Page 1

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU www.amgueddfacymru.ac.uk

GORFf 2013

RHIFYN 04

DEGAS – O GASGLIAD FREUD I GASGLIAD Y GENEDL

INDIA’R MUGHAL YNG NGHAERDYDd 04

YCHWANEGIAD PWYSIG AT Y CASGLIADAU CELF

Ers 5 Mehefin, mae cerflun gwych gan Edgar Degas i’w weld yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol. Mae’r gwaith, sy’n prysur ddatblygu’n atyniad poblogaidd, wedi cael ei dderbyn yn lle treth gan ystâd yr artist Lucian Freud, a fu farw yn 2011, a’i ddyrannu’n barhaol i Amgueddfa Cymru lle saif ochr yn ochr â gweithiau pwysig eraill gan Degas.

CREU HANES

06

MANIFFESTO KIDS IN MUSEUMS

08

Meddai John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon wrth ddadorchuddio’r cerflun: ‘Mae ein casgliadau celf o safon ryngwladol ac yn gaffaeliad pwysig i Gymru. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn mynd o nerth i nerth … rwy’n hyderus y bydd y gwaith hardd hwn yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr a bydd yn rhoi rheswm arall iddynt ymweld â’n horielau celf o safon ryngwladol.’ Roedd Degas ymhlith Argraffyddion pwysicaf Ffrainc y 19eg ganrif. Mae’r gwaith yn cynrychioli ceffyl ar garlam a dyma’r mwyaf – a’r gorau o bosibl – o’r pymtheg ffigwr ceffyl y cafwyd hyd iddynt yn ei stiwdio wedi ei farwolaeth. Daeth Lucian Freud a’i deulu i Brydain o’r Almaen wrth ffoi’r Natsïaid, a daeth yn ddinesydd Prydeinig ym 1939. Yn ystod ei yrfa, hyfforddodd gyda’r artist o Gymro, Cedric Morris, a gweithiodd am gyfnod yng Nghymru. Nododd yn ei ewyllys y dylid rhoi’r cerflun gan Degas, ymhlith gweithiau eraill, i’r genedl yn lle treth etifeddiaeth. Mae’r cerflun, felly, yn ddiogel ar ein cyfer ni ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n ychwanegiad sylweddol at gasgliadau celf cenedlaethol Cymru.

J ohn Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon gyda’r cerflun gan Degas


2

AMGUEDDFA CYMRU ˆ YL Y GELLI YNG NGW

Roeddem yng Ngw ˆ yl y Gelli eleni eto, ac am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn bartneriaid â Cadw, y Comisiwn Brenhinol a’r Gymdeithas Tai Hanesyddol dan faner Hanes Cymru. Cafodd ymwelwyr â’r stondin gyfle i ddysgu mwy am dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru a chafwyd rhaglen ddyddiol o weithgareddau treftadaeth. Roedd cyfle i blant greu bathodyn ar ffurf tocyn lamp glöwr a phwytho llyfrnod â llaw. Lansiodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, rifyn diweddaraf cylchgrawn hanes pobl Big Pit, Glo sef rhifyn arbennig i ddathlu pen-blwydd amgueddfa Big Pit yn 30 oed. Erbyn diwedd yr w ˆ yl, roedd dros 9,500 o bobl wedi ymweld â’n stondin.

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

RHIFYN 04

STONDIN DAN EI SANG A LANSIO LLYFR ARBENNIG

Fel rhan o raglen swyddogol yr w ˆ yl, lansiwyd ein llyfr stori newydd i blant Arwyn yr Anturiwr: Deinosor yn y Goedwig. Dyma’r llyfr gwreiddiol cyntaf i blant a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru. Grace Todd, aelod o staff Oriel Ddarganfod Clore yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yw awdur y stori am ddeinosor ifanc o’r enw Arwyn. Yn y lansiad, clywodd y plant hanes Arwyn a chawsant greu synau’r goedwig gynhanesyddol. Ar ôl clywed y stori, cawsant hefyd drin a thrafod esgyrn deinosor a ffosilau eraill. Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn a gwerthwyd yr holl docynnau unwaith iddo gael ei gyhoeddi.

