Issuu on Google+

RHIFYN 01

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU GORFFENNAF 2012

www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Lechi Cymru yn 40 oed! DATHLU YN LLANBERIS

‘Rydym am i’n pen-blwydd yn 40 oed adlewyrchu a dathlu holl weithgarwch y lle hanesyddol hwn’ Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa

Ddeugain mlynedd yn ôl, agorodd Amgueddfa Lechi Cymru ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf. I ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn, mae gennym raglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn gron. Caewyd Chwarel Lechi Dinorwig a’r gweithdai Fictoraidd gwreiddiol, sydd bellach yn gartref i’r Amgueddfa, ym mis Awst 1969, gan ddod â bywoliaeth cannoedd o ddynion i ben. Ond, ar 25 Mai 1972, ailagorwyd y safle ar ei newydd wedd, fel Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru. Meddai Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa: ‘Ers y diwrnod hwnnw ym 1972, mae dros 2.6 miliwn o bobl wedi ymweld â’r Amgueddfa, bob un ohonynt wedi cerdded drwy’r fynedfa fwaog wych er mwyn profi hanes y diwydiant llechi yn yr ardal yma a dysgu amdano. ‘Rydym am i’n pen-blwydd yn 40 oed adlewyrchu a dathlu holl

weithgarwch y lle hanesyddol hwn dros y degawdau diwethaf, o ddyddiau cynnar y saithdegau i ymweliadau gan y Teulu Brenhinol (gan gynnwys Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru), y gwaith ailddatblygu mawr gwerth £2 filiwn o bunnau ddiwedd y nawdegau, i gyflwyno mynediad am ddim yn y mileniwm newydd.’ Dechreuodd y dathliadau ar 25 Mai gydag agoriad arddangosfa Dathlu’r Deugain sy’n cynnwys uchafbwyntiau o bedair degawd yr Amgueddfa, gan roi sylw i sefydlu’r amgueddfa ac ystyried swyddogaeth amgueddfeydd yn ein cymunedau heddiw. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith saith o ysgolion lleol sydd wedi bod yn gweithio ar y project ‘Fy Amgueddfa i’, sydd wedi cynnwys cyfweld rhai o’r staff a ffilmio’u hoff rannau o’r Amgueddfa ar gyfer eu gwefan. Ar 27 Hydref, bydd yr Amgueddfa’n cynnal ei darlith flynyddol gyntaf pan fydd Dr Roberts yn edrych ar

hanes amgueddfeydd llechi yn yr ardal. Teitl y ddarlith fydd ‘Cloddio’r Gorffennol: dathlu pen-blwydd ein hamgueddfeydd llechi yn 40 oed’. Mae’r Amgueddfa’n awyddus i gael eich cymorth chi. Os oes gennych chi unrhyw luniau neu gofroddion o’r cyfnod cynnar – neu os ydych am anfon lluniau mwy diweddar o’r safle – cysylltwch â ni er mwyn eu hychwanegu at ein casgliad. Os hoffech gyfrannu, ffoniwch yr Amgueddfa ar (029) 2057 3700 neu e-bostiwch llechi@amgueddfacymru.ac.uk. Gallwch ddilyn yr Amgueddfa ar Facebook neu Twitter hefyd – @amgueddfalechi.


RHIFYN 01

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

Cyfres deledu newydd arloesol Y BBC, CWMNI DA AC AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD YN CYNHYRCHU THE EXHIBITIONISTS

Ydych chi’n ysu am fod yn guradur? Ydych chi wedi ystyried erioed sut mae mynd ati i drefnu arddangosfa gelf? Mae Amgueddfa Cymru, mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales a Cwmni Da, wedi rhoi cyfle i bum unigolyn o bob cwr o Gymru gael mynediad i gasgliad celf cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi cynnig arni. Mae camerâu BBC Cymru Wales wedi bod yn dilyn yr unigolion ar gyfer y gyfres deledu arloesol, The Exhibitionists, wrth iddynt fanteisio ar eu cyfle unigryw i guradu eu harddangosfa gelf eu hunain gan

