UWIC Alumnium Welsh Issue 2

Page 1

UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF

AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E RSubheading DYDD here Subheading here

Rhifyn 02 – 2010

alumnium Cylchgrawn Cynfyfyrwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

y tu mewn... Anrhydeddu Cynfyfyrwyr tudalen 3

60 Mlynedd o Chwaraeon tudalen 5

Adeiladu’r Dyfodol tudalen 8

PDR: Cynllun Oes tudalen 10

Ysgol Goedwig tudalen 11

"Nodyn gan…" tudalen 13

Arddangos

cynllun clefydau tudalen 9

22


Croeso gan Swyddfa’r Cynfyfyrwyr

Cyfarfod â’r tîm! Ydych chi’n gwybod pwy yw pwy yn Nhŷ’r Coleg? Dyma’r bobl a all ateb y ffôn pan fyddwch chi’n ffonio… Ch-Dd: Dominic Codera, Gweinyddwr y Swyddfa Ddatblygu. Mae Dominic yn cefnogi ein holl feysydd gwaith, trwy waith ymchwil, cydweithredu a threfnu cyffredinol. Fi sydd nesaf, ac yna Andrew Walker. Andrew yw’r Cyfarwyddwr Datblygu yn Sefydliad UWIC, a bu’n fyfyriwr yn Athrofa De Morgannwg yn y 1980au. Ar y pen pellaf mae Sheona Evans, y Rheolwr Datblygu. Mae Sheona’n gyfrifol am godi arian a datblygu cymorth gan gynfyfyrwyr, ffrindiau a sefydliadau elusennol.

Croeso – a chyfle i ennill Wii!!

Uchod: Claire Grainger, Swyddog Cynfyfyrwyr UWIC

Croeso i ail rifyn ein cylchlythyr cynfyfyrwyr! Mae cymaint wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cyfarfod ag amrywiaeth eang o gynfyfyrwyr, o bell ac agos, ifanc ac ‘ifanc eu meddwl’ – pob un â stori ddiddorol i’w hadrodd. Rwyf wedi ceisio cynnwys rhai o’r straeon hyn, a’r gorau sydd gan UWIC i’w gynnig, yn y tudalennau canlynol, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eu darllen. Fel arfer – cofiwch roi gwybod i bobl amdanom ni: chi yw’n rhwydwaith, ac rwyf innau yma i sicrhau ei fod yn gweithio i chi. Eleni, rwyf wedi camu ar y llwyfan yn ystod un o’r seremonïau graddio – tipyn o her, ond cefais gryn bleser o weld cynfyfyrwyr newydd yn eistedd yno yn eu holl regalia. Mae’n bleser eich croesawu chi i gyd i’n rhwydwaith.

Ennill Wii Os byddwch chi’n diweddaru’ch manylion cyswllt (e-bost, ffôn neu gyfeiriad cartref) neu’n ein rhoi mewn cysylltiad ag un o’n cynfyfyrwyr ‘coll’, caiff eich enw ei roi mewn cystadleuaeth i ennill consol gemau Nintendo Wii. Caiff enw’r enillydd ei dynnu ar hap ar 31 Hydref 2010. 1


Croeso gan yr Is-ganghellor

Croeso gan yr Is-Ganghellor

Graddedigion Singapore yn meddwl busnes

Rydym yn dod i ddiwedd blwyddyn gofiadwy yn UWIC, gyda llawer o newidiadau i’w gweld ar y campysau. Mae Ysgol Reoli Caerdydd wedi symud i’w hadeilad newydd. Mae’r brif fynedfa a’r llyfrgell wedi’u hehangu i greu lle i’r myfyrwyr ychwanegol a fydd yn astudio yn Llandaf, ac mae’r hen gampws yn Rhodfa Colchester wedi ffarwelio â’i fyfyrwyr diwethaf ar ôl mwy na 40 mlynedd. Rydym wrthi’n cynnal

ymgynghoriad strategol cadarn a fydd yn rhoi fframwaith i UWIC ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i fynd i’r afael â gofynion ariannol, gwleidyddol a demograffig dros y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i ymrwymo i’n credoau craidd mewn perthynas ag ansawdd, amrywiaeth, hygyrchedd ac, yn bwysicaf oll, cyflogadwyedd. Mae 96% o raddedigion UWIC yn cael eu cyflogi neu’n mynd ymlaen i astudio ymhellach o fewn chwe mis i raddio. Unwaith eto, cafodd UWIC ei henwi’n un o’r prifysgolion newydd gorau yng Nghymru ym mhob un o’r pedwar tabl, a nododd ein Myfyrwyr Rhyngwladol mai UWIC

oedd y brifysgol orau yng Nghymru am ansawdd eu hamser yma. Mae Swyddfa Ryngwladol UWIC yn denu myfyrwyr o dramor i astudio yng Nghaerdydd – ac rydym hefyd yn rhannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd gyda nhw. Trwy ein partneriaethau â sefydliadau rhyngwladol fel yr East Asia School of Business yn Singapore, Prifysgol Hong Kong, yr Arab Academy yn yr Aifft a mwy, rydym bellach yn darparu addysg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr mewn naw gwlad. Ynghyd â’n Coleg Cyswllt, Ysgol Fasnach Llundain, mae gennym dros 3,500 o fyfyrwyr rhyngwladol llawn amser erbyn hyn.

Trwy gymorth ein cynfyfyrwyr a’n ffrindiau, rwy’n gwybod y byddwn yn gallu creu sefydliad cwbl flaengar, gan sicrhau dyfodol gwell i Gymru, y DU a thu hwnt. Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen straeon ein cynfyfyrwyr gymaint ag yr ydym ni’n mwynhau rhannu eu llwyddiant gyda chi.

Yr Athro Antony J Chapman Is-Ganghellor

Llywyddodd yr Athro Antony Chapman dros seremoni raddio yn Singapore ar gyfer myfyrwyr a oedd wedi astudio rhaglenni gradd UWIC yn yr East Asia School of Business (EASB). Roedd Andrew Chua, Pennaeth a Phrif Weithredwr EASB a Chymrawd Anrhydeddus UWIC, hefyd yn bresennol. Gyda pherthynas sydd wedi bodoli am fwy na 10 mlynedd, mae cysylltiadau UWIC â’r EASB wedi cryfhau ymhellach yn ddiweddar yn dilyn dilysu rhaglenni newydd mewn Cyfrifeg, Busnes, Systemau Gwybodaeth a Bancio a Chyllid.

2 2


Cymrodoriaethau Anrhydeddus

Cymrodoriaethau Anrhydeddus i Gynfyfyrwyr

Phil Davies, neu " Abs " ers ei ddyddiau ar y cae rygbi, yw Rheolwr Gyfarwyddwr Hospital Innovations ac un o brif entrepreneuriaid Cymru. Wedi’i leoli yn Llaneirwg, mae gan Hospital Innovations enw da yn rhyngwladol am wasanaethau llawfeddygol arbenigol fel orthobiologics, ac mae’n gweithredu’r unig fanc meinweoedd dynol o’i fath yng Nghymru. Astudiodd Phil Addysg Gorfforol a Hanes (1978 '81) a bu’n chwarae rygbi gyda Rhodri Lewis, Kevin Edwards (Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn cyntaf UWIC), Geraint John (Hyfforddwr tîm rygbi Canada) a John Rawlins o Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Aeth ymlaen i weithio ym maes Gwerthu a Marchnata i gwmnïau fel Johnson and Johnson cyn sefydlu Hospital Innovations yn 2007. Ar y pryd, dywedodd Phil, 3

"Doeddwn i ddim am weithio i gorfforaethau rhyngwladol mawr mwyach. Roedd dechrau fy musnes fy hun yn golygu gwell cyfleoedd incwm, gwell ansawdd bywyd, gallu rheoli fy hun a’r gallu i ddylanwadu ar fy nyfodol fy hun." Mae Phil yn noddi rygbi yn UWIC yn ei rôl fel Llywydd Clwb Rygbi UWIC, a fydd yn dathlu 60 mlynedd ers ei sefydlu mewn cinio yng Ngwesty’r Celtic Manor ym mis Tachwedd. Mae hefyd yn amlwg iawn gydag Ysgol Reoli Caerdydd, gan gynnig lleoliadau i fyfyrwyr a graddedigion yn Hospital Innovations. "Rwy’n credu’n gryf yn UWIC. Mae’r cwrs rheoli wedi’i gynllunio i hyrwyddo dull ymarferol ar sail prosiect, sef yr hyn sydd ei angen ar y byd busnes modern. Mae’n bleser gallu helpu fy hen goleg a bod yn gysylltiedig â’r sefydliad gwych hwn. Mae gen i lawer o atgofion melys o fy amser yng Nghyncoed."