John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn mwynhau copi o Glo gyda’n Curadur Glo, Ceri Thompson


www.amgueddfacymru.ac.uk

… AC YN EISTEDDFOD YR URDD

Cynhaliwyd Eisteddfod eleni ym Moncath, gogledd Sir Benfro, ac felly roedd y canolbwynt ar Amgueddfa Wlân Cymru oedd prin hanner awr o’r Maes. Roedd yr arddangosfa a’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar sut mae’r Amgueddfa yn hyrwyddo, yn hybu ac yn meithrin dylunio tecstilau cyfoes yng Nghymru. Fel rhan o’r stondin, roedd stondin farchnad fach o’r 1920au oedd yn arddangos cynnyrch gwlân poblogaidd o Gymru ddoe a heddiw, siop fach o’r 1960au lle’r oedd cyfle i ymwelwyr wisgo ffasiynau’r oes a fu o gasgliadau trin a thrafod Dre-fach, ac arddangosfa o waith dylunio tecstilau gan artistiaid a myfyrwyr sydd wedi gweithio yn yr Amgueddfa. Ymhlith gweithgareddau’r wythnos oedd gwehyddu blodau a phren lolipop, ffeltio â nodwydd a gweu ar raddfa fawr, gan ddwyn ysbrydoliaeth o batrymau’r 60au ar eu cyfer.

3

WYTHNOS O WEITHGAREDDAU GWLANOG

Roedd yr artist Carys Hedd yno hefyd i helpu ymwelwyr i greu hetiau, casys ffonau symudol a bathodynnau blodau hardd – y cyfan o hen ddillad – a dangosodd aelodau o glwb gwau’r Amgueddfa sut i wau cacennau bach. Yn y GwyddonLe, roedd cyfle i ddysgu mwy am archaeoleg Mynyddoedd Preseli a’r Cerrig Gleision gyda’r Swyddog Addysg, Ken Brassil. Cynhaliwyd gweithgareddau gydol yr wythnos gydag ysgolion lleol oedd wedi bod ar daith i’r ardal yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth ym mis Mawrth. Cynhaliwyd sesiynau cerdd ymarferol gyda’r artist sain Dylan Adams hefyd gan ddychmygu a chreu cerddoriaeth gynhanesyddol.

Ymwelwyr yn mwynhau ein gweithgareddau gwlanog yn Eisteddfod yr Urdd


4

INDIA’R MUGHAL YNG NGHAERDYDD Bydd arddangosfa Visions of Mughal India, ar daith o Amgueddfa Ashmolean, Prifysgol Rhydychen, yn dod â detholiad o baentiadau a darluniau Indiaidd aruthrol o gasgliadau’r artist Howard Hodgkin ynghyd, a bydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf. Mae Howard Hodgkin wedi bod yn frwd dros gasglu paentiadau Indiaidd ers ei ddyddiau ysgol ac ystyrir ei gasgliad gyda’r gorau o’i fath yn y byd. Mae’n cynnwys darluniadau o arwrgerddi a chwedlau, portreadau brenhinol a golygfeydd o fywyd llys a hela. Mae grw ˆ p gwefreiddiol o bortreadau o eliffantod hefyd. Mae rhai o’r gweithiau’n creu darluniau byw o fywyd trefol neu feunyddiol yn India, gwlad sydd wedi ysbrydoli Hodgkin ar ei deithiau helaeth yno dros hanner can mlynedd.

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

RHIFYN 04

CASGLIAD ARTIST O GELF INDIAIDD

Ansawdd artistig sydd bwysicaf i Hodgkin, ac mae pob un o’i weithiau Indiaidd o ansawdd anarferol neu ragorol. Yn anad dim, mae’n gasgliad personol a luniwyd gan lygad artist. Ar brydiau, mae Hodgkin wedi cysegru llawn cymaint i ddatblygu ei gasgliadau ag i’w waith ei hun fel arlunydd. Meddai: ‘Dewiswyd y gweithiau hyn am fy mod i’n meddwl eu bod yn hardd, am eu bod wedi cyffwrdd â’m hemosiynau, nid at ddibenion ysgolheigaidd. Mae’n gasgliad gan artist. Gobeithiaf y byddwch chi’n ei fwynhau’. Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 27 Gorffennaf a 3 Tachwedd.