02

ddefnyddio rhai o drysorau’r casgliad cenedlaethol. Cafodd dau unigolyn guradu arddangosfa amgueddfa go iawn wedyn, a gellir gweld yr arddangosfa hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 19 Awst 2012. Ar 19 Gorffennaf, cynhelir trafodaeth banel arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd y rhai a fu’n gweithio ar y gyfres arloesol hon – y cynhyrchwyr teledu a’r curaduron newydd – yn trafod y broses o greu’r gyfres. Cynhelir y drafodaeth rhwng 2pm a 4pm ac mae am ddim i fynychu.

‘…cyfle unigryw i guradu eu harddangosfa gelf eu hunain gan ddefnyddio rhai o drysorau’r casgliad cenedlaethol.’


www.amgueddfacymru.ac.uk

Gw ˆ yl Archaeoleg Prydain 2012 AMGUEDDFA CYMRU YN RHAN O ˆ YL A GYNHELIR LEDLED Y DU W

’…pythefnos o weithgareddau, arddangosfeydd, sgyrsiau ac arddangosiadau i’r teulu, a’r cyfan oll am ddim.’

Unwaith eto eleni bydd Amgueddfa Cymru’n cymryd rhan yn yr wˆyl flynyddol hon a gynhelir ledled y DU. Bydd tair o’n hamgueddfeydd – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – yn cynnal pythefnos o weithgareddau, arddangosfeydd, sgyrsiau ac arddangosiadau i’r teulu, a’r cyfan oll am ddim. Cynhelir y gweithgareddau rhwng dydd Sadwrn 14 a dydd Sadwrn 28 Gorffennaf, ac mae’r cyfan am ddim (er gall fod angen i chi archebu lle – holwch yn gyntaf). Mae’r holl fanylion ar ein gwefan sef

I ddathlu dechrau’r wˆyl byddwn yn cynnal cynhadledd undydd o’r enw ARCHAEORFFENNOL YN FYW 2012 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 14 Gorffennaf, 10am5pm. Bydd y gynhadledd yn dathlu rhai o’r darganfyddiadau archaeolegol diweddaraf yng Nghymru a hanes cudd gwrthrychau hanesyddol. Pris y tocynnau yw £5 neu £4 (gostyngiad). Ffoniwch (029) 2057 3148 i archebu lle.

www.amgueddfacymru.ac.uk/foba12/

03


RHIFYN 01

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

Arddangosfa o wrthrychau rhyfeddol ar Ynys Môn CELC OES HAEARN LLYN CERRIG BACH YN DYCHWELYD I SIR FÔN 01

Diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Gwasanaeth Amgueddfeydd, Diwylliant ac Archifau Ynys Môn, mae gwrthrychau archaeolegol arbennig iawn yn cael eu harddangos yn Oriel Ynys Môn yr haf hwn – yn agos at y lle y cawsant eu darganfod saithdeg o flynyddoedd yn ôl. Llyn bach ger safle’r Awyrlu yn y Fali yw Llyn Cerrig Bach. Ym 1942, roedd rhedfa’r maes awyr yn cael ei hymestyn er mwyn gallu derbyn awyrennau mwy a thrymach o America. Wrth garthu’r llyn, daeth y prif dirmon W. O. Roberts a’i gydweithwyr o hyd i grwˆp o wrthrychau ysblennydd o’r Oes 04

Haearn yn amrywio o gleddyfau a chrymanau i deiars a dwy gaethgadwyn – yr unig rai i’w canfod yng Nghymru erioed. Defnyddiodd y gweithwyr un ohonynt i lusgo’u cerbydau o’r tir corslyd! Mae archaeolegwyr Amgueddfa Cymru ac eraill wedi ymchwilio i hanes y gwrthrychau’n fanwl. Bellach, y gred yw bod Derwyddon enwog Ynys Môn yn gadael gwrthrychau fel offrwm i’r duwiau yn Llyn Cerrig Bach, rhwng 300CC ac OC100. Bydd y gwrthrychau i’w gweld yn Oriel Ynys Môn rhwng 14 Gorffennaf ac 11 Tachwedd.