David Emanuel o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar ddechrau’r 1970au, gan symud i’r Harrow School of Art, ac yna i Baris. Ar ôl cael ei ddewis i ddylunio’r wisg briodas a wisgwyd gan Diana Tywysoges Cymru ym 1981, daeth David yn adnabyddus ledled y byd. Mae wedi bod yn rhan o sawl prosiect teledu, yn ogystal â dylunio setiau a gwisgoedd ar gyfer bale, ffilmiau, cyngherddau, fideos cerddoriaeth, ymgyrchoedd hysbysebu a chynyrchiadau theatr a theledu. Yn Gymro i’r carn, dywedodd fod ganddo ddeigryn yn ei lygad pan ddechreuodd y delynores ganu’r delyn yn y seremoni raddio ddiweddar. "Cafodd effaith fawr arnaf," meddai. "Roedd yn brofiad rhyfedd gwrando ar fy nghyraeddiadau’n cael eu hadrodd yn uchel, oherwydd fel arfer rwy’n gwneud fy ngwaith heb feddwl am y peth – rwy’n

fwyaf creadigol yn y byd. "Mae llawer o bobl yn Llundain yn meddwl fy mod i’n Sais go iawn, ond rydw i mor falch o fod yn Gymro. Mae’n beth personol iawn i gael eich anrhydeddu gan eich gwlad eich hun, yn enwedig yng Nghaerdydd, gan mai dyma lle dechreuodd fy ngyrfa." Dangosodd hefyd ei synnwyr digrifwch, gan ddechrau ei araith dderbyn trwy ddweud: "Isganghellor, pryd ydw i’n cael y cerflun bach aur? A ble mae’r carped coch? Mae hwn yn las!" Mae ei gyngor i’r rheini sydd am ddilyn ei esiampl yn syml: gweithio’n galed a chredu yn eich hun. A beth am ei hoff ffrog? "Naill ai yr un rydw i newydd ei gwneud, neu’r un rydw i ar fin ei gwneud. Rwy’n cael cymaint o fwynhad yn fy ngwaith, dydw i ddim yn meddwl yn ôl i’r wisg briodas honno, er bod pawb yn gofyn i mi amdani."


Cymrodoriaethau Anrhydeddus

Dyfernir Cymrodoriaethau Anrhydeddus i unigolion sydd wedi cyflawni arbenigrwydd yn y celfyddydau, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, busnes neu fywyd cyhoeddus; neu sydd wedi darparu gwasanaeth eithriadol i UWIC; neu sydd wedi bod â chysylltiad agos ag UWIC. Felly, rydym yn falch iawn o fod wedi anrhydeddu tri o’n cynfyfyrwyr ein hunain eleni, ochr yn ochr ag unigolion pwysig eraill o fyd diwydiant a’r celfyddydau.

yn y DU. Yna, ymunodd â Llywodraeth y Cynulliad fel Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr y GIG ym mis Rhagfyr 2008. Cafodd ei benodi’n Swyddog Urdd Sant Ioan yn 2009. Mae gan Paul atgofion melys o’i ddarlithwyr a’i rhoddodd ar ben ffordd yn nyddiau cynnar ei yrfa.

Paul Williams OBE – Prif Swyddog Gweithredol GIG Cymru. Treuliodd Paul Williams flwyddyn yn astudio yn Rhodfa Colchester cyn dechrau ar yrfa 40 mlynedd lwyddiannus yn y GIG. Uchafbwynt ei yrfa yn y GIG oedd cael ei benodi’n Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, un o’r Ymddiriedolaethau mwyaf

Gillian Clarke – Awdures. Bardd Cenedlaethol Cymru ers 2008, mae barddoniaeth Gillian yn cael ei hastudio gan fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch ledled Prydain.

Cymrodoriaethau Anrhydeddus eraill a ddyfarnwyd eleni: Henry Engelhardt – Prif Swyddog Gweithredol, Admiral Group. Dyngarwr, dyn busnes a Llysgennad dros Gaerdydd, Henry yw Prif Swyddog Gweithredol un o’r cwmnïau prin sydd wedi parhau i ffynnu er gwaethaf cyflwr yr economi. Ei neges i’n graddedigion: "Os ydw i’n gallu llwyddo, gallwch chi lwyddo hefyd."

. David Richards CBE Cadeirydd, Prodrive. Crëodd y cyn yrrwr rali proffesiynol ei dîm ralïo ei hun a sefydlodd y busnes technoleg modurol a chwaraeon modurol annibynnol Prodrive ym 1984.

Gerald Davies CBE DL – Arwr rygbi Cymru a’r Llewod. Wrth dderbyn ei gymrodoriaeth, meddai Gerald, "Mae’n fraint mawr i mi dderbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus hon gan sefydliad mor eithriadol." Ers ymddeol o’r gêm, mae Gerald wedi cael cryn lwyddiant fel newyddiadurwr gyda’r BBC a The Times, ac ef yw Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Cymru. 4


Buddugoliaeth Arall i Glwb Rygbi UWIC

O’r Maes Chwarae i’r Podiwm

Eleni, bydd yr Ysgol Chwaraeon yn dathlu 60 mlynedd ers i’r dynion ifanc cyntaf gael eu hyfforddi fel y genhedlaeth nesaf o athrawon Addysg Gorfforol ar ôl y rhyfel. O farics y Fyddin yn y Mynydd Bychan i fod yn un o ganolfannau chwaraeon pennaf Cymru, mae Ysgol Chwaraeon Caerdydd wedi dod ymhell mewn 60 mlynedd. Dechreuodd Coleg Hyfforddiant Caerdydd ym 1950 gyda 30 o fyfyrwyr a thri aelod o staff Addysg

Gorfforol, gan gynnwys yr enwog Syd Aaron. Erbyn hyn, mae gan Ysgol Chwaraeon Caerdydd 80 aelod o staff a thros 1,500 o fyfyrwyr: un o’r ysgolion mwyaf o’i bath yn y DU, os nad y mwyaf. Erbyn hyn, mae UWIC yn cael ei chydnabod fel un o brifysgolion gorau’r DU am astudiaethau chwaraeon, yn rhannol oherwydd ei rhestr hir o lwyddiannau ym myd chwaraeon. Roedd arwyr dechrau’r 1960au yn cynnwys athletwyr Olympaidd fel Lynn Davies a Peter Radford. Ni ellir chwaith anwybyddu

dylanwad yr Ysgol ym ‘Mlynyddoedd Euraidd’ rygbi Cymru, gyda sêr fel Gareth Edwards a JJ Williams wedi graddio o UWIC yn y 1960au. Mae cyfanswm o 48 o chwaraewyr rhyngwladol, wyth o gapteniaid gemau prawf ac 13 o Lewod wedi graddio o UWIC dros y blynyddoedd. Ac nid sêr y byd rygbi’n unig y mae Ysgol UWIC wedi’u meithrin. Dros y blynyddoedd, mae ein graddedigion wedi cael dylanwad mawr fel athrawon a hyfforddwyr heb eu hail, ac wedi datblygu i fod yn athletwyr o safon mewn

chwaraeon fel jiwdo, criced, pêl-rwyd, gymnasteg, nofio, codi pwysau ac athletau. Yn wir, mae mwy na 500 o enwau mewn dros 30 o wahanol gampau wedi’u rhestru yn Neuadd Enwogion UWIC, gan gynnwys capten tîm rygbi Cymru a enillodd y Gamp Lawn yn 2008, Ryan Jones. Mae ein straeon llwyddiant mwyaf diweddar yn cynnwys tîm pêl-fasged merched yr UWIC Archers yn ennill Pencampwriaeth Prifysgolion Prydain a’r English National League – y tîm cyntaf o Gymru i wneud hynny ers y Rhondda Rebels – a’n tîm

rygbi merched yn cael eu coroni’n Bencampwyr Prifysgolion Prydain am y pumed tro yn olynol. Mae’r cyfleusterau yng Nghyncoed yn cael eu defnyddio gan glybiau myfyrwyr, perfformwyr elit, y cyhoedd ac, yn bwysicaf oll, mae 1,700 o blant yn defnyddio’r campws bob wythnos fel rhan o raglen Academi Chwaraeon Iau UWIC. Bydd cystadleuwyr o Awstralia, Seland Newydd a Trinidad a Tobago yn cynnal gwersylloedd paratoi yma hefyd ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