Sultan Muhammad Adil Shah © Casgliad Howard Hodgkin


www.amgueddfacymru.ac.uk

CAIS AM STATWS BYD-EANG I’R LECHEN GYMREIG

Yn ddiweddar, mynychodd Dr Jana Horák, Pennaeth Mwynyddiaeth a Phetroleg gyfarfod Undeb Gwyddorau Daear Ewrop yn Fienna. Llwyddodd i ennill cefnogaeth ar gyfer enwebu’r lechen Gymreig i dderbyn statws Adnodd Carreg Treftadaeth Fyd-eang (GHSR – Global Heritage Stone Resource). Mae’r statws yn cydnabod ac yn diogelu cerrig adeiladu allweddol o bwys hanesyddol. Byddai’r statws yn gosod llechen gogledd Cymru yn yr un dosbarth â marmor Carrara Eidalaidd a ddefnyddiwyd ers cyn cof. Mae llechen gogledd Cymru wedi bod mewn defnydd ers dros 2,000 o flynyddoedd. Hyd heddiw, caiff ei hallforio i bedwar ban, er nad yw bellach ar yr un raddfa ag anterth y cyfnod diwydiannol. Mae’r defnydd eang o’r garreg yn seiliedig ar ei safon aruthrol sy’n deillio o’i hanes daearegol.

5

CURADUR AMGUEDDFA CYMRU YN ENNILL CEFNOGAETH

Gan fod ei strwythur yn ficrosgopig, gellir ei hollti’n denau iawn heb golli ei chryfder na’i gwydnwch. Golyga hyn ei bod yn ddeunydd amlbwrpas a ddefnyddiwyd ar doi adeiladau eiconig ar draws y byd ac ar gartrefi niferus yr oes ddiwydiannol fel ei gilydd. Cafodd y cyflwyniad yn Fienna ei groesawu a bydd y gwaith yn cychwyn maes o law ar gais ffurfiol a lunir ar y cyd â Terry Hughes o’r Gymdeithas Toi Carreg, arbenigwr ar ddefnydd hanesyddol o ddeunyddiau carreg a thoi, a Dr Graham Lott o Arolwg Daearegol Prydain. Mae’r cais yn ategu’r cyflwyniad am statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar gyfer ardal diwydiant llechen gogledd Cymru, sy’n cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru.

Darn o lechen Rufeinig o Segontium yng Nghaernarfon


6

CREU HANES YN SAIN FFAGAN

Yn 2012, dyfarnwyd y grant mwyaf erioed gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i ailddatblygu’r amgueddfa a gweddnewid profiad ymwelwyr. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac mae’r orielau dan do bellach ar gau wrth i’r gwaith ar y gofodau arddangos newydd sbon gychwyn. Mae’r staff wrthi’n gwacáu’r orielau ac yn paratoi’r gwrthrychau’n ofalus er mwyn eu storio yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw. Mae tai crwn y Pentref Celtaidd bellach wedi eu datgymalu, ond byddwn yn parhau i archwilio Cymru’r Oes Haearn trwy adeiladu Bryn Eryr, fferm o’r Oes Haearn, yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol o Ynys Môn.

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

RHIFYN 04

Y GWAITH AILDDATBLYGU’N PARHAU

Bydd dau dyˆ crwn mawr yn cael eu hadeiladu dros y flwyddyn nesaf, gyda chymorth gwirfoddolwyr, disgyblion ysgol ac aelodau o’r cymunedau cyfagos yn Nhrelái a Chaerau. Byddan nhw’n cydweithio â ni i godi’r muriau clai trwchus, dehongli hanes y tai ac ailddarganfod bywydau’r trigolion gwreiddiol. Darparwyd nawdd hefyd gan Lywodraeth Cymru ac rydym ar fin cychwyn ymgyrch fawr i godi’r arian ychwanegol angenrheidiol.