‘…grw ˆpo wrthrychau ysblennydd o’r Oes Haearn’


www.amgueddfacymru.ac.uk

02

03

01 — Y plac efydd hwn, tua’r un maint â phlât cinio, yw un o’r darnau pwysicaf o waith metel addurnedig o’r Oes Haearn ym Mhrydain. 02 — Yn ogystal â’r plac uchod, mae’r grw ˆ p yn cynnwys gefel gof, cryman (y ddau yn y canol), genfa ffrwyn (chwith gwaelod) a chaethgadwyn haearn 3 metr o hyd. 03 — Dyma ran o utgorn crwm a wnaed o ddalen efydd.

05


RHIFYN 01

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

Penwythnos llawn gweithgareddau yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru YMERODRAETH: SIOE RUFEINIG

‘…dysgu am fywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl yng Nghymru’r Oes Rufeinig.’

Bydd sioe drawiadol yn disgwyl ymwelwyr â Chaerllion yn ystod mis Awst wrth i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gynnal penwythnos o ail-greu’r gorffennol Rhufeinig yn Ymerodraeth: Sioe Rufeinig. Eleni, mae Ermine Street Guard, prif grwˆp ail-greu’r cyfnod Rhufeinig, yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Fel rhan o’r dathliadau, bydd yn dychwelyd i Gaerllion gyda’i arddangosiadau milwrol gwych sy’n llawn seremoni a mawredd yr Ymerodraeth Rufeinig. Bydd seiniau gorymdaith y milwyr yn atsain o amgylch Amffitheatr Caerllion, wrth iddynt arddangos yr arfau oedd yn sicrhau mai’r fyddin Rufeinig oedd yn deyrn. Hefyd yn dychwelyd bydd y grwˆp o Gladiatoriaid poblogaidd, Ars Dimicandi, bob cam o’r Eidal bell.

06

Bydd digon i’w weld, ond gall y rhai mwy heini ohonoch gofrestru i ymuno ag ysgol y gladiatoriaid. Nid ysgol i blant yn unig yw hon – gall unrhyw un afael mewn cleddyf a rhoi cynnig arni! Bydd cyfleoedd eraill, ychydig yn llai ffyrnig, i gymryd rhan hefyd, fel sgwrsio â’r Rhufeiniad i ddysgu sut beth oedd bywyd i filwr, meddyg neu foneddiges yn yr oes Rufeinig. Bydd teithiau tywys o’r adfeilion Rhufeinig, gweithgareddau i blant a stondinau o amgueddfeydd ac atyniadau eraill. Mae’r penwythnos llawn gweithgareddau hwn yn gyfle gwych i gamu nôl mewn amser a dysgu am fywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl yng Nghymru’r Oes Rufeinig.

Cynhelir Ymerodraeth: Sioe Rufeinig ar 18 a 19 Awst. Bydd un tâl mynediad yn cynnwys pob digwyddiad (heblaw am fwyd). Pris y tocynnau yw £4.50 (oedolion), £2.50 (gostyngiad) a £12 i deuluoedd.


