Page 1

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3


Delwedd clawr blaen: Cywaith Cymru • Artworks Wales: Order and Chaos gan David Annand. Llun: Brian Tarr Y dudalen hon: Diversions: Cwmni Dawns Cymru

“DONIAU AC EGNI’R SECTOR SY’N RHOI’R SICRWYDD PENNAF

Y B Y D D W N Y N L LW Y D D O ”


D AT G A N I A D Y C A D E I RY D D M A E C Y F R A N I A D P W E R U S Y C E L F Y D D Y D A U Y N G N G H Y M R U D R O S Y F LW Y D D Y N D D I W E T H A F W E D I AT E G U U N WA I T H Y N R H A G O R Y R A D D E W I D A’ R P O T E N S I A L P E N D A N T S Y D D G A N D D Y N T I G Y F O E T H O G I B Y W Y D Y G E N E D L , E I H U N I G O L I O N A’ I C H Y M U N E D A U Y M H E L L A C H . Llun: Brian Tarr

Gwaith Cyngor y Celfyddydau yw cynorthwyo i wireddu’r potensial hwnnw, i wneud popeth o fewn ei allu – yn uniongyrchol, gyda’i arian ac yn anuniongyrchol trwy eiriolaeth a dwyn perswâd – i werthfawrogi ac ehangu’r dychymyg a fynegir gan bobl a thalentau Cymru. Ar ôl blwyddyn o weithredu strwythur fewnol newydd y Cyngor a lawnsio Cefnogi Creadigrwydd, ei strategaeth pum mlynedd newydd, mae CCC mewn lle gwell yn awr o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol i gynorthwyo gyda’r dasg. Mae llawer o’r diolch am hynny yn ganlyniad i waith fy rhagflaenydd,

Sybil Crouch, a lywiodd y Cyngor yn ddiogel ac yn fedrus trwy rai o’r blynyddoedd mwyaf anodd.Yr ydym yn ddyledus iawn iddi hi ac i Frances Medley, a roddodd y gorau i’w swydd fel Dirprwy Prif Weithredwr yn ystod y flwyddyn. Mae’r strategaeth a adawon nhw ar eu hôl yn diffinio’r egwyddorion a’r amcanion a fydd yn ganllaw i’n gwaith ni. Cafwyd enghreifftiau dirifedi – y mae nifer ohonynt i’w cael yn yr adroddiad hwn – o’r rheswm pam y mae’n rhaid i ni gadw’r amcanion hynny’n fyw. Rhaid wrth fuddsoddiad newydd, yn enwedig nawr gan fod ffynonellau’r Loteri yn parhau i ostwng, er mwyn gwireddu potensial llawn y celfyddydau i gyfoethogi bywydau pawb yng

Nghymru, ac i gyfrannu i faes y celfyddydau ar lefel ryngwladol hefyd. Gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru rydym wedi dadwneud rhai o effeithiau gwaethaf y 1990au ond mae gwaith aruthrol eto i’w wneud. Gwaith y Cyngor fydd cyflwyno yn gyson yr achos cryfaf posibl ar gyfer y buddsoddiad newydd hwn o du Llywodraeth Cynulliad Cymru, llywodraeth leol, y sector breifat a’r cyhoedd fel ei gilydd, a rhaid peidio â bod yn swil yn ei gylch. Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol, fy ngobaith i yw y gallwn, gydag ymroddiad llwyr ein Prif Weithredwr, Peter Tyndall a’r holl staff, sicrhau fod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adeiladu galluoedd cryf a

strategol yn ganolog ac yn y rhanbarthau fel ei gilydd a bod CCC yn datblygu’n ganolfan o ddeallusrwydd awdurdodol am y celfyddydau yr ymddiriedir ynddo i roi gwasanaeth o ansawdd uchel yn gyson i’n holl gwsmeriaid ledled Cymru. Fe fyddwn hefyd yn ceisio cryfhau ein harbenigedd mewn gwahanol feysydd heb esgeuluso ffurfiau penodol ar gelfyddyd mewn byd artistig mwy cymhleth. Yn ogystal, ar ôl cymaint o newid, mae’n hanfodol ein bod yn casglu ynghyd gof sefydliadol. Wrth wneud ein penderfyniadau unigol, rhaid i ni bob amser gadw’r darlun cyflawn mewn cof gan gofio’n enwedig am ecoleg cynhyrchiad artistig a’r gwaith anodd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Doniau ac egni’r sector sy’n rhoi’r sicrwydd pennaf y byddwn yn llwyddo.

Geraint Talfan Davies Cadeirydd CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

1


A L LW E D D I R A G O R I A E T H

ADRODDIAD Y PRIF WEITHREDWR

Bu dechrau adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru, agoriad Oriel Davies yn y Drenewydd a ailenwyd ac a ailwampiwyd yn rhagorol, dechrau ar y gwaith o adeiladu theatr a chanolfan gelfyddydau newydd yng Nghasnewydd (y bu’n rhaid ei ohirio bron ar unwaith er mwyn datgloddio’r llong ganoloesol!) ailddatblygu Theatr Mwldan yn Aberteifi ac agor Crefft yn y Bae yng Nghaerdydd yn brawf o’r modd y bu i CCC gyflawni ei ymrwymiad i ddarparu rhwydwaith o ganolfannau i’r celfyddydau ledled Cymru sydd o ansawdd uchel ac sy’n hygyrch i holl bobl Cymru.Yn ogystal, mae cynlluniau ar gyfer theatrau/canolfannau y celfyddydau eisoes ar y gweill yng Nghaernarfon a Wrecsam. Yr oedd rôl CCC wrth ddatblygu’r celfyddydau i’w weld yn glir. Gwnaed cynnydd gwych yn ystod y flwyddyn gyda’r broses o greu Theatr Genedlaethol Cymru newydd.Yn ogystal, cefnogodd CCC sefydlu Gwobr Artes Mundi ar gyfer y celfyddydau gweledol a chafodd ei lawnsio ym Mis Hydref. Paratowyd hefyd ar gyfer presenoldeb cyntaf Cymru yn Biennale Fenis. Mae i Gymru draddodiad cryf o gyfranogi ym myd y celfyddydau a chelfyddydau yn y gymuned. Atgyfnerthwyd hyn yn ystod y flwyddyn trwy lawnsio tair prosiect beilot newydd i bobl ifainc yn Abertawe, Powys a Threfynwy a chreu pump cwsmer refeniw newydd ym maes celfyddydau cymunedol. Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymateb CCC i un o’n sialensau mwyaf – gostyngiad sylweddol yn arian y Loteri, arian sy’n allweddol i lawer yn sector y celfyddydau cymunedol. Gwaith sefydliadau celfyddydau cymunedol yn rhai o’r cymunedau

Tim Davies a enwebwyd ar gyfer Gwobr Artes Mundi

M A E ’ R A D R O D D I A D B LY N Y D D O L H W N Y N D AT H L U B LW Y D D Y N O G Y F L AW N I A D A R R A N Y C E L F Y D D Y D A U Y N G N G H Y M R U . B U I C H W Y S T R E L L I A D S Y LW E D D O L O A R I A N O D D I W R T H L LY W O D R A E T H C Y N U L L I A D C Y M R U R O I M O M E N T W M O ’ R N E W Y D D I H Y D E R A C H R E A D I G R W Y D D E I N H A RT I S T I A I D A’ N S E F Y D L I A D A U C E L F Y D D Y D O L . R O E D D H I ’ N F LW Y D D Y N B RY S U R I C C C H E F Y D G Y D A L AW N S I A D E I N C Y N L L U N I A U G R A N T N E W Y D D , E I N S T R AT E G A E T H D AT B LY G U P U M M LY N E D D – C E F N O G I C R E A D I G R W Y D D A’ N R H A G L E N G Y FA L A F A R S A F L E F W YA F E R I O E D .