Gwrthrychau’n gadael Sain Ffagan i’w storio yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw


www.amgueddfacymru.ac.uk

FFIGURAU YMWELWYR GORAU ERIOED AMGUEDDFEYDD CENEDLAETHOL CYMRU Mae niferoedd ymwelwyr ein hamgueddfeydd yn parhau i gynyddu, gyda record newydd o 1.75 miliwn o ymweliadau yn 2012/13, 9% uwchlaw’r targed. Cafodd pedair amgueddfa eu blwyddyn orau erioed. Croesawodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n cynnwys yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol ac orielau hanes natur gafodd eu hailwampio’n ddiweddar, 477,399 o ymwelwyr – record newydd. Llwyddodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n cynnig rhaglen gref o ddigwyddiadau, i ddenu 271,452 o ymwelwyr. Mae Amgueddfa Wlân Cymru wrth wraidd y gymuned leol ac yno croesawyd 34,309 o ymwelwyr. Gwelodd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ei ffigurau ymwelwyr gorau erioed hefyd gan groesawu 71,992. Meddai David Anderson, y Cyfarwyddwr Cyffredinol: ‘Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i dorri record arall eleni, sy’n brawf o safon y gwasanaeth a gynigir gan yr

7

RECORD NEWYDD – 1.75 MILIWN O YMWELIADAU YN 2012/13

Amgueddfeydd a gwerth polisi mynediad am ddim Llywodraeth Cymru. Rhaid i ni barhau i fod yn berthnasol i bawb, nid drwy apelio at ein cynulleidfaoedd presennol yn unig, ond drwy ddenu ymwelwyr newydd i ymgysylltu â’r casgliadau cenedlaethol sydd, wedi’r cyfan, yn eiddo i bobl Cymru.’ Ychwanegodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: ‘Llongyfarchiadau i Amgueddfa Cymru ar y ffigurau ymwelwyr gwych hyn. Mae gan ein hamgueddfeydd rôl bwysig i’w chwarae wrth roi llwyfan i ddiwylliant a hanes Cymru – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cyflwynwyd mynediad am ddim er mwyn i bawb allu mwynhau treftadaeth gyfoethog ein cenedl ym meysydd y celfyddydau, y gwyddorau a hanes diwydiant a chymdeithas. Rwy’n falch iawn o weld fod y polisi’n parhau i ddenu ymwelwyr i’n hamgueddfeydd cenedlaethol ac i fwynhau ein hanes diwylliannol cyfoethog.’

Rhai o’r 271,452 o ymwelwyr wnaeth fwynhau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 2012/13


8

MANIFFESTO NEWYDD KIDS IN MUSEUMS

Ym mis Mehefin, cynhaliwyd lansiad maniffesto dwyieithog Kids in Museums yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon a Chomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler. Mae pob un o’n saith amgueddfa yn cefnogi Maniffesto Kids in Museums, gan ymroi i roi’r ugain addewid ar waith – o wahodd pobl ifanc i dreulio amser yn ein hamgueddfeydd i greu mannau diogel a chysurus i blant a theuluoedd. Meddai David Anderson, y Cyfarwyddwr Cyffredinol: ‘Rydyn ni’n ymroi i ddarparu profiadau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc, ac yn benodol i weithio gyda phlant y byddai ganddynt lai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol fel arall. Rydyn ni’n chwarae rhan allweddol mewn llawer o gymunedau ar draws Cymru ac rydyn ni hefyd yn falch mai ni yw darparwr mwyaf dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth yng Nghymru.’

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

RHIFYN 04

CROESAWU PLANT A PHOBL IFANC

Mae degfed Maniffesto Kids in Museums wedi’i lunio’n gyfangwbl o sylwadau ymwelwyr. Mae’n arf ymarferol a phwerus i annog a chefnogi amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol ar draws y DU wrth geisio sicrhau y bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd yn mwynhau eu hymweliadau.

Keith Towler, y Comisiynydd Plant, gyda David Anderson yn lansiad Maniffesto Kids in Museums


www.amgueddfacymru.ac.uk

9

STRWYTHUR NEWYDD AMGUEDDFA CYMRU

Yn sgil yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu heriau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen. Nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad. Rydym yn wynebu lleihad yn y gyllideb, felly mae’n rhaid i ni sicrhau arbedion o £2.5m dros y tair blynedd nesaf. Yn dilyn ymgynghoriad 90 diwrnod â staff ac undebau llafur, cyhoeddodd Amgueddfa Cymru strwythur newydd ar gyfer y sefydliad ar 13 Mai. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, daeth nifer o gynigion amgen i law ac mae llawer ohonynt wedi llywio ac atgyfnerthu’r strwythur terfynol. O dan y strwythur newydd, caiff 23 o swyddi eu dileu – 12 yn llai na’r cynnig gwreiddiol. Effeithir ar 134 o swyddi mewn rhyw fodd, o gymharu â’r ffigur o 160 a gyhoeddwyd yn y cynigion drafft ym mis Ionawr. Gobeithiwn osgoi diswyddo gorfodol trwy gynnig adleoli staff (dod o hyd i swydd wag arall iddynt o fewn Amgueddfa Cymru), diswyddo gwirfoddol ac ymddeoliad cynnar.