60 Mlynedd o Glwb Rygbi UWIC

UWIC RFC Storm to Victory 5

Dros y 60 mlynedd ers ei sefydlu, mae Clwb Rygbi UWIC wedi cynhyrchu mwy na 50 o chwaraewyr rygbi rhyngwladol a dwsin a mwy o Lewod ac, eleni, mae wedi parhau â’r traddodiad hwn trwy gael ei goroni’n bencampwr Adran Gyntaf y Dwyrain Cynghrair Genedlaethol SWALEC.

Ym mis Tachwedd 2010, bydd Clwb Rygbi UWIC yn dathlu 60 mlynedd ers ei sefydlu gyda chinio yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd. Rwy’n siŵr nad oes angen enwi’r holl sêr sydd wedi chwarae i’r clwb - Gareth Edwards, JJ Williams, Clive Rowlands, Tony Copsey, Gareth Cooper, Ryan Jones, Selwyn Williams – mae’r rhestr yn ddiddiwedd bron!

I ychwanegu at yr achlysur, mae rhai o’n cynfyfyrwyr eraill wedi bod mor garedig â chytuno i gyflwyno’r noson, sef John Inverdale, Roy Noble, Rick O'Shea a Phil Steele. Anfonir gwahoddiadau at ein holl gyn-chwaraewyr tua’r un pryd â’r cylchgrawn hwn – os nad ydych chi wedi cael eich gwahoddiad, cysylltwch â ni.


Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Athletwyr UWIC yn targedu medalau aur Mae hon wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i Glwb Athletau UWIC, i’n myfyrwyr cyfredol a’n cynfyfyrwyr. Enillodd Dai Greene y fedal Aur yn y ras 400 metr dros y clwydi ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona, gan gadarnhau ei statws fel y gorau yn Ewrop ac ychwanegu at y fedal Aur a enillodd ym Mhencampwriaethau Tîm Ewrop yn Norwy yn gynharach eleni. Cyrhaeddodd Tom Parsons, a fu’n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yn 2008, rownd derfynol y naid uchel yn Barcelona, ar ôl dod yn ail yn Norwy gyda naid o 2.25 metr. Erbyn hyn, mae Dai a Tom yn edrych ymlaen at Gemau’r Gymanwlad yn Dehli ym mis Hydref, lle cânt gwmni un o’n Hysgolheigion Chwaraeon a gefnogir gan gynfyfyrwyr, Brett Morse. Yn 21 oed, mae Brett eisoes wedi

cynrychioli Prydain mewn sawl digwyddiad rhyngwladol, gan gynnwys Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn 2008, Pencampwriaethau dan-23 Ewrop yn 2009 ac, yn fwy diweddar, Pencampwriaethau Tîm Ewrop. Ar hyn o bryd, mae Brett yn ail yn rhestr detholion y Gymanwlad, ac mae’n un o obeithion mawr Cymru o ennill medal yn y gemau. Rhywun arall sy’n gobeithio ymuno ag ef yw Bryony Raine, un o’n Hysgolheigion

Enw

Camp

David Greene

400 metr dros y clwydi

Tom Parsons

Chwaraeon eraill. Mae’r cynfyfyrwyr Lee Doran, Ryan Spencer Jones, Chris Gowell a Gareth Warburton yn gobeithio cynrychioli Cymru yn y gemau, a hwyrach y caiff eraill gyfle i gynrychioli Lloegr os cânt eu dewis. Yn ogystal â’r athletwyr, bydd Caroline Harvey, sydd wedi graddio mewn BSc Gwyddorau Chwaraeon ac sydd ar fin dechrau dilyn cwrs TAR, yn cynrychioli Cymru yn y cystadlaethau Badminton.

Canlyniad gorau

Nid athletwyr yn unig: Cafodd Jon Murray (Tylino Chwaraeon 2009) ei ddewis fel un o staff tîm Prydain ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona, lle bu’n cyflawni ei rôl fel therapydd meinwe meddal y garfan dygnwch.

Pwnc a astudiwyd

Hyfforddwr

48.12

BA (Anrh) Rheoli Chwaraeon a Hamdden, 2008

Malcolm Arnold

Naid uchel

2.28m

BA (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, 2005

Fuzz Ahmed

Brett Morse

Disgen

62.99m

HND Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon

Nigel Bevan

Bryony Raine

Naid bolyn

4.15m

BSc (Anrh) Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer, 2005 MSc Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer

Scott Simpson

Lee Doran

Gwaywffon

73.75m

BA (Anrh) Rheoli Chwaraeon a Hamdden, 2008

John Davies

Ryan Spencer-Jones

Taflu pwysau

17.92m

BA (Anrh) Rheoli Chwaraeon a Hamdden, 2009

Nigel Bevan

Chris Gowell

800 metr

1:46.88

BSc (Anrh) Gwyddor Bwyd a Maeth, 2008

Gareth Warburton

800 metr

1:46:61

HND Rheoli Chwaraeon a Hamdden, 2004

Darrell Maynard

6


Sefydliad UWIC

Codi Arian dros y Ffôn Diolch! Diolch i’n holl gynfyfyrwyr, staff a ffrindiau sydd wedi cefnogi UWIC eleni. Rydym wedi codi dros £300,000 ers rhifyn diwethaf Alumnium! Mae Llyfrgelloedd UWIC wedi elwa ar brynu cyfarpar newydd, ac mae Cynllun Ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i greu ar gyfer y rhai sydd fwyaf angen cymorth ac mae Cronfa Ymchwil newydd wedi’i chreu i gefnogi’r ymchwil penigamp a gynhelir gan UWIC ym mhob maes. Bydd y gefnogaeth hon yn cael effaith ar gymaint o fywydau, ac rydym yn hynod ddiolchgar. Os hoffech ddysgu mwy am sut i gefnogi UWIC, ffoniwch Sheona Evans, Rheolwr Datblygu, ar 029 2020 1593 neu anfonwch e-bost at sjevans@uwic.ac.uk Gallwch gyfrannu ar-lein trwy JustGiving yn: www.justgiving.com/uwicfoundation/donate

Cronfa Flynyddol UWIC Mae’r Gronfa Flynyddol yn dosbarthu’r holl arian sy’n cael ei godi’n flynyddol i gefnogi ysgoloriaethau a bwrsariaethau newydd, adnoddau newydd i fyfyrwyr ac ymchwil sy’n torri tir newydd. Gall pob rhodd, yn fawr neu’n fach, wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr presennol a chenedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol.