www.amgueddfacymru.ac.uk

Dysgu drwy ddiwylliant a chreadigrwydd PROJECT BLING Project cenedlaethol i bobl ifanc, wedi’i ariannu gan Amgueddfa Cymru a Chronfa Ganlyniadau Cymunedau yn Gyntaf, yw Bling. Mae’r project yn gyfuniad arloesol o’r celfyddydau, amgueddfeydd a fframwaith gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf i gynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc, gan gynnwys achrediad drwy Ddyfarniad Gweithgareddau ASDAN. Mae’r project yn annog creadigrwydd, yn meithrin diddordeb mewn dysgu, yn gwella cyrhaeddiad ac yn ysgogi’r dychymyg. Mae grwpiau o bobl ifanc wedi bod ar ymweliadau tu ôl i’r llenni yn ein hamgueddfeydd i ystyried cysyniad ‘bling’. Beth yw bling? Modrwy? Tarian Rufeinig? Portread eiconig? Gyda churaduron arbenigol bu’r grwpiau’n edrych ar sut mae metel gwerthfawr, trysorau ac addurniadau’n cael eu defnyddio i fynegi chwaeth, delwedd a statws personol. Yna, bu’r grwpiau’n gweithio gydag artist i greu eu bling eu hunain – unrhyw beth o fodrwy syml i gadwyn anferth gymhleth neu fideo cerddoriaeth a chelf graffiti. Roedd y syniadau’n amrywio o lo fel ‘aur du’ i ‘bling mewn celf’. Aeth pob un ati i greu datganiad am ei gefndir, ei ffordd o fyw a’i ddyheadau trwy greu dehongliad personol o ‘bling’.

Os hoffech wybod mwy am y project hwn a’n gwaith gyda phobl ifanc, ffoniwch yr Adran Dysgu ar (029) 2057 3114.

‘Aeth pob un ati i greu datganiad am ei gefndir, ei ffordd o fyw a’i ddyheadau trwy greu dehongliad personol o ‘bling’.’

Bydd eu gwaith i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru tan ddiwedd mis Medi. Mae’r arddangosfeydd yn dangos gwaith bywiog a gwreiddiol y bobl ifanc, pob un ohonynt wedi dehongli’r thema yn ei ffordd unigryw eu hun.

07


RHIFYN 01

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

01

“Nid oes unrhyw beth yn fwy grymus na ffotograff sy’n tanio’r dychymyg, sy’n cyffwrdd a’n hemosiynau neu sy’n gwneud i ni feddwl.” Mark Cawardine, cadeirydd y panel beirniadu

Mae cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement gyda’r uchaf ei bri yn y maes, ac mae’n arwain y byd o ran cyflwyno dehongliad artistig o fyd natur. Dros yr haf, bydd yr arddangosfa i’w gweld yn orielau hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r arddangosfa, o eiddo’r Amgueddfa Hanes Natur a chylchgrawn BBC Wildlife, yn llawn o luniau sy’n wledd i’r llygaid ac yn procio’r meddwl yn aml, gan gynnig cipolwg ar harddwch, drama ac amrywiaeth byd natur. Dyfarnwyd y teitl Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement 2011 i Daniel Beltrá o Sbaen am ei lun Still life in oil, llun trawiadol o wyth pelican brown wedi’u hachub o drychineb olew, 08

rhan o’i bortffolio chwe llun a gyflwynwyd ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Ffotonewyddiadurwr y Flwyddyn Veolia Environnement 2011. Mateusz Piesiak o Wlad Pwyl oedd enillydd gwobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Ifanc Veolia Environnement 2011, am ei lun Pester power.

Meddai Mark Carwardine, cadeirydd y panel beirniadu, ‘Er nad oes fformiwla gyfrin i ennill, na rheolau pendant i esbonio pam mae un ffotograff yn ennill ar draul un arall, mae gan bob llun buddugol un peth yn gyffredin – gwreiddioldeb.

‘Mae’r beirniaid yn chwilio am rywbeth sy’n eu syfrdanu. Mae’r Cafodd y lluniau eu dewis o blith gystadleuaeth yn gwneud cyfraniad dros 40,000 o geisiadau gan cynyddol bwysig at godi proffil ffotograffwyr amatur a phroffesiynol ffotograffiaeth bywyd gwyllt a chodi ledled y byd. Roedd y beirniaid yn ymwybyddiaeth am gadwraeth. cynnwys rhai o’r arbenigwyr bywyd Nid oes unrhyw beth yn fwy grymus gwyllt a’r ffotograffwyr natur uchaf na ffotograff sy’n tanio’r dychymyg, eu parch yn y byd. yn cyffwrdd â’n hemosiynau neu’n gwneud i ni feddwl.’ Mae cyrhaeddiad rhyngwladol y gystadleuaeth yn cynyddu, gyda Mae’r arddangosfa yn cheisiadau am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol 2011 o Cambodia, Moldova, Caerdydd 16 Mehefin-19 Medi Brunei a Kyrgyzstan. ac mae mynediad am ddim.