Caiff cyfleoedd a swyddi newydd eu creu o fewn y strwythur newydd hefyd. Byddwn yn parhau i gynnal tîm curadurol a chadwraeth cadarn o 120 o aelodau o staff, gan gynnal lefel uchel yr arbenigedd rhyngwladol ar draws pob adran. Rydyn ni hefyd yn parhau’n ymroddedig i roi projectau allweddol ar waith megis ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, amgueddfa genedlaethol y gwyddorau naturiol, ac adeiladu ar ein gwaith partneriaeth trwy Gymru a thu hwnt. Rydym yn anelu at roi’r newidiadau ar waith erbyn dechrau 2014. Ni fydd y strwythur newydd yn effeithio ar weithrediadau beunyddiol y saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru fydd yn parhau i gynnig arlwy o ansawdd i ymwelwyr.


10

TU ÔL I’R LLENNI YN YR AMGUEDDFEYDD

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

RHIFYN 04

John Williams-Davies, CYFARWYDDWR CASGLIADAU AC YMCHWIL allweddol megis Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a Bwthyn Nant Wallter. Ym 1996, derbyniais swydd Ceidwad Sain Ffagan. Roedd yn gyfnod anodd am ein bod ni newydd golli nifer o staff uwch drwy ddiswyddiadau gwirfoddol a’m tasg gyntaf oedd ailsefydlu’r sylfaen guradurol. Ym 1999, cefais swydd Cyfarwyddwr Gweithredu a Datblygu gan fod yn bennaf gyfrifol am weithredu ac am yr amgueddfeydd cymdeithasol a diwydiannol. Yn 2009, symudais i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Gyfarwyddwr Casgliadau Ymchwil.

Yn yr adran hon cewch gyfle i gyfarfod â rhai o’r unigolion sy’n gyfrifol am gasgliadau cenedlaethol Cymru. Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs â John Williams-Davies, fydd yn ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil ym mis Medi wedi deugain mlynedd gydag Amgueddfa Cymru. Gol: John, fe ymunoch chi ag Amgueddfa Cymru ym 1973. Beth oedd eich swydd gyntaf? JW-D: Dechreuais fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd Sain Ffagan oedd yn gweithio ar lawer o brojectau, ond canolbwyntio ar ddulliau ffermio traddodiadol oeddwn i. Bryd hynny, roedden ni’n treulio tuag wythnos bob mis yn gwneud gwaith maes. Roedden ni’n datblygu rhwydwaith o gysylltiadau o Fôn i Fynwy, ac yn ’nabod rhywun ym mhob pentref bron – roedd hynny o gymorth mawr wrth gaffael deunydd ar gyfer casgliadau a phrojectau ymchwil. Gol: Pa swyddi eraill ydych chi wedi’u gwneud dros y deugain mlynedd diwethaf? JW-D: Ar ôl fy swydd gyntaf, symudais i fod yn Geidwad Cynorthwyol mewn adran newydd, Adran Ffermio a Chrefftau, ac yna yn Geidwad Adeiladau a Bywyd Cartref. Roedd yn gyfnod arbennig o foddhaol gydag agoriad adeiladau