Crefft yn y Bae

Llun: Brian Tarr

2

mwyaf difreintiedig yng Nghymru sydd wrth wraidd adfywiad y cymundedau hyn. Yn ystod y flwyddyn, gorffennodd CCC ei adolygiad o gefnogaeth i lenyddiaeth, gan roi trefniadau ar waith i drosglwyddo’r gefnogaeth ar gyfer cyhoeddi i Gyngor Llyfrau Cymru ac i’r Academi Gymreig ddarparu cefnogaeth i awduron ar ran y Cyngor. Bydd y trefniadau hyn yn gymorth i ganolbwyntio gwybodaeth ac arbenigedd tra’n dileu gorgyffwrdd a dyblygu. Mae CCC yn ymwybodol iawn o’r angen i godi proffil gwaith ac awduron o Gymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. Cadarnhawyd dyfodol dau o wyliau blaenllaw Cymru – Gw ˆyl Jazz Aberhonddu ac Eisteddfod Llangollen – ac maent yn mynd o nerth i nerth dan


Ni fyddai unrhyw gofnod o’r flwyddyn yn gyflawn heb gyfeirio at waith Sybil Crouch, y daeth ei chyfnod fel Cadeirydd i ben ar 31 Mawrth, a Frances Medley, Dirprwy Prif Weithredwr, sydd bellach wedi symud at Menter Diwylliannol. Chwaraeodd y ddwy ran allweddol yn nhrawsnewidiad CCC, ac ar nodyn bersonol, hoffwn ddiolch iddynt hefyd am y gefnogaeth aruthrol a gefais i ganddynt. Cyhoeddwyd gan y Gweinidog mai Geraint Talfan Davies fyddai olynydd Sybil, ac mae eisoes

yn amlwg y bydd ei gariad at y celfyddydau, ei wybodaeth a’i brofiad yn gymorth iddo sicrhau bod CCC yn cynnal y momentwm a adeiladwyd o dan arweinyddiaeth Sybil. Hoffwn ddiolch hefyd i bob aelod o’r staff a’r Cyngor am eu hymdrechion a fu cymaint yn fwy nag y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl. Mae eu hymroddiad i’r celfyddydau yng Nghymru o fudd aruthrol i CCC. Prif thema yr adroddiad eleni yw’r modd mae’r celfyddydau yng Nghymru’n blodeuo mor llwyddiannus. Gwaith CCC yw cefnogi ein hartistiaid a’n sefydliadau celfyddydol er mwyn eu galluogi i gyflwyno celfyddydau o ansawdd byd eang ynghyd â’r holl fanteision eraill a ddug y celfyddydau i bobl a chymunedau Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn ddathliad hyderus o lwyddiant yr artistiaid a’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac nid ydym yn ymddiheurio am hynny. Gosodwyd seiliau cadarn gennym a rhaid i ni yn awr chwilio am fuddsoddiad

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Opera Cenedlaethol Cymru: Jenufa gan Janacek gyda’r diweddar Susan Chilcott

arweinyddiaeth newydd. Penododd cwmni Opera Cenedlaethol Cymru ei harweinydd ifanc newydd Tugan Sokhiev a chwblhaodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC flwyddyn lwyddiannus arall â pherfformiad prin o 8fed Symffoni enfawr Mahler. Llwyddodd y ddau sefydliad yma ynghyd â Diversions, ein cwmni dawns cenedlaethol ardderchog, atgyfnerthu eu gweithgarwch prif ffrwd gyda gwaith o ansawdd uchel ymhlith pobl ifainc a chymunedau.

pellach er mwyn gwireddu potensial eu creadigrwydd.

Peter Tyndall Prif Weithredwr

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

3


Ho Ho Ho. Cynhyrchiad Theatr y Sherman ar daith yn Theatr Gwynedd

4 A L LW E D D I R A G O R I A E T H


GOGLEDD CYMRU ELENI TRODD CYNLLUNIAU Y BU HEN FREUDDWYDIO AMDANYNT YN REALITI I A M RY W O S E F Y D L I A D A U C E L F Y D D Y D O L A R H Y D A L L E D G O G L E D D C Y M R U . B U I E R A I L L G A E L A I L C H WA O W Y N T Y N D I LY N C Y F N O D O G L O R I A N N U A C A D O LY G U M E W N O L .

Gwnaed cynnydd sylweddol hefyd yn y fenter hanesyddol o greu Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Gweithredodd swyddfa CCC Gogledd Cymru fel sail weinyddol i lawnsio Theatr Genedlaethol Cymru gan arwain y ffordd wrth benodi Bwrdd Rheoli’r cwmni newydd a’i Gadeirydd, Lyn T Jones.

gwahanwyd y theatr oddi wrth y cwmni cynhyrchu a sefydlwyd cwmni theatr Gymraeg newydd, Llwyfan Gogledd Cymru, i fynd â gwaith ar daith i ganolfannau bach a chanolig eu maint na fydd yn cael eu gwasanaethu ar y cychwyn gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Gyda dyfodiad Theatr Genedlaethol Cymru, yr oedd hi’n bryd ystyried dyfodol Theatr Gwynedd, yn enwedig cangen gynhyrchu’r cwmni. Yn ystod y flwyddyn,

Canolfan Grefft Rhuthun: Catrin Howell: Kelpies

Enghraifft dda o hyn yw Cwmni Tref Caernarfon pan fu i’w breuddwyd uchelgeisiol o sefydlu Canolfan Menter Creadigol droi’n realiti wrth iddynt sicrhau ariannu sylweddol o Ewrop oedd gyfwerth â grant Loteri Cyfalaf CCC. Bydd y ganolfan, a leolir ar safle hardd Doc Fictoria yng Nghaernarfon, yn cynnwys man perfformio, stiwdio ddawns, cyfleusterau ymarfer, oriel a siop a bydd hefyd yn darparu swyddfeydd i fusnesau creadigol yn y dref. Bwriedir dechrau ar y gwaith adeiladu yn nhymor yr hydref 2003.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

5


(parhad)

Mewn mannau eraill yn y rhanbarth, aeth sefydliadau ati i gymryd camau pwysig i ddiogelu eu datblygiad yn y dyfodol. Bu i lwyddiant Eisteddfod Rhyngwladol Gerddorol Cymru 2002, o dan ei strwythur reoli newydd, nodi diwedd ar gyfnod stormus ac ansicr ac yn yr un modd fe ail-drefnwyd ac ail-lawnsiwyd Gwˆyl Sesiwn Fawr Dolgellau ar gyrion y dref. Parhaodd Canolfan Grefft Rhuthun i ragori, gan fynd â mwy o arddangosfeydd ar daith tu allan i Gymru nag unrhyw ganolfan arall yng Nghymru. Cafodd Clwyd Theatr Cymru ganmoliaeth uchel am ei gynhyrchiad o To Kill a Mocking Bird a fu ar daith ac a enillodd Wobr Theatr mawr ei bri y Manchester Evening News. Aeth y gwaith hollol hanfodol a wneir gan unigolion a sefydliadau ar lawr gwlad o nerth i nerth.

O’i gartref newydd yn y Pafiliwn yn Llangollen mae Dawns Gogledd Ddwyrain Cymru wedi sefydlu rhwydwaith eang o hyfforddi, gweithdai a chyfleoedd i berfformio dawns. Yng Ngwynedd, dechreuodd

Ysbyty Glan Clwyd

GOGLEDD CYMRU

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

Gwen Lasarus ei swydd fel Gweithiwr Prosiect Datblygu Llenyddiaeth, gan hyrwyddo llenyddiaeth ymhlith yr hen a’r ifanc ar draws ystod eang o gymunedau gwahanol iawn i’w gilydd.

Agorwyd y Ganolfan Trin Canser newydd yn swyddogol yn Ysbyty Glan Clwyd, sy’n cynnwys prosiect celf cyhoeddus mawr a welir yn yr ystafelloedd triniaeth yn ogystal ag yn y mannau cyhoeddus. Mae Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych yn awr yn datblygu Strategaeth y Celfyddydau Mewn Iechyd er mwyn galluogi defnyddio’r celfyddydau yn yr ysbytai eraill sydd dan ofal yrYmdddiriedolaeth gan y sylweddolwyd eu bod yn effeithiol iawn i leihau yr amser a gymer cleifion i wella a’u bod yn codi calon y staff a’r cleifion. Cyflawnwyd anferth o waith yn y rhanbarth yn ystod 2002-2003. Gyda chefnogaeth CCC, mae sefydliadau wedi cymryd camau sylweddol ymlaen yn eu datblygiad. Ceir llawer i adeiladu arno – a chyda sylfaen gref a chadarn yn ei lle gallwn edrych ymlaen at dwf pellach ym maes y celfyddydau ledled y rhanbarth.