www.amgueddfacymru.ac.uk

01 — Stephane Vetter (Ffrainc) Heavenly light show

04 — David Lloyd (Seland Newydd) In the flick of a tail

02 — Thomas Peter Peschak (Yr Almaen/De Affrica) Night sharks

05 — Kah Kit Yoong (Awstralia) Dawn stars

03 — David Fettes (y DU) Pool of Hippos

02

04

05

03

09


RHIFYN 01

NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

Tu ôl i’r llenni yn yr amgueddfeydd Yn yr adran hon cewch gyfle i gyfarfod â rhai o’r unigolion sy’n gyfrifol am gasgliadau cenedlaethol Cymru. Graham Oliver, Pennaeth Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol Amgueddfa Cymru sy’n ateb y cwestiynau y tro hwn. Mae Graham, sydd newydd ddychwelyd o daith ymchwil i’r Cefnfor Arctig, wedi’i anrhydeddu mewn ffordd anarferol am ei gyfraniad i’n dealltwriaeth o folysgiaid dwyfalfog (rhai â chregyn dwy ran, gan gynnwys sgolopiau, cregyn gleision a chregyn bylchog). Daeth Graham, sydd o’r Alban yn wreiddiol, i weithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym 1979, ac mae yma o hyd!

— G  raham Oliver, yn dal sbwng anferth, ar ei alldaith ymchwil ddiweddar i Norwy’r Arctig.

10

Gol: Beth yw swyddogaeth eich adran yn Amgueddfa Cymru? GO: Rwy’n credu bod gwaith amgueddfeydd yn rhannu’n dri maes: casgliadau, yr ymchwil sy’n deillio o’r casgliadau a chyflwyno’r ymchwil a’r casgliadau i gynulleidfa eang o bobl. Mae ein hadrannau hanes natur yn cyflawni swyddogaeth ryngwladol bwysig ym maes tacsonomeg – enwi a dosbarthu organebau a rhywogaethau newydd. Mae hyn yn hollbwysig. Os nad oes gennych chi system enwi gyffredin, ni fydd ymchwilwyr ledled y byd yn gallu siarad â’i gilydd. Tacsonomeg, felly, yw sail pob gwyddor fiolegol.

Gol: Graham, rydych newydd gael eich anrhydeddu mewn ffordd ddiddorol iawn – soniwch fwy am hyn. GO: Rwyf wedi bod yn ymchwilio i folysgiaid dwyfalfog, a’u disgrifio a’u henwi, gydol fy ngyrfa. Fel arfer, mae’r enw’n cynnwys rhyw fath o ddisgrifiad ond, i anrhydeddu fy ymchwil, mae un ohonynt newydd gael ei enwi ar fy ôl i. A dweud y gwir, dyma’r ail folwsg dwyfalfog i gael ei henwi er anrhydedd i mi, ac mae’n braf bob amser i dderbyn cydnabyddiaeth am eich gwaith. Yn y dyfodol, hoffwn enwi rhywogaeth newydd ar ôl fy mab.

Gol: Beth arall mae’r Adran Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol yn ei wneud? GO: Hyfforddi pobl – o amaturiaid i fyfyrwyr ôl-raddedig – i feithrin sgiliau adnabod, ac ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd. Rydym yn cynnal arolygon hefyd, fel mapio moroedd Cymru ac effeithiau glaw asid ar yr afon Gwy. Gallwn ddefnyddio’n hymchwil i hysbysu pobl am effaith newid yn yr hinsawdd a pha mor bwysig yw gweithredu nawr i warchod ein hamgylchedd naturiol.

