Ein Strategaeth 2022-2025 Mae’r strategaeth hon yn seiliedig ar gyngor, canllawiau a disgwyliadau’r bobl hynny sydd â phrofiad o fod wedi byw â salwch/cyflyrau ac sydd yn cyfrannu ac yn parhau wrth wraidd ein gwerthoedd, ein huchelgais a’n cenhadaeth. Rydym yn cael ein harwain gan y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu a dylai pob dim a wnawn fod ar gyfer ein buddiolwyr.
1
Rhagair
Clive Wolfendale Cadeirydd y Bwrdd, Adferiad Recovery
Fel Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Adferiad Recovery, ac yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus o weithrediad fel mudiad unedig, mae’n bleser mawr gennyf nodi ein strategaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae’r dwy flynedd diwethaf wedi bod yn digynsail ar gyfer bob un o’n rhanddeiliaid. Mae ein buddiolwyr, pobl sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth, ein staff a’n gwirfoddolwyr, llawer ohonynt â phrofiad personol neu deuluol o adferiad, a’n partneriaid a’n cyllidwyr, i gyd wedi gorfod dod i delerau â byd gwahanol iawn. Amharwyd ar wasanaethau, mae anwyliaid wedi’u colli neu’n sâl iawn, a bu galwadau enfawr ar system iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau. Mae ein tîm wedi gweithio’n hynod o dda drwy gydol y pandemig Covid, gan ddarparu ein gwasanaethau sefydledig presennol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a hefyd gwasanaethau newydd, arloesol ac anghysbell sy’n cynnig llawer o ddysgu a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Rŵan mae Adferiad Recovery yn un o’r mudiadau fwyaf a dylanwadol yn ein maes ledled Lloegr a Chymru, ac mae’r strategaeth hwn yn nodi ein huchelgais i achub a gwella bywydau, i gefnogi a chynorthwyo teuluoedd a gofalwyr, i ddwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif, ac i fod y cyflogwr o ddewis. Mae gennym hanes hir a falch o gael ein harwain a’n dywys gan ein buddiolwyr, o gael ein hadnabod fel le gwych i weithio, ac o fod yn ddarparwyr gwasanaeth o ansawdd uchel ac eiriolwyr. Byddwch yn gweld o’r strategaeth hwn bod dros y tair blynedd nesaf byddwn yn gwthio ein hunain i fod y gorau yn beth rydym yn gwneud, i adnabod a chefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf, ac i arwain ac annog trafodaeth a deialog ar gyfiawnder cymdeithasol. Rydw i a Bwrdd Ymddiriedolwyr Adferiad Recovery yn falch i fod yn rhan o’r genhadaeth hwn a byddwn ni gyd yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y mudiad yn mynd o nerth i nerth.
2
Cefndir Adferiad Recovery Mae Adferiad Recovery yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd yr elusennau a’i sefydlodd i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau a’r sawl sydd ag anghenion cymhleth ac sy’n cyd-ddigwydd.
3
Mae Adferiad Recovery yn ymrymuso newidiadau positif ym mywydau’r bobl sydd yn wynebu cyflyrau iechyd cymhleth ac amgylchiadau cymdeithasol heriol – pobl sydd yn cael eu gweld a’u clywed yn anaml iawn – drwy gyfrwng ystod o wasanaethau, ymgyrchoedd a chefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan staff a gwirfoddolwyr sgilgar a phrofiadol.
Ein Gwerthoedd Datblygwyd Ein Gwerthoedd gan ein buddiolwyr a’n staff ac maent yn adlewyrchu uchelgais ac ymroddiad at adferiad.
EIRIOLWYR ADFERIAD Rydym yn cefnogi pobl sydd yn cymryd rheolaeth o’u sefyllfaoedd a’n gwneud cynnydd er mwyn sicrhau ansawdd bywyd gwell.
YN FFOCYSU AR BOBL Rydym yn gosod pobl a’u lles wrth wraidd pob dim a wnawn, boed eu bod yn gleientiaid, aelodau, gofalwyr, teuluoedd, gwirfoddolwyr neu staff.
EMPATHETIC - Rydym yn dangos caredigrwydd a dealltwriaeth yn y ffordd yr ydym yn uniaethu gyda’n cleientiaid a chydweithwyr.
PROFFESIYNOL - Rydym yn ceisio bod yn agored, yn onest ac yn deg wrth ddarparu ein gwasanaethau ac yn gyfrifol – yn unigol a gyda’n gilydd – ac yn atebol am ein gweithredoedd.