Yn ddiweddarach eleni, bydd Sefydliad UWIC yn mynd ati i gynnal ei ymgyrch codi arian dros y ffôn gyntaf. I roi syniad i chi o beth mae hyn yn ei olygu, a pham rydym yn cynnal yr ymgyrch hon, aeth Sefydliad UWIC ati i gyfweld ein Rheolwr Datblygu, Sheona Evans. C: Pam mae UWIC yn cynnal ymgyrch codi arian dros y ffôn? A: Yn syml, mae’n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â’n cynfyfyrwyr. Rydym yn rhoi gwybod iddynt am newyddion a digwyddiadau yn y sefydliad, ac yn dysgu mwy am bob unigolyn. Yn hollbwysig, mae hefyd yn ffordd wych o godi arian i gefnogi ein Cronfa Flynyddol newydd. C: A fyddwch chi’n gwneud yr holl alwadau ffôn eich hun? A: Na fyddaf, yn anffodus does dim digon o amser! Byddwn yn cyflogi myfyrwyr presennol i ffonio 5,000 o gynfyfyrwyr dros bedair wythnos. 7

C: Pam myfyrwyr, a dim staff? A: Os mai dim ond gweithio yma rydych chi wedi’i wneud, ni fyddwch chi wedi cael yr un profiad â’n cynfyfyrwyr. Mae cael myfyrwyr i wneud y galwadau’n rhoi cyfle unigryw i gynfyfyrwyr ymgysylltu â ni ar sawl lefel, i rannu profiadau sy’n goroesi amser – efallai na fydd ystafelloedd, ffreuturau a chyfleusterau chwaraeon wedi newid rhyw lawer! C: Beth mae myfyrwyr presennol yn ei wybod am fod yn gynfyfyrwyr? A: Mae myfyrwyr yn awyddus i gyfrannu gan mai nhw yw cynfyfyrwyr y dyfodol! Rydym yn ceisio

eu paru â chynfyfyrwyr a astudiodd yr un cwrs ag y maent yn ei ddilyn nawr. Bydd y telethon yn gyfle iddynt siarad â gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn eu maes astudio a chael cyngor ar yrfaoedd, awgrymiadau a gwersi bywyd cyffredinol gan gynfyfyrwyr. C: Sut fydd cynfyfyrwyr yn gwybod eu bod yn mynd i gael galwad ffôn? A: Ni fyddwn yn ffonio’n ddirybudd! Bydd pawb rydym yn bwriadu eu ffonio’n derbyn llythyr ymlaen llaw yn rhoi cyfle iddynt beidio â chymryd rhan, er ein bod yn gobeithio y bydd pawb yn fodlon siarad â ni – mae’n

gyfle i’n cynfyfyrwyr ddweud eu dweud ac i ni ddysgu mwy amdanynt fel y gallwn ni gynllunio ein gwaith yn well. Felly hyd yn oed os yw rhywun yn ansicr ynglŷn â chyfrannu, rydym yn gobeithio y bydd yn caniatáu i ni ei ffonio. C: Pam mai dim ond 5,000 o bobl rydych chi’n eu ffonio, er bod gennym rwydwaith o dros 35,000 o gynfyfyrwyr? A: Hoffem allu ffonio pawb, ond yn anffodus nid oes gennym rifau ffôn llawer o’n cynfyfyrwyr. Os hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni gyda’ch rhif ffôn! C: Faint o arian rydych chi’n gobeithio ei godi? A: Pe gallai pawb gyfrannu

£10 y mis am dair blynedd, gallem godi £600,000 yn y flwyddyn gyntaf yn unig! Trwy gynnwys Rhodd Cymorth ac Arian Cyfatebol, mae hynny’n golygu mwy na £2 miliwn dros dair blynedd. Mae hyn yn dangos sut y gall symiau bach o arian dyfu’n rhywbeth ystyrlon. C: Beth am bobl sy’n methu fforddio cyfrannu? A: Rydym yn gwybod na fydd pawb yn awyddus i gyfrannu, neu’n methu fforddio gwneud hynny. I fod yn onest, mae cael siarad â’n cynfyfyrwyr a chael eu barn yr un mor werthfawr i ni!


Graddedigion UWIC yn gweddnewid ein campysau

Ysgoloriaethau Willmott Dixon

Graddedigion UWIC yn gweddnewid ein campysau

Yn ogystal â gwella amgylchedd adeiledig UWIC, mae Willmott Dixon hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a gwobrau. Ym mis Chwefror, dyfarnwyd Ysgoloriaeth MSc Rheoli £3,000 Willmott Dixon i Patrick Rummens (BA (Anrh) Astudiaethau Busnes 2009), sydd bellach yn astudio ar y rhaglen MSc. Roedd Patrick yn ddiolchgar iawn am yr ysgoloriaeth: "Does dim rhaid i mi boeni am ffioedd cwrs mwyach, sy’n bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau gan fod y ffioedd hynny’n rhan fawr o gyllideb unrhyw fyfyriwr. Mae cael addysg yn ddrud, felly mae cael ysgoloriaeth gwerth £3,000 yn arwyddocaol iawn. Yn ogystal â hyn, mae ennill yr ysgoloriaeth wedi rhoi cyfle i mi ddysgu mwy am sector nad oedd gen i lawer o wybodaeth yn ei gylch. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn edrych yn ofalus ar y diwydiant adeiladu a’r dewisiadau cyffrous sydd ganddo i’w cynnig."

Un ffordd o fesur llwyddiant yw trwy edrych yn ôl ar eich amser yn UWIC a gweld eich bod wedi gadael eich ôl ar y lle.

Yn ogystal, dyfernir gwobr flynyddol am y perfformiad gorau ar y cwrs HNC mewn Adeiladu, Technoleg a Rheoli, a enillwyd eleni gan Claire Simpson, 26 oed, sy’n gweithio fel prynwr safleoedd i Mabey Bridge, Cas-gwent, a ddisgrifiwyd gan Gareth fel "enillydd teilwng dros ben. Roedd ei brwdfrydedd yn amlwg o’r cychwyn."

Yn achos Gareth Turner, cynfyfyriwr a astudiodd Adeiladu yn y 1970au, mae hyn yn arbennig o berthnasol. Gareth yw Rheolwr Sector AU AB cwmni adeiladu Willmott Dixon. Mae Willmott Dixon ar restri 'Top 100 Companies to work for' a 'Green List' y Sunday

Times, ac mae ganddo gytundeb partneriaeth fframwaith gyda UWIC i ddarparu gwerth £50 miliwn o waith ailwampio ar y campysau dros bedair blynedd. Bydd ymwelwyr â’r prif gampws yn Llandaf yn gallu gweld yr effaith mae Willmott Dixon yn ei chael ar UWIC. Y llynedd, cwblhawyd y Ganolfan Diwydiant Bwyd newydd ac, eleni, bydd yn mynd ati i ehangu’r llyfrgell ar sawl lefel, yn ogystal ag adeiladu’r Ysgol Reoli newydd. Mae’r adeilad yn cynnwys y nodweddion arbed ynni diweddaraf ac rydym yn ceisio sicrhau’r sgoriau amgylchedd BREEAM gorau posibl. Hefyd, yn ddiweddar cwblhaodd Willmott Dixon waith ar y ganolfan campws newydd yng Nghyncoed a bydd yn ehangu’r prif adeilad

mynediad yn Llandaf dros yr haf. Er y gall ymwelwyr â’r campws weld yr adeiladau newydd yn hawdd, yr hyn nad yw llawer o bobl yn sylweddoli yw bod llawer o raddedigion UWIC yn gweithio yn Willmott Dixon i wireddu’r newidiadau hyn. "Yn ogystal â mi, mae swyddfa Willmott Dixon yng Nghaerdydd yn cyflogi naw o raddedigion UWIC a raddiodd mewn meysydd fel technoleg gwybodaeth, astudiaethau busnes a chyllid, adnoddau dynol ac adeiladu," meddai Gareth. “Mae gennym dîm gwych yma ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda UWIC i hyrwyddo rhagolygon gyrfa’r graddedigion gorau." Helen Salisbury MCIPD (BA Anrh mewn Astudiaethau Busnes, 2001) yw’r Cydgysylltydd

Adnoddau Dynol Rhanbarthol yn rhanbarth Cymru a’r Gorllewin: "Mae gen i atgofion melys am fy amser yn Rhodfa Colchester, ond rwy’n genfigennus iawn o’r myfyrwyr Astudiaethau Busnes a fydd yn dechrau yn 2010 yn yr adeilad newydd gwych." Meddai Ian James, myfyriwr arall a astudiodd adeiladu yn y 1970au yn UWIC ac sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cynadeiladu yn Willmott Dixon: "Roedd prosiectau adeiladu ar waith yn ystod fy amser i yn UWIC ond, erbyn hyn, mae llawer o fyfyrwyr, nid y rhai sy’n astudio adeiladu’n unig, yn cael eu hannog i gyfrannu. Mae yna lawer o weithgareddau cwricwlwm amrywiol sy’n berthnasol i’r amgylchedd adeiledig." 8


Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Dylunio: Luke Jerram Firysau enfawr, pianos cyhoeddus, telynau Awelon. Cymysgedd annisgwyl, ond un llwyddiannus i Luke Jerram (Celfyddyd Gain 1997), Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Southampton.

gwmpas." Daeth y syniad am 'Play Me, I'm Yours' o deithiau Luke i’w olchdy lleol. "Roeddwn i’n gweld yr un bobl yno bob penwythnos, ond eto doedd neb yn siarad â’i gilydd. Mae gosod piano mewn lleoliad yn helpu i annog sgwrs."