Gol: Beth yw eich hoff eitem yn y casgliadau? JW-D: Mae pob un o’r adeiladau a ailgodwyd yn Sain Ffagan yn sbesimenau amgueddfa a dderbyniwyd, felly mae’n ddewis anodd rhwng tai Rhyd-y-car a Chapel Pen-rhiw. At ei gilydd, Capel Pen-rhiw fyddwn i’n ei ddewis – mae o Ddyffryn Teifi, fy milltir sgwâr, ond yn bwysicach na hynny mae’n fy nwyn yn ôl i’m plentyndod yng nghefn gwlad Cymru. Bryd hynny, roedd y capel wrth wraidd y gymuned a bywyd cymdeithasol mewn ffordd sy’n anodd i genedlaethau iau heddiw ddychmygu. Hiraeth yw’r rheswm yn rhannol rhaid dweud, ond mae’r hyn y mae’r capel yn ei gynrychioli – cydsafiad y gymuned, radicaliaeth a pharch at addysg – wedi creu argraff barhaol arnaf. I mi, mae symlrwydd a chynildeb y capel lawn mor wefreiddiol ac ysbrydoledig â’r eglwys. Yn sicr, bu’n lle i enaid gael llonydd pan oedd bywyd yn anodd yn Sain Ffagan. Gol: Beth yw eich hoff atgof am Amgueddfa Cymru? JW-D: Adeiladau eto. Mae’r adeiladau eu hunain yn orchestion o ran crefftwaith ac ysgolheictod, ond yr hyn sy’n taro tant yw ymateb pobl iddynt. Mae’r balchder ymhlith pobl sy’n gweld eu treftadaeth yn cael ei harddangos mewn amgueddfa genedlaethol yn gwbl amlwg. Yn nhermau cymdeithaseg, mae’r amgueddfa yn dilysu eu bodolaeth: ond mae’n well gen i feddwl mai gwneud i bobl deimlo’n dda am eu bywydau fyddwn ni. Dyna mae Sain Ffagan wedi’i wneud ers y cychwyn cyntaf, a dyna pam mae ganddi le arbennig yng nghalonnau’r Cymry. Un atgof


www.amgueddfacymru.ac.uk

llai hapus, ond digon cofiadwy hefyd, oedd dychwelyd adref gyda’r nos i ddal y newyddion ar y teledu a gweld fod Ffermdy Abernodwydd yn wenfflam – mater o wythnosau wedi i mi gael fy mhenodi’n Geidwad Adeiladau! Diolch i’r staff a’r Gwasanaeth Tân, achubwyd y rhan fwyaf o’r adeilad a’r holl gynnwys. Ac eto, diolch i waith diflino’r staff, ail-agorwyd yr adeilad i’r cyhoedd ymhen chwe mis. Gol: Beth sydd wedi newid fwyaf dros y blynyddoedd? JW-D: Mae newidiadau anferth wedi digwydd dros y blynyddoedd. Yn amlwg erbyn hyn, rydyn ni lawer yn fwy. Pan ddechreuais i, dim ond pedwar safle oedd, nawr mae gennym ni wyth. Dim ond tair ar ddeg o adeiladau oedd yn Sain Ffagan, bellach mae dros ddeugain. Dim ond 750,000 o ymwelwyr oedd yn croesi’r rhiniog, nawr mae 1.7 miliwn. Newid arall yw cymhlethdod y sefydliad. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i faint y sefydliad, ond yn rhannol oherwydd yr angen i fod yn atebol ac yn dryloyw. Un o’r sgil-effeithiau yw’r cynnydd di-ben-draw yn nifer y cyfarfodydd. Meddyliwch, yn fy saith mlynedd gyntaf yn Sain Ffagan, dim ond dau gyfarfod fues i ar eu cyfyl! Gol: Sut ydych chi’n meddwl bydd project Sain Ffagan yn newid profiad yr ymwelydd? JW-D: Bydd yn gweddnewid y profiad yn gyfangwbl – yn gorfforol ac yn feddyliol.

11

Trwy gau’r iard gyfredol, bydd gofod anhygoel newydd yn croesawu’r ymwelwyr. Bydd tair oriel newydd yn cael eu creu ac adeilad arloesol newydd sbon yn cael ei hadeiladu i ddathlu sgiliau crefftwyr ac annog ymwelwyr i ddysgu’r sgiliau hynny. Gerllaw, caiff Llys Rhosyr, un o lysoedd Tywysogion Gwynedd ei ailadeiladu fel rhan o un o brojectau archaeolegol mwyaf cyffrous Prydain erioed. Heb os nac oni bai, dyma un o’r projectau amgueddfa mwyaf blaengar a chyffrous sydd ar y gweill yn unrhywle. Bydd Sain Ffagan yn gweddnewid y ffordd y gwêl Cymry eu hanes. Gol: Sut ydych chi’n bwriadu mwynhau’ch ymddeoliad, oes gennych chi unrhyw gynlluniau? JW-D: O ystyried y misoedd diwethaf, gwneud dim hyd diflastod yw’r gobaith! O weld ffrindiau’n ymddeol, mae’n ymddangos y caiff y flwyddyn gyntaf ei threulio’n peintio ac addurno a gwneud yr holl bethau sydd wedi cael eu hesgeuluso dros y blynyddoedd. Mae gen i nifer o brojectau ymchwil yr hoffwn i fynd i’r afael â nhw. Mae’n eironig braidd fod yn rhaid i’r Cyfarwyddwr Ymchwil ymddeol cyn cael amser i wneud gwaith ymchwil! Yn olaf, daearyddwr ydw i wrth reddf, ac mae’r ysfa i grwydro arna i. Rydw i wedi gwneud addewid â mi fy hun y byddwn i’n ymweld â nifer o lefydd un diwrnod. Ac mae’r diwrnod hwnnw wedi cyrraedd. John (dde) a chydweithiwr yn archwilio offer fferm traddodiadol yn Sain Ffagan, 1984