AMRYWIOL - Mae amrywiaeth yn cynnwys cymuned Adferiad mwy sgilgar a hyfyw. Rydym nid yn unig yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ond yn ei ddathlu.
CYDWEITHREDU - Rydym yn ceisio chwilio am gyfleoedd i gydweithredu er mwyn cynyddu a gwella ein gwasanaethau. Os ydym yn medru gweithio gyda’n gilydd er mwyn rhannu arbenigedd a sicrhau canlyniadau gwell i’n cleientiaid, yna byddwn yn ceisio gwneud hyn.
4
Ein Buddiolwyr Mae ein buddiolwyr yn bobl sydd angen help gyda’r problemau y maent yn wynebu gyda:
• • • • • • • • • • • • • • 5
Iechyd meddwl (gyda chyfeiriad penodol at afiechyd meddwl difrifol) Llesiant seicolegol ac emosiynol Anableddau dysgu Salwch o unrhyw fath Oedran Troseddu neu’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol Allgáu cymdeithasol Gweithgareddau cymdeithasol Camddefnyddio alcohol Camddefnyddio cyffuriau Gamblo Yn ddibynnol ar sylweddau eraill / caethiwed Anghenion cymhleth ac sy’n cyd-ddigwydd Wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu’r gwasanaethau brys a’u teuluoedd a gofalwyr.
Rydyn ni yma i’r rhai sydd ein hangen ni.
6
Ein Hamcanion Allweddol
LLAIS - Yn sicrhau bod llais ein buddiolwyr yn cael ei glywed, yn ddelfrydol drwy gyfrwng eu lleisiau eu hunain ond pan eu bod angen cefnogaeth, rydym yn dwyn ynghyd y miloedd o lleisiau y bobl hynny yr ydym yn eu cefnogi.
ARLOESI - Rhaid bod ein buddiolwyr wrth wraidd ein polisïau, dylunio
systemau a gwerthuso. Bydd ymchwil, cyd-gynhyrchu a ffocysu ar ganlyniadau yn gonglfaen ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol.
GWASANAETHAU O ANSAWDD - Ansawdd ym mhob dim a wnawn. Rydym
am fod yn arweinwyr, ac yn cefnogi ac yn eirioli ar gyfer ein buddiolwyr fel eu bod ond yn derbyn y gorau, a hynny o ran y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac ar gyfer 7 y sawl sy’n cael eu darparu gan eraill.
Rhaid i Adferiad Recovery sicrhau bod cyfrifoldebau unigolion ar flaen ein meddyliau ym mhob dim a wnawn. Ond nid yw hynyn ddigon: fel mudiad ymgyrchu, rhaid i ni adlewyrchu barn ein buddiolwyr, ac fel cyflogwr mawr, mae dyletswydd foesol gennym. Fel elusen, mae dyletswydd budd cyhoeddus gennym hefyd i wneud mwy na chydymffurfio gyda’r isafswm. Mae Adferiad Recovery yn ceisio dod yn Fudiad Sy’n Atgyfnerthu hawliau ac yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Ysgol Gyfraith a Throseddeg Hilary Rodham Clinton, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Diverse Cymru er mwyn ceisio cyflawni’r nod yma. Bydd adroddiad blynyddol yn cael ei baratoi er mwyn dangos ein cynnydd tuag at wireddu’r uchelgais yma. Er mwyn cyflawni’r amcanion yma, mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein hamcanion ar gyfer y tair blynedd nesaf ar draws y mudiad.
8
Ein Pobl Mae staff a gwirfoddolwyr yn allweddol i’n gallu i gefnogi ein buddiolwyr. Mae pedair blaenoriaeth gan ein Strategaeth Pobl:
DENU - Denu ymgeiswyr o ansawdd i rolau sydd wedi eu cynllunio’n dda drwy gynnig gwobrau ardderchog, llwybrau eglur o ran gyrfa a phrofiad heb ei ail fel ymgeiswyr.
DATBLYGU - Hyfforddi a datblygu’r tîm er mwyn eu caniatáu i gyflawni eu hamcanion gyrfaol tra hefyd yn hyrwyddo arweinyddiaeth a rheolaeth ardderchog.
CEFNOGI - Yn cefnogi’r holl gyflogeion, gweithwyr a gwirfoddolwyr drwy gyfrwng gwasanaeth Adnoddau Dynol cynhwysfawr y maent yn medru ymddiried ynddo, sydd yn ffocysu ar lesiant ac yn ymgysylltu.