Gwaith gan Lucy Casson yn Oriel Mission, Abertawe

6


C A N O L B A RT H A GORLLEWIN CYMRU G WA S A N A E T H A S W Y D D FA C C C C A N O L B A RT H A GORLLEWIN CYMRU LU O UNIGOLION A SEFYDLIADAU CELFYDDYDAU CYMUNEDOL FFYNIANNUS SY’N SICRHAU BOD Y CELFYDDYDAU A R WA I T H LEDLED SIR BENFRO, POWYS, NEDD A PHORT TALBOT, C E R E D I G I O N , S I R G A E R F Y R D D I N A C A B E RTAW E .

Mae’r sefydliadau hyn, sy’n gwasanaethu rhanbarth ddaearyddol fwyaf CCC, yn sicrhau y ceir amryfal gyfleoedd i fwynhau a chymryd rhan mewn ystod helaeth o wahanol ffurfiau ar gelfyddyd. Mae Tregaron yn gartref i un sefydliad o’r fath sef Celfyddydau Cambria, y mae ei statws a’i enw da’n parhau i dyfu yn sgîl yr wˆyl flynyddol a’r rhaglen o weithdai, perfformiadau ac arddangosfeydd a gynhelir ar hyd y flwyddyn.Yn yr un modd mae cymunedau Llanfyllin a Rhaeadr, i enwi ond dau, wedi elwa o’r gwaith rhagorol a wnaed gan Arts Connection a CARAD (Celfyddydau Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch). Maent, ill dau, yn esimaplau gwych o’r hyn sy’n bosibl, a dyfarnwyd statws cwsmer refeniw iddynt yn ystod y flwyddyn. Ymhellach i’r de yn Sir Gaerfyrddin, cafodd Rhydaman wythnos anhygoel ym mis Mehefin 2002 pan ddaeth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i’r dref am wythnos breswyl gan fynd â cherddoriaeth (yn llythrennol!) i gartrefi pobl anabl a phobl sy’n gaeth i’w cartrefi, heb sôn am y pwll nofio lleol. Uchafbwynt y dathliadau oedd cyngerdd gyda’r gerddorfa ynghyd ag aelodau o fand pres y dref, y gymdeithas gorawl a rhyw 70 o blant ysgol lleol. Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Rhydaman

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

7


A L LW E D D I R A G O R I A E T H

C A N O L B A RT H A G O R L L E W I N C Y M R U

Cywaith Cymru • Artworks Wales: Order and Chaos gan David Annand. Llun: Brian Tarr

8

Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i rai o’r gwyliau mwyaf yn Ewrop ac ym 2002 cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyˆ Ddewi. ˆ yl y Gelli 50,000 Denodd W o ymwelwyr a dyma hefyd lle cynhaliwyd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2002, a enillwyd gan Grahame Davies am Cadwyni Rhyddid a Stevie Davies am The Element of Water. Sicrhawyd dyfodol Gwˆyl Jazz Aberhonddu diolch i ymyrraeth amserol Cynulliad Llywodraeth Cymru a chyda’r weinyddiaeth newydd yn ei lle, mae’r wˆyl yn edrych ymlaen at ddenu cynulleidfaoedd o bob cwr o’r ˆ yl byd. Unwaith eto, bu i W Abertawe gynnig gwledd o gerddoriaeth rhyngwladol gan gynnwys y pianydd a’r arweinydd byd-enwog Vladimir Ashkenazy. Parhaodd Gwˆyl Presteigne i roi llwyfan i waith rhai o gyfansoddwyr ifanc mwyaf cyffrous Prydain yn sgîl ei rhaglen flaengar o berfformiadau, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Ymhlith y canolfannau craidd sydd eisoes yn bodoli, mae

(parhad)

Theatr Mwldan ac Oriel Davies wedi cael buddsoddiad sylweddol trwy grantiau Loteri Cyfalaf CCC. Aeth y gwaith yn ei flaen trwy gydol y flwyddyn yn Theatr Mwldan ar adeiladu Canolfan Gyfryngau newydd ac ail awditoriwm ac ym mis Ionawr 2003, agorodd Oriel Davies y rhan gyntaf o’r oriel ar ei newydd wedd.Yn dystiolaeth pellach o ymrwymiad CCC i gryfhau strwythur yr orielau, ychwanegwyd pedair oriel newydd a arianwyd gan arian refeniw at bortffolio cwsmeriaid CCC, â thair ohonynt wedi’u lleoli yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru – Y Tabernacl ym Machynlleth, Oriel Neuadd y Frenhines, Arberth ac Oriel Mission yn Abertawe. Ledled y rhanbarth mae’r celfyddydau’n ffactor er hybu uno ac adfywio cymunedau boed mewn treflan ddiwydiannol neu bentref bach gwledig. Maent yn cynorthwyo i feithrin cymeriad lleol ac i hyrwyddo ymdeimlad o berthyn. Gallwn ymfalchïo yn helaethrwydd ac ansawdd y gwaith a wneir – mae’n achos dathlu.


CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3 9

Theatr Brycheiniog

Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru: Frieda and Diego (Cwrs Preswyl yr Haf, Aberystwyth)

SWICA Abertawe MAS 2002


10

A L LW E D D I R A G O R I A E T H


DE CYMRU

Cynhyrchiad Volcano Theatre o Talk Sex Show. Llun: Brian Tarr

Ym mis Ebrill 2002, dechreuodd y gwaith adeiladu ar brosiect Loteri Cyfalaf mawr arall i CCC sef Canolfan Celfyddydau a Theatr Casnewydd. Prin fis yn ddiweddarach bu’n rhaid gohirio’r gwaith adeiladu am 42 wythnos ar ôl i weddillion llong ganoloesol ddod i’r golwg wrth gloddio ar gyfer pwll y gerddorfa. Gyda chadwraeth y llong yn ddiogel, diolch i ariannu o du Llywodraeth Cynulliad Cymru, ailddechreuwyd ar y gwaith a phennwyd mis Medi 2004 fel y dyddiad newydd ar gyfer cwblhau’r gwaith. Eleni hefyd gwelwyd cwblhau Crefft yn y Bae sy’n gartref

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

newydd a pharhaol i Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru. Hen warws a adnewyddwyd yn ofalus ym Mae Caerdydd yw’r lleoliad ac enwebwyd yr adeilad am Wobr Medal Aur Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW), sy’n fawr ei bri. Ymhell o afael llwch a rhwbel y safleoedd adeiladu, yr oedd myrdd o weithgarwch artistig yn digwydd mewn treflannau ar hyd ac ar led De Cymru. Yn Rhondda Cynon Taf, nod y prosiect Brass Banding oedd gwyrdroi traddodiad a diwylliant y bandiau pres oedd ar drau yng Nghymoedd y De trwy greu mwy o gyfleoedd i

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

Canolfan Mileniwm Cymru

G W E LW Y D C O D I A D E I L A D E I C O N I G C A N O L FA N M I L E N I W M C Y M R U Y N Y S T O D Y F LW Y D D Y N G Y N TA F E R S S E F Y D L U S W Y D D FA C C C D E C Y M R U N E W Y D D . W RT H I ’ R G WA I T H A D E I L A D U F Y N D R H A G D D O , Y M G O R F F O R A I ’ R E I C O N H W N Y M D E I M L A D O’R NEWYDD O HYDER AC OPTIMISTIAETH YN Y CELFYDDYDAU LEDLED CYMRU.

bobl ifainc ddysgu offerynnau a’u hannog i ymuno â band iau. Chwe mis ar ôl lawnsio’r cynllun roedd dros 180 o blant o 28 ysgol gynradd wahanol yn ymwneud â’r prosiect ac yn haf 2003, camodd Band Pres Ifanc y Rhondda yn dalog ar lwyfan Institiwt Cwmaman ar gyfer eu cyngerdd cyntaf.