Yr haf hwn, treuliodd Luke, sy’n byw ym Mryste, amser yn Efrog Newydd yn goruchwylio ei osodiad diweddaraf, sef 'Play Me, I'm Yours'. Gosodwyd 60 o bianos mewn parciau, strydoedd a chanolfannau siopa ledled pum bwrdeistref y ddinas.

Ers 2008, mae pianos Luke wedi dod â cherddoriaeth i strydoedd Sao Paulo, Sydney, Llundain, Bryste, Bury St Edmunds a Barcelona. Cafodd sylw yn y wasg ryngwladol yn cynnwys y New York Times, Vanity Fair, LA Times Magazine Style List a’r cylchgrawn Nature.

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld beth fydd yn digwydd. Mae’r pianos yn gyfrwng ar gyfer creadigrwydd pawb, felly bydd yn ddiddorol gweld faint o ddawn sydd o

Aeth Luke hefyd ag arddangosfa o’i Ficrobioleg Gwydr i oriel adnabyddus yn Efrog Newydd. Mae ei gerfluniau hardd o firysau

Microbioleg Gwydr – Ffotograff gan Luke Jerram

9

fel ffliw moch, SARS a HIV yn dangos y tensiwn diddorol rhwng rhywbeth sy’n hardd dros ben ond hefyd yn beryglus ac yn heintio pobl. Yn ôl yn y DU, mae Luke wedi dyfeisio telyn Awelon fawr y mae’n gobeithio y bydd yn cael ei gosod yn barod ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Weymouth. "Llwyddodd Ysgol Gelf Caerdydd i’m rhoi ar ben ffordd a lansio fy ngyrfa fel artist rhyngwladol. Rhoddodd y tiwtoriaid safonau i mi i’m helpu i werthfawrogi celfyddyd dda a’r hyn y gall geisio bod. Mae gen i atgofion melys o UWIC, ac wrth i mi eistedd yma yn Efrog Newydd, rwy’n hiraethu am sgwrs dda a chwrw cynnes yn y bar yng Ngerddi Howard."

Luke Jerram yn chwarae’r piano yn Times Square, Ffotograff gan Amarynth Sichel


Ganolfan Genedlaethol Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil Datblygu, PDR.

Nid oes rhaid i chi edrych yn rhy fanwl o gwmpas UWIC i ddod o hyd i’n graddedigion yn rhagori yn y sefydliad. Edrychwch ar y Ganolfan Genedlaethol Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil Datblygu, PDR. Ers i UWIC ei sefydlu ym 1994, mae’r tîm wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am ddatblygu gwybodaeth newydd ym maes dylunio cynnyrch a defnyddio’r wybodaeth honno yn y byd academaidd ac mewn diwydiant.

PDR: Cynllun Oes

Mae tîm ymchwil PDR, sy’n cynnwys staff o Brydain yn bennaf, yn cyhoeddi mewn amrywiaeth eang o gyfnodolion a chynadleddau rhyngwladol, ac mae’n ennill gwobrau dylunio byth a hefyd. O’r graddedigion yn y tîm, mae UWIC yn falch o fod wedi gwneud cyfraniad allweddol at yrfaoedd Dr Andrew Walters, Dr Dominic Eggbeer, Ian Culverhouse, Steffan Daniel a Dale Harper.

Enillodd Dale Harper (Dylunio Cynnyrch BSc, MSc) wobr dylunio IF ym mis Mawrth eleni am ei gynllun gefel chwyldroadol 'Safeceps', sy’n mesur i ba raddau mae pen y babi’n cael ei wasgu, gan leihau’r risg o drawma ac anaf difrifol i’r fam a’r plentyn. Ar hyn o bryd, mae’r cynnyrch yng nghyfnodau terfynol ei ddatblygiad masnachol a gweithgynhyrchu. Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2008, mae Dominic Eggbeer (Dylunio a Gweithgynhyrchu Cynnyrch 2000) yn parhau â’i yrfa ymchwil mewn meysydd cysylltiedig, gan gynnwys defnyddio

dulliau Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur, Peirianneg wrthdaro a thechnolegau prototeipio cyflym mewn prostheteg y genau a’r wyneb, llawdriniaeth a thechnoleg ddeintyddol. Mae Dominic hefyd yn rheoli gwasanaethau modelu meddygol masnachol PDR, sy’n darparu cydweithrediad agos gyda’r GIG. Mae wrthi’n gwneud cais am gyllid ychwanegol i brynu peiriannau CAD o’r radd flaenaf er mwyn datblygu ei ymchwil. "Ar hyn o bryd, mae’n gallu cymryd hyd at ddau ddiwrnod i wneud prosthesis at ddefnydd llawfeddygol, sy’n dderbyniol ar gyfer

llawdriniaethau wedi’u trefnu. Dychmygwch yr effaith gadarnhaol ar lawdriniaeth frys pe gellid lleihau’r amser aros i ychydig oriau. Byddai gan y meddyg ddealltwriaeth well o lawer o’r llawdriniaeth dan sylw."

10


Ysgol Addysg Caerdydd

Os ewch chi i lawr i’r Goedwig heddiw…

Martin Cook yn arwain taith i Ysgol Goedwig

Os ewch chi i lawr i Queenswood ar gampws Cyncoed heddiw, efallai y gwelwch chi olygfa annisgwyl; plant anturiaethus! Mae’r plant hyn yn rhan o raglen Ysgol Goedwig newydd a gychwynnwyd gan bedwar aelod o staff sy’n awyddus i ddefnyddio’r awyr agored i addysgu pobl ifanc.

11

Aelodau staff yn mwynhau yn y goedwig! Dull addysgu a ddatblygwyd yn Sgandinafia yw Ysgol Goedwig, ac mae’n pwysleisio dull dysgu trwy ddarganfod sy’n canolbwyntio ar blant ac yn cael ei arwain gan blant mewn safle awyr agored; athroniaeth y mae’r tîm Ysgol Goedwig - Mark Connolly, Martin Cook, Cheryl Ellis a Chantelle Haughton wedi ymrwymo iddi. Mae’r pedwar aelod o’r tîm newydd gwblhau cymhwyster arweinyddiaeth Ysgol Goedwig lefel 3 sy’n eu galluogi i arwain grwpiau o blant a hyfforddi eraill mewn sgiliau arweinyddiaeth Ysgol

Goedwig yn y dyfodol. Esboniodd Chantelle Haughton, sydd wedi derbyn gwobr staff yr Isganghellor am ei hymrwymiad i’r prosiect hwn, sut y datblygodd y syniad: "Dechreuodd mewn gwirionedd ar brynhawn dydd Gwener gwlyb pan sylweddolodd Mark, Cheryl a minnau ein bod yn rhannu diddordeb mewn dysgu yn yr awyr agored. Aethom ati i gyflwyno’r syniad hwn i bwyllgor menter ein hysgol, a sylweddoli bod Martin wedi awgrymu rhywbeth tebyg flynyddoedd yn gynt a’i fod eisoes yn gwneud pethau tebyg gyda’r mudiad Earth Education a’i

'Teddy Bear's picnic' lle mae plant ysgolion cynradd lleol yn dod i weld y goedwig." Heblaw am sŵn plant chwe oed yn clebran a chwarae, y dystiolaeth amlycaf o’r 'Teddy Bear's picnic' ar gampws Cyncoed yw’r babell groen fawr sydd wedi’i chodi yn ymyl neuaddau preswyl y myfyrwyr yn Queenswood. Fodd bynnag, nid yw’r strwythur hwn yn addas i ddatblygu Ysgol Goedwig ac mae’r tîm yn bwriadu adeiladu canolfan eco-gyfeillgar lle gall gynnal gwersi’r Ysgol Goedwig ac astudio manteision y math hwn o ddysgu yn yr awyr agored i blant.