CADW STAFF - Yn creu amgylchedd gwaith iachus, cefnogol a blaengar er mwyn sicrhau profiad positif i’n staff a’n gwirfoddolwyr. 9
Amcanion DENU
DATBLYGU
CEFNOGI
• Datblygu pecyn gwell o amodau a thelerau sydd yn sicrhau bod y tîm cyfan yn gyson yn dilyn yr uno yn 2022-23. • Gwella’r perfformiad recriwtio 10% bob blwyddyn.
• Cwblhau archwiliad o sgiliau staff yn 2022-23 a diweddaru a datblygu’r rhaglen anwytho gynhwysfawr a’r rhaglen ddatblygu sy’n cael eu darparu gan Academi Adferiad. • Staff a gwirfoddolwyr yn cwblhau’r holl gyrsiau sydd angen bob blwyddyn a’n sgorio isafswm o 80% o ran bodlonrwydd bob blwyddyn gyda’r hyfforddiant.
• Gweithredu system TG Pobl hunan-wasanaethu newydd ar gyfer 2022-23 a fydd yn cynnig data manwl ar gymorth staff, rheoli, recriwtio a chadw staff. • Arolwg staff blynyddol sydd yn dangos sgôr isafswm o 80% o ran bodlonrwydd bob blwyddyn gyda’r gefnogaeth gan Adnoddau Dynol.
• Gweithio gyda’n hundebau cydnabyddedig er mwyn darparu gweithle iachus a phositif. • Gwella’r gwaith o gadw staff o 10% bob blwyddyn. CADW STAFF
10
Ein Hadnoddau a Chynaliadwyedd • Mae gan Adferiad Recovery canolfannau tîm ym mhob un sir yng Nghymru, gyda thri safle ysbyty (gan gynnwys un yn Swydd Gaerhirfryn), uned adsefydlu, sawl eiddo preswyl a swyddfeydd modern. • Mae Adferiad Recovery yn gweithredu fflyd o bron i 50 o gerbydau gan gynnwys bysiau mini, cerbydau cludo bwyd a cheir.
11
• Ein nod yw sicrhau bod ein hasedau yn ffocysu ar sicrhau’r effaith fwyaf ar ein buddiolwyr, gan arbed arian a gwella ein proffil carbon.
Amcanion
EIDDO
CERBYDAU
CYNALIADWYEDD
• Adolygu’r holl eiddo yn flynyddol er mwyn sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau. • Bydd unrhyw waith ailwampio yn cynnwys defnyddio ynni yn fwy effeithlon, dulliau carbon isel e.e. goleuadau LED, insiwleiddio, goleuadau awtomatig ayyb. • Cynyddu’r nifer o unedau preswyl sydd ar gael i’n buddiolwyr o 5% y flwyddyn.
• Adolygu’r holl filltiroedd sydd yn cael eu teithio gan staff yn flynyddol er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o ran amser ac adnoddau. • Cynllunio tuag at adnewyddu’r cerbydau gyda cherbydau hybrid neu gerbydau trydan dros y bum mlynedd nesaf. • Annog y defnydd o dechnoleg er mwyn lleihau’r teithio tra hefyd yn cydnabod y gwerth o ddelio ag eraill wyneb i wyneb. • Cwblhau gwaith Mapio Carbon ar gyfer Adferiad Recovery. • Grŵp Cynaliadwyedd i ddatblygu cynllun ar gyfer lleihau’r defnydd o garbon o 10% blwyddyn ar ôl blwyddyn fel rhan o’r mapio carbon. • Defnyddio technoleg newydd er mwyn lleihau’r defnydd o bapur a deunyddiau wedi ei argraffu gan gynnwys cyhoeddiadau, marchnata a chyfathrebu mewnol drwy leihau faint o declynnau a ddefnyddir yn y swyddfa, a hynny o 10% y flwyddyn mewn termau go iawn.
12
Ein Gwasanaethau • Mae Adferiad Recovery yn darparu mwy na 140 o wasanaethau ar draws Cymru, ac yn ein huned yn Swydd Gaerhirfryn, rydym yn darparu gwasanaethau i bobl ar draws Lloegr. • Mae ein gwasanaethau yn amrywio o’r lefelau mwyaf cymhleth o gymorth mewn ysbytai ar gyfer cleifion mewnol i gynlluniau cyfeillio yn y gymuned ac ymgysylltu cymdeithasol. • Rydym yn darparu gwasanaethau arbenigol i bobl sydd ag anghenion cymhleth gan gynnwys afiechyd meddwl, caethiwed a dibyniaeth ac anghenion corfforol a dysgu. • Mae ein gwasanaethau yn gweithio gyda 16,000 o bobl bob blwyddyn drwy’r tîm o 655 staff a 51 gwirfoddolwyr. • Mae ein holl wasanaethau yn cael eu cyd-greu mewn partneriaeth gyda’r sawl sydd yn eu derbyn a’r staff 13 sydd yn eu darparu.
