi hen ennill ei phlwy. Roedd The House Project yn dwyn ynghyd artistiaid o Gymru a Québec i ailddehongli nofel Michael Topping 7 Rooms, a prologue, a bridge and an afterward. Cynhaliwyd The House Project mewn tyˆ gwag yn ardal Treganna o Gaerdydd a weddnewidiwyd yn nofel labarinthaidd y gellid cerdded i mewn iddi lle ail-ddyfeisiwyd y cysyniad o destun a safle yn fentrus.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Roedd rhaglen Celfyddydau Cymru Rhyngwladol o gyhoeddiadau yn cynnwys Imaging Wales, golwg ar faes y celfyddydau gweledol yng Nghymru; Platfform un/1, y cyntaf o gyfres fer sy’n edrych ar arfer perfformio cyfoes yng Nghymru; a form, proffil o’r sector crefft a’r celfyddydau cymhwysol yng Nghymru. Dosbarthwyd y tri rhifolyn yn helaeth ymhlith partneriaid, rhaglenwyr a sefydliadau ar draws y byd.

Roedd Crwydro/Wander, a agorodd raglen Québec/Cymru ar gyfer y flwyddyn, yn waith ar y cyd rhwng ointment a Boréal Celf/Natur Québec.Yn sgîl y prosiect ymgymerodd naw artist o blith y ddau sefydliad â chyfnod o deithio a chyfnewid yn seiliedig ar broses yn ardal hudolus mynyddoedd y Preseli.

Ar sail cryfder Cymru ym maes y celfyddydau cymunedol, ar ddechrau Ebrill 2003 cynhaliwyd

Tim Pugh - Gstaad


PERFFORMIAD YN ERBYN TA R G E D A U A L LW E D D O L 2 0 0 3 / 0 4

RHYNGWLADOL

Arweiniodd presenoldeb Cymru yn SOFA at werthu nifer o ddarnau yn uniongyrchol i gasglwyr a sicrhawyd cyfleoedd pellach i artistiaid o Gymru yn ystod yr arddangosfa ei hun.

Catherine Lewis - Wrapped Form

• Gwneud cynnydd sylweddol ar ddatblygu’r rhwydwaith o leoliadau ar draws Cymru. Yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru, Glan yr Afon yng Nghasnewydd a’r Galeri yng Nghaernarfon, roedd gwaith eisoes ar y gweill yn Theatr Mwldan ac yn Theatr Colwyn. • Cyflwyno’r cynllun sefydlogi ar gyfer cynaliadwyaeth y sector yn y tymor hir a chwblhau rhaglen sefydlogi Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Lansiodd CCC y Rhaglen Beilot ar gyfer Sefydliadau Celfyddydol Cynaliadwy gan gwblhau cynllun sefydlogi Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2004. • Trefnu cyfnodau pythefnos o hyd gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn Abertawe a Llandudno. Cafwyd 11 perfformiad yn Abertawe a chynhaliwyd 10 perfformiad yn Llandudno. • Cyfrannu at ddatblygiad llwyddiannus Gwobr Gelf Ryngwladol gyntaf Artes Mundi. Dyfarnwyd y Wobr Artes Mundi gyntaf i’r artist Xu Bing ym mis Mawrth 2004. • Trosglwyddo’r cyfrifoldeb ar gyfer trefniadau Cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn CCC i’r Academi Gymreig. Yr Academi Gymreig fu’n gyfrifol am Gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ac roedd trefniadau ar y gweill ar gyfer 2004.

• Sicrhau bod presenoldeb cyntaf Cymru yn Biennale Celf Fenis yn un llwyddiannus. Dilynwyd presenoldeb cyntaf un Cymru yn Biennale Celf Fenis gan daith lwyddiannus FURTHER ym mis Mai 2003. • Cytuno ar raglenni helaeth o waith addysg ac allestynnol yn y gymuned gyda’r cwmnïau cenedlaethol - Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Clwyd Theatr Cymru, Diversions a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Bu i Opera MAX