Amlinellodd Cheryl Ellis sut roedd hi’n rhagweld y byddai’r prosiect hwn yn datblygu: "Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd UWIC yn cael ei ystyried yn ganolfan ar gyfer astudio dysgu yn yr awyr agored. Mae Cymru’n arwain y ffordd o ran hyrwyddo cwricwlwm seiliedig ar chwarae sy’n canolbwyntio ar blant ac rydym yn credu’n gryf y dylai dysgu yn yr awyr agored fod yn rhan allweddol o hyn."

Aelodau staff yn mwynhau yn y goedwig!


Ysgol Addysg Caerdydd

Y Pennaeth Ieuengaf

Ben Slade yn cyfarfod â’i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru Daeth Ben Slade (BA (Addysg) Drama Uwchradd 1998) y Prifathro ieuengaf yn y DU pan gafodd ei benodi’n Bennaeth Manor Community College yng Nghaergrawnt yn 2007 yn 30 oed. Dyma sut beth yw bywyd fel Pennaeth y Coleg: Roeddwn i’n hynod falch o gael fy mhenodi’n Bennaeth y Coleg ac, am ddiwrnod, bûm yn edmygu fy enw uwchben y drws. Yna, tarodd fi fel trên: y ffaith mai fi oedd yn rheoli, ein bod yn rhan o’r Her Genedlaethol gyda thargedau i’w cyflawni a’r posibilrwydd go iawn o ffederaleiddio neu’r coleg yn cau pe na byddem yn gwella’n sylweddol. Yn sydyn, nid unrhyw swydd arall oedd hon (er, i fod yn deg, roeddwn i’n teimlo’r un fath fel Athro Newydd Gymhwyso!), roedd yn golygu gyrfa llawn her a fyddai’n newid fy mywyd i. Mae’r cyfan wedi bod yn antur fawr.

Nid oes un diwrnod yn mynd heibio heb o leiaf un her sylweddol yn cynnwys staff neu fyfyrwyr a’u rhieni. Pan rwy’n cael seibiant am eiliad, rwy’n gweld ein bod yn gweddnewid y coleg hwn. Bydd canlyniadau eleni’n dyblu’r rhai a etifeddais yn 2007, ac mae agweddau a dyheadau myfyrwyr yn gwella’n sylweddol heb os. Fodd bynnag, rydym yn brwydro yn erbyn agweddau a chanfyddiadau negyddol mewn dinas dwy haen. Ar un lefel, mae Caergrawnt yn cynnig yr addysg orau yn y byd. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’m myfyrwyr a’u teuluoedd yn teimlo bod yr addysg hon

y tu hwnt i’w cyrraedd. Er mwyn pontio’r bwlch hwn, rwyf wrthi’n symud y coleg i Statws Sylfaen ac yn gweithio gyda phartneriaid yn yr Ymddiriedolaeth. Gyda’n gilydd, rwy’n credu y gallwn ni ddatblygu’r coleg hwn a chyflawni ein nod o fod yn ‘rhagorol’ ym mhob agwedd. Mae gen i atgofion melys iawn o fy amser yn UWIC: cafodd Dr Arthur Geen, Jane Davies, Mitch Winfield, Gill Rees a Charlie Harris ddylanwad mawr arnaf i a fy ngyrfa. Yn ogystal, pwy allai anghofio galwad y cynorthwyydd arlwyo yng Nghaffi K2 - 'one torp with bacon and cheese going cold my love!'

Asiantaeth recriwtio addysg dra wahanol Mae Arbenigwyr Addysg UWIC yn asiantaeth sy’n cael ei gweithredu gan Ysgol Addysg Caerdydd yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Rydym yn awyddus i benodi athrawon cymwysedig i swyddi cyflenwi, rhan-amser, tymor penodol a thymor hir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y De. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru i weithio, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: ffôn: 029 2041 6951 / 029 2020 1524 e-bost: educationspecialists@uwic.ac.uk gwe: www.uwic.ac.uk/educationspecialists

12


Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Cyfweliad gydag Adrian Peters: Deon yr Ysgol Beth sydd wedi newid lleiaf? AP: Mae’n dal i fod yn sefydliad bach cyfeillgar, ac mae’n bosibl cael gafael ar lawer o’r staff uwch. Mae’n bosibl i bobl ymgysylltu â materion cyfredol a llywio dyfodol y sefydliad.

Nodyn gan Lowri Mainwaring, myfyriwr PhD (BSc Gwyddor Biofeddygol 2004, MSc 2008)

One Year on…

Allwch chi ddisgrifio diwrnod nodweddiadol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd?

Felly, Adrian, a allech chi grynhoi eich blwyddyn gyntaf mewn un gair? AP: Coffi?! Na, byddai’n amhosibl crynhoi’r flwyddyn mewn un gair. Fel arfer, rwy’n ei ddisgrifio fel cromlin ddysgu siâp clogwyn – mae’r risgiau’n fwy nawr, ac mae gen i bellter hir i ddisgyn! Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn? AP: Alla i ddim meddwl am un yn benodol. Rwyf wedi dysgu bod gen i staff rhagorol, ac mae gennym ni raglenni rhagorol. Er enghraifft, mewn adolygiad cyfnodol diweddar, cafwyd 15 o gymeradwyaethau ar gyfer y rhaglen Meistr mewn Seicoleg, a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Rydym wedi gallu defnyddio’r Adeilad Diwydiant Bwyd newydd, buddsoddiad sydd wedi dechrau talu ar ei ganfed. Mae’r prosiect KITE, sy’n werth £5 miliwn ac yn cael 13

ei gynnal gan David Lloyd, wedi cryfhau ein cysylltiadau â’r sector bwyd yng Nghymru. Dechreuodd gyda dim ond un aelod cyswllt yn Franks Ice Cream. Mae’n dda gweld hwnnw’n dechrau ffynnu gan ei fod yn helpu’r economi yng Nghymru, yn ogystal â’n helpu ni. Beth yw’r newid mwyaf sydd wedi digwydd? AP: Yr hyn sydd wedi newid fwyaf yw datblygiad diwylliant ymchwil yma yn UWIC, a’r gydnabyddiaeth bod ymchwil yn ein diffinio ni fel sefydliad. Mae’n llywio ein haddysgu, yn darparu gwybodaeth ar gyfer ein diwydiant ac yn ein helpu i arwain y ffordd ar y llwyfan rhyngwladol hefyd.

AP: Er bod y rhan fwyaf o fy niwrnodau’n cael eu llenwi gyda chyfarfodydd, mae’n amrywiol iawn, gyda ffocws mewnol ac allanol. Rwy’n mwynhau meithrin cysylltiadau allanol gyda phartneriaid allweddol. Rwyf hefyd yn parhau i addysgu, sy’n cadw fy nhraed ar y ddaear. A oes gennych chi un neges olaf i’n cynfyfyrwyr? AP: Rwy’n gobeithio bod Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn cael ei chydnabod fel ysgol sy’n darparu addysg broffesiynol i bobl sy’n gweithio yng Nghymru a thu hwnt, a bod pobl yn gweld ein bod yn gwneud gwahaniaeth. Mae ein cynfyfyrwyr yn gwneud pob math o bethau defnyddiol mewn meysydd fel adeiladu a chynnal a chadw adeiladau, iechyd y cyhoedd, y diwydiant bwyd, iechyd yr amgylchedd – sef meysydd sy’n cyfrannu at les economaidd, diwylliannol ac economaidd Cymru, y DU a’r gymuned ehangach. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o hynny a bod yn gyfrifol am arwain y datblygiad hwnnw ar gyfer y dyfodol.