Gol: Unrhyw sylwadau eraill? GO: Mae ein gwaith a’n harbenigedd yn mynd â ni tu hwnt i Gymru i bob cwr o’r byd. Mae hyn yn bwysig i Gymru, gan ein bod yn dangos bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd mewn ymchwil ryngwladol. Mae ein hymchwil yn cyfrannu at wybodaeth fyd-eang ac yn hyrwyddo Cymru fel cenedl ymchwil frwdfrydig. Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’n harbenigedd i helpu gwledydd eraill sy’n datblygu, nad oes ganddynt y cyfoeth o gasgliadau sydd gennym ni. Mae hyn yn arbennig o bwysig heddiw mewn perthynas â materion diogelwch bwyd a chadwraeth.

Gol: Sut mae adrannau hanes natur yn wahanol i adrannau eraill yr amgueddfa? GO: Rydym yn defnyddio’r gorffennol i lywio’r dyfodol mewn ffordd wahanol. Mae technegau wedi newid yn sylweddol ers i ni ddechrau casglu yn yr amgueddfa, ac mae dadansoddi DNA yn rhan bwysig o’n gwaith hanes natur erbyn hyn. Mae ein hymchwil yn ymchwil fyw – yn cofnodi sut mae’r amgylchedd wedi newid, ond yn nodi ei gyflwr presennol hefyd. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddarganfod, a helpu pobl i ddehongli’r byd naturiol sydd o’u cwmpas nawr yn hytrach na’r hyn oedd yn bodoli yn y gorffennol.

Mae’r llyfr Bivalve Seashells of Tropical West America, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, wedi enwi’r rhywogaeth newydd Channelaxinus oliveri ar ôl Graham, am ei gyfraniad dros ddegawdau i’r ddealltwriaeth fydeang o folysgiaid dwyfalfog morol.


www.amgueddfacymru.ac.uk

Croeso newydd i hanes natur EDRYCH O’R NEWYDD AR THEMÂU HANFODOL

‘Parth croeso’ newydd ar gyfer hanes natur yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau ar lawr daear Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r gofod newydd hwn yn cynnwys creaduriaid, dail a ffosiliau anferth, ac yn rhoi cyflwyniad cyffrous i’r themâu a geir yn yr orielau hanes natur. Yn y gofod hwn, gall ymwelwyr gasglu taflenni arbennig a fydd yn eu tywys o’r parth croeso a thrwy’r orielau, gan archwilio’r themâu hyn a mwy. Bydd taflenni newydd hefyd yn cynnwys ein horiel newydd, Cipolwg, sy’n egluro gwaith gwyddonwyr yr amgueddfa.

Mae byd natur yn llawn harddwch a rhyfeddod, lle gwelir cydweithio a chystadleuaeth ddidostur. Rydym yn dibynnu arno er mwyn goroesi. Rydym am i ymwelwyr gael eu hysbrydoli gan gyfoeth byd natur, i ddeall y prosesau sy’n ei reoli a’i newid ac i weld sut mae ein gweithredoedd ni yn dylanwadu arno neu’n ei gynnal.

‘Rydym am i ymwelwyr gael eu hysbrydoli gan gyfoeth byd natur’

Ond mae amgueddfa hanes natur yn fwy nag arddangosfeydd mewn orielau yn unig. Mae’r casgliadau, y data, y gwyddonwyr ymchwil ac effeithiau byd-eang eu harbenigedd yn allweddol hefyd. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn adnoddau gwerthfawr sy’n cefnogi cadwraeth a phenderfyniadau byd-eang, wrth i ni ryngweithio â’n planed. 11


NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU

www.amgueddfacymru.ac.uk

Newyddion yn gryno STRAEON CODI ARIAN LLWYDDIANNUS Yn 2011/12, llwyddodd Adran Datblygu Amgueddfa Cymru i ragori ar ei tharged am y flwyddyn, gan godi dros £1.4 miliwn ar gyfer gwahanol brojectau. Roedd hyn yn cynnwys rhodd o £600,000 gan Sefydliad Esmée Fairbairn, ar ei ben-blwydd yn 50 oed, ar gyfer digido ein casgliad o ffotograffau hanesyddol; £15,000 gan Sefydliad Charles Hayward i adfer ac arddangos cyfarpar torri glo yn Big Pit; £142,300 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i brynu dau baentiad topograffig o ddechrau’r 18fed ganrif sef Paentiadau Margam; £7,000 gan Westco tuag at gynnal Penwythnosau Gweithgareddau i’r Teulu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; a dau grant, £1,500 gan Menter Gorllewin a £2,000 gan Setliad Elusennol G C Gibson, ar gyfer y project yn Amgueddfa Wlân Cymru i goffáu suddo’r SS Arandora Star.