11


12

(parhad)

Symposiwm Cerflunwaith Rhyngwladol: Anthony Rogers. Llun: Ian Irving

DE CYMRU

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

Ym Mlaenau Gwent, bu i gefnogaeth CCC i Raglen Celfyddydau yn y Gymuned yr awdurdod lleol ddatgloi lefelau sylweddol o arian Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd ac arweiniodd hyn at greu rhaglen dair blynedd a gyflogai tîm arbenigol o dri ymarferwr ym maes y celfyddydau.Trwy ddatblygu gweithdai a sesiynau ymarferol a darparu cyfleoedd hyfforddi, disgwylir bydd y cynllun yn gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd bywyd ac adfywiad economaidd yr ardal. Cyfranogaeth o du’r gymuned leol sydd wrth wraidd Cymdeithas Gwˆyl Maindee yng Nghasnewydd. Yn ystod yr wythnosau a arweiniai at yr wˆyl flynyddol fywiog a lliwgar, trefnodd y gymdeithas gyfres o 90 o weithdai a ddenodd rhyw 400 o bobl o amryw gefndiroedd ethnig i gymryd rhan. Creodd y gwahanol grwpiau amrywiaeth o gewri hynod ac ymunwyd â’r

dawnswyr a’r drymwyr ar gyfer gorymdaith y carnifal trwy strydoedd Maindee. Cwmni arall sydd hefyd wedi’i leoli yng Nghasnewydd yw Cwmni Ballet Gwent a bu’r Prosiect Udance 2003 a gynhaliwyd ganddynt yn llwyddiant mawr. Roedd yn gyfle gwych i ddawnswyr ifainc weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y maes a chafodd effaith fawr ar yr holl rai a gymerodd ran wrth i’w gallu a’u hyder gryfhau wrth i’r wythnosau fynd rhagddynt. Lai na phum milltir i ffwrdd, yn nhref hanesyddol Caerllion, bu i ariannu CCC alluogi’r fforwm twristiaeth lleol lawnsio ei Symposiwm Cerflunwaith Rhyngwladol gyntaf. Daeth tua 10,000 o ymwelwyr i’r digwyddiad a barodd am ddeng niwrnod. Gwyliwyd yn syn wrth i gerflunwyr o Brydain, Ewrop a Tsieina drawsnewid boncyffion

coed yn greadigaethau celf. Y gobaith yw troi’r symposiwm yn ddigwyddiad blynyddol a fydd yn rhoi Caerllion ar y map fel ffocws i weithgarwch artistig. Ychwanegwyd ymhellach at dwf statws rhyngwladol Music Theatre Wales pan wnaed y cwmni yn Gwmni Cysylltiol i’r Tyˆ Opera Brenhinol – y tro cyntaf erioed i’r Tyˆ Opera Brenhinol lunio perthynas strategol â chwmni celfyddydau perfformio arall. O Covent Garden i Blaenclydach, Bae Caerdydd i Abertyleri, mae dylanwad y celfyddydau yn Ne Cymru i’w gweld yn glir – boed yn y gymuned leol neu ar y llwyfan rhyngwladol. Yn sail i’r holl brosiectau hyn – ac i’r amryw o brosiectau eraill a ariennir gan CCC ceir gweledigaeth o safon, amrywiaeth a chyfleoedd i artistiaid, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.


S T R AT E G A E T H A M AT E R I O N G W E I T H R E D O L B U D AT B LY G U P R O S I E C TA U A D E I L A D U S Y LW E D D O L Y N Y S T O D Y F LW Y D D Y N Y N B R AW F O Y M R W Y M I A D PA R H A U S C C C T U A G AT G RY F H A U S E I LWA I T H Y C E L F Y D D Y D A U Y N G N G H Y M R U . Y R O E D D PA R H A U Â G WA I T H S T R AT E G O L A P H O L I S I C C C Y N F O D D I D D AT B LY G U Y M H E L L A C H Y S E C T O R G E L F Y D D Y D A U IACH A DEINAMIG A FODOLAI EISOES YNG NGHYMRU.

Land Touch the Sky gan David Tress

Mae’r gwaith a wneir gan y Tîm Ymchwil yn llywio llawer o ddatblygiadau polisi CCC. Yr oedd y prosiectau a ymgymerwyd gan y Tîm yn ystod 2002-03 yn cynnwys arolwg sylweddol fwy o Sefydliadau CCC a Ariennir gan Arian Refeniw (gan roi trosolwg gynhwysfawr o’u gweithgareddau) a phrosiect ymdrin â data ar draws Cymru gyfan a olygai ddadansoddi data swyddfa docynnau o 21 oedfan.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Parhaodd arolwg blynyddol Omnibws Cymru i ddarparu modd gwerthfawr o fonitro lefelau cyfranogi a mynychu’r celfyddydau yng Nghymru. Am y tro cyntaf, cyflwynodd arolwg 2002 gyfres o ddatganiadau agweddol.Yr oedd y rhain yn dangos bod diddordeb iach yn y celfyddydau â dwy ran o dair o’r rheiny a holwyd yn cytuno bod y celfyddydau yn chwarae rhan werthfawr ym mywyd y wlad ac y dylai’r celfyddydau a phrosiectau diwylliannol gael eu hariannu gan arian cyhoeddus. Gellir defnyddio’r holl ffeithiau a ffigyrau hyn i ddadlau’r achos dros y celfyddydau. I’r perwyl hwn, cyhoeddodd y Tîm Ymchwil Mae’r Celfyddydau’n Gweithio, llawlyfr o ffeithiau a ffigyrau allweddol gall pawb sy’n gweithio ym maes y celfyddydau yng Nghymru ei ddefnyddio wrth eiriol ar eu rhan. Comisiynwyd arolwg ymchwil gan Dasglu y Celfyddydau a Phobl Ifainc i ymchwilio i dueddiadau pobl ifainc rhwng 11-15 oed wrth fynychu a chyfranogi i’r celfyddydau.Yn ogystal â chanfyddiadau prosiect Ymchwil Playtrain casglwyd gwybodaeth helaeth a fydd yn cynorthwyo i dargedu meysydd i’w datblygu yn y dyfodol. Fel cydnabyddiaeth o

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

13


14

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

S T R AT E G A E T H A M AT E R I O N G W E I T H R E D O L

(parhad)

bwysigrwydd y gwaith sydd i’w wneud yn y maes hwn, penodwyd Swyddog Datblygu Strategol penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda Thasglu y Celfyddydau a Phobl Ifainc yn ogystal â datblygu grwpiau ymgynghori gyda phlant a phobl ifainc ledled Cymru. Gan aros ym maes pobl ifainc, gwnaed cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i Theatr Mewn Addysg. Cytunwyd ar strategaeth uchelgeisiol sydd â’r nod o gyflwyno perfformiad Theatr Mewn Addysg i bob plentyn yng Nghymru ym mhob un o’r cyfnodau addysg allweddol. Er mwyn blaenoriaethu cyfnod cyntaf y datblygiad hwn, o fis Rhagfyr 2002, yr oedd £800,000 ychwanegol ar gael i’r wyth cwmni Theatr Mewn Addysg a ariennir gan arian refeniw. Yr oedd ariannu ar gael i ddiwallu anghenion niferus ac amrywiol sector hyfforddi’r celfyddydau hefyd. Bu i gynllun newydd CCC, Datblygiad Proffesiynol: Hyfforddiant alluogi nifer o artistiaid unigol ac aelodau sefydliadau celfyddydol i fynychu cyrsiau hyfforddi yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor. Yn ogystal, trefnodd Hyfforddiant Celfyddydau Cymru y Gynhadledd Hyfforddiant Celfyddydau gyntaf ar gyfer Cymru gyfan yn Llandudno a dechreuwyd ar waith ymchwil i’r ddarpariaeth hyfforddi gyfredol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru – prosiect a gomisiynwyd ar y cyd rhwng CCC ac ELWa. Gwelwyd dechrau Blwyddyn Amrywiaeth Ddiwylliannol yn y Celfyddydau yn y DU ym Mis Mehefin 2002. Rhoddwyd hwb pellach i lawnsiad y dathliadau yng Nghymru yn sgîl y cyhoeddiad bod Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi arian ychwanegol er mwyn sefydlu Cynllun Amrywiaeth Ddiwylliannol newydd. Cyllidodd y cynllun ystod eang o brosiectau ac yr oedd yn arbennig o gefnogol i nifer o artistiaid Du ac Asiaidd sydd heb gael eu cynrychioli’n ddigonol wrth ddyfarnu grantiau yn y gorffennol. Trwy gydol y flwyddyn cydweithiodd CCC ac Awdurdod Datblygu Cymru yn agos i sefydlu blaenoriaethau cyffredin ar gyfer y diwydiannau creadigol