Rwyf nawr yn y flwyddyn olaf o gwrs PhD, yn astudio effaith lipidau deietegol ar gellau yn natblygiad clefyd y siwgr math 2 o dan arweiniad Dr.Keith Morris. Penderfynais ddilyn cwrs PHD ar ôl cwblhau Meistr rhan-amser tra’n gweithio yn Ysbyty Heath. Mae’r cwrs PhD yma’n diddorol iawn gan ei fod wedi’i ariannu gan HEFCW gyda gofynion ychwanegol i hybu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Yn ogystal ag astudio, rwy’n darlithio 6 awr yr wythnos. Rwy’n darlithio blwyddyn gyntaf Biocemeg, ac yn diwtor i 10 o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar y cwrs. Blwyddyn nesaf bydd swydd llawn amser yn cael ei greu i ddatblygu’r

ddarpariaeth yma, felly rwy’n gobeithio ceisio am y swydd a dal ymlaen i weithio yma. Mae cael darparu’r cymorth yma yn beth cyffrous i’w wneud fel siaradwr Cymraeg. Fe gwblheais gyrsiau Lefel Uwch yn Saesneg gan fy mod yn ymwybodol y basai’n rhaid i mi ddysgu Saesneg yn y Brifysgol. Rydym nawr yn gobeithio y bydd mwy o siaradwyr Cymraeg yn gallu astudio Lefel Uwch ac ymhellach yn eu mamiaith. Fe fyddwn i'n bendant yn argymell UWIC. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth, ac rwy wrth fy modd yma - fel y gallwch ddweud, gan mod i wedi bod yma am 10 mlynedd, fwy neu lai!


Dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Canolfan Astudiaethau Podiatreg Cymru

50 mlynedd DATHLU

O ADDYSG BODIATREG

Sefydlwyd Ysgol Trin Traed Caerdydd yng Ngholeg Technegol Llandaf ym 1959 o fewn yr Adran Gwyddoniaeth a Mathemateg. Dyma un o’r tair ysgol trin traed a sefydlwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Students in The Centre for Podiatric Studies

Ei olynydd fel Pennaeth yr Ysgol yng Nghaerdydd oedd Mr Cliff Shipman 1969 - 1973.

Yn dilyn llawer o anogaeth gan Gangen Caerdydd a’r Cylch o Gymdeithas y Ciropyddion i sefydlu ysgol trin traed yng Nghaerdydd, derbyniwyd yr her gan Bennaeth brwdfrydig a mentrus Coleg Technegol Llandaf, Mr Joseph (Joe) Cotterell.

Mr Don Jessett, a ymunodd â Mr Ames ym 1960, oedd Pennaeth yr Ysgol o 1973 -1995. Ym 1996, penodwyd Miss Ann Bryan (llun) yn Bennaeth yr Ysgol.

Pennaeth cyntaf yr Ysgol oedd Mr Derek Ames. Daeth i Gaerdydd o Ysbyty Traed ac Ysgol Trin Traed Llundain. Bu yma nes 1968 pan ddychwelodd i Lundain fel Pennaeth yr Ysgol Trin Traed.

Roedd Miss Bryan yn un o’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i gwblhau eu hyfforddiant yng Nghaerdydd. Ymddeolodd yn 2002, a chafodd ei holynu gan y Pennaeth presennol, Paul Frowen.

Yn ei ddyddiau cynnar, y cymhwyster a ddyfarnwyd ar ôl tair blynedd o astudio oedd Aelodaeth o Gymdeithas y Ciropyddion (Aelodaeth gyswllt os oedd yr ymgeisydd o dan 21 oed). Wrth i’r cwrs ddatblygu, cyflwynwyd Diploma mewn Meddygaeth Bodiatrig a ddyfarnwyd gan Gymdeithas y Ciropyddion yn lle’r dyfarniad proffesiynol cynharach. Ym 1992, sefydlwyd y cwrs israddedig, gan arwain at BSc mewn Podiatreg a gynigir gan Brifysgol Cymru.

Eleni, mae Canolfan Astudiaethau Podiatreg Cymru yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu. Ym mis Mehefin, daeth dros 100 o bodiatregwyr i Seminar Goffa Judy Hawkins yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd sawl un o’n cynfyfyrwyr yn annerch yn y seminar, gan gynnwys yr Athro Anthony Redmond (1988) o’r Ymgyrch Ymchwil Arthritis yn Sefydliad Meddygaeth Moleciwlaidd Prifysgol Leeds, Uwch Ddarlithydd a edrychodd ar ddyfodol podiatreg gyda’i araith ar "Fifty More After Fifty".

Mae gan Dr Sue Barnett (1985), Uwch Ddarithydd a Chyfarwyddwr Labordy Dadansoddi Dynol Prifysgol Gorllewin Lloegr, ddiddordeb arbennig mewn diabetes a bu’n siarad am y pwnc "Not all Feet are Equal". Cyflwynwyd areithiau ychwanegol gan Richard Green (1989), Scott Cawley (1980) a Dr Jane Lewis (1998).

14


Cynfyfyrwyr Rhyngwladol UWIC

Cynfyfyrwyr Rhyngwladol UWIC Gyda chymaint o’n cynfyfyrwyr yn byw ymhell o Gaerdydd, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y profiad mor ystyrlon i gynfyfyrwyr o dramor ag ydyw i’r rheini sy’n byw’n agosach i gartref. Yn amlwg, nid yw’r defnydd o lyfrgelloedd a chyfleusterau campfa UWIC mor berthnasol i’r sawl sy’n byw miloedd o filltiroedd i ffwrdd! Mae ein rhwydwaith newydd o lysgenhadon cynfyfyrwyr yn helpu i wneud iawn am hyn. Mae llysgenhadon yn ein galluogi i gael presenoldeb ym mhob ardal lle mae nifer sylweddol o gynfyfyrwyr. Hwyrach y bydd pump, neu 150, o raddedigion mewn dinas neu wlad benodol – ond os felly, rydym yn awyddus i’w helpu i gysylltu! Mae rhwydweithio cynfyfyrwyr yn gyfle gwych yn gymdeithasol ac i gysylltiadau busnes lleol. Rydym hefyd ar-lein, yn defnyddio’r wefan LinkedIn i ddarparu cyfrwng rhwydweithio proffesiynol i raddedigion ym mhob cwr o’r byd. Os hoffech chi i ni eich helpu i gysylltu’n fwy effeithiol, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Cynfyfyrwyr Rhyngwladol yn eich ardal, cysylltwch â ni!

www.linkedin.com

Seremoni raddio yn Hong Kong Bu grŵp cyntaf UWIC o fyfyrwyr MSc Rheoli Diogelwch Bwyd ym Mhrifysgol Hong Kong yn dathlu eu llwyddiant eleni. Mynychodd yr Athro Antony Chapman y seremoni raddio: "Mae’r weledigaeth yn Hong Kong yn un dros dymor hir. Mae wedi bod yn fraint i UWIC ac Ysgol Addysg Broffesiynol a Pharhaus Prifysgol Hong Kong i gefnogi’r myfyrwyr a’u noddwyr i ateb heriau’r 21ain Ganrif. Mae’r rhaglen hon yn bartneriaeth sydd o fudd i bawb."

15

Mae’r rhaglen, sydd bellach yn ei hail flwyddyn o gydweithio gyda Phrifysgol Hong Kong, sy’n un o’r 25 o brifysgolion gorau yn y byd, wedi cael ei chymeradwyo’n fawr gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ac mae ei phoblogrwydd yn cynyddu yn y rhanbarth bywiog hwn.