12

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

Y NEWYDDION YN GRYNO:

CADWCH LYGAD AM…

Mae merllys gwyllt olaf Dorset wedi cael ei achub rhag difodiant gan broject a gydlynir gan Amgueddfa Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Natural England, Ymddiriedolaeth Natur Dorset a Chanolfan Cofnodion Amgylcheddol Dorset. Roedd Tim Rich, Pennaeth Planhigion Fasgwlaidd yn rhan o’r tîm a weithiodd ar y project 16 mlynedd i ddod o hyd i gymar ar ei gyfer.

 anes natur sydd wedi ysbrydoli rhai o’n H harddangosfeydd haf. Mae Bîns ar Dost yn arddangosfa llawn hwyl sy’n dilyn y daith o’r pridd i’r plât, ac yn gofyn: o ble yn union y daw ein bwyd? Ydy’r hyn rydyn ni’n ei fwyta wir yn bwysig? Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 29 Medi.

 ig a Gwaed: Bwystawr Sutherland ac C Anifeiliaid Eraill yw arddangosfa ddiweddaraf Oriel y Parc. Mae’n archwilio cyfres Graham Sutherland o brintiau sy’n darlunio gwahanol greaduriaid, rai ohonynt yn gyfarwydd ac eraill o fyd ffantasi. Tan 6 Tachwedd. Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw perchnogion a rheolwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

LLWYDDIANNAU CODI ARIAN Mae’r llwyddiannau diweddar yn cynnwys £30,000 gan Lafarge Tarmac a £10,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson tuag at waith adlunio tai crwn Oes Haearn Bryn Eryr, sy’n rhan o ailddatblygiad Sain Ffagan; £8,675 gan CEMEX tuag at greu gweirglodd blodau gwyllt drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Dilynwch ni ar Twitter – @AmgueddfaCymru

RHIFYN 04

C  ofiwch alw heibio ein stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2-10 Awst, a gynhelir eleni yn Ninbych. Byddwn ni’n archwilio’r cysylltiadau niferus rhwng yr ardal a’r casgliadau cenedlaethol a bydd rhaglen o sgyrsiau a gweithgareddau. Bydd y manylion ar ein gwefan maes o law.

B  ydd Gw ˆ yl Fwyd boblogaidd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn ôl ar 7 ac 8 Medi gyda llond lle o stondinau’n arddangos y gorau o gynnyrch Cymru. Ychwanegwch ddogn da o hanes, ei gymysgu â mynediad am ddim a gweini’r cyfan mewn lleoliad awyr agored unigryw. Dyma’r rysáit perffaith am w ˆ yl fwyd sy’n tynnu dw ˆ r i’r dannedd.

M  ae Big Pit yn dathlu 30 mlynedd yn atyniad i ymwelwyr eleni a bydd llond trol o ddigwyddiadau dathlu ym mis Medi.

ˆ yl Fwyd £7,000 gan Lywodraeth Cymru tuag at W Sain Ffagan ym mis Medi a £5,200 gan un o’n Noddwyr ar gyfer rhaglen addysg arddangosfa gennym sydd ar y gorwel, Wallace: Gw ˆ r Angof Esblygiad? Am ragor o wybodaeth am fod yn Noddwr neu ein cefnogi, ffoniwch yr Adran Ddatblygu ar (029) 20573184 neu ewch i’n gwefan.

Hoffwch ni ar Facebook

Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 4  

www.amgueddfacymru.ac.uk

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you