yng Nghymru gan lunio cytundeb tair blynedd i ariannu ar y cyd wasanaeth mentora hynod lwyddiannus y Menter Diwylliannol. Cryfhawyd rhwydwaith y celfyddydau cymunedol ymhellach yn sgîl mabwysiadu pum sefydliad yn gwsmeriaid refeniw newydd. Roedd 2002-03 yn flwyddyn o dorri pob record i Gynllun Teithio Cymunedol CCC Noson Allan a alluogodd 187 o sefydliadau cymunedol i hyrwyddo 374 o ddigwyddiadau gan ddenu cyfanswm cynulleidfaoedd o fwy na 25,000. Bu’n flwyddyn dda i gynllun blaengar benthyciadau di-log CCC sef Cynllun Casglu a alluogodd 1,172 o bobl i brynu gwaith celf a chrefft gyfoes o’r 71 oriel a gredydwyd. Ers ei gychwyn 20 mlynedd yn ôl, mae ymron i 20,000 o bobl wedi defnyddio’r cynllun, gan brynu gwerth cyfanswm o £6.5 miliwn o weithiau celf a chrefft. Ni fyddai’r Cynllun Casglu yn bodoli o gwbwl heb gefnogaeth yr orielau sy’n cymryd rhan yn y cynllun hwn. Mae’r bartneriaeth hon yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Mewn gwirionedd, y partneriaethau a feithrinir rhwng CCC a’r amryw sefydliadau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y mae’n cydweithio â nhw yn Nghymru, y DU a thramor yw’r allwedd i lwyddiant cynaladwy y celfyddydau yng Nghymru. Mae’r 1,025 o gynlluniau a ariennir gan CCC s’yn dod i gyfanswm o £26,870,000 ac a restrir yn adran Ffigurau yr adroddiad yma yn adlewyrchu ystod a chryfder y gwaith yr ymgymerwyd ag ef ledled y gymuned gelfyddydol yng Nghymru yn ystod 2002-03. Roedd y cynnydd sylweddol i’n cyllid o du Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hwb enfawr i’r achos. Gyda chwa o’r newydd o optimistiaeth a brwdfrydedd, mae CCC yn edrych ymlaen at fynd o nerth i nerth gyda’r weledigaeth a geir yn Cefnogi Creadigrwydd ein Strategaeth Datblygu’r Celfyddydau Dros Bum Mlynedd “sector celfyddydol deinamig a chreadigol i Gymru: y wlad lle y dymunir ymarfer a phrofi’r celfyddydau.”


CELFYDDYDAU RHYNGWLADOL CYMRU

Eisteddfod Rhyngwladol Gerddorol Cymru

M A E C E L F Y D D Y D A U R H Y N G W L A D O L C Y M R U Y N B A RT N E R I A E T H R H W N G C C C A C H Y N G O R P RY D E I N I G C Y M R U . G W E I T H I R I H Y R W Y D D O G W Y B O D A E T H A M DDIWYLLIANT CYFOES O GYMRU AC I ANNOG CYFNEWID A CHYDWEITHIO RHYNGWLADOL.

Bu Lisa Jên Brown, perfformiwr cyson gyda Theatr Bara Caws, yn un o’r artistiaid i elwa ar gefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Yn ystod yr haf cymerodd hi ran yn Salted oedd yn gydgynhyrchiad theatr rhyngwladol a ystyriai faterion yn ymwneud â iaith ac hunaniaeth sy’n wynebu amryw o gymunedau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop.

RIPE: RevolUn

Fel rhan o’r wˆyl UK in Quebec, buddsoddodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yng nghreadigaeth RevolUn sef perfformiad/celfwaith fideo newydd a greuwyd ac a berfformiwyd gan Marc Rees a’r coreograffydd enwog o Ganada, Benoit Lachambre. Cafwyd cyllido am dair blynedd i Lenyddiaeth Cymru Tramor ddatblygu adnodd rhyngrwyd amlieithog i hyrwyddo awduron a llenyddiaeth o Gymru. Sefydliad sy’n gweithio i

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

hyrwyddo cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg yw Llenyddiaeth Cymru Dramor, sy’n gyfrifol am y wefan. Nodwedd a welir dro ar ôl tro yng ngwaith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yw’r modd y mae nifer o brosiectau ‘unwaith yn unig’ wedi arwain at gydweithio pellach rhwng artistiaid a sefydliadau yng Nghymru ac artistiaid a sefydliadau cyfatebol yn rhyngwladol. Dyma a ddigwyddodd yn achos Cerddoriaeth Cymunedol Cymru a wahoddodd artistiaid hip-hop o’r Ffindir, Gwlad Groeg a’r Eidal i gymryd rhan yn eu gwˆyl flynyddol, Compass Point ym 2002.Yn sgîl hyn, gwahoddwyd nifer o artistiaid dinesig blaenllaw Cymru i recordio a pherfformio dramor. Yn yr un modd deilliodd taith i Gymru i gwmni dawns o Japan, Idevian Crew, ym mis Mai/ Mehefin 2002 yn uniongyrchol

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

o’r cydweithio agos a fu rhwng Diversions a’r coreograffydd Shigehiro Ide yn ystod Gwˆyl Japan 2001 oedd yn brosiect a arianwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ym mis Awst 2002 symudodd tîm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o swyddfa CCC yng Nghaerdydd i swyddfeydd newydd yn yr un adeilad â Chyngor Prydeinig Cymru yng Nghaerdydd ac aethpwyd ati yn syth i ailgynllunio ein gwefan www.wai.org.uk

15


16

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

M E S U R Y G W E RT H Ym 2002/03 sefydlodd Cyngor Celfyddydau Cymru Adran Ymchwil newydd a roddodd yr Arolwg Blynyddol diwygiedig o Sefydliadau Celfyddydol a Ariennir gan Arian Refeniw ar waith (SAR). Casglodd yr arolwg ystadegau ar gyfer y cyfnod 2001/02 o’r 119 cwsmer yr oedd Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd yn eu hariannu ar sail flynyddol. Datblygwyd set o ddatganiadau perfformiad o’r arolwg hwn ac fe’u cynhwysir yn y tabl isod. Ceir ystadegau o arolwg Omnibws Blynyddol Cymru, a gynhaliwyd gan Beaufort Research. Bydd canlyniadau arolwg SAR 2002/03 ar gael o ddiwedd 2003. Cysylltwch ag Adran Ymchwil CCC os hoffech ragor o wybodaeth. Dangosyddion Perfformiad Trosiad sefydliadau’r celfyddydau a ariennir gan grantiau refeniw CCC Cyfanswm nifer a fynychodd perfformiadau, arddangosfeydd a dangosiadau ffilm1 Cyfanswm nifer y cyfranogwyr mewn gweithdai, dosbarthiadau a gweithgarwch perfformio1 Nifer y cynyrchiadau, ffilmiau, cyhoeddiadau, gweithdai Cymraeg (heb gynnwys cyfnodolion).1 Mynychu/Cyfranogi i weithgarwch celfyddydol a anelwyd at ysgolion/bobl ifainc1 Canran y boblogaeth oedolion sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol, o leiaf unwaith y flwyddyn (gan gynnwys mynd i’r sinema).2 Canran y boblogaeth oedolion sy’n cyfranogi i weithgarwch celfyddydol o leiaf unwaith y flwyddyn.2

Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol

2001/02 £50,431,862 d/g 3,036,000 d/g 754,691 d/g 495 d/g 512,269 d/g 68% d/g 23%

2002/03

2003/04

2004/05

3,066,000

3,097,000

3,128,000

762,000

770,000

778,000

510

520

530

539,230

567,000

597,000

69% 70% 29% 29%

70%

71%

30%

31%

1

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru o Sefydliadau a Ariennir gan Arian Refeniw Ffynhonnell: Arolwg Omnibus Cymru, Beaufort Research

2

Yn ystod 2002/03 datblygodd CCC systemau er mwyn gweinyddu’n fwy effeithiol.Yn ogystal, rhoddodd Tîm Monitro newydd CCC systemau monitro ariannol ar waith a’u gweinyddu.Yn ystod y flwyddyn hefyd cynhyrchwyd systemau ar gyfer cofnodi adroddiadau Canlyniadau Cyfranogi a Mynychu ar gyfer prosiectau a ariennir gan y Loteri.Ym 2003/04 bydd CCC yn parhau i ddatblygu gweithdrefnau i fontiro allbynnau mesurol ac ansoddol a cheir y manylion hyn yn Adroddiad Blynyddol 2003/04.