GWEDDNEWID DYFODOL PLANT

CADWCH LYGAD AM...

Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn her sylweddol, ac rydym yn benderfynol o wneud ein rhan. Yn gynharach eleni, dechreuwyd ymgynghori ar ein strategaeth i gynorthwyo plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn tlodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.

Bydd yr arddangosfa John Piper: Mynyddoedd Cymru yn Oriel y Parc Tyddewi, 7 Gorffennaf-7 Hydref. Bu Piper yn ymweld yn gyson ag Eryri cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn ei ystod, gan gynhyrchu cyfres o luniau dyfrlliw mawr oedd yn archwiliad graffig o’r mynyddoedd. Daw’r rhan fwyaf o’r gwaith yn yr arddangosfa o gasgliad preifat ac maent ar fenthyg am y tro cyntaf. Fe’u hategir gan weithiau o gasgliadau Amgueddfa Cymru, Ymddiriedolaeth Derek Williams a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y dangosiad hwn o’r arddangosfa hefyd yn cynnwys lluniau gan Piper o ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys Sir Benfro.

Daeth nifer o ymatebion i law, ac rydym wrthi’n rhoi’r strategaeth ar waith. Byddwn yn cynnal cynhadledd undydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 17 Gorffennaf i drafod sut gall sefydliadau diwylliannol helpu i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae’r siaradwyr yn cynnwys Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth; Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru a David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan, neu e-bostiwch

heledd.fychan@amgueddfacymru.ac.uk.

CREU HANES

MWY O YMWELWYR NAG ERIOED

Mae Gorffennaf yn fis pwysig i Amgueddfa Cymru, gan y byddwn yn clywed a yw Creu Hanes, ein project mawr i ailddatblygu Sain Ffagan, wedi llwyddo i gael nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Roedd 2011/12 yn llwyddiannus iawn mewn ffordd arall, gan i ni lwyddo i ddenu’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr – 1.69 miliwn.

Mae’n amlwg bod lansio ein Hamgueddfa Gelf Genedlaethol Rydym yn disgwyl clywed ddiwedd mis newydd ac ail-agor ein horielau Gorffennaf. Yn y cyfamser, i ddysgu hanes natur poblogaidd yn mwy am Creu Hanes ewch i Amgueddfa Genedlaethol www.amgueddfacymru.ac.uk – Caerdydd wedi cyfrannu llawer cliciwch ar y stori ar y dudalen flaen. at hyn. Bu dathlu yn Amgueddfa Wlân Cymru hefyd, wrth iddynt ddenu dros 30,000 o ymwelwyr, am y tro cyntaf erioed.

Yr arddangosfa bartneriaeth nesaf yn Amgueddfa ac Archifau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fydd Visions of Abroad, 14 Gorffennaf-12 Ionawr 2013. Mae’r arddangosfa’n edrych ar y cysylltiadau niferus rhwng Cymru a’r byd trwy wrthrychau o Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys nifer o wrthrychau o gasgliadau celf Amgueddfa Cymru gan gynnwys dau lun gan Penry Williams a detholiad o lestri Cymreig a ceramig a ysbrydolwyd gan fotiffau Tsieineaidd, Siapaneaidd a chlasurol. Cofiwch ymweld â’n stondin yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd (23-26 Gorffennaf) ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg (4-11 Awst). Bydd digonedd i’w weld a’i wneud, boed law neu hindda.

Dilynwch ni ar Twitter – @AmgueddfaCymru 12


Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 1