43

• Symleiddio a chrynhoi cynllun grantiau bach CCC a chyflwyno ffurflenni cais electronig. Cyflwynwyd ffurflenni cais electronig a chyfarwyddyd i’w llwytho i lawr yn ogystal â rhaglen Grantiau Bach fwy syml. • Cefnogi presenoldeb cryf o Gymru yn SOFA Chicago 2003 (Darnau Cerflunwaith a Chelf Swyddogaethol). Roedd yr arddangosfa o Gymru yn SOFA dan ofal curadur Canolfan Grefft Rhuthun yn cynnwys gwaith gan chwech artist o Gymru. • Cyflwyno cynllun grant newydd ar gyfer prosiectau i gydnabod Blwyddyn Anabledd Ewropeaidd. Gwnaed y dyfarniadau cyntaf i raglen y Celfyddydau ac Anabledd ym 2003/04. TA R G E D A U A L LW E D D O L A R G Y F E R 2 0 0 3 / 0 4 • Cwblhau cam olaf Strategaeth Gyfalaf CCC a gyllidir gan y Loteri. • Lansio y Noson Gwobrau Cymru Greadigol gyntaf i dynnu sylw at ymgeiswyr llwyddiannus Cynllun Gwobrau Cymru Greadigol a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. • Ehangu’r cynllun llwyddiannus, “Noson Allan”, i etholaethau Cymunedau’n Gyntaf. • Datblygu ac ymgynghori ynghylch cynigion CCC i fynd i’r afael ag anghenion hirdymor theatr iaith Saesneg yng Nghymru. • Adolygu a gweithredu trefniadau newydd ar gyfer Monitro Ansawdd Cyrff a Gyllidir gan Refeniw CCC. • Sicrhau 50 o berfformiadau gan Theatr Genedlaethol Cymru. • Sicrhau cyllid o’r sector breifat er mwyn ehangu Cynllun. Casglu CCC sydd eisoes yn un llwyddiannus. • Ymgynghori ynglyˆn â’r rowndiau cychwynnol o gyllid. ychwanegol i leoliadau’r celfyddydau tu allan i Gaerdydd yn ystod y cyfnod sy’n arwain at agor Canolfan Mileniwm Cymru. • Sicrhau cyllid ychwanegol i gleientiaid a fydd yn ymgartrefu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. • Dewis 10 cleient i’r Rhaglen Beilot ar gyfer Sefydliadau Celfyddydol Cynaliadwy. • Gweithredu argymhellion yr adolygiad annibynnol i strwythur uwch dîm rheoli CCC. • Cwblhau’r adolygiadau o Sefydliadau a Gyllidir gan Refeniw.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003>04

• Cryfhau rhwydwaith presennol y celfyddydau cymunedol. Rhoddodd CCC flaenoriaeth i Sefydliadau Celfyddydau Cymunedol o fewn ei raglen Loteri a chanfod cyllid i’w cefnogi ymhellach yn y cyllidebau presennol.

• Arwain datblygiad Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Deithiol Genedlaethol Gymraeg newydd gan benodi i’r swyddi allweddol a rhoi’r trefniadau yn eu lle ar gyfer taith y cynhyrchiad cyntaf. Cyhoeddwyd y penodiadau i Fwrdd y Theatr Genedlaethol ym mis Mai 2003 ac erbyn diwedd y flwyddyn roedd trefniadau’n barod ar gyfer y cynhyrchiad cyntaf o Yn Debyg Iawn i Ti a Fi.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Adroddiad Saudade Brazil

Fel rhan greiddiol o’i weithgarwch, parhaodd Celfyddydau Cymru Rhyngwladol i ddarparu cefnogaeth trwy Ymchwil Prosiect Rhyngwladol a Chronfeydd Prosiectau Rhyngwladol.Yn ystod y flwyddyn cefnogwyd ymweliadau ymchwil i Wlad yr Iâ, Latfia, Rwsia, y Weriniaeth Czech, Macedonia, Croatia, De Affrica, yr Ariannin, India,Tsieina, Chile a Ghana ynghyd â phrosiectau yn Estonia, Gwlad Pwyl, Awstralia, Canada, Sweden, Hwngari, Cuba, UDA, Brasil a Seland Newydd.

• Cytuno ar raglenni gwaith a phecynnau cyllido ar gyfer estyniad sylweddol i theatr mewn addysg. Diolch i gefnogaeth ychwanegol Llywodraeth Cynulliad Cymru, llwyfanwyd 1,078 o berfformiadau gan y cwmnïau Theatr Mewn Addysg i 65,787 o bobl ifanc.