• Cael cynllun terfynol ar gyfer y ffordd ymlaen i Theatr i Bobl Ifainc gyda’r Gweithgor Theatr i Bobl Ifainc Bu i arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru alluogi CCC i weithio gyda’r wyth cwmni theatr ar gyfer pobl ifainc a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fynd i’r afael ag elfen gyntaf strategaeth newydd Theatr i Bobl Ifainc.Y nod yn yr hir dymor yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael profiad o theatr mewn addysg ym mhedwar cyfnod allweddol eu haddysg, ac y cyflwynir y gwasanaeth hwn am ddim iddynt. • Gweitho gyda Sgrîn Cymru Wales ar ddirprwyo y Gronfa Ffilm Loteri gyda’r bwriad o roi trefniant wedi ei lwyr ddirprwyo yn ei le ym 2003/04, a • Trosglwyddo’r cyfrifoldebau dros Ffilm i Sgrîn Cymru Wales Gweithiodd CCC a Sgrîn Cymru Wales tuag at rannol ddirprwyo arian y Loteri i Sgrîn Cymru Wales, serch hynny ni chwbwlhawyd y cytundeb dirprwyo llawn. Ym mis Mai 2002, sefydlwyd Grwˆp Cynhyrchu Ymgynghorol newydd gan Sgrîn Cymru Wales, a gadeirir gan Yr Athro Peter Stead, er mwyn gwneud penderfyniadau am geisiadau Loteri.

Cynhyrchiad Music Theatre Wales o Electrification of the Soviet Union. Llun: Clive Barda

PERFFORMIAD CCC YN ERBYN TA R G E D A U C E R R I G M I L LT I R

• Cloriannu strwythur newydd CCC, gan gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau ariannu newydd CCC. Comisiynwyd gwerthusiad annibynnol o strwythur newydd CCC ym 2002/03. Yr oedd yr arolwg a oedd i ddod i ben ym 2003/04, yn argymell parhau â’r ymrwymiad i’r strwythur o ddatganoli rhanbarthol. Yr oedd hefyd yn argymell creu swydd Cyfarwyddwr y Celfyddydau a swydd Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Bwriad yr argymhelliad hwn yw hyrwyddo statws CCC fel sefydliad sy’n eiriol ar ran y celfyddydau ac i sicrhau effeithiolrwydd gweithrediadol. Mae’r argymhellion eraill a wnaed yn cynnwys cryfhau’r broses o gynllunio corfforaethol, addasu rhywfaint ar y strwythur staffio ynghyd â symleiddio a lleihau ymhellach y broses o wneud cais am grant.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

17


18

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

Mali Llywelyn

• Datblygu y Cynllun Gweithredu ar gyfer orielau a’i roi ar waith Cryfhawyd rhwydwaith yr orielau i gynnwys pedair oriel newydd a ariennir gan arian refeniw:Y Tabernacl (Machynlleth), Oriel Neuadd y Frenhines (Arberth), Oriel Mission (Abertawe) a Contemporary Temporary Artspace – g39 (Caerdydd). Bu i gynllun unwaith yn unig i ddosbarthu arian Cefnogaeth i Raglen Arddangos, fynd i’r afael â rhai o ofynion rhaglenni orielau a ariennir gan arian refeniw yn ystod y trosglwyddiad i gynlluniau ariannu newydd CCC.

• Datblygu y Cynllun Gweithredu ar gyfer gwyliau a’i roi ar waith Ar ôl ymgynghori’n helaeth gyda’r sector, comisiynwyd Stevens & Associates, Abertawe i gynnal Adolygiad o Wyliau ym 2001. Cyflwynwyd eu hadroddiad terfynol mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe ym mis Tachwedd 2001.Ym mis Ionawr 2002 clustnododd Cyngor CCC gyllideb ar gyfer datblygiad strategol gwyliau sydd i’w ddosbarthu gan swyddfeydd lleol CCC.

• Datblygu y Cynllun Gweithredu ar gyfer sefydliadau strategol a’i roi ar waith Ymgynghorwyd ynghylch rôl a diffiniad o sefydliad strategol ar y cyd â Cefnogi Creadigrwydd, strategaeth pum mlynedd datblygu’r celfyddydau CCC. Cytunwyd mai sefydliad sy’n gweithio mewn partneriaeth â CCC i gyflawni blaenoriaethau strategol CCC fyddai’r diffiniad o sefydliad strategol. Comisiynwyd adolygiad i werthuso effeithiolrwydd y tri sefydliad gwreiddiol a dderbyniai arian refeniw fel sefydliadau strategol sef, Celfyddydau Anabledd Cymru, CADMAD a Permanent Waves. Mae’r sefydliadau hyn yn gyfrifol am y celfyddydau ac anabledd, y celfyddydau ac amrywiaeth ddiwylliannol a menywod yn y celfyddydau yn ôl eu trefn. Bydd yr adolygiad, sydd i fod i’w gwblhau ym mis Gorffennaf 2003, yn ystyried y ffordd orau o gyflawni’r amcanion strategol hyn. Canfyddodd CCC dri sefydliad newydd i’w hariannu gan arian refeniw fel cwsmeriaid datblygu strategol sef Hyfforddiant Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a trac i ddwyn gwaith ymlaen ym maes hyfforddiant yn y celfyddydau a datblygu gweithlu, y celfyddydau a phobl ifainc a chelfyddydau traddodiadol fel ei gilydd.


• Datblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer cyrff ymbarél a’i roi ar waith Mae CCC yn awr wedi rhoi proses gyfathrebu ac ymgynghori ffurfiol ar waith ar gyfer cyrff ymbarél. Bydd hyn yn rhoi cynrychiolaeth gynhwysfawr i gymunedau’r celfyddydau yng Nghymru. • Rhoi argymhelliad yr Arolwg o Lenyddiaeth ar waith er mwyn trosglwyddo gweithgarwch i Gyngor Llyfrau Cymru ac i’r Academi Gymreig Daethpwyd i ben yn llwyddiannus â’r trafodaethau ar gyfer y trosglwyddiad o fewn y flwyddyn ac ymgymerodd yr Academi Gymreig a Chyngor Llyfrau Cymru â’r cyfrifoldebau newydd o 1 Ebrill 2003. Cyngor Llyfrau Cymru sy’n llwyr gyfrifol am gefnogi cyhoeddi yng Nghymru, ac fe’i hariennir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ariannir yr Academi Gymreig gan CCC i gefnogi awduron. Mae’r trefniadau newydd hyn yn rhoi ffocws mwy clir i’r gefnogaeth i lenyddiaeth yng Nghymru ac yn sicrhau bod man cyswllt penodol i awduron a chyhoeddwyr. • Sicrhau presenoldeb Cymreig cryf yn Biennale Fenis 2003 Gwnaed paratoadau mawr ym 2002/03 ar gyfer arddangosfa cyntaf Cymru yn Biennale Celf Fenis. Ffurfiwyd Pwyllgor Llywio, a gadeiriwyd gan Michael Tooby, Cyfarwyddwr Celfyddydau a Gwyddoniaeth Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Penodwyd y curadur annibynnol Michael Nixon yn Gomisiynydd a Patricia Fleming yn Guradur. Sicrhawyd yr Ex Birreria ar Giudecca fel y lleoliad ar gyfer yr arddangosfa, a thua diwedd y flwyddyn cyhoeddwyd enwau’r pedwar artist yr arddangosir eu gwaith, sef Bethan Huws, Simon Pope, Paul Seawright a Cerith Wyn Evans. Cafwyd gweithgarwch codi arian a rheoli prosiect trwy gydol y flwyddyn.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