Seremoni Raddio yn Brunei

Seremoni raddio yn Brunei Teithiodd yr Is-Ganghellor i Brunei ym mis Gorffennaf i lywyddu dros seremoni wobrwyo ar gyfer bron i 100 o raddedigion o Brunei a fu’n astudio yn UWIC. Cafodd gwmni llawer o aelodau staff UWIC, gan gynnwys John Phillips, cyn Ddeon y Swyddfa Ryngwladol a Chadeirydd Cymdeithas Brunei Prifysgolion Prydain, yr Athro Adrian Peters, Deon Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Dr Mohammed Loutfi, Deon Datblygiad Rhyngwladol ac Andrew Walker, Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliad UWIC. Gwnaed Pehin Abdul Rahman Taib, cyn Weinidog Addysg Brunei, yn Gymrawd Anrhydeddus UWIC yn y seremoni.

Hefyd yn bresennol oedd Rob Fenn, Uwch Gomisiynydd Prydain i Brunei, a ddywedodd: "Mae’n wych i fod yma’n dathlu llwyddiant cymaint o fyfyrwyr o Brunei. Mae UWIC yn sefydliad heb ei ail, ac mae’r ffordd mae’n gofalu am les y myfyrwyr hyn yn wych. Rwy’n falch iawn o fod yma ac yn falch iawn o’r hyn mae UWIC yn

ei wneud dros Brydain yn ei pherthynas â Brunei." Bu John Phillips yn Ddeon Myfyrwyr Rhyngwladol yn UWIC am 14 mlynedd, ac mae wedi gwneud cyfraniad allweddol dros y blynyddoedd wrth feithrin perthynas hynod lwyddiannus UWIC gyda Brunei. "Cynhelir y digwyddiad hwn bob dwy

flynedd yn Brunei, ac mae’n galluogi pob myfyriwr llwyddiannus i wahodd llawer o deulu a ffrindiau. Ar ôl gweithio mor galed, mae ein graddedigion o Brunei wedi haeddu’r cyfle hwn i fwynhau eu hunain yn y seremoni hon yn Brunei, yn ychwanegol i’r seremonïau a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

"Mae UWIC yn gwerthfawrogi ei pherthynas â Brunei ac mae’n falch iawn bod llwyddiant myfyrwyr eleni wedi’i anrhydeddu gan bresenoldeb Pehin Abdul Rahman Taib, y cyn Weinidog Addysg, a’i fod wedi’i wneud yn Gymrawd Anrhydeddus – yr anrhydedd fwyaf y gall UWIC ei chyflwyno."

Ymddeolodd John o UWIC yr haf hwn ac, er ein bod yn drist iawn i’w weld yn gadael, rydym yn edrych ymlaen at barhau i feithrin ein perthynas â’n cynfyfyrwyr, myfyrwyr a’n ffrindiau yn Brunei.

16


Ffarwel i Rodfa Colchester

’Doedden nhw’n ddyddie da!

Agorodd cartref newydd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd ei ddrysau i fyfyrwyr ym mis Medi 1966, gan gyflwyno cyfleusterau arbenigol ar gyfer y rhaglenni galwedigaethol cryf a ddarparwyd yno. Roedd myfyrwyr Diploma Genedlaethol a City and Guilds yn gallu cymdeithasu â myfyrwyr gradd a Diploma Genedlaethol Uwch (HND). Dieteteg oedd y rhaglen radd gyntaf, gyda chyrsiau HND mewn arlwyo, gwyddor a thechnoleg bwyd ac astudiaethau busnes, a ddatblygodd i’r portffolio eang o raglenni a gynigir heddiw. 17

Roedd fy amserlen gyntaf yn cynnwys trawstoriad o wyddorau cymhwysol pobi, arlwyo, trin gwallt a nyrsio mewn meithrinfa. Efallai y bydd gan y rhieni ohonoch chi sy’n gyfarwydd â’r llyfr ‘Wilt’ gan Tom Sharpe syniad o sut beth oedd bywyd yma, er bod rhai o fy hen ffrindiau’n gwneud i gymeriadau Sharpe edrych yn gwbl normal! Roedd Bwyty Lesley Smith ar y llawr daear wedi’i enwi ar ôl pennaeth cyntaf y coleg, a oedd yn arfer bod yn bobydd. Yna, newidiodd ei enw i Fwyty a Siop Goffi Smith's, ac yna’r Stiwdio Argraffu. Roedd llawr cyntaf Bloc B yn cael ei adnabod fel y coridor blawd. Roedd ein darlithfeydd yn boptai a

oedd yn cynnwys y cyfarpar diweddaraf, er na lwyddwyd i symud un ffwrn a oedd yn llawn asbestos sy’n dal i sefyll y tu ôl i wal yn B113. Roedd wal B114 yn fan arddangos ar gyfer cacennau a addurnwyd gan fyfyrwyr a staff, yn enwedig Joyce Williams. Daeth Joyce yn enwog am ei sgiliau, gan wneud cacennau ar gyfer pobl bwysig leol, a rhai heb fod mor leol, gan gynnwys y Frenhines a Henry Kissinger! Mae llawer o gyfarpar a sgiliau’r popty wedi’u trosglwyddo i’r Ganolfan Diwydiant Bwyd yn Llandaf, fel rhan o Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Roedd cymaint o bethau eisoes wedi diflannu dros

Wrth i gampws Rhodfa Colchester UWIC gau ei ddrysau am y tro olaf, mae’r Athro Eleri Jones yn edrych yn ôl ar hanes y lle……

y blynyddoedd – y 'fflat' lle addysgwyd sgiliau cadw tŷ, cegin dietegwyr, sawna Ffinnaidd, ystafell wnïo, dwy siop trin gwallt (lle datblygodd Ken Picton ei sgiliau yn y 1970au) a salon therapi harddwch. Mae’r rhesi o deipiaduron a ddefnyddiwyd gan fyfyrwyr NCTJ (Newyddiaduriaeth) fel Michael Buerk a Sue Lawley hefyd wedi hen ddiflannu. Roedd gan Goleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd berthynas dda iawn â Dinas Caerdydd. Roedd yn cael ei ystyried fel canolfan ragoriaeth, ac roedd yn ymfalchïo yn llwyddiant ei staff a’i fyfyrwyr. Roedd hefyd yn lle hapus iawn i weithio ac

roedd yna ymdeimlad cryf o berthyn i goleg. Mae’r rhai ohonom a fu’n gweithio yno’n drist iawn o ffarwelio â’r holl atgofion, ond rydym yn edrych ymlaen at yr ‘oes newydd’ yn ein hadeilad newydd yn Llandaf.

Os hoffech weld y cyfleusterau newydd yn Llandaf – naill ai’r Ganolfan Diwydiant Bwyd neu Adeilad yr Ysgol Reoli – cysylltwch â ni! Anfonwch e-bost i alumni@uwic.ac.uk neu ffoniwch Swyddfa’r Cynfyfyrwyr ar 029 2020 1590.


UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD

Gall addysg newid eich bywyd. Gyda’ch help chi, gallwn newid bywydau gyda’n gilydd. Gadewch rodd yn eich ewyllys i gefnogi ysgoloriaethau yn UWIC. Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar adael rhodd yn eich ewyllys i UWIC, cysylltwch â: Sheona Evans, Rheolwr Datblygu 029 2020 1590 uwicfoundation@uwic.ac.uk www.uwic.ac.uk/uwicfoundation

FOUNDATION

Beth fydd eich etifeddiaeth chi?


Postgraduate Study at UWIC

Y cam nesaf?

Os ydych yn chwilio am gyfle i astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, mae UWIC yn ddewis gwych ar gyfer astudiaethau ôl-radd. Yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ôl-radd ac ymchwil mewn pum ysgol academaidd: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Ysgol Addysg Caerdydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ysgol Reoli Caerdydd Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Ysgoloriaethau o £3,000 ar gael www.uwic.ac.uk/scholarships 029 2041 6044

1

Am ragor o wybodaeth a rhestr lawn o gyrsiau, ewch i: uwic.ac.uk/postgraduate 029 2041 6044


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.