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru gyflwyno opera i 35,272 o bobl ifanc a pharhaodd Cwmni Dawns Diversions gyda’u rhaglen addysg flaengar. Yn ogystal, bu 8,640 o ddisgyblion yn ymwneud â Resound, rhaglen Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

CYMRU GREADIGOL

Jeane Fabb - Prosiect Crwydro

Parhaodd y gwaith gyda llenyddiaeth i fod yn flaenoriaeth strategol i Gelfyddydau Cymru Rhyngwladol trwy gydol y flwyddyn. Bu llawer o gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru Dramor, sefydliad a leolwyd yn Aberystwyth sy’n cefnogi cyfieithu a chyhoeddi gwaith gan awduron Cymreig yn rhyngwladol.Tua diwedd y flwyddyn, cydweithiodd Celfyddydau Cymru Rhyngwladol a Llenyddiaeth Cymru Dramor i gynnal Cinio Llenyddol hynod lwyddiannus fel rhan o ddathliadau Dydd Gwˆyl Dewi Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharis. Roedd yr achlysur, a lywyddwyd gan Alun Pugh AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, yn dwyn sylw at waith Robin Llywelyn a Wiliam Owen Roberts, y cyhoeddwyd gwaith y ddau yn Ffrainc.Yn ystod y flwyddyn roedd gweithgarwch arall Llenyddiaeth Cymru Dramor yn cynnwys grantiau cyfieithu i amrywiaeth o gyhoeddwyr ynghyd â hyrwyddo awduron mewn gwyliau llenyddol ar digwyddiadau cyhoeddi allweddol ym Ewrop.

• Sicrhau Cynhadledd Flynyddol gyntaf lwyddiannus i CCC er mwyn caniatáu trafodaeth feirniadol o fewn sector y celfyddydau. Ym mis Mai cyfarfu dros 300 o gynadleddwyr ar gyfer “Y Celfyddydau yn y Canol” a’r araith gyhoeddus gyntaf gan y Gweinidog newydd dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh AC.


MESUR Y GWERTH CYNHELIR AROLWG BLYNYDDOL O SEFYDLIADAU CELFYDDYDOL A ARIENNIR GAN ARIAN REFENIW GAN ADRAN YMCHWIL CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU. AR GYFER Y CYFNOD 2002/03 CASGLODD YR AROLWG YSTADEGAU ODDI WRTH SEFYDLIADAU CELFYDDYDOL A ARIENNIR GAN ARIAN REFENIW (SAR). DATBLYGWYD SET O DDANGOSYDDION PERFFORMIAD O’R AROLWG HWN AC FE’U CYNHWYSIR YN Y TABL ISOD. Yn ogystal, ceir ystadegau o arolwg Omnibws Blynyddol Cymru, a gynhaliwyd gan Beaufort Research. Bydd canlyniadau arolwg SAR 2003/04 ar gael o ddechrau 2005. Cysylltwch ag Adran Ymchwil CCC os hoffech ragor o wybodaeth. Dangosyddion Perfformiad Trosiad sefydliadau’r celfyddydau a ariannwyd gan grantiau refeniw CCC Cyfanswm nifer a fynychodd perfformiadau, arddangosfeydd 1 a dangosiadau ffilm Cyfanswm nifer y cyfranogwyr mewn gweithdai, dosbarthiadau a gweithgarwch perfformio1 Nifer y cynyrchiadau, ffilmiau, cyhoeddiadau, gweithdai Cymraeg (heb gynnwys cyfnodolion)1 Mynychu/cyfranogi i weithgarwch celfyddydol a anelwyd at ysgolion/bobl ifanc1 Canran y boblogaeth oedolion sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol, o leiaf unwaith y flwyddyn (gan gynnwys mynd i’r sinema)2 Canran y boblogaeth oedolion sy’n cyfranogi i weithgarwch celfyddydol o leiaf unwaith y flwyddyn2

1

2002/03

2003/04

2004/05

2005/06

50,045,000 3,066,000 3,650,000

d/g 3,097,000

d/g 3,128,000

d/g 3,159,000

Targed Gwirioneddol

762,000 770,000 990,000 I ddod yn Ion 05

778,000

786,000

Targed Gwirioneddol

510 520 507 I ddod yn Ion 05

530

540

Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol

539,230 567,000 652,000 I ddod yn Ion 05 69% 70% 70% 69%

597,000

629,000

71%

71%

31%

31%

Targed Gwirioneddol

Targed Gwirioneddol

29% 29%

30% 27%

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru o Sefydliadau a Ariennir gan Arian Refeniw 2 Ffynhonnell: Arolwg Omnibus Cymru, Beaufort Research


Adroddiad Blynyddol 2003-2004