• Ail-lawnsio gwefan CCC, gan ymgorffori cronfa ddata ar lein o artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru Lawnsiwyd gwefan newydd CCC, celfcymru.org.uk, ym mis Mai 2002 yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd gydag ariannu penodol oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru tuag at ddatblygu cronfa ddata’r celfyddydau ar lein i Gymru. Asiantaeth ddylunio Black Sheep o Gaerdydd gynhyrchodd wefan CCC sy’n gryn welliant ac yn rhoi strwythur llawer mwy clir i’r safle a’i gwneud yn fwy gweithrediadol. Dilynodd y cwmni y gofynion a nodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ganllawiau o arfer da ar gyfer gwefannau. Datblygiad pwysig ar y wefan newydd oedd cronfa ddata chwiliadwy am y celfyddydau a gynigiai dudalen benodol â gwybodaeth cefndirol, gwybodaeth am gysylltu, dolenni cyswllt i sefydliadau celfyddydol a delweddau o waith oddi wrth sefydliadau celfyddydol ac artistiaid unigol, ar draws pob ffurf ar gelfyddyd, ac o bob rhan o Gymru. • Cryfhau gwaith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru drwy sefydlu ar y cyd gyda Chyngor Prydeinig Cymru, swydd newydd o Gyfarwyddwr Dechreuodd Chris Ricketts yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ym mis Mehefin 2002.Ym mis Awst 2002, symudodd tîm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i swyddfa newydd yn yr un adeilad â Chyngor Prydeinig Cymru gan dynnu tîm llawn Celfyddydau Rhyngwladol Cymru at ei gilydd am y tro cyntaf. Trwy gydol gweddill y flwyddyn, gweithiwyd ar ddatblygu strategaeth a blaenoriaethau i lywio gwaith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn y dyfodol, ac ar gynllunio prosiectau a rhaglenni ar gyfer 2003/04.

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

19


20

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

TA R G E D A U A L LW E D D O L A R G Y F E R 0 3 / 0 4

Opera Cenedlaethol Cymru

India Dance Wales

• Cyflwyno’r Cynllun Sefydlogi er mwyn cyfrannu at gynaliadwyaeth hir dymor y sector

• Cyfrannu at ddatblygiad llwyddiannus Gwobr Gelf Rhyngwladol gyntaf Artes Mundi y caiff y rhestr fer amdani ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn • Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am drefniadau Gwobr Llyfr y Flwyddyn CCC i’r Academi Gymreig a chytuno ar raglen i godi proffil y wobr yn y dyfodol

• Sicrhau presenoldeb cyntaf llwyddiannus i Gymru yn Biennale Celf Fenis • Cytuno ar raglenni helaeth o waith allan yn y gymuned a gwaith addysgiadol gyda’r cwmnïau cenedlaethol – Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Clwyd Theatr Cymru, Diversions ac Opera Cenedlaethol Cymru • Arwain ar ddatblygiad Theatr Genedlaethol Cymru, y cwmni theatr teithiol cenedlaethol Gymraeg newydd, gan benodi pobl i’r swyddi allweddol a rhoi’r

trefniadau ar waith ar gyfer y cynhyrchiad a’r daith gyntaf • Symleiddio cynllun grantiau bach CCC ymhellach a chyflwyno ffurflenni cais electroneg • Rhoi cefnogaeth i bresenoldeb cryf o Gymru yn SOFA Chicago 2003 (Cerflunwaith a Chelf Gweithrediadol), yr arddangosfa ryngwladol o waith celf gyfoes • Cyflwyno cynllun grant newydd i gefnogi prosiectau i ddynodi Blwyddyn Anabledd

Artes Mundi

• Gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu’r rhwydwaith o ganolfannau ledled Cymru gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Celfyddydau a Theatr Casnewydd a Chanolfan Menter Creadigol yng Nghaernarfon

• Rhoi trefniadau ar waith am bythefnos o dymor gan Opera Cenedlaethol Cymru yn Abertawe a Llandudno

• Cryfhau’r rhwydwaith o gelfyddydau cymunedol sydd yn bodoli eisoes

Clwyd Theatr Cymru

• Cytuno ar raglenni gwaith a phecynnau ariannu ar gyfer ehangu sylweddol ym maes theatr mewn addysg

• Cwblhau rhaglen sefydlogi Opera Cenedlaethol Cymru

Ann Catrin Evans

• Sicrhau Cynhadledd Flynyddol gyntaf lwyddiannus i CCC er mwyn hybu trafodaeth feirniadol o fewn sector y celfyddydau


RHEOLAETH

• • • •

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn 1994, trwy Siartr Frenhinol, i: ddatblygu a gwella arfer y celfyddydau, gwybodaeth amdanynt a dealltwriaeth ohonynt; gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch i’r cyhoedd; cynghori a chydweithredu â chyrff cyhoeddus eraill; gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae CCC yn Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (ASPB). Golyga hyn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi arian i CCC i ariannu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae CCC yn atebol i’r Cynulliad am y ffordd y mae’n gwario’r arian hwn. CCC hefyd sy’n dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i’r celfyddydau yng Nghymru. Dyrennir yr arian hwn i CCC gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn Llundain. Rheolir CCC gan grwˆp o aelodau, sef y ‘Cyngor’. Penodir aelodau’r Cyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe’u dewisir i reoli’r drefn benderfynu a’r gweithdrefnau ariannol a ddilynir gan CCC. Fe’u dewisir am ehangder a dyfnder eu gwybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Bydd y Cyngor yn cwrdd o leiaf chwe gwaith y flwyddyn mewn gwahanol ganolfannau celfyddydau yng Nghymru ac mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i aelodau o’r cyhoedd.

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

AELODAU O GYNGOR CCC

Aelodau Cyngor CCC rhwng Ebrill 2002-Mawrth 2003 oedd y canlynol: Sybil Crouch, Cadeirydd (tan ddiwedd Mawrth 2003); Rheolwr, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe Dewi Walters, Is-Gadeirydd; Ymgynghorydd Addysg,Y Drenewydd Dai Davies, Cyfarwyddwr Sanctuary Enterprises Roger Davies (hyd Mawrth 2003), Cyn-Brif Weithredwr, Cyngor Sir Clwyd Meg Elis, Cyfieithydd Academaidd a Phennaeth Adran Cyfieithu, Cyngor Sir Gwynedd Edmond Fivet, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Steve Garrett, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol, Caerdydd Ellen ap Gwynn, Cyn-Reolydd Cyffredinol, Radio Ceredigion Harry James, Partner mewn cwmni pensaernïaeth, Aberystwyth Daniel Jones, Swyddog Entrepreneuraidd Awdurdod Datblygu Cymru Janet Roberts, Athrawes Cymraeg a Drama,Ynys Môn Penny Ryan OBE, Cyn-Bennaeth, Coleg Trydyddol Gorseinon, Abertawe Hazel Walford Davies, yr Athro Theatr, Prifysgol Morgannwg

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

21


22

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

RHEOLAETH AC YMGYNGHORWYR CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU YN YSTOD 02/03 AELODAU O UWCH DÎM RHEOLI CCC

Aelodau’r Uwch Dîm Rheoli rhwng Ebrill 2002-Mawrth 2003 oedd y canlynol: Peter Tyndall, Prif Weithredwr Frances Medley, Dirprwy Prif Weithredwr (hyd at fis Mai 2003) David Newland, Cyfarwyddwr De Cymru Clare Thomas, Cyfarwyddwr Canolbarth a Gorllewin Cymru Sian Tomos, Cyfarwyddwr Gogledd Cymru Hywel Tudor, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Canolog

RHESTR GENEDLAETHOL O YMGYNGHORWYR

Ers 1af o Ebrill 2002, cyflwynodd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) Restr Genedlaethol o Ymgynghorwyr sy’n cynnwys ymarferwyr y celfyddydau, arbenigwyr ac aelodau o awdurdodau lleol. Bydd rhai wedi bod yn aelodau o’r paneli ymgynghorol arbenigol a ddefnyddiwyd yn y gorffennol er mwyn asesu ceisiadau am arian ac i ddatblygu polisi. Mae’r ymgynghorwyr yn arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd ac o’r herwydd mae ganddynt wybodaeth fanwl am eu pynciau arbenigol. Mae’r ymgynghorwyr wedi cytuno i gynnig eu harbenigedd a’u gwasanaeth yn wirfoddol i Gyngor CCC ac i ymgymryd â’r canlynol: • cynghori a chynorthwyo wrth asesu ceisiadau am grant; • mynychu perfformiadau/arddangosfeydd/digwyddiadau ayyb. a chyflwyno adroddiadau monitro; • mynychu cyfarfodydd achlysurol/cyflwyno argymhellion wrth adolygu a datblygu cynlluniau gweithredu strategol; • cynorthwyo gyda datblygu polisi; a • chynorthwyo gydag adolygiadau cyfnodol sefydliadau a ariennir.