Amcanion
YMGYSYLLTU GYDA RHAN-DDEILIAID
• Datblygu partneriaethau prosiect lle y mae buddiolwyr yn ymgysylltu yn y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu datblygu a’u darparu yn 2022-23. • Darparu straeon newyddion misol ar wasanaethau penodol er mwyn eu rhannu ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel bod buddiolwyr yn gwybod am yr hyn yr ydym yn darparu. • Arolygon bodlonrwydd blynyddol sydd yn dangos bod adborth positif yn fwy na 80%.
• • •
GWASANAETHAU O SAFON UCHEL
TWF Y MUDIAD
Gweithredu’r safon ISO 9001:2015 ar draws ein holl wasanaethau yn 2022-23. Recriwtio ac yn medru cadw tîm o staff sgilgar ac egnïol sydd yn cynrychioli ein grŵp cleient. Bydd adolygiadau blynyddol yn arddangos cynnydd yn amrywiaeth y tîm. Rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn cydnabod fod y defnydd o’r Gymraeg – i nifer o’n cleientiaid – yn hanfodol o ran eu hadferiad, ac felly, rydym am geisio cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg 5% y flwyddyn drwy ddarparu mynediad at gyrsiau iaith, hyrwyddo swyddi ymhlith siaradwyr Cymraeg tra’n dathlu ein llwyddiant.
• Cynnal arolygon blynyddol o’r buddiolwyr er mwyn cadarnhau’r angen a’r dyhead am wasanaethau. • Gweithio gyda buddiolwyr, comisiynwyr a phartneriaid er mwyn datblygu modelau arloesol o wasanaeth. • Cadw ein gwasanaethau cyfredol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth o fwy o na 80% gyda’r safonau ISO gan arddangos darpariaeth safon uchel.
14
Ein Gwaith Ymgysylltu ac Ymgyrchoedd Yn 2020/2021, roeddem wedi ymgynghori gyda buddiolwyr, staff a phartneriaid, er mwyn pennu’r blaenoriaethau ar gyfer ein gwaith ymgyrchu dros y blynyddoedd i ddod. Y tri amcan allweddol oedd: • Gwella bywydau ein holl gleientiaid (nid yn unig y rhai sydd yn defnyddio ein gwasanaethau) gan gynnwys y bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddal a chaethiwed, pobl ag anghenion cymhleth, gofalwyr a theuluoedd. • Lleihau’r anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl fregus a’n lleihau sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu. • Sicrhau bod cefnogaeth a chyfeillgarwch ar gael i bawb. 15
Er mwyn medru cyflawni’r amcanion yma, rydym yn nodi pedwar maes allweddol o waith. Mae Adferiad Recovery yn meddu ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan sefydledig gyda nifer o ddilynwyr, ac mae angen i ni fanteisio ar effaith y llwyfannau yma er mwyn sicrhau bod modd i ni gyfathrebu ein negeseuon. SEFYDLU EIN HARBENIGEDD Sicrhau ymwybyddiaeth brand ar gyfer bob adran cyflawni Adferiad, gan ddangos pa mor effeithiol yr ydym yn gweithio, ac felly’n sefydlu arbenigedd y mudiad.
YMGYRCHU Caniatáu’r mudiad i ymgyrchu’n effeithiol er mwyn cyfathrebu ei negeseuon/amcanion ar draws pob un lefel (rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol).
YMWYBYDDIAETH GYHOEDDUS Dylanwadu a gyrru agenda ein mudiad, gan greu diddordeb ymhlith y cyhoedd.
YMWYBYDDIAETH WLEIDYDDOL Symud afiechyd meddwl a chaethiwed i fyny agenda polisi Cymru a’r DU.
16
Ymgyrchoedd ar gyfer 2022-23 Byddwn yn ymgyrchu’n weithgar ar gyfer creu gwelliannau mewn gwasanaethau, deddfwriaeth, y farn gyhoeddus a newid systemau er mwyn elwa ein buddiolwyr. Mae testunau ein hymgyrchoedd yn cael eu gyrru gan aelodau, buddiolwyr a phartneriaid ac yn cael eu dewis yn flynyddol. Ein hymgyrchoedd ar gyfer 2022-23 yw: • Herio’r stigma sy’n ymwneud gyda chaethiwed. • Gwella’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl.
