WildThing

Page 17

Simon Ward Simon Ward created the ‘photographs’ in this exhibition by placing animal corpses on a flatbed digital scanner, then slowly reproducing their intricate surfaces. These carefully composed elegant images of creatures in death have tremendous grace and clarity, the rich contrast between light and dark recalling for example the still lives of the Dutch masters. They present a respectful tribute to creatures rarely afforded a passing glance in everyday life, inspiring reflection on the end we will share. “Photography for me has to release a kind of physical emotion, placing me as close to the subject as I can and experiencing a personal challenge to represent the subject in its greatest veracity despite the intensity of the situation... Each image is created digitally on a scanner with the real artefact. This allows me to absorb the smells and textures forming a simple but carefully composed reflection, a stillness of life, a focus to detail made by a single ‘brushstroke’ of scanned light.” Simon Ward graduated from the Royal College of Art in 2007; he lives and works in London. www.simonwardphoto.com Bu Simon Ward yn creu’r ‘ffotograffau’ yn yr arddangosfa hon trwy osod cyrff anifeiliaid meirwon ar sganiwr digidol, ac wedyn yn raddol yn ailgynhyrchu eu harwynebau cymhleth. Mae gan y delweddau cywrain manwl hyn o greaduriaid mewn marwolaeth osgeiddrwydd ac eglurder arbennig, y cyferbyniad cyfoethog rhwng y golau a’r tywyllwch yn atgoffa un o waith bywyd llonydd meistri’r Iseldiroedd. Maent yn cyflwyno teyrnged barchus i greaduriaid na fyddant dan amgylchiadau eraill yn denu unrhyw sylw, ac yn gwneud i ni fyfyrio ar y diwedd y byddwn i gyd yn rhannu. “I mi rhaid i ffotograffiaeth ryddhau rhyw fath o emosiwn corfforol, yn fy ngosod mor agos at y gwrthrych ag sy’n bosibl, yn gwneud i mi brofi sialens bersonol i gyflwyno’r gwrthrych ar ei orau er gwaethaf dwyster y sefyllfa … mae pob delwedd yn cael ei chreu’n ddigidol ar sganiwr gyda’r arteffact real. Mae hyn yn fy nghaniatau i gymryd i mewn yr arogleuon a’r teimlad, yn ffurfio cofnod syml sydd wedi’i gyfansoddi’n ofalus, tawelwch bywyd, ffocws ar fanylyn a greuir gan un strôc gyda’r brws o olau sganiedig.” Graddiodd Simon Ward o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2007; mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain.

Blackbird 2007, Archival digital C-type print.

www.simonwardphoto.com


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.