Mae cofrestr Aelodau’r Cyngor a’i Restr Genedlaethol o Ymgynghorwyr ynghyd â chofrestr o fuddiannau cyflogeion y Cyngor ar gael i’w harchwilio’n gyhoeddus, drwy drefniant, ym mhob un o swyddfeydd y Cyngor yn ystod oriau gwaith arferol.


Aelodau’r Rhestr Genedlaethol o Ymgynghorwyr yn ystod 2002/03 oedd: David Adams (rhan o’r flwyddyn) Linda Adams George Auchterlonie Sherilyn Bankes Nick Banwell Jane Barnes Lydia Bassett Beverley Bell-Hughes Elinor Bennett Gary Bevan Simon Blackburn Alan Bourne Sarah Bower Steve Brake Julia Brooker Edmund Burke Frances Carlile Lalita Carlton-Jones Shaun Casey Caroline Clark Sara Clutton Derek Cobley Jessica Cohen Geoff Cripps Nigel Crowle Simon Dancey Cherry Davidson Ian Davidson

Huw M Davies Penelope C B Davies Peter Davies Sara Davis Steve Davis Ann Dorsett Jim Ennis Peter Evans Stephanie Evans Janet Fieldsend (rhan o’r flwyddyn) Philip Freeman Gillian Green Jill Greenhalgh Gareth Griffith Noelle Griffiths Sian Griffiths Nia Gruffydd Natasha Hale Victor Hallett Greg Haver Alan Hewson Sally Hillier Alison Hindell Isabel Hitchman Richard Hogger John Howes Sion Hughes Marilyn Hunt (rhan o’r flwyddyn) Sue Hunt Geraldine Hurl Richard Huw Morgan Branwen Iorwerth

CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Gareth Johnson Andrew Jones Ann Fiona Jones Bernard Jones Gwerfyl Pierce Jones Danny Kilbride Alan Kilday Lisa Lewis Andrea Liggins Mary Lloyd Jones Iwan Llwyd Phillip MacKenzie Victoria Macdonald Glen Manby Dr Rhiannon Mathias Mark Montinaro Ieuan Morgan Thomas Roger Moss John Neilson Sarah Osborne Peter Phillips Dafydd Pierce Dr Claire Powell David Prince Dr Anne Price-Owen Dinah Pye Pamela Rawnsley Dulais Rhys Manon Rhys Aled Rhys-Jones Sara Roberts David Rowe Ian Rowlands Yr Athro John Rowlands

A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3

Frank Rozelaar-Green Rhian Saadat Catharine Sinnadurai David Joseph Smith Alastair Snow Stephan Stockton Alicia Stubbersfield Ingrid Surgenor Ceri Thomas Yr Athro Adrian Thomas Geraint Thomas Carys Tudor Williams Julie Turner Arvind Varsani Terry Victor Jean Walcot Dr Jason Walford Davies Audrey Walker Judith Elaine Walker Christine Watkins (rhan o’r flwyddyn) Meri Wells Daniel Williams Emyr Williams Gareth Haulfryn Williams Gwyn L Williams Jeremy Huw Williams John P Williams Michelle Williams Christine Willison Mandy Wix Pip Woolf Gordon Wride Dr Pwyll ap Sion

23


24

A L LW E D D I R A G O R I A E T H

C Y FA R W Y D D I A D A U P O L I S I Y L O T E R I GENEDLAETHOL Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 26(1) Deddf y Loteri Genedlaethol etc 1993, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y Cyfarwyddiadau Polisi canlynol i Gyngor Celfyddydau Cymru ym mis Gorffennaf 1998. Mae’r cyfeiriadau yn y Cyfarwyddiadau hyn at adrannau o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc 1993 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1998. Wrth ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol, rhaid i Gyngor Celfyddydau Cymru ystyried y canlynol: A. yr angen i sicrhau y caiff arian ei ddosbarthu dan adran 25(1) ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo budd y cyhoedd neu ddibenion elusennol, ac nas bwriadwyd yn bennaf ar gyfer enillion preifat; B. yr angen i sicrhau ei fod yn ystyried ceisiadau sy’n ymwneud â’r ystod lawn o weithgareddau yn adran 22(3) (a), ac y mae ganddo’r pwer i ddosbarthu arian mewn perthynas â hwy, gan ystyried: i. ei asesiad o’r anghenion er mwyn datblygu’r celfyddydau a gweithgareddau celfyddydol a’i flaenoriaethau mewn perthynas â’r rhain ar hyn o bryd; ii. yr angen i sicrhau bod holl ardaloedd Cymru yn cael cyfle i gael arian; iii. y cyfle i leihau anfantais economaidd a chymdeithasol, wrth fod o fudd i’r celfyddydau yr un pryd; C. yr angen i hyrwyddo mynediad i’r celfyddydau i bobl o bob rhan o’r gymdeithas; D. yr angen i hyrwyddo gwybodaeth am, a diddordeb yn y celfyddydau, gan blant a phobl ifainc; E. yr angen i hybu amcanion datblygiad cynaliadwy; F. anghenion prosiectau sy’n ymwneud â ffilm a lluniau symudol, ac yn arbennig, yr angen i feithrin datblygiad strwythurau cynaliadwy yn y diwydiant ffilmiau drwy, ymhlith pethau eraill, gefnogi datblygu, dosbarthu a hyrwyddo ffilmiau yn ogystal â’u cynhyrchu;

G. anghenion prosiectau sy’n ymwneud â chrefft; H. yr angen i ddosbarthu arian dan adran 25(1) i brosiectau sydd ag amcan a therfyn amser penodol yn unig; I. yr angen: i. ym mhob achos, i ymgeiswyr ddangos bod y prosiect yn ariannol hyfyw gydol cyfnod y grant; ii. pan geisir am arian cyfalaf, neu gostau dechreuol, am gynllun busnes clir sy’n ymestyn ymhellach na chyfnod y grant, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer costau rhedeg a chynnal cysylltiedig; iii. mewn achosion eraill, i ystyried pa mor debygol yw y bydd cyllid arall ar gael i dalu unrhyw gostau parhaus am gyfnod rhesymol wedi diwedd cyfnod y dyfarniad Loteri, gan ystyried maint a natur y prosiect, a’r angen i ddefnyddio arian Loteri i gynorthwyo cynnydd tuag at hyfywedd wedi cyfnod y grant, lle bynnag y bo’n bosibl; J. mantais cefnogi datblygiad hyfywedd ariannol a rheoli tymor hir sefydliadau celfyddydol. Wrth ystyried hyn, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn Cyfarwyddyd H; K. yr angen i’w gwneud yn ofynnol i gael elfen o gyllid partneriaeth a/neu gyfraniadau mewn math, o ffynonellau eraill, sy’n gymesur â gallu rhesymol gwahanol fathau o geisiadau, neu ymgeiswyr mewn ardaloedd arbennig, i gael cefnogaeth o’r fath; L. mantais gweithio â sefydliadau eraill, gan gynnwys dosbarthwyr eraill, lle bydd hyn yn fodd effeithiol o wireddu elfennau o’i strategaeth; M.yr angen i sicrhau y caiff ei bwerau i wahodd ceisiadau dan adran 25(2A) eu defnyddio mewn cysylltiad â dilyn amcanion strategol; N. unrhyw wybodaeth y mae’n ei hystyried yn angenrheidiol i wneud penderfyniadau ynglyn â phob cais, gan gynnwys cyngor annibynnol pan fo angen.


Adroddiad Blynyddol 2002-2003  

C Y N G O R C E L F Y D D Y D A U C Y M R U A D R O D D I A D B LY N Y D D O L 0 2 / 0 3 A L LW E D D I R A G O R I A E T H Y dudalen hon: D...

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you