17
Bydd y ddwy ymgyrch yn cael eu darparu gyda’n partneriaid yn 2022-23 er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosib.
Amcanion ARBENIGEDD
YMGYRCHU
YMWYBYDDIAETH GYHOEDDUS
YMWYBYDDIAETH WLEIDYDDOL
• Datblygu portffolio o ddeunydd briffio ar gyfer ein holl feysydd gwaith a barn Adferiad ar bolisïau perthnasol erbyn diwedd 2022-23, gan ddiweddaru hyn bob blwyddyn. • Datblygu brandiau a logos effeithiol ar gyfer ein holl feysydd gwaith ac uno ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan mewn un blwyddyn tra’n cynyddu’r traffig sydd yn mynd i’r safleoedd yma o 10% y flwyddyn.
• Cynnal digwyddiadau ymgyrchu ym mhob un o’r 22 sir yng Nghymru ac yn Swydd Gaerhirfryn bob blwyddyn. • Darparu dwy ymgyrch bob blwyddyn ar destunau sydd wedi eu dewis gan ein buddiolwyr ac yn gwerthuso’r ymgyrchoedd yma yn flynyddol fel rhan o’n arolwg.
• Byddwn yn sefydlu, hyfforddi ac yn cefnogi carfan o wirfoddolwyr Adferiad er mwyn ymddangos yn y cyfryngau fel cynrychiolwyr ein buddiolwyr. • Byddwn yn cynnig straeon i orsafoedd newyddion o leiaf yn fisol ac yn cynnal presenoldeb mewn digwyddiadau allweddol yng Nghymru fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. • BYDDWN yn aelodau gweithgar o DACW, y Gynghrair Iechyd Meddwl, Cynghrair Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru a grwpiau dylanwadu allweddol eraill. • Byddwn yn ymateb i geisiadau’r Pwyllgor Seneddol ar gyfer tystiolaeth sydd yn ymwneud â’n meysydd o arbenigedd ac yn paratoi nodyn briffio misol i Aelodau Seneddol San Steffan, Aelodau Seneddol Senedd Cymru, Cynghorwyr a’r wasg.
18
Ôl-Covid Roedd Adferiad Recovery a’n staff wedi perfformio’n eithriadol yn ystod y pandemig gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau yn parhau a’r nifer o bobl a gefnogwyd yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Rydym yn cydnabod fod y system iechyd a gofal cymdeithasol mewn argyfwng ac mae rôl sylweddol gan Adferiad i gefnogi’r GIG a’r awdurdodau lleol yn sicrhau bodd buddiolwyr yn parhau i dderbyn y gefnogaeth sydd angen. Byddwn yn gweithio fel arfer gyda’n partneriaid ond byddwn hefyd yn dal yn atebol ac yn eirioli ar ran ein buddiolwyr lle y mae’r gwasanaethau a’r systemau yn eu methu. Mae ein staff yn gwneud hyn ar draws y mudiad a byddwn yn defnyddio ein dylanwad er mwyn sicrhau bod y byd ôl-covid yn fyd gwell i’n pobl. 19
• Mae ein mentrau cymdeithasol, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud ag arlwyo a’r caffi, yn gorfod cael eu hail-adeiladu yn dilyn y pandemig. • Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd ar gyfer creu cyflogaeth, hyfforddiant a datblygu pwrpasol ac o ansawdd a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein mentrau cymdeithasol. • We yn ail-lansio ein mentrau cymdeithasol yn haf 2022 gyda chynllun am ddatblygiad parhaus.
20
Ein Partneriaid • Fel un o’r mudiadau mwyaf o’n math yn y DU, rhaid i ni gynorthwyo a chefnogi mudiadau gydag amcanion tebyg ac mae Adferiad Recovery yn croesawu gweithio mewn partneriaethau ag eraill. Mae yna rai prosiectau eithriadol a threfniadau sefydliadol sydd yn elwa’r bobl hynny sydd angen ein gwasanaethau. • Mae ein partneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i’w gweld isod ac rydym yn ceisio dod o hyd i bartneriaid newydd, datblygu perthnasau newydd ac yn parhau i gynnig cefnogaeth, arloesi a chydweithredu ar draws Cymru a thu hwnt. 21
22
ADFERIAD RECOVERY
www.adferiad.org.uk 01792 816600 info@adferiad.org Cwmni cyfyngedig drwy warant, wedi cofrestru yn Lloegr a Chymru, rhif 2751104 ac Elusen Gofrestredig, rhif 1039386